BETH YW HANES CRISTNOGAETH 21?

BETH YW HANES CRISTNOGAETH 21?

Sefydlwyd Cristnogaeth 21 yn y flwyddyn 2007, a dilynwyd hynny gyda chreu gwefan a lansiwyd yn swyddogol ar Ragfyr 1af 2008. Denodd hynny gryn sylw ar y radio, ar deledu, yn y cylchgronau enwadol ac mewn papurau dyddiol ac wythnosol. Y bwriad oedd cyhoeddi erthyglau ar wahanol bynciau fel bod modd cael llwyfan i safbwyntiau nad ydynt yn cael sylw yn y papurau enwadol.

Maes o law, dechreuwyd dosbarthu neges wythnosol drwy e-bost i bawb sydd wedi mynegi dymuniad i’w  derbyn, sef cyfanswm o tua 250 o bobl i gyd. Dyma’r e-fwletin wythnosol fel y byddwn ni’n cyfeirio ato. Caiff y neges hon ei hysgrifennu gan griw o tua 30 o unigolion sy’n cymryd eu tro i’w llunio, ac mae’r ymateb i’r negeseuon hyn yn gynnes a chefnogol iawn, hyd yn oedd os nad yw pawb yn cytuno â’r cynnwys bob tro. Os hoffech chi dderbyn yr e-fwletin, neu fod yn un o’r awduron, rhowch wybod i ni.

Efallai mai’r cam mwyaf cyffrous ar y wefan oedd agor y Bwrdd Clebran, sef fforwm i drafod gwahanol safbwyntiau yn onest ac agored, heb i unrhyw un deimlo ei fod ef neu hi yn cael eu beirniadu am beidio coleddu syniadau sydd, fel arfer, yn perthyn fwy i’r brif ffrwd ddiwinyddol yng Nghymru.