“LLANAST”

“Llanast” yw teitl cyflwyniad diweddaraf Cwmni Theatr Bara Caws; cyfieithad Gareth Miles o “Le Dieu du Carnage” gan Yasmina Keza. Ynddi mae dau bâr o rieni yn cwrdd i drafod ymddygiad eu plant anystywallt – mae plentyn un ohonynt wedi brifo plentyn y llall mewn parc. Mae’r cyfarfod yn dechrau’n ddigon call, a’r pedwar yn ddigon bonheddig, ond wrth i’r trafod fynd yn ei flaen mae ymddygiad y pedwar yn mynd yn fwy ac yn fwy plentynaidd, a diolch i botel o Benderyn, daw’r cyfarfyddiad i ben mewn anhrefn llwyr – llanast!
Dywed y broliant mai ceisio dadlenni ac archwilio’r bwlch rhwng ein hunaniaeth go iawn a’n wyneb cyhoeddus yw bwriad yr awdur. Yn sgil hynny mae’r ddrama’n awgrymu – os nad yn amlygu – y canlyniadau gwahanol sydd yna o weithredu yn ôl gwerthoedd materol ar y naill law a gwerthoedd ysbrydol ar y llaw arall.
Canlyniadau’r ochr faterol gawn ni yn y ddrama gydag agweddau hunanol a hunangyfiawn y cymeriadau i gyd yn eu tro yn dod i’r golwg. Fel yr awgryma teitl y ddrama wreiddiol, dyma werthoedd Duw llanast (Dieu du Carnage), a dim ond llanast y gellir ei ddisgwyl wrth fyw yn ôl y gwerthoedd hynny.
Byddai’n ddiddorol gwybod pam bod Gareth Miles heb gynnwys y cyfeiriad at Dduw yn nheitl y cyfieithad Cymraeg. Oherwydd gyda ‘Duw’ yn y teitl, fel mae yn y gwreiddiol, rwy’n teimlo bod y ddrama’n mynd i ddimensiwn ychydig yn wahanol. O ddangos beth yw canlyniadau byw yn ôl gwerthoedd materol Duw Llanast, mae’r dramodydd mewn rhyw ffordd yn cyferbynnu hynny â’r canlyniadau gwaraidd a ddylai ddeillio o fyw yn ôl gwerthoedd ysbrydol.
Daw hyn a ni (credwch hynny neu beidio!) at yr Adfent – gyda’i bwyslais nid yn unig ar ddyfodiad Duw i’r byd yn Iesu Grist, ond hefyd y syniad o ail-ddyfodiad. Mae’r ddysgeidiaeth am yr ail-ddyfodiad yn un y mae llawer ohonom yn ei chael yn anodd ei choleddu. Y theori mae’n debyg yw bod dynoliaeth yn mynd i fethu byw gyda’i gilydd mewn cymod a chariad, ac felly bod yn rhaid i Iesu Grist ddod eto i’r byd “ar gymylau’r nef” i ddidoli’r da a’r drwg, cael ‘madael â’r drwg i gosb tragwyddol tra bo’r da’n cael byw yn Nheyrnas Dduw ar y ddaear am byth.
Yn hytrach na derbyn y diweddglo ffantasïol yna, (sydd o bosib yn fwy addas i ffilm sci-fi nag i’r Testamrent Newydd) mae’n haws gen i gredu mai’r dewis a gyflwynir inni gan y dramodydd sy’n ein wynebu fel dynoliaeth. Rhaid byw – neu farw – gyda chanlyniadau ein gweithredoedd a’n gwerthoedd, a pheidio disgwyl i Iesu Grist ddod i lanhau ein llanast!