TRAIS A THYNERWCH Holi Jerry Hunter am ‘Y Fro Dywyll’

TRAIS A THYNERWCH Holi Jerry Hunter am ‘Y Fro Dywyll’

Mae’r Fro Dywyll yn nofel swmpus i ymgolli’n llwyr ynddi. Nofel hanesyddol am gyfnod Cromwell a’r Rhyfel Cartref yng Nghymru a Lloegr, ac yn America yng nghyfnod sefydlu diwylliant piwritanaidd a’r cysylltiad â’r llwythau brodorol. Mae Rhisiart Dafydd yn Gymro gwyllt sy’n byw trwy newidiadau, siomedigaethau, cyffroadau enbyd.Y Fro Dywyll

Ble, felly, Jerry Hunter, y mae, neu efallai, beth yw Y Fro Dywyll?

Mae’r tywyllwch a’r goleuni yn natur y canfyddiad. Roedd y Piwritaniaid Prydeinig a ymsefydlodd yn America yn yr ail ganrif ar bymtheg yn hoffi meddwl eu bod nhw’n mynd â ‘goleuni’ i ganol ‘tywyllwch’ y brodorion. Ond o weld y bennod hanesyddol honno o ongl arall, mae’n bosibl casglu eu bod nhw wedi diffodd llawer o oleuni wrth drefedigaethu a gormesu cenhedloedd brodorol. Ac mae’r fro dywyll y tu mewn hefyd, fel y gwelir yn y modd y mae Rhisiart yn ymgodymu â’i orffennol ei hun.

Ar ddechrau’r gyfrol rydych chi’n dyfynnu nofel Joseph Conrad, Heart of Darkness. Ai dyma’r thema?

Yn sicr. O ran y dylanwadau llenyddol sy’n ganolog i wead y nofel, mae’n gyfuniad rhyfedd o waith Conrad a gwaith Morgan Llwyd.

Drwy’r nofel mae’r arwr Rhisiart Dafydd yn cyfeirio at waith Morgan Llwyd ac yn dyfynnu ohono. Cyfeirir hefyd at destun tra gwahanol – Catecism Byddin y Seintiau a ddarparwyd i fyddin Cromwell. Cyflawnwyd erchyllterau gan y fyddin honno, a ystyriai ei bod yn ‘offeryn Duw’. O ble mae’r gwenwyn yn dod?

Credaf fod y tensiynau i’w cael ym mywyd a gwaith Morgan Llwyd ei hun i raddau helaeth. Ar y naill law, mae Morgan Llwyd yn trafod crefydd, cymuned a brawdgarwch mewn modd dyrchafol iawn yn ei gyhoeddiadau, ond ar y llaw arall roedd yn teithio gyda byddin Cromwell ac yn cefnogi gweithredoedd treisgar y fyddin honno (neu rai ohonynt o leiaf). Ffrwyth fy nychymyg yw llawer o’r nofel, ond mae’r catecism Saesneg hwnnw yn gyhoeddiad go iawn; mae’n enghraifft amlwg o’r modd y mae crefydd a militariaeth yn dod ynghyd weithiau. Roedd rhai o’r pregethwyr a deithiai gyda byddin Cromwell yn dweud wrth y milwyr eu bod yn ‘eglwys wedi’i chynnull’, ac mae’r syniad o eglwys arfog yn gwneud gwaith Duw trwy ladd yn erchyll o bwerus.

Ydych chi’n meddwl mai crefydd yw ffynhonell y trais?

Credaf fod yr ateb yn amrywio. Weithiau mae’n bosibl mai crefydd yw ffynhonnell y trais, ac weithiau mae’n cael ei defnyddio fel cyfiawnhad.

Mae crefydd ac awydd am rym gwleidyddol yn faes sy’n perthyn i’r gwrywod ac maen nhw’n ymddwyn yn dreisgar a chreulon. Maen nhw’n llai na dynol. Y rhai dynol ydi trigolion cynhenid America, a chymeriadau benywaidd ymhlith y gwynion sy’n hiraethu am liw, a sbri a chwerthin. Rydych chi’n disgrifio’n dyner iawn y berthynas rhwng Dafydd Rhisiart a’i wraig, Elisabeth. Ond dydych chi ddim yn beirniadu cymhellion neb. Ydych chi eich hun ym mherson Rhisiart Dafydd yn gwrthgyferbynnu dedwyddwch bywyd teuluol a deddfu didrugaredd y bywyd cyhoeddus?

Jerry Hunter

Jerry Hunter

 

Hoffwn feddwl bod Rhisiart Dafydd yn mynd ar daith ac yn newid. Ceir cipolwg arno yn epilogau’r nofel sy’n awgrymu ei fod wedi symud i gyfeiriad hollol wahanol. Felly, am wn i, mae’r feirniadaeth yn y modd y mae gweithredoedd a gorffennol Rhisiart yn aflonyddu arno. Ond, ie, pan mae’n filwr ifanc sy’n credu’n gryf yn yr hyn a wna, rydym yn ei weld yn mwynhau’r bywyd teuluol hwnnw. Y nod yw mynd â’r holl dynerwch sy’n nodweddu bywyd teuluol delfrydol i weithredoedd cyhoeddus. (Credaf fod llawer o hanes yn dangos bod benywod yn gallach na dynion, rhaid cyfaddef!)

 

Mae Rhisiart Dafydd y Cymro gwyllt yn gymeriad dieithr, yn filwr, yn deithiwr, yn dipyn o ieithydd hyd yn oed. Chi greodd e. Beth ydych chi’n ei hoffi fwya amdano?

Yr hyn dw i’n ei hoffi amdano yw ei ddatblygiad. Mae’n ddiddorol dilyn hynt cymeriad wrth iddo symud o un cyfnod yn ei fywyd i gyfnod arall, ac mae Rhisiart yn teithio’n bell o ran ei daith fewnol, heb sôn am ei daith allanol. Hoffwn feddwl ein bod ni’n ei ddilyn yn ystod y daith honno ac yn ei weld yn newid ond eto’n dal i’w nabod mewn rhai ffyrdd. Mae mynegiant – defnyddio iaith ac adnoddau llenyddol i drafod a dadansoddi’r hyn sy’n digwydd – yn rhan bwysig o’r stori, ac felly mae Rhisiart yn mwynhau defnyddio iaith fel y mae’n mwynhau gwaith o fath arall.

Mae digwyddiadau, a syniadau yn gweu trwy ei gilydd a’r stori’n fyrlymus yn eich tynnu i mewn iddi. Ydi hi hefyd yn stori symbolaidd sy’n rhoi cyfrwng i ni weld y cysylltiad ag erchyllterau’n cyfnod ni?

Mae’n amhosibl i mi feddwl am y cyfuniad hwnnw o grefydd a rhyfel heb feddwl am ein cyfnod ni. A heb gyfeirio at ryfel penodol, mae cyfuniad o grefydd efengylaidd a militariaeth yn parhau i nodweddu llawer o agweddau ar ddiwylliant yr Unol Daleithiau heddiw.

Mae ’na ddisgrifiadau byw iawn o ddigwyddiadau hanesyddol yn y nofel, e.e. y penglogau pydredig o gwmpas tŵr Llundain, digwyddiadau yn y rhyfel, y grefft o drin haearn – ydych chi’n mwynhau’r ymchwil hanesyddol ?

Ydw, mae ymgolli mewn cyfnod hanesyddol wastad yn bleser. Ac fel un sy’n treulio llawer o amser yn ysgrifennu gwaith academaidd, mae ffuglen yn cynnig dihangfa hyfryd. Mae’n braf meddwl am ffeithiau hanesyddol heb gael eich clymu ormod gan y ffeithiau hynny.

Gawsoch chi’ch temtio o gwbl i ddisgrifio cymeriadau hanesyddol blaenllaw o’r cyfnod, e.e. Cromwell neu un o uchelwyr Cymru oedd yn cefnogi’r frenhiniaeth? Neu oes yna nofel arall i edrych ymlaen ati yn y fan honno?

A bod yn gwbl onest, daeth dwy stori ynghyd i greu’r nofel. Roedd stori am gymuned goll o Biwritaniaid yng nghoedwigoedd America wedi bod yn pobi ers blynyddoedd lawer – ac awydd i gyfuno naws Heart of Darkness â’r hyn a elwir yn ‘American gothic’ (gyda’r modd y mae Nathaniel Hawthorne yn trafod Piwritianiaid cynnar America yn ei ffuglen yn ddylanwad amlwg). Ac roedd gen i awydd ysgrifennu nofel am Morgan Llwyd ar ei wely angau. Ond daeth y ddwy stori ynghyd mewn modd digon naturiol rywsut.