Diwedd … a dechrau

Diwedd … a dechrau.

Ar ddechrau Ebrill eleni daeth y cylchgrawn Third Way i ben.

O fewn yr un mis, ymddangosodd Agora.

3rd way logoFe lansiwyd Third Way arThird_Way_Magazine 13 Ionawr 1977 gyda’r slogan ‘Towards a Biblical Word View’ ac er mai’r meddwl efengylaidd oedd tu ôl i’r cylchgrawn, roedd un o’r erthyglau yn y rhifyn cyntaf yn awgrymu’r hyn oedd i ddod. Ronald Sider oedd yr awdur a phennawd ei erthygl oedd ‘The weakness of evangelical ethics’. Roedd Sider yn un o ladmeryddion Cyfamod/Comisiwn Lausanne a oedd i arwain y Mudiad Efengylaidd o gulni’r pwyslais unigolyddol.

Fe newidiodd slogan Third Way dros y blynyddoedd, e.e ‘Y byd cyfoes drwy lygaid Cristnogol’, ‘Ffenestr ar y byd’,  ‘Meddwl tu allan i’r bocs – byw o fewn y Deyrnas’, ‘Ffydd a diwylliant’. Canlyniad hyn oedd i Third Way ddod yn llais Cristnogol goleuedig, yn ymwneud â phob agwedd o’r diwylliant cyfoes Seisnig. Efallai mai’r elfen fwyaf diddorol yn ystod y degawd olaf yw’r gyfres o’r hyn sy’n cael ei alw yn ‘High Profile’, sef cyfweliadau treiddgar yn ymestyn dros chwe thudalen. Yr hyn sy’n arbennig yw nad cyfweliadau â Christnogion yn unig yw’r rhain (er eu bod wedi cynnwys rhai o ddiwinyddion pwysig ein cyfnod) ond â phobl o ddylanwad yn eu meysydd ac fel arweinwyr gwleidyddol a chymdeithasol. Mae Third Way wedi bod yn enghraifft ardderchog o wrando, dysgu a gwerthfawrogi fod Duw ar waith ymhell tu hwnt i’n ffiniau a’n profiadau cyfyng ni. Fe fydd colli cylchgrawn mor safonol, lliwgar a difyr yn gadael bwlch mawr ym mywydau rhai miloedd o ddarllenwyr. Er pob ymdrech fe aeth y costau ariannol i gynnal cylchgrawn sgleiniog, swmpus a lliwgar (am £4.95) yn ormod i’r cwmni sy’n cyhoeddi Third Way, sef Hymns Ancient and Modern (sydd hefyd yn cyhoeddi’r Church Times a rhai cylchgronau eraill).

Er na allwn gymharu Agora â Third Way o ran adnoddau (gwirfoddolwyr fydd yn cynnal Agora a phrin yw’r adnoddau), ein gobaith yw y bydd ymddangosiad y cylchgrawn hwn yn gyfraniad i ehangu ac amrywio’r meddwl a’r dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru.

Fe allwch ddarllen ôl-rifynnau Third Way ar www.thirdway.org.uk.

Pryderi Llwyd Jones