‘Y Storm ar Fôr Galilea’ gan Emlyn Davies

‘Y Storm ar Fôr Galilea’ gan Emlyn Davies

Myfyrdod yn seiliedig ar Mathew 8:23–34

(Traddodwyd yn Encil Trefeca, Medi 2015)

Wrth i mi draddodi’r sylwadau hyn, rwy’n ymwybodol iawn ein bod, yn y cyfnod hwn eleni, yn nodi carreg filltir go nodedig yn hanes darlledu. Aeth trigain mlynedd heibio ers darlledu’r rhifyn cyntaf o From Our Own Correspondent ar Radio 4, ac mae’n anodd meddwl am unrhyw gyfres debyg sy’n dod yn agos ati o ran ei safon uchel.

Cyfle sydd yma i newyddiadurwyr tramor gael pum munud o ryddid i gyflwyno unrhyw agwedd o’u dewis ar faterion yn yr ardal lle maen nhw’n gweithio. Ac o wrando arnyn nhw, mae rhywun yn ymwybodol iawn o’r peryglon sy’n eu hwynebu yn aml, boed hynny’n wrthdaro milwrol, yn drychineb naturiol, neu’n afiechyd endemig.

Y gwir yw fod eu gwaith yn llawer mwy peryglus erbyn heddiw nag yr oedd ers talwm. Flynyddoedd yn ôl, roedd yna linell flaen amlwg mewn rhyfel, lle roedd y brwydro ar ei waethaf, ac fe wyddai pob gohebydd na ddylid mentro’n rhy agos i’r fan honno. Bellach, nid yw hynny’n wir, ac yn aml iawn gall fod mai’r gohebydd ei hun yw’r llinell flaen.

Dros y misoedd diwethaf daeth hynt a helynt y ffoaduriaid yn hanes llawer rhy gyfarwydd.  Clywsom rai o ohebwyr mwyaf profiadol From Our Own Correspondent yn dweud eu bod dan deimlad ofnadwy wrth adrodd am hyn i gyd. Cyfaddefodd Lyse Doucet, er enghraifft, y byddai’n crio’n aml, a hynny am ddau reswm gwahanol. Weithiau, sefyllfa anobeithiol y ffoaduriaid, a’r plant yn enwedig, fyddai’n tynnu deigryn i’r llygad, ond dro arall wylo o lawenydd y byddai hi wrth weld caredigrwydd ambell unigolyn tuag at y ffoaduriaid.

Efengyl Mathew

Mae’r ddau hanesyn sydd i’w cael ym mhennod 8 o Efengyl Mathew yn atgoffa dyn o dreialon y ffoaduriaid. Mae’r ofn a’r colli gobaith yn y stori gyntaf, a’r colli urddas yn yr ail stori yn berthnasol i’r hyn welwn ni’n digwydd ledled Ewrop heddiw.

450px-Rembrandt_Christ_in_the_Storm_on_the_Lake_of_Galilee

‘Y Storm ar Fôr Galilea’ gan Rembrandt (1633) Llun gan Amgueddfa Isabella Stewart Gardner yn Boston, Massachusetts

Ymhlyg yn y traethu mae yna arweiniad i’n hatgoffa o’n dyletswydd mewn sefyllfaoedd fel hyn.

Darlun Rembrandt

Wrth  bori ar y we am luniau i gyfleu’r digwyddiadau yn y darlleniad hwn, fe ddois ar draws delweddau electronig o un o luniau enwocaf Rembrandt, Y Storm ar Fôr Galilea. Erbyn hyn, mae’r llun wedi ennill enwogrwydd dros y byd, oherwydd iddo fo gael ei ddwyn ymron i chwarter canrif yn ôl, ac ni welwyd mohono byth wedyn. Roedd yn arfer bod yn Amgueddfa Isabella Stewart Gardner yn Boston, Massachusetts, ond, yn oriau mân y bore ar 18 Mawrth 1990 daeth dau blismon i’r amgueddfa ym mherfeddion y nos gan honni eu bod wedi clywed rhyw synau amheus yn y cefn. Erbyn gweld, nid plismyn oedden nhw, ond lladron, ac fe lwyddon nhw i gael y gorau ar y ddau warchodwr cyn dianc gyda deuddeg o luniau gwerthfawr tu hwnt a rhai creiriau eraill.

Manylion y llun

Wrth fanylu ar y llun, mae nifer o bethau yn ein taro ni’n od. Yn y lle cyntaf, mae’r ddelwedd fel pe bai mewn dwy ran. Yn nhu blaen y llong, mae’r storm yn dal i ruo, ac fe welwn y dynion ar y chwith yn dal eu gafael am eu bywydau. Mae dau yn cydio’n dynn yn y rhaffau sy’n rheoli’r hwyliau, dau arall yn gafael yn yr hwyl ei hun, ac un arall bron â diflannu dan y don. Y rhain, efallai, yw’r pysgotwyr profiadol ymysg y disgyblion, yn gwybod sut i drin cwch.

Ond yng nghefn y cwch, mae popeth yn dawel. O leiaf, does dim tonnau’n golchi drostyn nhw. Mae’r un yn y crys coch yn amlwg yn sâl môr – rhywun fel Mathew efallai, y casglwr trethi oedd wedi arfer ennill ei fara y tu ôl i ddesg, heb fod yn gyfarwydd â hwylio ar Fôr Galilea mewn storm. Ond mae’n amlwg bod Rembrandt yn ceisio dweud rhywbeth wrthyn ni am y sefyllfa, sef bod yna loches i’w chael wrth draed yr Iesu er mor arw yw’r storm.

Y peth arall od yw hyn: o gyfrif y personau yn y cwch, fe welwn ni bedwar ar ddeg o bobl ar y bwrdd, sef Iesu, deuddeg o ddisgyblion, ac un arall. Pwy yw’r un ychwanegol, tybed? Y farn ymhlith yr arbenigwyr yw mai Rembrandt ei hun yw hwn. Roedd gan yr arlunydd ddau obsesiwn, sef peintio hunanbortreadau a pheintio delweddau o wyneb Iesu Grist.

Yma, gosododd ei hun yn y canol, yn edrych allan arnom ni. I rai, mae hynny’n llawn symbolaeth, sef ei fod rhwng dau fyd: weithiau yn y storm ac weithiau yn y tangnefedd, fel pob un ohonom ni efallai; weithiau’n hyderus, weithiau’n ofnus; weithiau’n llawn ffydd ac weithiau’n llawn amheuon.

Dameg gyfoes

Rwy’n hoffi’r dehongliad fod llun enwog Rembrandt yn cyfleu neges bwysig i ni. Mae’n ein hatgoffa nad digwyddiad hanesyddol yw’r storm, ond dameg am dreialon bywyd sy’n dweud bod stormydd yn digwydd yn gyson, a ninnau yn eu canol. A neges yr Iesu oedd nad y cawn ni’n hamddiffyn a’n gwarchod i osgoi’r stormydd, ond yn hytrach y cawn ni nerth i oresgyn drwy roi ein hymddiriedaeth yn y gwerthoedd a ddangoswyd ym mywyd yr Iesu.

Gwlad y Geraseniaid

Mae Mathew’n mynd yn ei flaen i adrodd amdanyn nhw’n cyrraedd yr ochor draw, sef y tro cyntaf i’r Iesu fentro allan o’i wlad ei hun, a rhagflas o fynd â’r efengyl at y cenedl-ddynion. Maen nhw’n mentro allan o gylch eu cyfforddusrwydd, ac yn glanio yng ngwlad y Geraseniaid lle y gwelson nhw’r dyn gorffwyll rhwng y cerrig beddau yn bloeddio a bytheirio. Gwelwn Mathew’n rhoi sylw amlwg i’r ffaith fod Iesu’n gofyn iddo am ei enw, ac wedi hynny mae’n tynnu’r cythreuliaid allan o’r dyn a’u bwrw i’r moch sy’n neidio dros y dibyn i’r môr.

Pan ddaw pobol y dref yno i weld beth sy’n digwydd, maen nhw’n canfod y gŵr yn iach, yn ei bwyll ac wedi ei wisgo. Mae ganddo enw, mae ganddo ddillad ac mae ganddo hunan-barch.

A mynd yn ôl at From Our Own Correspondent fe soniodd Lindsay Hilsum, Golygydd Newyddion Tramor C4 News, ei bod wedi cael ei beirniadu’n hallt gan rai pobl yn ddiweddar wrth adrodd am hynt a helynt y ffoaduriaid. Derbyniodd negeseuon sarhaus a bygythiadau ffiaidd. Y rheswm oedd ei bod wedi dangos plant a theuluoedd, ac roedd hynny wedi cythruddo rhai pobol am ei bod hi’n dyneiddio’r sefyllfa. ‘Because I humanised the situation’ oedd ei geiriau hi.

Ac onid dyna a wnaeth Iesu Grist ym mynwent y Geraseniaid? Hiwmaneiddio’r sefyllfa.  Rhoi enw i’r dyn gwallgof; dangos parch tuag ato. A phan ddaeth pobol y dref yn ôl, roedd wedi ei wisgo. Ei wisgo â beth, tybed?  Ei wisgo â gofal a chonsýrn a ffydd. Cafodd ei urddas yn ôl. Dyn yn gwisgo Crist amdano.

Her i ninnau

Dyna’r her i ninnau. Cynnal gobaith y ffoaduriaid am fyd gwell yn eu cynefin eu hunain, drwy ddatrys eu problemau yn y gwraidd, ac o wneud hynny, rhoi eu hurddas yn ôl iddyn nhw. A lle nad yw hynny’n bosibl, cynnig ymgeledd a brawdgarwch iddyn nhw mewn ffordd gwbl ymarferol, i’w helpu i oresgyn y storm.