Hanes Cyffrous y Cwm gan Gerald Morgan

Hanes Cyffrous y Cwm  gan Gerald Morgan

Ysgolhaig ifanc hynod o ddysgedig ac effeithiol yw Dr Hannah Jane Thomas, sy’n hanu o Lanelli, a ddaeth i annerch Cymdeithas Lyfryddol Aberystwyth yn diweddar, a hynny’n llwyddiannus iawn. Ymddangosai ei thestun yn dra sych, sef ‘Llyfrgell Coleg y Cwm yn Eglwys Gadeiriol Henffordd’, ond fe wnaeth yr hanes afael yn y gynulleidfa.

Dechreuodd cenhadon pabyddol Cymdeithas Iesu ymgyrch yng Nghymru a Lloegr yn 1580, ac erbyn 1623 roeddent wedi ffurfio ‘talaith’ dros y ddwy wlad. Roedd Cymru gyda swyddi Henffordd, Caerloyw a Gwlad yr Haf yn ffurfio un adran, ond yn 1670 rhannwyd gogledd Cymru yn ardal ar wahân.

Mae’r Cwm mewn bro ddiarffordd yn Swydd Henffordd, yn agos iawn at Sir Fynwy, ac ar y ffin rhwng esgobaethau Llandaf a Henffordd. Mantais y safle oedd ei ddiogelwch: roedd yn hawdd dianc oddi wrth awdurdodau sirol ac esgobaethol i diriogaeth arall mewn amser o berygl. Roedd y Cwm wedi ei waddoli gyda thair fferm drwy nawdd Edward, iarll Caerwrangon. Roedd hwnnw yn byw ar ffin arall: disgrifiwyd ef gan Elisabeth I fel ‘a stiff Papist [and] a good subject’. Roedd ei gartref, castell Rhaglan, yn ganolbwynt i rwydwaith o gartrefi boneddigion pabyddol, oedd yn selog dros eu ffydd ond ddim yn awyddus i beri trafferth, a fuasai’n peryglu eu teuluoedd a’r offeiriaid oedd yn gweini arnynt.

Byddai hyd at 20 o Iesuwyr yn y Cwm ar unrhyw adeg, a byddent yn mynd a dod yn barhaus er mwyn ymweld â’u praidd a gweinyddu’r offeren iddynt.

Llwyddodd y Cwm i oroesi hyd 1678, pan syfrdanwyd Llundain a’r wlad i gyd gan y Cynllwyn Pabaidd bondigrybwyll. Gwead o gelwyddau oedd y cynllwyn oll, ond roedd yr awyrgylch yn fflamychol tu hwnt. Hyd at hynny roedd yr awdurdodau yn gwybod am y Cwm ond wedi ei anwybyddu. Ond nawr, gorchmynnwyd i Esgob Henffordd, Herbert Croft, fynd yno ac arestio pawb.

Cymeriad diddorol oedd Croft (1603–91). Un o deulu Croft Castle ydoedd, a fagwyd yn Anglican ond a drodd at y Pabyddion am rai blynyddoedd cyn dychwelyd at yr Eglwys Wladol a chodi i fod yn Esgob Henffordd. Erbyn i’w ddynion gyrraedd y Cwm, doedd neb yno (rhybudd o flaen llaw?). Ond roedd allorau a llyfrgell yno, oedd yn ddigon i ddangos sut y defnyddiwyd y lle. Cludwyd y llyfrau i gadeirlan Henffordd, ac yno y maent hyd heddiw, a Hannah Thomas yw’r ysgolhaig cyntaf i’w hastudio ers amser Croft. Llyfrau print ydyn nhw i gyd, yn bennaf mewn Lladin, gyda nifer o rai Saesneg. Argraffwyd nhw rhwng 1503 ac 1676, y rhan fwyaf ar ôl 1595. Daeth y cyfrolau o amryw o wledydd a dinasoedd Ewrop, ond yn bennaf o Gwlen (Cologne), Antwerp a Mainz. Does dim llyfrau Cymraeg yn eu plith, ond fe wyddys y bu rhai yno ar un adeg, a cheir ambell graffito yn y cyfrolau, megis ‘Duw a digon’, a ‘Heb Dduw heb ddim’.

Doedd colli Coleg y Cwm ddim yn ddiwedd ar reciwsantiaeth yng Nghymru. Deil ychydig o deuluoedd y Gororau at eu ffydd hyd heddiw, a chafwyd rhai cymeriadau fel y Brawd Ffransisgaidd David Powell, sef y llenor Catholig Dewi Nant Brân, a fu farw yn 1781 wedi blynyddoedd o gynnal yr offeren yn y capel Catholig yn y Fenni. Ond roedd colli’r Cwm yn ergyd drom i’r Hen Ffydd yng Nghymru.