Archifau Categori: Agora 43

Dewi Sant

DEWI SANT

Sawl Dewi Sant sydd? Faint o wahanol fersiynau o nawddsant Cymru sy’n bodoli? A pha Ddewi Sant yw’ch dewis chi?

Ffenest Dewi Sant, Castell Coch

Rhaid i mi gyfaddef na wyddwn pa sawl Dewi Sant sydd pan es i ati i sgrifennu llyfr amdano – ond fe ges i’r hwyl ryfeddaf o fynd ar eu holau nhw. Dyna Ddewi Sant Dydd Gŵyl Ddewi, gyda merched bach ysgolion cynradd yn eu hetiau cardbord a’u bratiau gwyn a sgerti gwlanen. Mae Dewi Sant y gwledda a’r llwncdestun mewn gwestai crand, a Dewi Sant y swperau mewn neuaddau pentref, gyda chawl cennin a theisen afal.

Neu ystyriwch yr holl sefydliadau sy’n bodoli dan enw Dewi: yr ysgolion, yr ysbytai, y canolfannau siopa, y meysydd parcio, y neuaddau, y cymdeithasau, yr elusennau. Neu symudwn yn ôl, at y pasiantau a’r cantatas ac awdlau oes Fictoria. Yn y ddeunawfed ganrif y sefydlwyd y cinio Dewi Sant, a chyhoeddi baledi amdano:

 

We are of valiant hearts,
Of nature kind and meek;
An honour on St David’s Day
It is to wear a leek.

Dathlodd y bardd Nathaniel Griffith Ddewi Sant fel cadfridog byddin Gymreig a drechodd y Saeson. Yn oes Elisabeth dathlwyd Dewi yn y llyfr The Seven Champions of Christendom fel marchog yn achub merched del o afael dynion rheibus, yn tadogi mab, ac yn lladd y Sacsoniaid paganaidd.

Dyna ddewis i chi o sawl Dewi – a dim un ohonyn nhw’n Gristion! Roedd y Diwygwyr Protestannaidd wedi alltudio’r seintiau o’r eglwys – dim ond seintiau’r Beibl gâi aros. Sut yn wir y glynodd y cof am Ddewi, wedi i’r Gatholigiaeth oedd wedi ei gynnal cyhyd ddarfod amdani, i bob pwrpas? Dim ond echdoe y sylweddolais beth yw’r ateb i’r cwestiwn yna – yn rhy hwyr i’w cynnwys yn y llyfr.

Beth oedd gan bobl Cymru erbyn yr ail ganrif ar bymtheg i ymfalchïo ynddo? Roedd gan y Saeson eu teulu brenhinol, eu senedd, eu trefn cyfraith, eu hiaith – ac roedden nhw’n barod iawn i’w gwthio ar y Cymry. Beth oedd gan y Cymry? Dim teulu brenhinol, dim ond Tywysog Seisnig nad oedd yn bodoli am ddegawdau am y tro. Dim Senedd, dim prifysgol, dim prifddinas. Eu hiaith oedd ganddyn nhw, eu prif drysor er gwaethaf gwawd y Sais hyd heddiw – a Dewi Sant – sydd i’r mwyafrif yn ffigur tri-chwarter seciwlar.

Ond nid felly y bu. Agorwch eich llygaid a’ch clustiau, a gwrandewch ar dirwedd Cymru’n llefaru’n ddistaw: Llanddewi Aber-arth, Llanddewi Felffre, Llanddewi Rhydderch, Llanddewi Ystrad Enni, Llanddewi Abergwesyn ac wrth gwrs, Tyddewi ei hun, a lliaws o eglwysi eraill a gysegrwyd yn enw Dewi – Henfynyw, Llangyfelach, Llan-y-crwys ac yn y blaen.

Neu ewch dros y ffin i Loegr: mae hen eglwysi Dewi i’w cael yn swyddi Henffordd, Gwlad yr Haf, Dyfnaint, Cernyw – ac Efrog, coeliwch neu beidio. Neu ewch dros y môr i Iwerddon a Llydaw, yn enwedig Llydaw, lle ceir nifer helaeth o eglwysi Difi, a ffynhonnau niferus. Cofiwn hefyd y ffrydiau o bererinion a ddeuai o bob cyfeiriad i anrhydeddu Dewi, a’u rhoddion yn ei gwneud yn bosibl i godi salm o eglwys gadeiriol yn Nhyddewi.

Cofiwn am y beirdd yn dathlu Dewi a’i hanes, fel Lewis Glyn Cothi’n cofio Dewi’r llysieuwr hunanymwadol:

Bara gymerth a berwr,
Neu ddŵr afonydd oerion;
ac o’r rhawn, gwisg ar ei hyd,
a phenyd ar lan ffynnon.

Dyna’r Dewi a alltudiwyd gan y Diwygwyr Protestannaidd, ond mor gryf oedd y traddodiadau amdano, mor dreiddiol ei ddylanwad, fel nad oedd modd iddo fynd yn angof yn llwyr, ond yn hytrach ei gofio fel ffigur brith-Gristnogol.

Yn wir, mae modd gweld dau Ddewi Sant: y dyn seciwlar, a Dewi Sant y canoloesoedd. Ond fe wyddom oll fod Dewi’n perthyn i gyfnod cynharach o lawer na hynny. Pan aeth Rhygyfarch ati tua 1090 i sgrifennu Buchedd Dewi, roedd Dewi ei hun wedi marw bum can mlynedd yn gynharach. Pam oedd Rhygyfarch, yr ysgolhaig mawr o Lanbadarn, yn barod i droi i sgrifennu am Ddewi? Oherwydd roedd ei dad, Sulien, yn esgob Tyddewi, ac yn awyddus i gyhoeddi pwysigrwydd Dewi a’r Eglwys Gymreig yn nannedd y Normaniaid.

Ysywaeth, prin oedd y defnyddiau i lunio buchedd Ddewi. Eto, cofiwn nad sgrifennu bywgraffiad Dewi oedd y bwriad, ond buchedd, sef proclamasiwn o hawl Dewi i gael ei alw’n sant. I wneud hynny roedd traddodiad yn bod, sef crynhoi hanes genedigaeth wyrthiol y sant a’i fedyddio, ei addysg, ei fawrion weithredoedd gwyrthiol. a’i farwolaeth yn sawr sancteiddrwydd.

Beth sy’n bosibl ei achub o’r cyfan a sgrifennodd Rhygyfarch? Rwyf newydd gael fy nghyf-weld ar y pwnc gan Huw Edwards ar gyfer darllediad Gŵyl Ddewi, a rhois ateb cryno mewn paragraff cymen. Ond meddai Huw: ‘Ond beth yw’r ffeithiau manwl?’ A gorfu i mi ateb, ‘Ond, Huw, rwy i newydd eu rhoi nhw.’ Dyma beth y mae modd ei sefydlu am Ddewi Sant heb amheuaeth. Roedd Dewi’n ddyn go iawn, yn byw yn y chweched ganrif Oed Crist. Rhoddwyd enw iddo o’r Beibl, felly cafodd ei fedyddio’n Gristion. Roedd yn byw yn ne-orllewin Cymru, lle roedd tafodiaith yn mynnu troi’r enw Dafydd yn Dewi, fel y mae mynydd yn troi’n fwni i’r de o’r Ceinewydd hyd heddiw.

Cysylltwyd enw Dewi â Henfynyw, ger Aberaeron. Nid ffansi Rhygyfarch oedd hynny, mi gredaf, oherwydd y cysylltiad rhwng yr enw Hen-fynyw a’r hen enw Mynyw o gwmpas Tyddewi. Ond er gwaethaf ei wreiddiau yn Henfynyw, roedd yn fanteisiol i symud i’r Mynyw newydd, lle saif Tyddewi heddiw. Mae’n ganolfan i’r moroedd Celtaidd, o fewn cyrraedd hawdd i Iwerddon. Roedd y Gwyddelod yn croesi i Dyddewi i weld y sant, ac roedd disgyblion Dewi yn croesi’r moroedd i’r Ynys Werdd, i Gernyw ac i Lydaw. A phan fu Dewi farw ar y cyntaf o Fawrth, 593, cofnodwyd ei farw yn Iwerddon.

Beth am y pethau eraill? Ai Sant, brenin Ceredigion, a Non o Gaer-gawch oedd ei rieni? Nid Sant, rwy’n siŵr; enw gwneud i lenwi bwlch oedd hwnnw, a dweud ei fod yn frenin Ceredigion er mwyn honni bod y bachgen Dewi o waed brenhinol. Ffiloreg, felly. Beth am wyrth Llanddewibrefi, a’r tir yn codi o dan ei draed? Chwedl werin hyfryd i esbonio bodolaeth y bryncyn a’r eglwys ar ei ben. Beth am Ddewi’n trechu Pelagiaeth, heresi ddeniadol Morgan y Brython? Ffantasi, rwy’n ofni – ceisio dangos bod Dewi Sant cyn gryfed ȃ Garmon, a drechodd Belagiaeth yn derfynol gan mlynedd yn gynharach.

Ond – ydw i’n gwadu popeth! Oes ’na ddim y mymryn lleiaf o wirionedd i’w loffa o’r cyfan? Wel, oes – a hynny yng ngwaith Rhygyfarch. Rhaid i mi grynhoi geiriau’r Fuchedd Ladin, oherwydd mae’r fersiwn Gymraeg wedi hepgor y darn pwysicaf oll o waith Rhygyfarch. Mae hwnnw’n disgrifio’r ddisgyblaeth fynachaidd yr oedd Dewi a’i frodyr yn ei dilyn.

I ddechrau, rhaid i ddyn a ddymunai ddod yn un o’r brodyr ddangos, hyd yn oed cyn mynd trwy’r drws, ei fod yn barod i ymostwng ei hun yn llwyr, i ymwrthod ȃ phob eiddo, pob myfïaeth. Rhaid bod yn barod i fwyta’n fain ac i yfed dim ond dŵr. Gwaharddwyd danteithion. Gwaith a gweddi oedd trefn pob diwrnod heblaw’r Sul. Rhaid trin y tir gydag aradr y frest, oherwydd ni ddylid ddefnyddio anifeiliaid i lafurio drostynt. Os nad oedd angen gwaith ar y tir, rhaid ysgrifennu, darllen, gweddïo. Roedd ufudd-dod i Ddewi’n gyflawn.

O ble daeth seiliau’r ddisgyblaeth fynachaidd lem yma? O’r Aifft, yw’r ateb. Mae’n wir mai Sant Benet, neu Benedict, yw tad mynachaidd y Gorllewin. Ond patrwm hen fynachaeth yr Aifft, a threfn Sant Antwn, yw patrwm Dewi. A oes unrhyw beth i dystio bod hyn yn wir yn hen fynachaeth Cymru?

Oes! Awdur o Gymro, neu Frython, cyfoes ȃ Dewi oedd Gildas Sant. Yn un o’i weithiau mae’n condemnio trefn mynachaeth oedd yn rhy galed, yn drech na’r enaid. Ac er nad yw’n enwi Dewi Sant, nac unrhyw sant arall, mae’n amlwg bod trefn o’r fath yn bodoli.

Unrhyw beth arall? Oes, y dyddiad – 1 Mawrth, a hwnnw’n ddydd Mawrth. Oherwydd, er nad oes unrhyw gofnod am ddyddiad geni unrhyw sant yn y gwledydd Celtaidd, roedd diwrnod marw’r sant o’r pwys mwyaf. Dyna’r diwrnod yr elai dyn neu ddynes o fuchedd eithriadol yn syth i’r nefoedd, dydd o dristwch i’w ddilynwyr, diwrnod gogoniant nefol i’r sant – felly’n ddiwrnod i’w gofio.

Hoffwn feddwl bod yr un peth yn wir am eiriau olaf Dewi: ‘cadwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf fi.’ Ond cofiwch, cyfieithiad rhydd o eiriau Lladin Rhygyfarch sydd yna. Yn 1973, pan geisiais berswadio athrawon ysgol newydd Penweddig y dylai geiriau Dewi fod yn arwyddair yr ysgol, fe’m gwrthodwyd. ‘Pethau bychain? Hy!’ oedd yr ymateb. Mae ar Gymru angen pethau mawr. Ildiais, gwaetha’r modd. Oherwydd os ailddarllenwch ddamhegion Iesu, mi welwch bwysigrwydd y pethau bychain: y ddafad golledig, hatling y weddw, yr hedyn mwstard, y perl tra gwerthfawr. Gwyddai Iesu werth y pethau bychain, a’r bobl fychain hefyd, fel y Sacheus byr hwnnw a ddringodd goeden i gael golwg ar ei feistr, neu’r lleidr a groeshoeliwyd ar ei ochr dde.

Awn ninnau felly, yn enw Dewi, i wneud y pethau bychain, ac i gadw ein ffydd a’n cred. 

Gerald Morgan

Teyrnged JGJ i Vivian Jones

Vivian Jones

O dro i dro mewn bywyd byddwn yn cwrdd â phobol fydd yn ffitio i mewn yn dwt i’n cymuned ni, a’r rhan fwya ohonyn nhw yn debyg iawn i ni ein hunain. Nid un fel yna oedd Dr Vivian Jones. Yn wir, fe fydde fe wedi chwyrnu arna i eisoes, o nghlywed i’n rhoi’r teitl yna iddo ac yntau’n gwybod mai Viv fyddai mewn cwmni ac yn ei gefn. Byddai’n meddwl amdano’i hun iddo gael ei fagu ar aelwyd gyffredin, ac eto aelwyd anghyffredin oedd hi, oherwydd cynhesrwydd ac anwyldeb y cartre a’r gymdeithas a welodd yn ei blentyndod. Fe wnaeth gymwynas â phob glöwr a gwraig i löwr wrth lunio portread mor fyw gerbron y byd, byd na wyddai am gwlwm twym ardaloedd y glo. A gwnaeth hynny’n fwriadol yn Saesneg, yn rhannol oherwydd iddo synhwyro mor ddieithr i Americanwyr a Saeson oedd y gymdeithas lofaol.

Ond nid y talcen glo oedd yn disgwyl amdano ef. Er iddo lwyddo i gael mynd i Ysgol Ramadeg Llanelli, roedd yna ryw anniddigrwydd yn ei dynnu o’r fan honno wedyn, ac yn un ar bymtheg oed aeth i swydd ysgrifenyddol yng Nghaerdydd. Yn y lle hwnnw, yn gwrando ar bregethau coeth y gweinidog a thrafodaethau bywiog yr ysgol Sul, fe’i tröwyd i gyfeiriad y Weinidogaeth. Y cam nesaf oedd Prifysgol Bangor a gradd anrhydedd mewn Cymraeg. Yna, cyfnod cofiadwy yng Ngholeg Diwinyddol Bala–Bangor. Byddai ei gyd-fyfyrwyr yn sôn ymhen blynyddoedd wedyn am ambell sgwrs dros ginio yn y coleg hwnnw, a’r Prifathro yn cydfwyta gyda’r myfyrwyr. Yng nghwmni Gwilym Bowyer byddai’r myfyrwyr yn gwybod mai gwrando oedd yn gymwys iddyn nhw tra byddai’r Prifathro yn traethu ei sylwadau ar y byd a’i bethau. Ond ni wnaeth Vivian erioed blygu i’r drefn honno, ac fe fyddai hi’n ddifyrrwch ambell awr ginio tra distawai sŵn y cyllyll a’r ffyrc er mwyn gwrando ar Vivian yn mentro anghytuno â rhyw sylw neu’i gilydd o eiddo Bowyer. Yn y cyfnod hwnnw fe sefydlodd Vivian ei le fel tipyn o anghydffurfiwr.

Yn ei gyfnod ym Mangor y datblygodd y garwriaeth hyfryd rhwng Vivian a Mary. Roedd hithau yno yn gwneud gradd mewn Astudiaethau Beiblaidd, a chlywais ddyfynnu’r Athro Bleddyn Jones Roberts yn sôn amdani fel myfyriwr galluog mewn Hebraeg. Byddai ei gyd-fyfyrwyr weithiau’n dyfalu beth oedd wedi ennill calon Vivian fwyaf, ai harddwch swynol ei gwedd a’i phersonoliaeth hi, neu ddisgleirdeb ei ysgolheictod hi? Beth bynnag yw’r gwir, doedd dim troi ’nôl ar Vivian, a phriodi fu hanes y ddau.

Am chwarter canrif wedyn bu Vivian yn weinidog yn yr Onllwyn, ym Mhentre Estyll ac yn yr Allt-wen. Yn y cyfnod cynta yn yr Onllwyn daeth i gysyllltiad â’r gweinidog hynaws, Erastus Jones. Daeth Ras yn destun edmygedd i Viv, nid yn unig ar gyfri ei bersonoliaeth dawel, drawiadol, ond hefyd ei argyhoeddiad diwyro dros ecwmeniaeth a chydweithredu eglwysig. Gadawodd hynny argraff ddofn ar Viv, a barhaodd ar hyd ei yrfa.

Pan oedd yntau a Mary ym Mhentre Estyll roedd fy mrawd yn gymydog iddo yn y Mynydd Bach. Ac un o atgofion dymunol fy mrawd am y cyfnod hwnnw oedd y boreau hynny pan fyddai mam Mary wedi dod ar ymweliad; gadawai Viv i Mary a’i mam gwmnïa yn y tŷ, a landiai Viv am fore o sgwrsio a thrafod yn stydi fy mrawd yng Nghilfwnwr.

, ymadael â chyrion tre Abertawe a symud i fyny i gwm diwydiannol ac i eglwys enwog yr Allt-wen. Buont yno fel teulu yn ddedwydd eu byd. Yn y cyfnod hwnnw byddai’n datblygu gwaith cydeglwysig ac yn cydarwain canolfan fach eciwmenaidd gydag Erastus Jones.

Bu hefyd yn ystod y cyfnod hwn yn weithgar dros addysg Gymraeg yng Nghwm Tawe fel ysgrifennydd y pwyllgor a sefydlodd Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe ac wedyn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Fel y gŵyr pawb ohonom sydd wedi ymladd y brwydrau hynny mae’r gwrthwynebiad yn medru bod yn chwyrn. Yn ffodus, roedd gan Vivian y meddwl craff a’r dycnwch ar gyfer yr ymgyrch. A dangosodd y gweithgarwch hwn mor agos at ei galon oedd Cymru a’r Gymraeg. Doedd hi ddim yn rhyfedd wedyn, ymhen blynyddoedd lawer, mai dymuniad Dr Gwynfor Evans, arweinydd amlycaf Plaid Cymru, oedd mai Vivian fyddai’n pregethu yn ei angladd ef, a gwnaeth Vivian hynny yn anrhydeddus.

Ond yr oedd gan Vivian orwelion lletach o lawer. Ym 1969 roedd wedi ennill ysgoloriaeth Cyngor Eglwysi’r Byd i wneud gradd Meistr mewn athroniaeth a diwinyddiaeth yn y Princeton Seminary, New Jersey yn yr Unol Daleithiau. Cafodd y cyfnod hwn gryn argraff arno. Profodd y cynnwrf a’r anniddigrwydd yn yr Unol Daleithiau yn dilyn marwolaeth Martin Luther King Jr. Roedd y profiadau hynny eto wedi lledu ei orwelion.

Yna, ym 1979 yr oedd Eglwys Annibynnol Plymouth Minneapolis, Minnesota, yn chwilio am ‘Brif Weinidog’, a chytunodd Vivian i gyfaill iddo gymeradwyo ei enw i’r eglwys. Beth sy’n amlwg yw hyn. Nid uchelgais oedd ei gymhelliad, ond yn hytrach y fenter, yr her i wasanaethu mewn amgylchfyd estron mewn gwlad estron mewn iaith estron. Er clod i Eglwys Plymouth, fe fentrodd hi roi’r alwad i Vivian. Gofynnodd Vivian am wythnos i ystyried yr alwad.

Cofiwch y byddai’n fenter i’r teulu oherwydd byddai’n golygu i Mary, dros y blynyddoedd cynta, orfod aros yng Nghymru er mwyn i Anna a Heledd barhau â’u haddysg. Bu hynny’n ystyriaeth ddwys iddyn nhw. Cyn pen yr wythnos penderfynodd y ddau fentro, ac ymadawodd Vivian â Chymru i wynebu her newydd.

Ac roedd hi’n her i weinidog oedd wedi arfer ag eglwysi uniaith Gymraeg a heb bregethu fawr ddim erioed yn Saesneg, gweinidog wedi arfer ag eglwysi gwahanol iawn eu hanian, a thipyn llai eu maint. Roedd yn yr eglwys ym Minneapolis dros ddwy fil o aelodau. Byddai gan Vivian bedwar o weinidogion cynorthwyol yn atebol iddo, a rhyw ddeg ar hugain o swyddogion yn gyfrifol am wahanol rannau o’r gwaith. Byddai’n her aruthrol.

Ond na. Dyn yw dyn ar bum cyfandir, meddai Elfed. Ac fel y clywais Vivian yn dweud, yr un ymroddiad oedd ei angen yn yr Unol Daleithiau ag yng Nghymru, yr un tynerwch mewn profedigaethau, yr un amynedd yn wyneb anawsterau, a’r un cariad a gras a maddeuant.

Ac yn ôl tystiolaeth ei staff a’i gyd-aelodau, fe welwyd y doniau hynny yng ngweinidogaeth Vivian, yn ogystal â threiddgarwch ei bregethu cofiadwy. Cafodd aelodau Eglwys Plymouth glywed hefyd am ddiwinyddion a llenorion a meddylwyr amlwg y byd, megis Wittgenstein ac Iris Murdoch ac R S Thomas.

Wedi rhyw bedair blynedd fe ymunodd Mary ag ef yn Minneapolis, a chawsant un mlynedd ar ddeg wedyn a fu’n ddedwydd a llwyddiannus iawn, gyda Mary yn cyfrannu ym mhob modd i’w bywyd ar yr aelwyd a’r gweithgarwch yn yr eglwys.

Yna, ym 1995 gwelwyd y ddau yn dychwelyd i Gymru, ac i’w cartre newydd yn yr Hendy. Yn y fan honno byddent yn agos at Anna a Heledd a’r teuluoedd. Fe enwyd eu tŷ yn Santa Fe, oherwydd cysylltiad â’u cyfeillion yn New Mexico, a’r atgofion melys am adegau hapus yn y lle hwnnw. Mae’r dewis hefyd yn dangos y cyfuniad rhyfedd ynddynt rhwng diwylliant America a Chymru, gan yr ysbrydolwyd y dewis gan gerdd T H Parry Williams:

Rwy’n mynd yn rhywle, heb wybod ymhle,
Ond mae enw’n fy nghlustiau – Santa Fe.

Ac yn y pennill ola:

Yr enwau persain ar fan a lle;
Rwy’n wylo gan enw Santa Fe.

Mae hudoliaeth yr enw yn awgrymu y byddai’r aelwyd honno yn yr Hendy yn lle delfrydol i ymddeol iddo, a hamddena a segura. Ond dim o’r fath beth i Viv. Fe roddodd, yn ystod pymtheng mlynedd olaf ei fywyd, gyfraniadau, mewn ysgrifau a chyfrolau, a fydd yn barhaol eu gwerth i grefydd yng Nghymru.

Roedd ynddo o ddechrau ei yrfa ysfa lenyddol anniddig. Daeth yn gyntaf yng Nghystadleuaeth y Fedal Lenyddiaeth yn y Bala ym 1967 gyda’i gyfrol Chwalu Cnapau, cyfrol a ddangosodd ei allu a’i hiwmor, a’i weledigaeth dreiddgar, fel yn ei ysgrif, ‘Y Gweinidog Olaf’. Felly, nid syndod i neb oedd iddo ymroi ar unwaith, wedi dychwelyd, i gyfrannu erthyglau i wahanol gyfnodolion.

Daeth i gysylltiad â nifer o Gristnogion blaengar megis Pryderi Llwyd Jones, Cricieth; Enid Morgan, Aberystwyth, ac Emlyn Davies o Bentyrch, a rhyngddynt hwy ac eraill sefydlwyd yn 2008 gymdeithas Cristnogaeth 21. Prif nod y gymdeithas honno yw bod yn fforwm agored i wahanol safbwyntiau crefyddol yng Nghymru, gan roi lle arbennig i arweiniad Iesu. Bu Vivian yn ysbrydoliaeth yng ngweithgarwch y Gymdeithas, yn trefnu darlithoedd a chynadleddau mewn gwahanol fannau drwy Gymru, gan fod yn ei dro yn Gadeirydd a Llywydd, ac yna yn Llywydd Anrhydeddus.

Welais i erioed awdur mor gynhyrchiol yn ei oedran ef. Yn 2004 cyhoeddodd Helaetha Dy Deyrnas, yn 2006 Y Nadolig Cyntaf, ac yn 2009 Menter Ffydd. Yna, yn 2012 cyhoeddodd addasiad o gyfrol Saesneg o dan y teitl, Byw’r Cwestiynau. Wedyn yn 2015, Symud Ymlaen, sy’n crynhoi llawer o’r syniadau a fu’n ei gyffroi dros y cyfnod diweddar.

Ond yna yn 2017 fe ailafaelodd mewn gwaith a fu ar y gweill ganddo ers degawdau, sef hunangofiant Saesneg am ran gyntaf ei fywyd, Childhood in a Welsh Mining Valley. Fe’i hysgogwyd i lunio’r gyfrol hon yn wreiddiol gan iddo deimlo nad oedd disgwyl i’w gynulleidfa yn Minneapolis amgyffred y gwerthoedd a geid mewn cymdeithas fel y Garnant. Y mae’n gyfrol sylweddol, a’r portreadau am bobol ac aelwydydd yn twymo’r galon.

Mae’n siŵr fod ein meddyliau ni nawr yn mynd at Mary yn ei hystafell yn y Cartref Gofal. Mewn adeg pan welwn deuluoedd yn cael eu cadw ar wahân, roedd hi’n fendith fod y ddau wedi cael cyfnod o fod yn yr un cartre yn Hafan y Coed. Ac rydym yn diolch i’r cartre hwnnw am eu gofal am y ddau. Dymunwn bob bendith i Mary, gan ddiolch i Dduw am gyfraniad hollol unigryw Vivian i’n bywydau ni ac i fywyd ein cenedl.

JGJ

 Iaith a Chyfathrebu

 Iaith a Chyfathrebu

 Mis Mawrth 1825 oedd hi ar un o’r ynysoedd Aleutiaidd, ynys a oedd, bryd hynny, yn rhan o ymerodraeth Tsar Rwsia. Yr oedd cenhadwr Uniongred, y Tad John Veniaminov, am y tro cyntaf ers iddo gyrraedd yr ynysoedd, yn dathlu litwrgi’r Pascha. Yr oedd wedi gorymdeithio o gwmpas yr eglwys yn datgan ‘Atgyfododd Crist oddi wrth y meirw, yn sathru angau trwy angau’. Aeth drwy’r ddefod hynafol yn ei wisgoedd Rwsiaidd traddodiadol. Yn ddiweddarach yn y dydd aeth o gwmpas cartrefi’r bobl, gan gyhoeddi, ‘Atgyfododd Crist’. Sylwodd y Tad John fod llawenydd ‘Ysbryd y Pasg’ ar led. Yr oedd wedi sylwi bod ei blwyfolion, pobl hynod ddifynegiant ar y cyfan, fel pe baent mewn hwyliau siriol iawn. Oedd hi’n bosibl eu bod nhw wedi eu gwir gyffwrdd gan y dathlu cyntaf hwn o’r Atgyfodiad?

Yr oedd y ddefod, wrth gwrs, mewn Slafoneg Eglwysig, iaith swynol, ysbrydol i bobl Rwsia, ond cwbl annealladwy i’r Aleutiaid. Ond darganfu’r Tad John fod ei braidd mewn gwirionedd yn ymateb i un o bleserau mawr y flwyddyn. Enw mis Mawrth yn eu hiaith hwy yw Kisangunak, sy’n golygu’n syml iawn: ‘mae gennym bethau i’w bwyta’. Wrth i’r dydd ymestyn ac i’r awyr gynhesu ychydig, yr oedden nhw’n gallu mynd i hela, i adnewyddu’r stoc o fwyd ac i wledda. Yn ystod y gaeaf nid oedd dewis ond bod yn newynllyd. Nid mater o ddewis disgyblaeth ysbrydol oedd ymprydio iddyn nhw, ond mater o raid caled na ellid ei osgoi. O hyn ymlaen fe fydden nhw’n fodlon ystyried cydymffurfio â gorchmynion y masnachwyr Rwsiaidd i fynd allan a hela am grwyn – a hynny mwy o ran sbri na chwennych elw.

Doedd y Tad John Veniaminov ddim yn brin o werthfawrogi’r ffordd y mae teimladau dynol fel petaent yn cynganeddu ar draws ffiniau diwylliannol. Yr oedd wedi dysgu’n fuan iawn i barchu ffyrdd a doniau poblogaeth gynhenid yr Aleutiaid wrth ymgodymu â chaledi’r tywydd. Ar ben hynny yr oedd wedi ymroi i dasg yr un mor anodd, sef dysgu eu hiaith, i’w alluogi i agor ysgol i 22 o blant y pentref. Erbyn Ionawr 1826 yr oedd yn cyfieithu’r Catecism i’r Aleuteg ac yn ei anfon am gymeradwyaeth gan gyfieithwyr oedd yn deall Rwsieg. Erbyn yr haf yr oedd wedi anfon copi at ei esgob gan egluro:

Yr unig amcan wrth gyfieithu hwn yw sicrhau bod yr Aleutiad sy’n ei ddarllen, neu’n gwrando arno yn ei iaith ei hun, yn medru deall a dysgu oddi wrtho beth a ddylai gredu a gwneud er ei iachawdwriaeth …. Gan fod llawer o Aleutiaid yn medru deall Rwsieg, ystyriaf hi’n ddoeth i argraffu’r fersiwn hwn gyda’r testun Rwsiaidd – yn fy marn i, gall hyn fod o werth mawr gan fod y rhai sy’n deall Rwsieg yn medru darllen y catecism yn Rwsieg a’r rhai sydd ddim yn medru Rwsieg yn ei ddarllen yn yr Aleuteg.

Gŵr hynod iawn oedd John Veniaminov, a ddaeth wedyn yn Esgob Uniongred Rwsiaidd cyntaf Alasga a’r gwledydd Americanaidd, ac fe’i cofir fel St Innokent. (Buasai’n braf clywed sgwrs rhyngddo ef, William Salesbury, Richard Davies a William Morgan!) Ef oedd y cyntaf i ysgrifennu’r iaith Aleuteg ac aeth ati hefyd i gynhyrchu gramadeg cyntaf yr iaith. Cyfieithodd y litwrgi a’r Ysgrythurau i iaith yr Aletuiaid, pobl oedd wedi cael eu hecsbloetio a’u dirmygu gan fasnachwyr y cwmni Rwsiaidd-Americanaidd a oedd yr un pryd yn dibynnu arnynt am y crwyn a’u ffwr. Fel tiriogaethwyr eraill y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd Veniaminov yn cymryd yn ganiataol na fyddai’r Aleuteg yn byw yn hir, ond yn y cyfamser yr oedd yn rhaid ei hastudio, ei defnyddio ac yn wir ei charu fel cyfrwng i gyfleu’r efengyl i bobl yr oedd wedi dysgu eu parchu a’u hanwylo.

Yr oedd y Tad John a’i deulu’n byw yn yr un math o dŷ cyntefig â’r Aleutiaid eu hunain, gan sylweddoli mai nhw eu hunain wyddai orau sut i gadw’n gynnes (er yn ddrewllyd) drwy’r gaeaf hir. Yr oedd y teulu bach cenhadol hwn yn byw ei ffydd ag ymroddiad syml a dwys. Gan deithio mewn caiac, sefydlodd Veniaminov eglwysi, cynhaliodd yr addoli, a dysgu’r bobl. Y peth mwyaf trawiadol oedd ei fod wedi dechrau amddiffyn y bobl yn erbyn creulonderau’r cwmni Rwsiaidd-Americanaidd. Yr oedd dewrder a gonestrwydd y teulu Cristnogol hwn yn dystiolaeth pwerus i’w ffydd. Yn y cyfamser, yr oedd y Tad John yn gyson yn darganfod yn y grefydd gynhenid arwyddion o bresenoldeb Duw a oedd, yn ei ddirnadaeth ef, wedi paratoi ffordd i’r efengyl. Yr oedd modd treiddio drwy’r ffin.

Yn ddiweddarach ailadroddwyd yr hanes wrth i’r Tad John gael ei ddyrchafu’n Esgob Innokent ac yn Metopolitan Moscow, yn sylfaenydd y Gymdeithas Genhadol Rwsiaidd ac yn gefnogwr i doreth o waith cenhadol y mae Cristnogaeth y gorllewin yn anymwybodol ohono. Treuliodd gyfnod ar ymweliad â Japan. Yno yr oedd y caplan Rwsiaidd yn y llysgenhadaeth Rwsiaidd yn Tokyo mor ddigalon fel ei fod yn treulio’i amser yn darllen nofelau. Cafodd ei ysbrydoli gan Innokent a dechreuodd ar y dasg o ddysgu Japaneeg gan Samurai traddodiadol oedd yn gwgu ar ei amcanion. Dechreuodd ar y gwaith o gyfieithu’r litwrgi a thestunau eraill. Gwnaeth hynny mor effeithiol nes i’r Samurai ei hun gael tröedigaeth a dod yn y man yn offeiriad Uniongred cyntaf Japan. Fe’i cofir yn y traddodiad hwnnw fel y Tad Nikolai o Tokyo.

Y peth eironig oedd mai’r cwmni marchnata ffwr Rwsiaidd-Americanaidd a ofynnodd i’r eglwys yn Rwsia ddarparu cenhadon i Alasga, a hynny’n bennaf i gwrdd ag anghenion yr helwyr. Yr oedd Nicholas Behring yn 1742 wedi darganfod ffordd i Alasga trwy’r culfor sydd bellach yn dwyn ei enw. Yn dilyn y darganfyddiad hwn, agorwyd y penrhyn er mwyn manteisio ar ei adnoddau naturiol. Ym 1793 anfonwyd chwech o fynachod i Ynys Kodiak, un o’r gyfres o ynysoedd Aleutaidd, ac aethant ati i bregethu a throi’r boblogaeth gynhenid at Gristnogaeth. Ar y dechrau bu’r genhadaeth yn hynod lwyddiannus a’r brodorion yn eithaf parod i dderbyn neges yr Efengyl. Dim syndod bod y ddelwedd o oleuni’n gwawrio oddi uchod yn apelio’n fawr atynt. Yr anhawster pennaf yn ffordd y cenhadon oedd tystiolaeth bywyd a moesau’r helwyr ffwr. Rhoddwyd croeso i’r cenhadon pan welwyd bod modd iddyn nhw fod yn gefn i’r Aleutiaid yn erbyn camdriniaeth a gwawd y masnachwyr ffwr oedd yn eu trin mor gywilyddus. Ond nid dyna’r ffordd i’w gwneud yn boblogaidd gyda’r masnachwyr ffwr eu hunain. Yn y pen draw aeth rhai o’r mynachod ’nôl i Rwsia a bu farw eraill. Ond arhosodd un a mynd i fyw bywyd staretz, dull traddodiadol Rwsiaidd o fod yn feudwy, ar Ynys Spruce, a doedd dim amheuaeth na wnaeth ei symlrwydd a’i dynerwch a’i allu i ymgynnal yn y gaeaf, fel y gwnâi’r Aleutiaid eu hunain, wedi taro tant ag ysbrydolrwydd y shamaniaid cynhenid. Bu St Hermann fyw ar yr ynys tan 1837 pryd y bu farw’n 81 oed.

Bu cenhadaeth Hermann i’w bobl ei hun, yr helwyr Rwsiaidd, yn anos na’i weinidogaeth i’r Aleutiaid. Ar un achlysur fe’i gwahoddwyd i siarad â swyddogion y llong pan ddaeth un o longau’r llynges a bwrw angor yn Ynys Kodiak. ‘Foneddigion,’ meddai, ‘beth ydych chi’n ei garu’n fwy na dim arall, a beth ydych chi’n ei chwennych er mwyn bod yn hapus?’ Gallwch ddyfalu’n hawdd beth oedd yr atebion! Cyfoeth, enwogrwydd, gwragedd hardd, bod yn gapteniaid ar long fawr. ‘Ond ydych chi’n siŵr eich bod chi’n chwennych y peth sydd fwyaf teilwng o’ch cariad?’ Yr ateb oedd, ‘Siŵr iawn.’ ‘Ond fyddech chi ddim yn gwadu mai’r un sydd fwyaf teilwng o’n cariad yw’r Arglwydd Iesu Grist – a’n creodd ni, a roddodd fywyd i’r greadigaeth gyfan, sy’n ein porthi, ac yn gofalu amdanom? Oni ddylem ni ei garu e’n fwy na dim?’

Ni fedrai’r swyddogion wneud dim ond cytuno! Wrth gwrs eu bod yn caru Duw. Roedd yn rhaid i bawb wneud hynny. Ond ateb Hermann oedd: ‘Rydw i, bechadur, wedi bod yn ymdrechu ers deugain mlynedd i garu Duw, ac rwy’n dal i fethu dweud mod i’n ei garu â chariad perffaith. Os ydyn ni’n caru rhywun, rydyn ni wastad yn cofio’r person hwnnw, yn ceisio rhoi llawenydd iddo, yn meddwl amdano ddydd a nos. Ydych chi, foneddigion, yn caru Duw fel’na? Ydych chi’n troi ato yn aml? Ydych chi’n gweddïo arno ac yn trio ufuddhau i’w orchmynion? Gadewch inni o leia addo ceisio caru Duw yn fwy na dim byd arall ac ufuddhau i’w ewyllys sanctaidd.’

Dengys y dystiolaeth fod y mynachod Uniongred o Rwsia yn gweithredu yn eu ffordd a’u hethos eu hunain gan herio bydolrwydd a gwanc gwyllt y masnachwyr yn ogystal ag ystyfnigrwydd y boblogaeth gynhenid a alwent, â holl hyder archwilwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ‘savages’. Nid pethau a ddyfeisir yw ffiniau. Roedd ffiniau digon eglur rhwng y Rwsiaid a’r Aleutiaid mewn diwylliant ac iaith, rhwng y Rwsiaid seciwlar (y masnachwyr) a’r cenhadon, rhwng Cristnogaeth ac ysbrydolrwydd cynhenid yr Aleutiaid.

Ym 1841, ar ôl i Hermann farw, yr oedd John Veniaminov yn hwylio ger Ynys Spruce mewn storm fawr, a gweddïodd am ymbiliau Herman o’i blaid er mwyn i’r storm ddistewi. Dywed y stori fod y storn wedi darfod mewn chwarter awr, y gwynt wedi gostegu ac arbedwyd Veniaminov. Yr oedd y fath ffydd syml, uniongrychol, mewn ymyrraeth ddwyfol yn cysylltu’r Rwsiaid nid yn unig ag ysbrydion cyn-Gristnogol yr Aleutiaid ond hefyd â’r seintiau Celtaidd gynt. Roedd y cwbl yn dra gwahanol i’r cenhadon Prydeinig, oedd, yn yr un cyfnod, yn gweithio yn ardaloedd llawer poethach Affrica ac India. Ond gellid yn hawdd gysylltu rhai o’r cenhadon Cymraeg oedd o leiaf yn rhannu’r un tlodi â’r bobloedd yr oeddent yn pregethu iddynt.

Ffolineb, wrth gwrs, fyddai tybio bod tröedigaethau’r Aleutiaid wedi bod yn syml a digymysg. Mynnai un ohonynt fod dyfodiad Cristnogaeth i’w bobl wedi bod yn gyflafan oherwydd bod y Cristnogion wedi dwyn rhaniadau i’w plith. Hyd yn oed mewn angau, mynnai, yr oedd rhai yn cael eu claddu fel Catholigion, rhai fel Protestaniaid ac eraill fel pobl Uniongred. Cyrhaeddodd Protestaniaeth i Alasga a’r Aleutiaid am fod Rwsia wedi gwerthu’r tir i’r Unol Daleithiau, a ddrysodd y bobl mewn ffyrdd eraill hefyd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd yr ynyswyr eu symud o’u cartrefi gan yr Americaniaid, a hyd heddiw maen nhw’n dal i geisio cael iawndal am ddinistrio’u heglwysi a’r drwg a wnaed i’w heiconau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Y mae gweithgarwch cenhadol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dipyn o embaras, os nad gwawd, i bobl Ewrop heddiw oherwydd y cysylltiad agos ag imperialaeth a chyfalafiaeth. (Mae eithriadau gloyw, wrth gwrs.) Yn niwedd yr ugeinfed ganrif yr oedd agweddau tuag at y cenhadon yn ystyried eu bod yn bobl oedd wedi eu llygru gan eu cefndir, eu diwylliannau a’u hagweddau hiliol. Mae lle i feirniadu. Ond yn ddwfn yn yr hanes amwys mae yna straeon am burdeb gweledigaeth, cariad dynol a’r ymwahanu gan y cenhadon o agweddau safonol eu cefndir bydol imperialaidd. Yr oedd croesi cyfandiroedd yn ymroddiad i barhau mewn tlodi gan wynebu digalondid a methiant. Ond gadawodd llawer ohonynt atgofion ymhlith y bobl o ddaioni a chariad bregus oedd yn cyfleu rhywbeth o’u gweledigaeth o Dduw. Mae yna straeon am genhadon yn cyfathrebu ar draws ffiniau iaith a diwylliant a’i gwnaeth hi’n bosibl i bobl ddechrau o’r newydd.

Pan groeshoeliwyd Iesu, roedd yna arwydd tairieithog yn cyhoeddi ei fod yn ‘Frenin yr Iddewon’: yn Lladin – iaith yr ymerodraeth Rufeinig; Groeg – iaith y byd diwylliedig, creadigol, Groegaidd, a’r Hebraeg – iaith Semitaidd ysgrythurau’r Idewon, ac Iesu ei hun. Mae’r tair iaith a welwyd ar y Groes fel petaent yn cyfateb i dri rhaniad o fewn yr eglwys fyd-eang: (1) yr eglwysi Uniongred Groegaidd sy’n cynnwys yr eglwysi Slafoneg eu hiaith; (2) y Gristnogaeth ddwyreiniol a welir yn eglwysi Cristnogol Syria ac Ethiopia, a (3) Gorllewin Lladin, y mae Cristnogaeth Cymru yn deillio ohoni. A bu ieithoedd gwahanol ac anawsterau cyfieithu yn sicr yn rhan o’r cweryla.

Er bod Groeg yn iaith gyffredin i lawer iawn o’r Cristngoion cynnar, yr oedd ymwahanu ieithyddol yn anochel wrth i’r ffydd ymledu. Daeth Lladin yn brif iaith ddiwinyddol y Gorllewin a chreu problemau cyfieithu rhwng yr Uniongred a’r Catholig, ac aeth yr eglwysi Syriaidd a Choptaidd ati i ddefnyddio’u hieithoedd eu hunain. Bu Lladin yn iaith gyffredin i’r dysgedigion wrth i ieithoedd cynhenid Ewrop ddatblygu yn eu hamrywiaeth dros y canrifoedd. Ond mae proses twf ieithoedd yn cael ei drysu gan bŵer gwleidyddol, economaidd a milwrol. Wrth i wledydd Ewrop chwilio am wledydd i fanteisio arnynt, achubwyd ar y cyfle i bregethu’r Efengyl. Estynnodd y ffydd ar gynffonnau byddinoedd, ac yn sicr yr oedd yr angen i ddefnyddio grym i reoli yn torri ar draws yr angen i’r Eglwys gyfleu ei neges o gariad mewn ffordd y byddai’r cymunedau a’r diwylliannau dieithr yn medru ei chlywed a’i deall. Bu ieithoedd ymerodraethol – Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Norwyeg – yn rhan o’r broses o gyhoeddi’r Efengyl. Mae ’na ddryswch wedi bod rhwng iaith y concwerwyr, ac iaith y cenhadon, a thyndra gwaeth rhwng rheoli a charu pobl, heb sôn am hiliaeth ac agweddau gwawdlyd.

Yn Ewrop ei hun cynyddodd y pwysau i gyfieithu’r Ysgrythurau i ieithoedd cynhenid, ac erbyn y bymthegfed ganrif, pan ddaeth argraffu’n ddyfais newydd bwerus iawn, yr oedd her Martin Luther i ddefnydio iaith a ddeellid gan y bobl yn amhosibl ei gwrthsefyll. Yn 1563, pan basiodd llywodraeth Elisabeth I ddeddf i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg (a ddygodd ffrwyth yn 1588), yr oedd yr awydd i sicrhau undod y deyrnas Brotestannaidd lawn cyn bwysiced â’r awydd i ennill eneidiau. Peth naturiol oedd ofni y buasai’r Cymry’n glynu wrth yr hen ffydd oni bai iddynt gael yr ysgrythur yn eu hiaith. Ar waetha’r awydd i gyfyngu’r gyfraith i’r Saesneg yn unig, yn ymarferol bu cyfieithu’r ysgrythur i’r Gymraeg yn ffordd o danseilio’r bwriad hwnnw. Gwelwn yn ein hanes ni ein hunain y cymhlethdod ffiniau rhwng y bobl imperialaidd a’r bobl a goncwerwyd, rhwng Catholig a Phrotestannaidd, a rhwng gwahanol ymerodraethau hefyd.

Ond ceir enghraifft gynharach yn Ewrop o ddefnyddio iaith gynhenid i amcanion cenhadol. Yn y nawfed ganrif aeth Cyril a Methodius o Gaergystennin i adfywio a diwyllio’r Eglwys yn Morafia, ardal yr hen Tsiecoslofacia. Yr oedd cenhadon o’r Gorllewin wedi gorfodi trefn Ladin ar y bobl, ond creodd Cyril wyddor ar gyfer yr ieithoedd Slafonig sy’n dal yn hysbys wrth ei enw ef – yr wyddor Cyrilig. Aeth ati i gyfieithu’r ysgrythurau a thestunau litwrgaidd i iaith yr ydym erbyn hyn yn ei galw’n hen Slafoneg, neu’n Slafoneg Eglwysig. Gorffennodd Methodius y cyfieithiad o’r Beibl cyn iddo farw yn 885. Yr oedd eu dulliau doeth a gwir dangnefeddus yn dra gwahanol i ddulliau ymerodraethol y cenhadon Frankaidd. Yn eironig iawn, datblygodd Slafoneg Eglwysig yn iaith ‘sanctaidd’ fel a ddigwyddodd i’r iaith Ladin yn Ewrop y Canoloesoedd. Ers y cyfnod hwnnw datblygodd ffiniau ieithyddol a diwinyddol yng ngwledydd y Balkan, a’r cwbl wedi ei ddrysu ymhellach gan bresenoldeb Islam. Y mae gwahaniaethau ethnig yn cael eu cryfhau gan ieithoedd, diwinyddiaeth, diwylliannau – a grym milwrol. Ar un lefel cawn ymateb cyfoethog ac amrywiol i’r Efengyl, ond hefyd dystiolaeth o’r ffordd y mae balchder dynol yn colli gafael ar hanfod yr Efengyl ac yn gwrthod derbyn y rhodd o ddeall llais Duw mewn gwahanol ieithoedd.

Os yw’r Efengyl yn dod gan gyfleu gobaith newydd, yna gall ymwreiddio’n rasol a graddol. Ond os yw ynghlwm wrth rym milwrol a masnachol, mae yna wenwyn hefyd. Wrth geisio cyfleu’r stori am Iesu, y mae cyfieithu’r Ysgrythurau a litwrgïau gwahanol wedi bod yn bwysig tu hwnt. Pan fu gwrthdaro â llywodraethau a byddinoedd, cafwyd merthyrdod a gwrthdaro rhwng hawliau’r Efengyl a’i gwerthoedd a styfnigrwydd diwylliant a phŵer gwleidyddol. Pan ddaeth yr Efengyl yn sgil concwest filwrol, fel yn achos Siarlymaen, hawliwyd difodiant diwylliannol.

Mewn litwrgi Sacsonaidd hynafol daw’r adran hon:
A wyt yn ymwrthod â’r diafol?
Rwyf yn ymwrthod â’r diafol.
Ac urdd y cythreuliaid?
Rwyf yn ymwrthod â holl urdd y cythreuliaid.
A holl weithredoedd y diafol?

Rwyf yn ymwrthod â holl weithredoedd y diafol a geiriau’r diafol, Donar a Wodan, Saxnot a’r holl ysbrydion aflan sydd yn gyngheiriaid iddynt.

Roedd hyn i gyd yn gymaint o fater gwleidyddol â chrefyddol. Oherwydd yr oedd y duwiau Germanaidd i raddau helaeth yn dduwiau gwladwriaeth, ac yr oedd y llywodraethwyr newydd yn awyddus i ddangos yn eglur fod y duw Cristnogol hwn yn fwy pwerus. Yr oedd yn fater o bwys i amgyffred natur y pŵer oedd yn perthyn i’r duw newydd, a’r ffordd y gallai ddewis ei ddefnyddio neu beidio. Y mae’r rhai sy’n defnyddio grym bydol wedi bod yn barod iawn i ddefnyddio’r ffydd (ac nid dim ond y ffydd Gristnogol) fel cyfrwng i helaethu eu grym gwleiddyol a masnachol – boed y rheiny’n ymerodrol yn y nawfed ganrif yn Ewrop, yn Normaniaid yn y ddeuddegfed ganrif, yn Rwsia yn y ddeunawfed ganrif, neu’n fasnachwyr caethion o Loegr o Bortiwgal neu Sbaen.

Mae’r broses o groesi’r ffin rhwng diwylliant a ffydd gan amla’n golygu ailddehongli’r hen straeon cenhedlig mytholegol. Ac, oherwydd pwysigrwydd y gair ysgrifenedig mewn Cristnogaeth, mae’r broses yn digwydd yn y cyfnod hwnnw o symud o ddiwylliant llafar i ddiwylliant llawysgrif a llyfr, yn ogystal â thrwy iaith a defod addoli. Mae dod i weld y broses hon yn digwydd yn llên Ewrop yn yr Oesoedd Canol yn hynod o ddiddorol. Yn y byd Seisnig fe’i gwelir yn yr epig gynnar Beowulf. Mae’n eglur iawn yn y Mabinogi, er enghraifft, y man yn stori Pwyll lle y cyfeirir at ei blentyn a’r ffaith ei fod wedi ei fedyddio yn ôl ‘bedydd y cyfnod hwnnw’. Yn achos y Mabinogi, er nad oes cyfeiriadau uniongyrchol at y ffydd. yr wyf yn argyhoeddedig fod y meddwl oedd yn gyfrifol am weu’r straeon ynghyd wedi hen ddeall a meddiannu neges yr Efengyl o faddeuant a thangnefedd.*

Yn y byd Sacsonaidd, adroddir stori Iesu mewn cerdd o’r enw yr ‘Heliand’ (Y Gwaredwr). Mae’r cefndir yn hollol Germanaidd a’r llongau ar fôr Galilea yn meddu blaenau uchel fel llongau’r gogledd a’r disgyblion yn griw o arwyr wedi digio’n llwyr wrth y milwyr sy’n dod i arestio Iesu. Mae Iesu ei hun yn dywysog arwrol nad yw’n swnio’n debyg o gwbl i’r Iesu mwyn a thirion y magwyd cenedlaethau o Gymry arno.

Yr oedd y duwiau paganaidd wedi bod dan rym Wyrd (Tynged), a’r neges yn y gerdd yw fod Iesu’n drech na Thynged ei hun. Mae manylion y straeon yn cael eu ‘Ellmyneiddio’, a chraidd y neges obeithiol newydd yw fod Tynged wedi ei darostwng. Yn y gerdd Hen Saesneg ‘Breuddwyd y Groes’ (Dream of the Rood) cyflwynir Iesu fel arwr ifanc sy’n dringo lan i’r groes nid mewn darostyngiad ond mewn buddugoliaeth. O bellter gallwn weld y ffin, y gwnïad blêr lle y mae dau ddarn o ddefnydd yn dod at ei gilydd. Gallwn adnabod cymdeithas arwrol y gogledd yn gafael yn yr elfennau yn yr Efengyl sydd fwyaf hygyrch i’w diwyllliant hwy.

* Bydd angen traethawd arall i ystyried y meddylfryd Cristnogol yn y Mabinogi!

EM

Anna Jane Evans

Cyfweliad gydag Anna Jane Evans, Cadeirydd Cristnogaeth21

Dechreuodd Anna Jane ar ei gwaith fel gweinidog yng Nghaernarfon a’r Waunfawr ym mis Gorffennaf 2020, ar ôl deunaw mlynedd o weithio fel cydlynydd gwaith Cymorth Cristnogol yng ngogledd Cymru. Cyn hynny bu’n gweithio drwy’r Eglwys Bresbyteraidd efo plant ac ieuenctid yn y Rhondda ac yn Eglwys Noddfa, Caernarfon. Hi yw Cadeirydd Cristnogaeth21.

  1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod.

Magwraeth o fynd i’r capel yn selog fel teulu bob bore Sul – heb fawr o ddewis yn y mater, ond cymryd yn ganiataol mai dyna oedd y peth normal ac iawn i’w wneud. Dweud adnod yn rhan o’r gwasanaeth a’r drefn, ac er mod i’n syrffedu ar y pryd ar gael pregethwyr/gweinidogion yn ein canmol am ddysgu adnodau a dweud pa mor werthfawr oedd hynny, rhaid cyfaddef bod eu profiad hwy’n fyw i mi hefyd erbyn hyn!
 
2. Oedd yna achlysur neu ddigwyddiad yn eich bywyd a daniodd eich diddordeb ym materion ffydd?

Dwi’n cofio diflastod llwyr mewn rhyw oedfa a gofyn yn ddigywilydd i un o’r blaenoresau ar ddiwedd y gwasanaeth pam oedd hi’n boddran dod bob Sul. Mi wnaeth symlder a sydynrwydd ei hateb fy ysgwyd: ‘achos mai Duw ydi o’.

O edrych yn ôl, roedd ffyddlondeb a chysondeb pobl y capel yn ffactor – yr arferiad mor gryf, ac eto rhyw ddyfnder ac ystyr ynddo oedd yn codi cwestiynau a chywreinrwydd. Dwi’n teimlo’n hynod ddyledus i’r dylanwadau cynnar yna osododd batrwm a disgwyliadau cadarn – ac yn dal i gredu bod grym arferiad yn gallu bod yn gynhaliaeth drwy stormydd pan ydan ni ’mond jest yn llwyddo i ddal gafael yn rhywbeth.
 
3. Sut fyddech chi’n disgrifio ble y’ch chi ar hyn o bryd o ran eich gweledigaeth o Dduw neu fywyd ysbrydol?

Duw Emaniwel – mae o mor agos atom fel nad ydym yn ei weld yn aml iawn gan ein bod yn chwilio amdano yn rhywle arall. Perthynas sy’n dyfnhau – ac yn gallu bod yn rhwystredig o bigog ar adegau ond yn orfoleddus o olau ar droeon eraill. Mae’r syniad o Dduw yn ein galw ac yn ein casglu ynghyd yn un sy’n taro tant cryf i mi ynghanol arwahnarwydd ac unigrwydd y Covid. Dyhead am i ni, wrth drio agosáu at Dduw, agosáu at ein gilydd – o fewn ein cymunedau lleol ac yn fyd-eang fel dynoliaeth a chreadigaeth.
 
4.  Sut cyrhaeddoch chi ble y’ch chi nawr yn eich bywyd?

Y peth ola o’n isio’i neud oedd mynd i’r weinidogaeth – ond, rywsut mae’n teimlo mod i yn y lle iawn er gwaetha hynny. Mae hi wedi bod yn daith droellog ar brydiau, ond dwi wedi ymwneud â bywyd yr eglwys gydol fy mywyd ac wedi cael cyfleon a phrofiadau godidog drwy’r gwaith plant ac ieuenctid, yn y Rhondda ac yn Eglwys Noddfa – ac wedyn yn fy rôl efo Cymorth Cristnogol, ac mae’n hynod o braf cael ffocws mwy cymunedol a lleol i mywyd a ngwaith eto. Mae hynny wedi bod yn hynod o wir yn ystod y cyfnod clo a’r angen amlwg o fewn y gymuned am gefnogaeth a chynhaliaeth.
 
5. Beth yw’ch rhwystredigaethau mwyaf a’r gobeithion mwyaf sydd gyda chi o ran bywyd eglwysig yng Nghymru heddiw?

Dwi’n rhyw deimlo bod ’na chydig o ‘identity crisis’ yn yr eglwys ynglŷn â beth/pwy ydi hi o fewn y gymuned: ai jest enw ar adeilad ydi Seilo/Bethel/Engedi ac ati, ’ta cymuned o bobl o fewn y gymuned ehangach sy’n halen ac yn oleuni. I raddau, dwi’n meddwl bod y gymuned eglwys wedi chwalu i fod yn unigolion – llawer iawn ohonynt yn gweithio’n dawel ac yn ddiwyd ar bob math o lefel yn y gymdeithas, ond heb, o reidrwydd, weld hynny fel rhan o’u galwad fel aelodau Eglwys Crist. Ac mae’r ochr gymunedol o drefnu a chydlynu wedi cael ei cholli nes bod yr eglwys yn edrych yn gwbl amherthnasol i’r gymuned ehangach sy’n credu mai jest adeilad ydi o lle mae pobl yn ????!
 
6.  I ble fyddwch chi’n troi am ysbrydoliaeth i’ch cynnal chi? Oes awduron, llenorion, cerddorion, artistiaid ayyb sy’n eich cynnal chi fyddai’n help i eraill wybod amdanyn nhw?

Dwi wedi cael blas mawr ar ddarllen llyfrau’r Esgob John Shelby Spong, ond hefyd mae dehongliad William R. Herzog o ddamhegion Iesu fel damhegion chwyldroadol wedi fy ysbrydoli – mae’n herio ac yn datod ein dehongliad dosbarth canol cyfforddus o eiriau a damhegion mwyaf cyfarwydd Iesu ac yn eu troi ar eu pen.

  1. Sut fyddech chi’n hoffi i bobl eich cofio chi?

 O gofio’r dylanwadau da sydd wedi bod arnaf fi fy hun, mi faswn yn licio i bobl gofio’r dal gafael a’r styfnigrwydd penderfynol sydd ei angen o dro i dro i fedru credu bod cariad yn ennill y dydd yn erbyn holl erchylltra a negyddiaeth dywyll ein byd ni heddiw. Rhannodd rhywun gerdd Maya Angelou ‘Continue’ ar Facebook a dwi wedi ei chyfieithu:

Ceir y gerdd wreiddiol yma

‘Parhau’       

gan Maya Angelou (ysgrifennwyd yn wreiddiol fel anrheg pen-blwydd i Oprah Winfrey)

Ar ddydd dy eni
llanwodd y Creawdwr storfeydd a hosanau di-rif
ag ennaint drud
tapestrïau cywrain
a hen ddarnau arian o werth anhygoel,
trysor fyddai’n deilwng o waddol brenhines
gosodwyd hwy o’r neilltu ar dy gyfer.
ar dy ben dy hun
gyda ffydd a gobaith yn arfogaeth

A heb wybod am y cyfoeth oedd yn dy ddisgwyl
torraist drwy waliau cryfion
tlodi
a llacio cadwynau anwybodaeth
oedd yn bygwth dy lethu er mwyn
cerdded
yn Wraig Rydd
i ganol byd oedd dy angen.

Fy nymuniad i ti
yw y byddi’n parhau

parhau

i fod y person a’r ffordd wyt ti
i beri i fyd crintachlyd
synnu at dy weithredoedd caredig

parhau

i ganiatáu i hiwmor leddfu baich
dy galon dyner

parhau

mewn cymdeithas dywyll o greulon
i adael i bobl glywed mawredd
Duw yng nghloch dy chwerthin

parhau

i adael i’th huodledd
godi pobl i’r uchelderau
nad oeddynt ond wedi eu dychmygu

parhau

i atgoffa pobl bod
pawb gystal â’i gilydd
a bod neb yn is
nac yn uwch na chdi

parhau

i gofio blynyddoedd dy ieuenctid dy hun
ac i edrych yn ffafriol ar y colledig
a’r lleiaf, a’r unig

parhau

i roi mantell amddiffynnol
o gwmpas cyrff
yr ifanc a’r diamddiffyn

parhau

i gymryd llaw’r gwrthun
a’r afiach ac i gerdded yn dalog gyda hwy
ar y stryd fawr,
gall rhai dy weld a
chael eu hannog i wneud yr un peth

parhau

i blannu cusan gofal gyhoeddus
ar foch y gwael
a’r hen, a’r methedig
a chyfrif hynny’n
weithred naturiol a ddisgwylir ohonot

parhau

i gymryd diolchgarwch
fel clustog i benlinio arni
wrth ddweud dy bader
a boed i ffydd fod yn bont
a adeiledir gennyt i oresgyn y drwg
a chroesawu daioni

parhau

i beidio anwybyddu unrhyw weledigaeth
sy’n dod i ledaenu dy orwelion
a chynyddu dy ysbryd

parhau

i feiddio caru’n ddwfn
a mentro popeth
am y peth da

parhau

i arnofio’n hapus
ym môr y sylwedd diderfyn
a osododd gyfoeth o’r neilltu
ar dy gyfer
cyn i ti gael enw

parhau

a thrwy wneud hynny
bydd modd i ti ac i’th waith
barhau’n
dragwyddol

 

Geraint Rees

Cyfweliad gyda Geraint Rees

Mae Geraint yn frodor o’r Efail Isaf, ger Pontypridd. Ers cyfnod coleg yr ochr arall i Glawdd Offa ac fel athro yn Kenya, mae wedi treulio 35 mlynedd yn gweithio ym myd addysg yng Nghymru – fel athro, pennaeth ysgol ac ymgynghorydd polisi. Ar hyd ei fywyd bu’n weithgar yn ei eglwys leol a bu’n ymddiriedolwr am gyfnod gyda PCN, y Progressive Christianity Network. Ei ddiddordebau pennaf yw hanes a materion cyfoes, cerdded a byd natur, crefydd a cherddoriaeth o bob math. Mae’n aelod o’r Wal Goch.

  1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod.

Moment allweddol fy magwraeth oedd symudiad y teulu o orllewin Cymru i’r Efail Isaf, ger Pontypridd, pan o’n i’n 6 oed. Roedd fy nhad wedi bod yn weinidog cyflogedig, llawn amser, ar gapel yng Nghastell-nedd ac yn gwneud gwaith ieuenctid bywiog iawn gyda chriw mawr o bobl ifanc. Bu tipyn o rwystredigaeth o ran ei waith gyda’r bobl ifanc o’r strydoedd a’r priffyrdd, gan nad oedd fawr o ddiddordeb gan yr eglwys yn y gwaith hwnnw. Penderfynodd fy rhieni symud o’r weinidogaeth lawn amser a daeth dad yn athro yn y de-ddwyrain, a setlo yn yr Efail Isaf. O fewn dim, roedd fy rhieni wrthi’n gweithio fel gwirfoddolwyr i gryfhau’r achos yn yr Efail Isaf, a fu cyn hynny mewn perygl o gau.  

Sefydlwyd cynulleidfa Saesneg newydd yn y capel, er mwyn caniatáu i’r oedfaon Cymraeg fod yn gwbl Gymraeg, ac aeth dad ati gyda chefnogaeth aruthrol gan fy mam i sefydlu dwy gynulleidfa ochr yn ochr, i wasanaethu’n cymuned ddwyieithog. Bues i’n rhan o’r ddwy gynulleidfa trwy gydol fy mhlentyndod, gyda ffrindiau plentyndod yn mynd i’r cwrdd Saesneg, a byddwn yn mynd i’r cwrdd Cymraeg yng nghwmni oedolion, gan amlaf. Yn y cwrdd Saesneg roedd yr hwyl mwyaf. Erbyn i fi fod yn 14/15 oed, fi oedd organydd y cwrdd hwnnw a thrwy’r gynulleidfa honno roeddwn yn cael gwyliau hwyliog, blynyddol a bywyd cymdeithasol llawn iawn.

Yr hyn ddysgodd fy mhlentyndod i mi oedd nad oedd bod yn ‘rhy brysur’ yn esgus am beidio gwneud cyfraniad i fywyd eglwys, ac nad gwaith i rywun cyflogedig yw gweinidogaethu – mae’n fenter i’r holl saint.

  1. Oedd yna achlysur neu ddigwyddiad yn eich bywyd a daniodd eich diddordeb ym materion ffydd?

Pan o’n i’n ddisgybl chweched dosbarth, roedd cynhadledd Ysgol Haf yr Ysgol Sul yn Aberystwyth ar ddiwedd Awst yn rhan pwysig o’m bywyd. Y gweinidogion, Gwilym Ceiriog, TJ Davies, Nennog Davies, Ieuan Davies a fy rhieni oedd y chwaraewyr allweddol – gyda Margaret Jones, Chwilog, yn cadw’r cyfan i fynd. Yno, roedd llawer o hwyl di-gwsg, ac ambell sesiwn o ddwys ystyried. Yn 1980 roedd siaradwr yno o’r enw John Jeffreys a gafodd ddylanwad penodol iawn arnaf. O’i fagwraeth Iddewig deuluol, fe gwympodd John i mewn i fywyd yn gaeth i gyffuriau gan gael cyfnod yng ngharchar Caerdydd, lle daeth o dan ddylanwad TJ. Aeth John ymlaen i weithio i Gymdeithas y Beibl yn nwyrain Affrica. Fodd bynnag, roedd gwrando arno ef yn esbonio treigl ei fywyd, a gosod her i bob un i benderfynu pwy oedd y meistr ar ein bywyd a’n gwerthoedd yn her a wnaeth fy arwain i wneud penderfyniad penodol iawn. Ar yr un pryd, ro’n i’n darllen gweithiau Morgan Llwyd a’i gefndir yn yr ysgol, a bu’r dylanwad hwnnw yn un o bwys hefyd. 

  1. Sut fyddech chi’n disgrifio ble y’ch chi ar hyn o bryd o ran eich gweledigaeth o Dduw neu fywyd ysbrydol?

Ar hyd y blynyddoedd, ymrwymiad i Iesu Grist sydd wedi bod yn yrrwr penna fy mywyd ysbrydol. Dwi ddim yn un sy’n gallu gwneud synnwyr o Dduw cosmif, allan yno. Dwi ddim chwaith yn gredwr mewn Duw sy’n ymyrryd yn y byd hwn, ond trwy waith pobl. Rwy’n tybio y byddai nifer yn fy nisgrifio fel hiwmanist Cristnogol. Roedd gweld pobl mewn eglwysi Americanaidd yn cynnal cyrddau gweddi i helpu Donald Trump i wyrdroi canlyniad yr etholiad yn America yn codi ias arna i – y syniad fod Duw rywffordd yn gallu newid canlyniad etholiad wedi i’r etholiad ddigwydd. Ond dyna ble mae’r gred o Dduw sy’n ymyrryd yn arwain, onid e?

  1. Sut cyrhaeddoch chi ble y’ch chi nawr yn eich bywyd?

Yn 20 oed, fe es i weithio fel athro yn Kenya. Yno fe welais dlodi difrifol, a chael fy nghyflwyno i grefydd na welais i erioed cyn hynny. Roedd dylanwad efengyliaeth Americanaidd ddrygionus a niweidiol yno o ran crefydd yr ‘health and wealth’ – h.y. bod dilyn Iesu yn addo cyfoeth ac iechyd, a bod afiechyd a thlodi yn arwyddion o fethiant ysbrydol. Fe welais bobl oedd bron yn llwgu’n ddyddiol, tra oedd efengylwyr Americanaidd mewn ceir mawr a thai crand yn Nariobi yn codi arian ar y tlodion i ddangos ffilmiau cenhadol ar sgriniau mawr yn yr awyr agored yng nghefn gwlad. 

Fe greodd hyn siniciaeth ddifrifol ynof mewn crefydd o ryw fath arbennig – y ‘pie in the sky when you die’, a hefyd y sylweddoliad fod gosod ein gobeithion mewn rhyw Dduw ‘allan fanna’ yn beryglus. Ar y llaw arall, fe welais haelioni arbennig gan ddilynwyr Iesu Grist, a hunanaberth ar raddfa enfawr i leddfu dioddefaint pobl ar waelod pentwr economi’r byd. Yn 20 oed, roeddwn yn gwybod lle roedd fy ngobaith yn gorwedd. 

Rwy wedi bod yn ffodus i briodi gwraig sydd wedi tyfu trwy’r un profiadau bywyd, ac wedi ymrwymo yn yr un ffordd i bethau’r ffydd. Mae hynny yn help aruthrol. Cwrddon ni yn y flwyddyn gyntaf yn y brifysgol, ac fe ddatblygon ni gyda’n gilydd trwy’r amrywiaethau o grefydd stiwdants i Gristnogaeth oedolion. 

  1. Beth yw’ch rhwystredigaethau mwyaf a’r gobeithion mwyaf sydd gyda chi o ran bywyd eglwysig yng Nghymru heddiw?

Mae llawer o fywyd eglwysig yng Nghymru yn cael ei ddiffinio, nid gan yr ymdrech i gyflwyno Iesu Grist, ond yn hytrach i gyflwyno ffosil diwylliannol Cymreig o oes Fictoria. Bydd raid claddu hwnnw cyn y gallwn weld ein ffordd ymlaen. 

  1. I ble fyddwch chi’n troi am ysbrydoliaeth i’ch cynnal chi? Oes awduron, llenorion, cerddorion, artistiaid ayyb sy’n eich cynnal chi fyddai’n help i eraill wybod amdanyn nhw?

Y we: tudalennau Kissing Fish, John Pavlovitz, Mark Sandlin a Fans of John Shelby Spong ar Facebook. Ac C21, wrth gwrs.

Llyfrau: Marcus Borg a John Shelby Spong wedi bod yn ysbrydoliaeth bur i mi ers rhai blynyddoedd. 

Dylanwad creiddiol, bron, gydol fy mywyd fu Gŵyl Greenbelt. Bob blwyddyn, yn tynnu bwyd, gwyddoniaeth, comedi, cerddoriaeth, diwinyddiaeth, economeg, cymdeithaseg, elusen, gweithredu, theatr, acrobateg a phopeth arall at ei gilydd wrth geisio ymateb yn gyfoes i heriau’r efengyl Gristnogol. Cymaint o ddoethineb yno, ac erbyn hyn yn ŵyl i bawb o 8 i 80 oed.

Cerddoriaeth: Y bardd gerddor o Canada, Bruce Cockburn, yw fy arwr artistig. Wrth ysgrifennu’r atebion hyn, rwy’n gwrando ar Martyn Joseph yn gwneud cyngerdd byw ar Facebook. Bu ef yn rhan o fy nhrac sain hefyd ers tua 1984.

  1. Sut fyddech chi’n hoffi i bobl eich cofio chi?

Mae mynwentydd yn llawn pobl nad oes neb yn gwybod pwy ydyn nhw wedi 60 mlynedd. Does dim rheswm i gredu y byddaf yn wahanol. 

Gareth Davies

Cyfweliad gyda Gareth L Davies

Tyfodd Gareth i fyny mewn teulu uniaith Gymraeg, a chael ei addysg yn Ysgol Gymraeg Llanelli ac wedyn yn Lloegr. Cymerodd ddiddordeb mewn pynciau crefyddol ac athronyddol fel myfyriwr yn y chwedegau, cyfnod Honest to God, a theimlo’r her o droedio llwybr rhwng anffyddiaeth a ffwndamentaliaeth. Ar ôl dysgu ieithoedd, a bod yn diwtor i bregethwyr lleyg dan nawdd yr Eglwys Fethodistaidd, mae’n cynnull grŵp lleol o’r Progressive Christian Network yng Nghanolbarth Lloegr.

 AR Y FFORDD O HYD, Gareth L Davies

  1. 1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod.

Wrth imi gael fy magu ar aelwyd Gymraeg ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf, roeddwn i’n bur gyfarwydd â mynd i’r capel dair gwaith ar y Sul. Rwy’n cofio dioddef y tonnau emosiynol fyddai’n mynd drosof wrth wrando ar y canu gyda’r nos, tra bu’r bregeth yn gyfle i adael i’m meddyliau grwydro’n rhydd. Nid oedd ein bywyd teuluol yn ddefodol iawn, ond cofiaf drafodaethau brwd, ac weithiau ddadleuon, ar bynciau gwleidyddol a diwinyddol. Gan fwyaf, ar foeseg yn hytrach nag ysbrydoliaeth – gair nad oedd yn gyfarwydd i mi tan y chwedegau – yr oedd y pwyslais. Un atgof sy’n aros o’r dyddiau cynnar: fy mod i’n amharod iawn i dderbyn, yn ateb i’m cwestiynau parhaus am ble oedd Duw yn bod, ei fod “ym mhob man”. O’r diwedd, daeth yr ateb “i fyny, yn y nef”. Mae’n debyg imi dreulio’r prynhawn yn taflu cerrig mân i’r awyr i weld faint ohonynt fyddai’n disgyn, a thybio bod y rhai a ddisgynnodd heb i mi eu gweld wedi eu dal gan law anweledig. Mae’n amlwg nad bodolaeth Duw oedd y broblem, ond ei leoliad.

  1. Oedd yna achlysur neu ddigwyddiad yn eich bywyd a daniodd eich diddordeb ym materion ffydd?

Yn raddol, wrth inni symud i ffwrdd o’n cynefin yn ne Cymru, aeth mynychu oedfaon yn beth achlysurol. Wrth i mi ddarllen yn helaeth fel myfyriwr, datblygodd diddordeb mewn testunau diwinyddol – rhai eithaf hygyrch i ddechrau, gan C. S. Lewis yn arbennig, ond maes o law daeth esboniad Karl Barth ar Lythyr Paul i’r Rhufeiniaid i’m sylw, a llyfr Albert Schweitzer ar Iesu Hanes, gan gynnig mwy o gwestiynau nag o atebion.

Dau ddigwyddiad a ysgogodd chwilfrydedd yn yr ochr ysbrydol: darganfod gwaith celfyddydol a barddonol William Blake mewn arddangosfa helaeth, ac ymweld yn ddiweddarach â’r fynachlog yn Taizé. Datguddiodd Blake y posibilrwydd newydd fod yna realiti anweledig, a chynnig mwy nag un ffordd i feddwl am Dduw. Mewn oedfa yn Taizé daeth ystyriaeth ddofn fod y tawelwch dwys yn llawn awgrym a chyffro. Rhwng y ddau daeth ffydd yn beth amgenach na chrefydd i mi, rhywbeth cyfareddol, os yn llai pendant.

  1. Sut fyddech chi’n disgrifio ble y’ch chi ar hyn o bryd o ran eich gweledigaeth o Dduw neu fywyd ysbrydol?

Erbyn hyn, rwy’n ystyried ffydd fel proses o chwilio am ystyr mewn bywyd a thu hwnt, a bywyd fel taith. Mae rhywbeth aflonydd a di-ben-draw yn y delweddau hyn, sy’n gwneud pob sicrwydd a chasgliad yn garreg filltir ar hyd y ffordd, yn hytrach na therfyn. Ar yr un pryd, fel rhan o’r etifeddiaeth, rwy’n gweld perthynas agos rhwng ysbrydoliaeth a chyfiawnder. Mae crefydd sy’n agored i ddatblygiad a newid yn galw am wleidyddiaeth iach.

  1. Sut cyrhaeddoch chi ble y’ch chi nawr yn eich bywyd?

Dau newid sylfaenol mewn bywyd sydd wedi llywio fy nghwrs ymlaen hyd at yr argyfwng presennol: mynd yn bregethwr lleyg a dod i gysylltiad â’r Rhwydwaith Cristnogol Rhyddfrydol (Progressive Christian Network). Mae’r ddau yn gyson ag awyrgylch y chwedegau, ond mewn byd lle mae’r asgell dde bellach wedi ennill tir ym maes gwleidyddiaeth a Christnogaeth fwy pendant ond cul wedi dod i fri, mae’r ddwy agwedd yma yn cynnig gweithgarwch newydd.

  1. Beth yw’ch rhwystredigaethau mwyaf a’r gobeithion mwyaf sydd gyda chi o ran bywyd eglwysig yng Nghymru heddiw?

Wedi ymgyfarwyddo â diwinyddiaeth flaengar o’r pulpud yn ogystal ag mewn ambell lyfr, rwy’n profi rhwystredigaeth o bryd i’w gilydd wrth glywed dehongliadau llythrennol o’r Ysgrythur neu osodiadau o’r oesoedd gynt, boed mewn oedfa neu yn y cyfryngau cymdeithasol. Wedi dweud hynny, ni welaf ddim o’i le mewn cyflwyno hanes y Geni, er enghraifft, yn uniongyrchol heb ymdrechu i ddehongli unrhyw ystyr ar gyfer yr oes sydd ohoni. Boed hanesyn symbolaidd neu hanes ffeithiol, yr un yw’r neges; ond ran fynychaf af ymlaen i bwysleisio mai stori ac ystyr iddi ydyw, cyn ymhelaethu ar yr ystyr. Ond y mae sawl emyn na allaf ei oddef erbyn hyn. Mae gormod o emynau newydd yn rhy geidwadol eu delweddau.

  1. I ble fyddwch chi’n troi am ysbrydoliaeth i’ch cynnal chi? Oes awduron, llenorion, cerddorion, artistiaid ayyb sy’n eich cynnal chi fyddai’n help i eraill wybod amdanyn nhw?

Wrth bori mewn llyfrau mae dyn yn derbyn syniadau newydd. Ni phrofais i lawer o fudd wrth weddïo nes imi daro ar lyfryn John Baillie, ei “Ddyddiadur Defosiwn”, yn nyddiau’r coleg. Ond fel rheol rwy’n osgoi llyfrau defosiwn. Ar hyd y blynyddoedd daeth gwaith Dorothee Soelle o’r Almaen, a Søren Kierkegaard o Ddenmarc, yn ffynonellau gwerthfawr. Mae gwaith Marcus Borg a John Dominic Crossan wedi ennyn awydd ynof i wybod a deall mwy am gefndir hanesyddol Iesu, tra bo’r cyn-esgob Spong yn fy aflonyddu a’m denu ar y cyd.

Fel llawer un, byddaf yn troi at nofelau am loches, am gysur, ac am gael deall mwy ar fywyd: yn enwedig Robertson Davies a Marilynne Robinson. Er gwaethaf fy magwraeth Ymneilltuol, rwy’n parchu rhai o arferion y Catholigion a’r Eglwysi Uniongred, gan ddefnyddio eiconau fel sail i fyfyrdod. Ymhlith artistiaid, y mae gwaith David Jones ac El Greco yn gyson eu dylanwad arnaf. Ar hyn o bryd rwy’n pori yng ngwaith Gwenallt.

  1. Sut fyddech chi’n hoffi i bobl eich cofio chi?

Wrth dynnu ymlaen mewn oedran, bydd dyn yn troi ei feddwl at yr argraff a wnaeth ar eraill ac yn dyfalu sut fydd eraill yn ei gofio. Gobeithiaf adael yr argraff fy mod i wedi ymroi i’r achosion rwyf yn gysylltiedig â hwy, gorff ac enaid, ond heb golli fy synnwyr cyffredin ac ymdeimlad o ddigrifwch pethau.

 

Elin Maher

 

Cyfweliad Elin Maher

Mae Elin Maher yn byw yng Nghasnewydd erbyn hyn ac er bod ei gwreiddiau’n ddwfn yng Nghlydach, Cwmtawe, bu’n byw yn Ffrainc ac yn Iwerddon am gyfnodau yn ystod ei bywyd, gan ymgartrefu yng Nghasnewydd ugain mlynedd i eleni. Mae’n briod ag Aidan, sy’n Wyddel ac wedi dysgu Cymraeg, ac yn fam i Rhys, Ioan ac Efa. Mae’n un o dri arweinydd yn Eglwys Mynydd Seion, Casnewydd, ac mae’n gweithio fel ymgynghorydd iaith ac addysg ac i fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg.

  1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod.

Merch y mans ydw i. Roedd dad, y Parch Gareth Thomas, yn weinidog yng nghapel yr Annibynwyr, Hebron, Clydach, yng Nghwm Tawe, ac felly roedd mynd i’r capel yn achlysur cyfarwydd iawn a’r gymuned o gwmpas y capel oedd y gymuned y tyfais i fyny yn eu cwmni. Profiad hynod freintiedig a hapus iawn. Roedd tad-cu yn weinidog; mae fy ewythr a fy nghyfnither yn weinidogion a’m llystad yn weinidog, felly does dim dianc!

  1. Oedd yna achlysur neu ddigwyddiad yn eich bywyd a daniodd eich diddordeb ym materion ffydd?

Wnes i ddim wir ystyried yr hyn oedd fy ffydd yn ei olygu i mi tan i mi fod yn oedolyn ifanc, siŵr o fod – er fy mod i wedi credu erioed. Bu chwilio mawr i’m ffydd wrth briodi gan fod fy narpar ŵr yn Wyddel ac yn Babydd. Roedd angen cyfarwyddo â thraddodiad gwahanol a oedd yn gallu bod yn heriol i mi. Roedden ni’n cael trafferth cyfarwyddo â threfn yr offeren a’r eglwysi oedd yn llawn cerfluniau a’r arogldarth.

Roedd angen trafod nifer o agweddau wrth drefnu’r briodas hefyd, gan fod angen i ni gael caniatâd yr Esgob i’r gŵr briodi mewn capel! Diolch i’r drefn, roedd yr Esgob yn ffrind ac yn athro i’r gŵr, ac yn bendant o flaen ei amser ymysg esgobion Catholig Iwerddon. Willie Walsh yw ei enw a bu’n flaenllaw iawn yn esgor perthynas gadarnhaol rhwng yr eglwys Gatholig a’r eglwys Brotestannaidd yn esgobaeth Killaloe ac yn arwain ar sicrhau llwybr esmwyth i gyplau oedd am briodi o’r naill draddodiad a’r llall. Erbyn hyn, does dim byd anarferol o gwbl am hyn, ond ar y pryd yr oedd yn torri tir newydd ac yn corddi cymdeithas hefyd. Roedd hyn, a chanfod cartref a theulu ysbrydol newydd, annisgwyl yn Eglwys Anglicanaidd St Mary’s yn Carrigaline, ger Cork, yn ddechreuad ar y rolycostyr ffydd mwyaf erioed a dwi’n dal i fod yn y cerbyd!

  1. Sut fyddech chi’n disgrifio ble y’ch chi ar hyn o bryd o ran eich gweledigaeth o Dduw neu fywyd ysbrydol?

‘Duw, cariad yw’ yw’r adnod sydd yn fy nghynnal i o ddydd i ddydd. Symlrwydd yw’r hyn dwi’n chwilio amdano erbyn hyn, ac felly dwi’n ceisio byw’r cariad hwnnw bob dydd. Dyna sut y byddaf yn esbonio fy ffydd i eraill hefyd. Dwi’n gorfod atgoffa fy hunan fy mod innau’n haeddiannol o’r cariad hwnnw hefyd weithiau!

  1. Sut cyrhaeddoch chi ble y’ch chi nawr yn eich bywyd?

Cefais fagwraeth hapus a chariadus, a dwi wedi cael fy amgylchynu â phobol garedig a chefnogol ar hyd fy mywyd. Mae gen i graig o ŵr a thri o blant sydd yn fy nghynnal ar y ddaear ac wedi gwneud ers dros 25 mlynedd. Daeth gwaith y gŵr, Aidan, â ni i Gasnewydd 20 mlynedd yn ôl ac yma yr ydym o hyd – nid heb unrhyw her, ond mae wynebu heriau gyda’r bobl iawn yn help.

  1. Beth yw’ch rhwystredigaethau mwyaf a’r gobeithion mwyaf sydd gyda chi o ran bywyd eglwysig yng Nghymru heddiw?

Enwadaeth yw un o fy rhwystredigaethau. Dwi’n methu deall ein bod ni’n parhau yng Nghymru i fod mor rhanedig. Ydyn ni’n barod i golli ein teulu Cristnogol oherwydd enwad? Y peth arall yw nad ydym yn siarad am ein ffydd ddigon gyda phobl y tu hwnt i’n cylchoedd ffydd. Mae ofn ymddangos yn wahanol yn bandemig yn ein plith! Pam ein bod mor amharod i rannu’r cariad mwyaf a ddangoswyd i ni erioed? 

  1. I ble fyddwch chi’n troi am ysbrydoliaeth i’ch cynnal chi? Oes awduron, llenorion, cerddorion, artistiaid ayyb sy’n eich cynnal chi fyddai’n help i eraill wybod amdanyn nhw?

O mam bach! Lle i ddechrau gyda hyn! Dwi’n bilipala ac yn cael fy ysbrydoliaeth o bob man! Dwi’n ffan mawr o Ann Griffiths a’i hemynau. Mae geiriau ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’ (cerddoriaeth Theatr Maldwyn) yn briodas berffaith rhwng gair a cherddoriaeth, a dwi’n credu y byddai Ann yn hoff iawn o’r cyfuniad hwn. Roedd Ann yn amlwg dros ei phen â’i chlustiau mewn cariad!

Mae cerddoriaeth o bob math yn fy nghynnal heb os nac oni bai, ac mae’n dibynnu ar fy mŵd ar y pryd beth fydd yn fy nghryfhau ar wahanol adegau – weithiau’n Abba, Caryl Parry Jones neu Josh Groban. Mae cerddoriaeth ffilm hefyd yn fy nghynnal, fel ‘Gabriel’s Oboe’ o ffilm The Mission, neu gyfansoddiadau Hans Zimmer. Mae gweithiau clasurol hefyd yn fy ysgogi, o Mozart, Verdi a Mahler i ambell beth mwy modern hefyd.

Dwi’n hoff o ddarllen barddoniaeth o bob math. Dyw Salmau Cân Newydd, Gwynn ap Gwilym, a’r gyfrol Geiriau Gorfoledd a Galar gan D. Geraint Lewis byth yn bell o’r ddesg. Dwi’n mwynhau darllen gwaith Rob Bell hefyd ac wrthi’n ailddarllen Everything is Spiritual ar hyn o bryd. Cefais y profiad o fynd i wrando arno ym Mryste ychydig yn ôl, a chael fy ysbrydoli ganddo a’i ffordd syml ond hollol drawiadol o dynnu fy nhraed yn ôl yn sownd i’r ddaear wrth i’r byd a’i bethau geisio fy hudo a’m denu i bob cyfeiriad. 

  1. Sut fyddech chi’n hoffi i bobl eich cofio chi?

     Fel hen fenyw fywiog. Mae lot o waith i’w wneud o hyd!

Sancteiddrwydd mewn Gwleidyddiaeth

Sancteiddrwydd mewn Gwleidyddiaeth, John Lewis

Yn ystod y flwyddyn un o’r colledion gafodd lai o sylw nag a haeddai oedd marw John Lewis (1940–2020), un o arweinwyr y mudiad hawliau dinesig yn yr Unol Daleithiau. Dyma ŵr a geisiai sancteiddrwydd, a hynny yn y bywyd cyhoeddus llwgr yr ydym, yn anffodus, wedi cyfarwyddo ag ef. Mae ei eiriau yn weddi.

“Gwybyddwch fod y gwir yn arwain yn gyson at gariad ac yn meithrin heddwch. Nid yw byth yn cynhyrchu chwerwder a gwrthdaro. Gwisgwch eich hunan yng ngwaith cariad, yn y gwaith chwyldroadol o wrthwynebu drygioni yn ddi-drais. Angorwch gariad tragwyddol yn eich enaid a phlannu daioni yn y blaned hon. Gollyngwch yr awydd i gasáu, i feithrin gwahaniaethau, ac osgoi’r demtasiwn i ddial. Gollyngwch bob chwerwder. Daliwch eich gafael yn unig mewn cariad, â dim ond tangnefedd yn eich calon, gan wybod fod brwydr daioni yn erbyn drygioni eisoes wedi ei hennill.

Dewiswch beth i’w wrthwynebu’n ddoeth, ond pan ddaw eich amser, peidiwch ag ofni sefyll, llefaru a herio anghyfiawnder. Ac os dilynwch chi’r gwir ar hyd ffordd tangnefedd a chadarnau cariad, os goleuwch chi fel llusern i bawb gael ei gweld, yna bydd barddoniaeth y breuddwydwyr mawr a’r athronwyr yn eiddo i chi i’w harddangos mewn cenedl, mewn cymuned fyd-eang, ac yn y Teulu Cariadlon wedi eu huno o’r diwedd mewn tangnefedd.”

John Lewis gyda Brenda Jones, Across that Bridge: A Vision for Change and the Future of America (Hachette Books: 2017, ©2012), 208.

 

Cyfweliad: Catrin Elis Williams

Catrin Elis Williams

Yn wreiddiol o Fynytho ym Mhen Llŷn, mynychodd Catrin brifysgolion Manceinion ac Abertawe ac mae bellach yn feddyg teulu ym Mangor. Mae’n byw ar gyrion y ddinas gyda’i phriod (sy’n llawfeddyg) a’u tri mab, yr hynaf ohonynt yn byw â chyflwr awtistiaeth. Mae’n mwynhau canu mewn côr ac yn brysur yn ei chymuned.

  1. 1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod …

Roedd fy magwraeth yn un capelgar tu hwnt – capel dair gwaith ar y Sul, am 10am, 2pm a 5.30pm, yn ogystal â chyfarfodydd plant yn ystod yr wythnos. Roeddem yn byw dafliad carreg llythrennol o Gapel Horeb (Annibynwyr) ym Mynytho, Pen Llŷn, a’r achos yn gwbl hanfodol i’r teulu ers cenedlaethau.

  1. Oedd yna achlysur neu ddigwyddiad yn eich bywyd a daniodd eich diddordeb ym materion ffydd?

Doedd yna ddim digwyddiad o bwys a wnaeth ffydd a chrefydd yn bwysig i mi. Roedd y ffaith bod gweithgaredd y capel mor bwysig i’r teulu oll yn ei wneud yn rhan gwbl greiddiol o’m cynhysgaeth, o’r crud.   

  1. Sut fyddech chi’n disgrifio ble y’ch chi ar hyn o bryd o ran eich gweledigaeth o Dduw neu fywyd ysbrydol?

Oherwydd bod fy magwraeth yn y fath awyrgylch gapelgar wedi fy ffurfio fel person yn ddi-os dros y blynyddoedd, mae’r teyrngarwch dwfn hwnnw yn debyg i deyrngarwch i’r iaith Gymraeg, neu i deulu neu i ardal. O ran gweledigaeth o Dduw neu fywyd ysbrydol, mae’n rhaid imi gyfaddef nad yw’n rhywbeth sydd ar fy meddwl yn barhaus – rwy’n dueddol o’i gymryd yn ganiataol, gan wybod yn fy nghalon y bydd Duw a’m ffydd yno imi ar amserau mwy heriol bywyd. Neu’r amseroedd braf hefyd – mae diolch i Dduw yn dod yn naturiol!

  1. Sut cyrhaeddoch chi ble y’ch chi nawr yn eich bywyd?

Dwi wedi cyrraedd lle’r ydw i mewn bywyd rŵan trwy benderfyniad o oed ifanc mai ’nôl yn sir fy mebyd oeddwn i eisiau bod, ac o wybod o oed ifanc hefyd beth a deimlwn oedd fy ngalwedigaeth i fod. Rwy’n ei ystyried felly yn gyfuniad o waith caled a lwc – cael a gallu dilyn cwrs meddygaeth, a gallu cael swydd wedyn sydd â’r oriau a’r lleoliad sy’n gweddu i’r dim i mi a’r teulu. Mae’r fagwraeth gapelgar a gefais heb os yn rhan o’r dynfa gref honno yn ôl i Wynedd.

  1. Beth yw’ch rhwystredigaethau mwyaf chi a’r gobeithion mwyaf sydd gyda chi o ran bywyd eglwysig yng Nghymru heddiw?

Mae Covid yn bendant wedi bod ac yn parhau i fod yn llyffeithar anferthol i waith capeli ac eglwysi yng Nghymru a thu hwnt, ac mae’n loes gennyf feddwl bod pob math o ddiwylliant Cymraeg ehangach am ddioddef yn y tymor hir. Mae pobl yn datblygu arferion newydd dros gyfnod o fisoedd, ac mae’n bosib na fydd y dynfa’n ôl i’n haddoldai yn ddigon cryf iddynt ddychwelyd i’w sefyllfa flaenorol, heb sôn am obeithio cryfhau ymhellach. Er gwaetha’r ffaith bod technoleg yn help i’n cadw mewn cysylltiad â’n haddoli gyda chwmnïaeth rithiol cyd-aelodau, mae colli cydganu yn rhwystredigaeth fawr i mi. Mae canu emynau wedi bod yn rhan enfawr o addoli inni fel teulu erioed, ac mae’r orfodaeth inni ei hepgor ar hyn o bryd yn lleihau’r gorfoledd a ddaw o addoli, i mi.

Y gobaith yw bod yr amser ychwanegol mae sawl un wedi ei gael dros y misoedd diwethaf wedi arafu rhywfaint ar ein bywydau bob dydd, a chaniatáu i bobl feddwl am ystyr ein bywydau a sut y gall ffydd yn Nuw ein cynnal a’n cryfhau. Dros gyfnod Covid rydym wedi bod yn dystion i weithredoedd da ac awydd pobl i helpu eraill – gobeithio bydd yr awydd a’r gweithredoedd hynny yn parhau.

  1. I ble fyddwch chi’n troi am ysbrydoliaeth i’ch cynnal chi? Oes yna awduron, llenorion, cerddorion, artistiaid ayyb sy’n eich cynnal chi fyddai’n help i eraill wybod amdanyn nhw?

Mae Caniedydd yr Annibynwyr yn llyfr anhepgor sydd wrth law gen i bob amser, ac yn ddi-ffael yn ysbrydoliaeth. Y cyfuniad o eiriau ‘pobl go iawn’ – emynwyr sydd yn aml wedi profi treialon bywyd, ac emyn-donau y dysgais eu canu cyn imi ddysgu darllen, wir. Mae gwrando ar symffonïau ein cyfansoddwyr mawr yn ddihangfa sy’n codi’r ysbryd tu hwnt i bryderon ein bywydau bob dydd, a byddaf yn rhyfeddu o’r newydd bob tro ar ddawn greadigol y meistri hynny. Mae dadansoddi yn hytrach na chyfansoddi cerddoriaeth yn dod llawer haws i mi – does gen i ddim asgwrn creadigol yn unman! Ond mae cael gwerthfawrogi doniau eraill yn y fath faes yn achos gorfoledd ynddo’i hun.      

  1. Sut fyddech chi’n hoffi i bobl eich cofio chi?

Sut yr hoffwn i bobl fy nghofio – dyna gwestiwn nad ydw i erioed wedi meddwl amdano cyn hyn. Caredigrwydd ydi’r rhinwedd pennaf un, yn fy marn i, a’r gallu i roi eich hun yn sefyllfa rhywun arall (empathi, hynny yw). Y geiriau dwi’n gobeithio bydd fy mhlant yn eu cofio o’u magwraeth ydi ‘bydd yn ffeind’. Er cymaint yr hoffwn iddynt fod yn ddiwyd a doeth a sawl peth arall, caredigrwydd sydd bwysicaf o bell ffordd. Petawn i’n cael fy nghofio fel bod yn berson ffeind, bydd fy mywyd wedi bod yn un gwerth chweil!

Cyfweliad Eifion Wynne

Eifion Wynne 

Mae Eifion wedi byw yn Nyffryn Clwyd er pan oedd yn 3 oed. Mae’n 65 oed ac wedi ymddeol. Mae wedi gweithio mewn sawl maes, ond yn bennaf fel athro am dros chwarter canrif. Mae’n briod a chanddo ddau fab a phump o wyrion. Ei ddiddordebau pennaf yw’r sefyllfa grefyddol yng Nghymru heddiw, a materion cyfoes sydd yn y newyddion. Mae’n mwynhau cerdded a beicio hamddenol. 

  1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod …

Cefais fy ngeni dros y ffin yng Nghroesoswallt yn 1955. Ar y pryd roedd fy nhad yn weinidog gyda’r Presbyteriaid yng ngofalaeth Salem, Pentrefelin, Cymdu a Rhos y Brithdir yn Nyffryn Tanat. Mae’n debyg bod hyn yn egluro pam y cefais fy ngeni dros glawdd Offa!  Pan oeddwn yn 3 oed, derbyniodd fy nhad alwad a symud o Ddyffryn Tanat i Ddyffryn Clwyd, ac o Bentrefelin, fel petai, i Bentrecelyn ar gyrion coleg amaethyddol Llysfasi, ger Rhuthun. Erbyn hynny fi oedd y plentyn canol o dri o blant, gydag efeilliaid ar y ffordd! Cefais fy addysg gynradd yn Ysgol Pentrecelyn ac addysg uwchradd yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun.

O ran fy ymwneud â chapel, roedd yn rhan o batrwm bywyd i mi ers y dechrau. Roedd tŷ’r gweinidog (y mans) yn union drws nesaf i’r capel, a byddai magwraeth plentyndod cynnar yn troi o amgylch bywyd prysur y capel a’r ysgol bentrefol leol. Bryd hynny, rhaid oedd mynychu oedfaon, weithiau ddwywaith y Sul ac Ysgol Sul yn y prynhawn. Tipyn o gamp ar ysgwyddau fy mam, druan, oedd ceisio cadw trefn a pharatoi pump o blant ifanc i fynd i’r capel ar y Sul tra oedd fy nhad i ffwrdd yn aml yn pregethu.

Nid yn aml y byddem yn trafod ffydd fel y cyfryw yn blant ifanc. Rhaid oedd dysgu’r Rhodd Mam, bron ar y cof, a sefyll arholiad ysgrythurol ar y llyfryn bychan pan oeddwn yn ifanc iawn.  Yna, byddai’n rhaid eistedd arholiad ysgrythurol yn flynyddol mewn categori oedran gwahanol nes imi ddod yn ddigon hy ar fy rhieni i wrthod y fath loes, mae’n debyg.     

Rhaid bod fy magwraeth crefyddol cynnar wedi cael rhyw effaith arnaf, achos llwyddais i gael lefel O mewn Ysgrythur yn yr ysgol uwchradd!

Dechreuais feddwl am ffydd ac ati yn hwyrach yn fy arddegau pan euthum i’r Coleg Normal ym Mangor yn 1973, sef coleg yn benodol i hyfforddi athrawon bryd hynny.

  1. Oedd yna achlysur neu ddigwyddiad yn eich bywyd a daniodd eich diddordeb ym materion ffydd?

Wnaeth dim danio fy niddordeb mewn ffydd. Hyd heddiw, mynd a dod mae fy ffydd. Weithiau mae’n weddol gryf, dro arall yn wan. Golygfeydd nodedig a hynod fel ymddangosiad goruwchnaturiol yr enfys, tyfiant byd natur yn dilyn cynhesrwydd y gwanwyn a golygfeydd godidog sy’n datblygu’n raddol o hynny. Effeithiau nos a dydd, golau a thywyllwch – pethe felly sy’n peri i mi gredu bod yna rywun neu rywbeth tu draw yn rhywle.

Bûm mewn sawl cyfarfod gyda’r efengylwyr tra oeddwn ym Mangor, yn bennaf yn sgil fy nghariad neu fy mhriod erbyn hyn, a oedd yn cymryd ffydd mwy o ddifrif na fi. Wedi dweud hynny, rwyf wedi eu clywed yn doethinebu sawl tro, ac ni allaf yn fy myw â derbyn eu diwinyddiaeth a’u dehongliad unffurf o ddysgeidiaeth y Beibl.

Yn bur ddiweddar y deuthum i ddeall bod haenau gwahanol o efengylwyr, gyda rhai’n coleddu safbwyntiau mwy eithafol nag eraill. Yn gyffredinol, yn gam neu’n gymwys efallai, byddaf yn eu paentio â’r un brws, yn bennaf oherwydd y ffaith eu bod yn aml yn peri ymrannu addolwyr ac eglwysi gan wneud i rai cyd-addolwyr deimlo fel Cristnogion eilradd. Ceisiodd sawl un fy nghysuro trwy ddweud eu bod yn iawn cyn belled â‘u bod yn gynhwysol yn eu haddoliad. Rwy’n grediniol na all efengylwyr fyth fod yn gynhwysol. Ni allant fod felly gan eu bod yn dehongli’r Beibl yn llythrennol, a naw wfft i unrhyw un fyddai’n cynnig dehongliad gwahanol i’w dehongliad hwy.

  1. Sut fyddech chi’n disgrifio ble y’ch chi ar hyn o bryd o ran eich gweledigaeth o Dduw neu fywyd ysbrydol?

 Mewn pregeth yng Nghapel y Tabernacl, Rhuthun, rai blynyddoedd yn ôl, dyfynnodd y diwinydd, y diweddar Barchedig Athro Gwilym H. Jones, Bangor, a fu am gyfnod byr iawn yn weinidog yn yr eglwys honno yn niwedd y 50au (cyn i’r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth ei gipio oddi ar yr eglwys yn ddisymwth!) rywun oedd â gweledigaeth o Dduw fel: “Ffydd yw cred afresymol yn nhebygolrwydd yr amhosib.”    

Rhywbeth felly yw fy ngweledigaeth innau hefyd. Mae’n debyg bod raid i ni groesi i’r ochr draw cyn y caiff neb ohonom sicrwydd o Dduw.

Gallaf uniaethu’n haws efo ‘bywyd ysbrydol’ nag efo sicrwydd o fodolaeth Duw. Er bod cymaint o ddrygioni yn y byd, mae llawer mwy o ddaioni. Onid ydym wedi gweld hynny ar ei orau yn ystod y pandemig, gyda pharch ac ymwybyddiaeth o arwriaeth gweithwyr iechyd a gofal y GIG/NHS ynghyd â gofalwyr o bob math, boed yn rhai sy’n gofalu am anwyliaid bregus gartref neu pa le bynnag y maent. Mae enghreifftiau fel hyn yn sicr yn hybu ynof gred o rhyw fath mewn bywyd ysbrydol.    

Hefyd, yn ystod bywyd yn gyffredinol, mae gweld pob math o weithgareddau dyngarol e. e. gwirfoddolwyr yn gweithio mewn banciau bwyd, rhoddwyr tuag at y banciau hynny, ynghyd ag ymdrechion codi arian o bob math gan y cyhoedd tuag at elusennau ac ati yn gwneud i mi feddwl mai Duw sydd ar waith trwy ei bobl. 

  1. Sut cyrhaeddoch chi ble y’ch chi nawr yn eich bywyd?

Rwyf wedi cefnu ar grefydd gyfundrefnol Cymru bellach. Mae hyn yn sgil amryw o brofiadau, siomedigaethau a theimladau o anobaith.

Yn achos yr enwad y bûm yn aelod ohono, sef Eglwys Bresbyteraidd Cymru, gwelais natur yr enwad yn symud o weinidogion oedd yn gyffredinol yn rhyddfrydol eu diwinyddiaeth, i weinidogion, ar y cyfan, sy’n geidwadol o ran diwinyddiaeth. Gyda niferoedd gweinidogion yr enwad yn gostwng, penodwyd nifer o weithwyr cyflogedig, gyda’r mwyafrif ohonynt hwythau hefyd yn arddel safbwyntiau efengylaidd.

Daeth yn amlwg fod gan yr arweinyddion efengylaidd hyn grwsâd pwrpasol i drawsnewid y cyfundeb Presbyteraidd, a newid yr enwad i’w ffordd hwy o ddehongli safbwyntiau diwinyddol. Buan y deuthum i’r casgliad nad oedd diddordeb ganddynt mewn arwain cyfundrefn gynhwysol o ran diwinyddiaeth.

Rwy’n ddryslyd o ran y dehongliad presennol o statws cyflogaeth gweinidogion. Yn ôl a ddeallaf, nid ydynt yn gyflogedig ond yn cael eu disgrifio fel ‘dalwyr swydd’.

Fel arfer, gweithwyr sy’n codi eu cyflog eu hunain yw gweithiwr hunan-gyflogedig. Aelodau’r cyfundeb sy’n codi cyflogau gweinidogion.

O ran atebolrwydd, yn y byd seciwlar mae pawb sy’n gyflogedig ac yn derbyn arian o’r pwrs cyhoeddus yn atebol. Gan mai arian cyhoeddus sy’n cynnal y weinidogaeth, oni ddylai dylai enwadau gael yr un drefn o atebolrwydd ag sydd yn y sector cyhoeddus? Byddai atebolrwydd fel sydd yn y sector cyhoeddus yn gallu gwarchod enwadau gan sicrhau atebolrwydd petai rhywun yn gweithredu allan o drefn.

Credaf y gall disgwyliadau trwm o ran cyfraniadau cyfundebol gan aelodau fod yn rhwystr i unrhyw dwf posib. Rhaid gwylio nad yw eglwysi yn peri canfyddiad ymysg rhai sy’n llai cyfforddus eu byd mai cymdeithas i’r breintiedig ydynt.

Oherwydd hyn a rhesymau eraill, penderfynais na allwn barhau’n aelod o’r enwad.

  1. Beth yw’ch rhwystredigaethau mwyaf chi a’r gobeithion mwyaf sydd gyda chi o ran bywyd eglwysig yng Nghymru heddiw?

 Gan fod fy nghwpan yn aml yn hanner gwag yn lle hanner llawn, rwy’n teimlo’r bur anobeithiol am y sefyllfa. Credaf nad oes dyfodol i’r gyfundrefn enwadol fel ag y mae. Mae oedran y cynulleidfaoedd ar y Sul yn dangos hynny.

Rwyf hefyd yn cwestiynu honiadau, gan y garfan geidwadol yn bennaf, nad atebion strategol a chyfundrefnol sydd eu hangen i wyrdroi’r cilio mawr, ond bod mawr angen am adnewyddiad ysbrydol.    

Er bod ystadegau’n dweud bod 95% allan o gyrraedd rheolaidd ein heglwysi bellach, credaf nad oes a wnelo rhesymau ysbrydol ddim i’w wneud â’r encilio. Haws gennyf gredu bod yr encilio yn digwydd oherwydd bod eglwysi ar y cyfan yn rhygnu ymlaen â threfn a dulliau o addoli sydd wedi goroesi’n llawer rhy hir.

Tra’n cydnabod grym gweddi, credaf mai drwy ei bobl y mae Duw yn gweithio heddiw. Cofiaf am y dyn hwnnw rai blynyddoedd yn ôl a brynodd westy enwog ym Mae Colwyn gyda’r bwriad o’i droi’n Ganolfan Gristnogol. Pan ofynnwyd iddo sut oedd yn bwriadu talu am yr adeilad, wynebu costau cynnal a chadw ac ati, ei ateb oedd: “God will provide!” Afraid dweud na ddaeth dim byd o’r fenter, er gwaethaf ffydd a gobeithion mawr y gŵr uchelgeisiol druan.

Pan holwyd un gŵr lleol am ei farn yntau, ei ymateb oedd: “God will help those who help themselves.”

Credaf mai drwy ddefnyddio ei bobl sydd â gweledigaeth a chynlluniau pendant at y dyfodol y mae unrhyw obaith o newid y sefyllfa.

Wedi dweud hynny, os daeth unrhyw ddaioni o haint y Covid, mae’r ffaith fod arweinwyr eglwysig wedi troi at gynhyrchu deunydd ar-lein i’w heglwysi yn addawol iawn i’r dyfodol. Yn wir, gydag aelodau a chyfeillion na fyddent yn troi mewn i oedfa’n weddol reolaidd ar y Sul bellach yn tiwnio i mewn i oedfaon ar-lein ar Zoom ac adnoddau tebyg, mae achos i deimlo’n obeithiol am ddyfodol newydd.  

  1. I ble fyddwch chi’n troi am ysbrydoliaeth i’ch cynnal chi? Oes yna awduron, llenorion, cerddorion, artistiaid ayyb sy’n eich cynnal chi fyddai’n help i eraill wybod amdanyn nhw?    

Byddai sgwrs dros baned efo unigolion sy’n rhannu’r un safbwyntiau diwinyddol â fi yn aml yn fy ysbrydoli. Tydw i ddim yn ddarllenwr mawr, felly ni allaf feddwl am lawer o awduron penodol sydd wedi fy ysbrydoli. Fodd bynnag, yn ddiweddar darllenais fywgraffiad Rhys Evans o Gwynfor Evans. Cefais flas mawr ar ddarllen y llyfr hwnnw am wladgarwr, cenedlaetholwr a Christion pybyr. Hefyd, fe wnaeth hunangofiant Nelson Mandela, Long Walk to Freedom, fy ysbrydoli’n fawr.

O ran cerddorion, mae nifer o ganeuon Dafydd Iwan wedi fy ysbrydoli erioed. Mae rhai caneuon eraill hefyd yn fy ysbrydoli – gan artistiaid fel Huw Jones, Steve Eaves, Bryn Fôn, Geraint Lovgreen, Ryland Teifi, Rhys Meirion, Bryn Terfel, John Eifion, Tecwyn Ifan, Siân James, Gwyneth Glyn, Elin Fflur, Meinir Gwilym, Gwenan Gibbard, Hogia’r Wyddfa, Trio ac ambell gôr fel Côr Rhuthun a’r Cylch, Côr Meibion Caernarfon, Côr Godre’r Aran a Chôr Meibion Llanelli.

O ran beirdd, rhaid enwi’r diweddar Gerallt Lloyd Owen a’r diweddar Dic Jones. Hefyd, Tudur Dylan Jones, Gwyn Thomas, John Gwilym Jones, Myrddin ap Dafydd a Twm Morris.

  1. Sut fyddech chi’n hoffi i bobl eich cofio chi?

 Cymro gwladgarol a chenedlaetholgar sy’n arddel gwerthoedd Cristnogol ac yn onest efo fo’i hun.