Gair o gyflwyniad gan John Gwilym Jones, Cadeirydd C21

Gair o gyflwyniad gan John Gwilym Jones, Cadeirydd C21

Mae uniongrededd wedi llethu a llurgunio crefyddau ar hyd y canrifoedd. Bu hynny yn arbennig o amlwg o fewn Cristnogaeth. Hyd yn oed yn ystod y ganrif ddiwethaf byddai heddlu athrawiaeth yn gwylio a gwrando, gydag eneidiau didwyll ac ymroddedig yn ein plith yng Nghymru yn arswydo rhag troseddu yn erbyn y ‘canonau’ oesol. O dro i dro clywem rai pregethwyr ac athrawon ysgol Sul yn mentro gwthio’r ffiniau, ond caent eu hystyried fel eithriadau, yn feddyliau ar ddisberod, neu’n hereticiaid haerllug oedd yn meiddio herio ffydd y tadau eglwysig.

Bellach gwelwn fod eu gweledigaethau hwy yn perthyn i dras anrhydeddus a fu fel cydwybod gyson yn natblygiad yr eglwys Gristnogol, ac yn rhan o’r goleuo newydd sy’n cerdded byd crefydd yr unfed ganrif ar hugain. A’r hyn a’n galluogodd i sylweddoli hynny yw’r cyfryngau torfol digidol. Felly, pan ddaeth cwmni ohonom at ein gilydd i hybu’r weledigaeth hon yn y Gymru Gymraeg, roedd hi’n naturiol y byddem ninnau’n defnyddio’r dulliau hyn gyda’n bwletinau. Cam pellach yn awr yw cyhoeddi cyfnodolyn ar y We, a hyderwn y bydd Agora, o dan olygyddiaeth Enid, yn offeryn effeithiol yng ngwaith Teyrnas Dduw.

Diolchwn i’r unigolion amrywiol sydd wedi cynorthwyo yn y gwaith gydag ymroddiad, ac i’r cannoedd sydd wedi ymateb i’r gweithgarwch hwn. Gwerthfawrogwyd hefyd gwmnïaeth y niferoedd a ddaeth i gydfwynhau ambell encil a chynhadledd a gynhaliwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd llwyddiant y cyfarfodydd hynny a’u hawyrgylch hynaws, gobeithiwn barhau i’w trefnu’n flynyddol i’r dyfodol.

Yr hyn sydd yn ein symbylu yw’r argyhoeddiad mai Iesu ddylai ein harwain. Nid Iesu athrawiaethau’r eglwys, nid Iesu’r gwisgoedd o draddodiadau a gafodd eu gwau amdano, ond yr Iesu sy’n heriol ei fywyd a’i ddysgeidiaeth, ac yn heriol ei farw: yr Iesu a ddatguddiodd, drwy ei gariad anfeidrol, y Duw sy’n dad i ni.

John Gwilym Jones
Cadeirydd Cristnogaeth21