Ymateb un o selogion Cristnogaeth 21 i’r gyfrol Duw yw’r Broblem

Adolygiad o Duw yw’r Broblem

“Unigryw Gymreig ar y naill law, ac yn gwbl ryngwladol ei sylwedd ar y llaw arall”

Sylwadau un o selogion Cristnogaeth 21  ar Duw yw’r Broblem,

gan Cynog Dafis ac Aled Jones Williams

Duw yw'r BroblemAnaml iawn y daw campwaith o’r wasg Gymraeg sydd yn unigryw Gymreig ar y naill law, ac yn gwbl ryngwladol ei sylwedd ar y llaw arall.     

Yn Duw yw’r Broblem mae dau ffigwr blaenllaw yn y Gymru gyfoes wedi dod at ei gilydd i lunio cyfrol onest ac ymchwilgar ar y cyd ar fater sydd yn dwysbigo’r ddau awdur – pwy neu beth yw Duw? Ydy Duw hyd yn oed yn ‘bwy’ neu’n ‘beth’? Gosododd Richard Dawkins, Sam Harris ac eraill fodolaeth Duw ’nôl ar ganol yr agenda athronyddol a’r meddwl poblogaidd gan roi lle blaenllaw iawn i’r bod mawr ar y cyfryngau cymdeithasol a thorfol. Mae nifer fawr o Gristnogion wedi honni nad ydyn nhw’n teimlo dan fygythiad gan athrawiaethau Dawkins a Harris, gan ddweud, “Dyw eu dadleuon ddim yn effeithio arnaf i, achos dwi ddim yn credu yn y math o Dduw y maen nhw yn ei herio.” Yn y llyfr hwn, nid anffyddwyr o fyd gwyddoniaeth neu roc a rôl sy’n codi’r cwestiynau mawr, ond dau unigolyn a fu’n ddiogel o fewn pabell fawr yr eglwys Gristnogol yng Nghymru dros yr hanner canrif diwethaf. 

Mae Aled a Cynog am yn ail yn distyrbio’r darllenydd wrth drafod heriau am Dduw sydd yn real, mi dybiaf, i bob un ohonom sydd yn edrych o’r tu allan i lens sengl dogma gaeth.  

Mae’r dramodydd talentog a’r cyn-offeiriad Aled Jones Williams yn agor y ddadl gydag ambell osodiad sy’n peri i’r darllenydd werthfawrogi dwyster yr her bersonol y mae Aled yn ei hwynebu.  Dywed yr awdur, “Profiad o ‘Dduw’ sydd gennyf. Nid syniad, nid haniaeth, nid cred, nid confensiwn. Profiad sydd ynghlwm wrth y defnydd o’r gair yn fy mywyd.” Ac aiff ymlaen i ddweud, “Mae’n amhosibl i mi fod yn anffyddiwr. Fel y mae’n amhosibl i mi beidio â siarad Cymraeg.” Ei gam nesaf yw holi a yw Duw yn “fwy na gair”? Datgloi grym geiriau cyfarwydd yw un o’r heriau amlycaf, mi dybiaf, wrth i Aled awgrymu nad gwrthrych neu enw yw Duw, ond ei fod yn bodoli fel “berf”. A dyna’r drws wedi ei agor i ehangu teithi meddwl ystyrlon a dwys AJW. Mae ffiniau ein geirfa yn rhy gyfyng i ddisgrifio’r anymwybod mwyaf, ond mae ein profiad, ein teimladau a’n hemosiwn yn gallu dechrau ein symud ni at deimlo rhywbeth o’r beth bynnag yw. Wrth nodi’r anhawster a grëir gan yr angen i ddefnyddio geiriau i ddisgrifio “Duw”, awgryma AJW mai ffwndamentaliaeth yw’r “ymgais gyfoes … i geisio iaith hawdd, rwydd a phlaen i sôn am ‘Dduw’”. Tybiaf fod y rhan fwyaf ohonom mewn perygl o gael ein hystyried yn ffwndamentalwyr anfwriadol. O’r fan honno, defnyddia Aled Jones Williams gynfas eang i’w archwiliad ac, fel gyda’i ddramâu, aiff â’r darllenydd ar daith onest, agored, ddynol, ddeallus a sensitif. Mae’n daith werth mentro arni.

Safbwynt Cynog 

Daw awdur arall y gyfrol, Cynog Dafis, at ei Everest ddeallusol o berspectif tra gwahanol i Aled. Yn rhannol, ymryson ag etifeddeg ei ffydd a’i fagwraeth mewn Cristnogaeth agored a wna Cynog. Yn blentyn y Mans, ac yn ffyddlon i’w gefndir gydol bywydau ei rieni, daeth fel llawer un arall wyneb yn wyneb â’r her o orfod gweithio’i ‘grefydd’ allan drosto’i hunan tra oedd yn ddyn ifanc. Dros gyfnod hir mae’r naratif Cristnogol yn para i gynnig cyfeiriad i’r awdur, ond mae’r her o amgyffred “Duw” yn un barhaus.

O’r sefyllfa honno y datblyga Cynog ei gyfraniad yntau i’r llyfr. Yn ei benodau ceir dadansoddiad ysgubol o Gymru’r ugeinfed ganrif – oes yr Argyfwng Gwacter Ystyr. Cawn benodau’n crisialu datblygiad cyfnod allweddol o athronyddu a diwinydda yn y Gymraeg, pan aed i’r afael â’r creisis modern, a phan oedd y byd Cymraeg ar flaen y gad yn hyn o beth. Tynnir J. R. Jones a T. Gwynn Jones, Tegla, Dewi Z. a T. Rowland Hughes at ei gilydd, ynghyd â Feuerbach a Freud. Yma, ceir naratif taclus iawn o’r cawdel o ddatblygiadau diwinyddol-athronyddol-llenyddol Cymraeg a aeth at hanfod y drafodaeth am fodolaeth neu anfodolaeth Duw, a’r cwestiynu pwrpasol a fu ynglŷn â natur y Duw/Duw nad yw’n bod, hwnnw.  

Deialog a fu ar goll

Yr hyn sydd yn gwneud hwn yn llyfr unigryw yw ei fod yn mynd i’r afael â theithi meddwl a dadleuon mwyaf ein hoes – rhai unigolion fel Karen Armstrong, A. C. Grayling ac Alain de Botton – a’u cydosod â chyfraniadau o sylwedd o lenyddiaeth Cymru o’r ganrif ddiwethaf.    Trwy wneud hynny mae’r ddau awdur, yn heriol a didwyll, yn agor ffynnon newydd i’r byd Cymraeg i’n galluogi i gynnal deialog ddeallus â ni ein hunain. Mae hon yn ddeialog a fu ar goll, i bob pwrpas, ers colli J. R. Jones a Dewi Z. Phillips. Am ein bod yn nabod natur magwraeth, cefndir a geirfa’r ddau awdur, rywsut mae dilyn eu brwydrau yn fwy agos atom na rhai’r unigolion o’r tu allan i Gymru, fel Gretta Vosper (With or Without God) neu Mark Vernon (After Atheism: Science, Religion and the Meaning of Life).

Mae Duw yw’r Broblem yn drysorfa ddeallus a didwyll iawn i’n hoes ni, a thra bo’r themâu yn rhai ‘global’, mae hanfod y gyfrol yn dod o’r profiad Cymreig. Tipyn o gampwaith.     

Gweler hefyd: Morris Morris yn croesawu’r gyfrol