E-Fwletin Rhagfyr 10fed, 2012
Mewn sawl cyfundrefn eglwysig y mae ‘llwyddiant’ y mudiadau ceidwadol efengylaidd trwy eu hyder a’u hegni wedi creu cynulleidfaoedd brwd. (I bobl o’r tu faes mae ’na anaeddfedrwydd yn eu ffordd o osgoi trafodaeth). Mae’r rheini wedi ymroi i wleidydda ac ennill grym ar bwyllgorau dylanwadol ac mewn swyddi allweddol. Efallai mai taw piau hi!
Gyda hynna i gyd yn corddi yn fy meddwl a gwybod sut mae pethau y tu mewn i eglwysi a’r enwadau yng Nghymru, beth wnawn ni o un o themau heriol yr Adfent i “Baratoi ffordd yr Arglwydd” ac i unioni’n ffyrdd? Ar Ail Sul yr Adfent, Ioan Fedyddiwr yw’r arwr ac eleni wedi ei gysylltu â geiriau Paul am yr angen “i wybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg a gwybod beth sydd orau”. Mae’n ymadrodd a ddefnyddir dair gwaith, ac mae’n echel i’w feddwl am bynciau moesol. Yn yr Epistol ar y Rhufeiniaid y mae’n haeru bod ein meddwl ni yn llygredig, yn bwdwr, ac na fedrwn ni ddim dirnad y gwahaniaeth rhwng da a drwg am nad ydyn ni’n anrhydeddu Duw gyntaf. Ein hangen ni felly yw rhodd gras a’r wyrth o fedru caru’n gilydd fydd yn ein galluogi i newid y meddwl llygredig i feddwl wedi ei adnewyddu. Dyma her y tymor yma, tymor yn gorlifo o fateroliaeth a sentimentaliaeth y Nadolig cyfoes.
Yn y bôn, neges Ioan yw Dihunwch a newidiwch eich ffordd. Newidiwch eich ymddygiad i fod yn onest, a goddefgar, heb wyrdroi pethau er eich mantais eich hun. Mae’n neges hawdd iawn ei chyfeirio at y bancwyr a’r cyfalafwyr a’r bobl fawr gyfoethog. Ond cwestiwn y bobl i Ioan Fedyddiwr oedd “Beth wnawn ni?”. Dysgu caru’n gilydd meddai Paul, a hynny ar batrwm Iesu fuodd byw gyda chriw o ddisgyblion oedd yn anghytuno’n chwyrn am lawer o bethau. Ac hyd yn oed ar ôl yr atgyfodiad a rhodd yr Ysbryd Glân mae nhw’n dal i anghytuno. Fe wyddai Iesu’r gost o fyw gyda gelyn a golchi ei draed. Dyna’r esiampl a roddir i ni, esiampl y gofynnir – gorchmynnir i ni ei dynwared. Cerwch eich gilydd, ddywedodd Iesu, ac nid cytunwch â’ch gilydd. Wela’i ddim llawer o siâp gwneud y naill na’r llall ar fawr neb ohonom, ac mae e’n gwneud i mi deimlo’n fach iawn. Mae hynny falle, yn lle da i ddechre, yn ddrws wedi ei agor o’n blaen, yn llusern yn goleuo ôl traed o’n blaen ar y llwybr.
Mae croeso i chi ymateb i’r E-Fwletin trwy adael neges ar y Bwrdd Clebran. Gyda llaw, os gwyddoch chi am unrhyw un fyddai’n hoffi derbyn yr E-Fwletin, rhowch wybod i ni.