Archif Tag: Anna Jane Evans

Anna Jane Evans

Cyfweliad gydag Anna Jane Evans, Cadeirydd Cristnogaeth21

Dechreuodd Anna Jane ar ei gwaith fel gweinidog yng Nghaernarfon a’r Waunfawr ym mis Gorffennaf 2020, ar ôl deunaw mlynedd o weithio fel cydlynydd gwaith Cymorth Cristnogol yng ngogledd Cymru. Cyn hynny bu’n gweithio drwy’r Eglwys Bresbyteraidd efo plant ac ieuenctid yn y Rhondda ac yn Eglwys Noddfa, Caernarfon. Hi yw Cadeirydd Cristnogaeth21.

  1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod.

Magwraeth o fynd i’r capel yn selog fel teulu bob bore Sul – heb fawr o ddewis yn y mater, ond cymryd yn ganiataol mai dyna oedd y peth normal ac iawn i’w wneud. Dweud adnod yn rhan o’r gwasanaeth a’r drefn, ac er mod i’n syrffedu ar y pryd ar gael pregethwyr/gweinidogion yn ein canmol am ddysgu adnodau a dweud pa mor werthfawr oedd hynny, rhaid cyfaddef bod eu profiad hwy’n fyw i mi hefyd erbyn hyn!
 
2. Oedd yna achlysur neu ddigwyddiad yn eich bywyd a daniodd eich diddordeb ym materion ffydd?

Dwi’n cofio diflastod llwyr mewn rhyw oedfa a gofyn yn ddigywilydd i un o’r blaenoresau ar ddiwedd y gwasanaeth pam oedd hi’n boddran dod bob Sul. Mi wnaeth symlder a sydynrwydd ei hateb fy ysgwyd: ‘achos mai Duw ydi o’.

O edrych yn ôl, roedd ffyddlondeb a chysondeb pobl y capel yn ffactor – yr arferiad mor gryf, ac eto rhyw ddyfnder ac ystyr ynddo oedd yn codi cwestiynau a chywreinrwydd. Dwi’n teimlo’n hynod ddyledus i’r dylanwadau cynnar yna osododd batrwm a disgwyliadau cadarn – ac yn dal i gredu bod grym arferiad yn gallu bod yn gynhaliaeth drwy stormydd pan ydan ni ’mond jest yn llwyddo i ddal gafael yn rhywbeth.
 
3. Sut fyddech chi’n disgrifio ble y’ch chi ar hyn o bryd o ran eich gweledigaeth o Dduw neu fywyd ysbrydol?

Duw Emaniwel – mae o mor agos atom fel nad ydym yn ei weld yn aml iawn gan ein bod yn chwilio amdano yn rhywle arall. Perthynas sy’n dyfnhau – ac yn gallu bod yn rhwystredig o bigog ar adegau ond yn orfoleddus o olau ar droeon eraill. Mae’r syniad o Dduw yn ein galw ac yn ein casglu ynghyd yn un sy’n taro tant cryf i mi ynghanol arwahnarwydd ac unigrwydd y Covid. Dyhead am i ni, wrth drio agosáu at Dduw, agosáu at ein gilydd – o fewn ein cymunedau lleol ac yn fyd-eang fel dynoliaeth a chreadigaeth.
 
4.  Sut cyrhaeddoch chi ble y’ch chi nawr yn eich bywyd?

Y peth ola o’n isio’i neud oedd mynd i’r weinidogaeth – ond, rywsut mae’n teimlo mod i yn y lle iawn er gwaetha hynny. Mae hi wedi bod yn daith droellog ar brydiau, ond dwi wedi ymwneud â bywyd yr eglwys gydol fy mywyd ac wedi cael cyfleon a phrofiadau godidog drwy’r gwaith plant ac ieuenctid, yn y Rhondda ac yn Eglwys Noddfa – ac wedyn yn fy rôl efo Cymorth Cristnogol, ac mae’n hynod o braf cael ffocws mwy cymunedol a lleol i mywyd a ngwaith eto. Mae hynny wedi bod yn hynod o wir yn ystod y cyfnod clo a’r angen amlwg o fewn y gymuned am gefnogaeth a chynhaliaeth.
 
5. Beth yw’ch rhwystredigaethau mwyaf a’r gobeithion mwyaf sydd gyda chi o ran bywyd eglwysig yng Nghymru heddiw?

Dwi’n rhyw deimlo bod ’na chydig o ‘identity crisis’ yn yr eglwys ynglŷn â beth/pwy ydi hi o fewn y gymuned: ai jest enw ar adeilad ydi Seilo/Bethel/Engedi ac ati, ’ta cymuned o bobl o fewn y gymuned ehangach sy’n halen ac yn oleuni. I raddau, dwi’n meddwl bod y gymuned eglwys wedi chwalu i fod yn unigolion – llawer iawn ohonynt yn gweithio’n dawel ac yn ddiwyd ar bob math o lefel yn y gymdeithas, ond heb, o reidrwydd, weld hynny fel rhan o’u galwad fel aelodau Eglwys Crist. Ac mae’r ochr gymunedol o drefnu a chydlynu wedi cael ei cholli nes bod yr eglwys yn edrych yn gwbl amherthnasol i’r gymuned ehangach sy’n credu mai jest adeilad ydi o lle mae pobl yn ????!
 
6.  I ble fyddwch chi’n troi am ysbrydoliaeth i’ch cynnal chi? Oes awduron, llenorion, cerddorion, artistiaid ayyb sy’n eich cynnal chi fyddai’n help i eraill wybod amdanyn nhw?

Dwi wedi cael blas mawr ar ddarllen llyfrau’r Esgob John Shelby Spong, ond hefyd mae dehongliad William R. Herzog o ddamhegion Iesu fel damhegion chwyldroadol wedi fy ysbrydoli – mae’n herio ac yn datod ein dehongliad dosbarth canol cyfforddus o eiriau a damhegion mwyaf cyfarwydd Iesu ac yn eu troi ar eu pen.

  1. Sut fyddech chi’n hoffi i bobl eich cofio chi?

 O gofio’r dylanwadau da sydd wedi bod arnaf fi fy hun, mi faswn yn licio i bobl gofio’r dal gafael a’r styfnigrwydd penderfynol sydd ei angen o dro i dro i fedru credu bod cariad yn ennill y dydd yn erbyn holl erchylltra a negyddiaeth dywyll ein byd ni heddiw. Rhannodd rhywun gerdd Maya Angelou ‘Continue’ ar Facebook a dwi wedi ei chyfieithu:

Ceir y gerdd wreiddiol yma

‘Parhau’       

gan Maya Angelou (ysgrifennwyd yn wreiddiol fel anrheg pen-blwydd i Oprah Winfrey)

Ar ddydd dy eni
llanwodd y Creawdwr storfeydd a hosanau di-rif
ag ennaint drud
tapestrïau cywrain
a hen ddarnau arian o werth anhygoel,
trysor fyddai’n deilwng o waddol brenhines
gosodwyd hwy o’r neilltu ar dy gyfer.
ar dy ben dy hun
gyda ffydd a gobaith yn arfogaeth

A heb wybod am y cyfoeth oedd yn dy ddisgwyl
torraist drwy waliau cryfion
tlodi
a llacio cadwynau anwybodaeth
oedd yn bygwth dy lethu er mwyn
cerdded
yn Wraig Rydd
i ganol byd oedd dy angen.

Fy nymuniad i ti
yw y byddi’n parhau

parhau

i fod y person a’r ffordd wyt ti
i beri i fyd crintachlyd
synnu at dy weithredoedd caredig

parhau

i ganiatáu i hiwmor leddfu baich
dy galon dyner

parhau

mewn cymdeithas dywyll o greulon
i adael i bobl glywed mawredd
Duw yng nghloch dy chwerthin

parhau

i adael i’th huodledd
godi pobl i’r uchelderau
nad oeddynt ond wedi eu dychmygu

parhau

i atgoffa pobl bod
pawb gystal â’i gilydd
a bod neb yn is
nac yn uwch na chdi

parhau

i gofio blynyddoedd dy ieuenctid dy hun
ac i edrych yn ffafriol ar y colledig
a’r lleiaf, a’r unig

parhau

i roi mantell amddiffynnol
o gwmpas cyrff
yr ifanc a’r diamddiffyn

parhau

i gymryd llaw’r gwrthun
a’r afiach ac i gerdded yn dalog gyda hwy
ar y stryd fawr,
gall rhai dy weld a
chael eu hannog i wneud yr un peth

parhau

i blannu cusan gofal gyhoeddus
ar foch y gwael
a’r hen, a’r methedig
a chyfrif hynny’n
weithred naturiol a ddisgwylir ohonot

parhau

i gymryd diolchgarwch
fel clustog i benlinio arni
wrth ddweud dy bader
a boed i ffydd fod yn bont
a adeiledir gennyt i oresgyn y drwg
a chroesawu daioni

parhau

i beidio anwybyddu unrhyw weledigaeth
sy’n dod i ledaenu dy orwelion
a chynyddu dy ysbryd

parhau

i feiddio caru’n ddwfn
a mentro popeth
am y peth da

parhau

i arnofio’n hapus
ym môr y sylwedd diderfyn
a osododd gyfoeth o’r neilltu
ar dy gyfer
cyn i ti gael enw

parhau

a thrwy wneud hynny
bydd modd i ti ac i’th waith
barhau’n
dragwyddol

 

Gorchymyn rhedeg

Rhydd-gyfieithiad gan Anna Jane Evans o’r gerdd ‘Running Orders’, gan Lena Khalaf Tuffaha – o’r gyfrol Letters to Palestine (gol. Vijay Prashad)

Gorchymyn rhedeg

Maen nhw’n ein galw rŵan
Cyn iddynt ollwng y bomiau.
Mae’r ffôn yn canu
Ac mae rhywun sy’n gwybod fy enw cyntaf
Yn dweud, mewn Arabeg perffaith,
‘David sydd ’ma.’
Ac yn fy nryswch o wydr yn torri a sonic booms yn chwalu
Yn fy mhen
Rwy’n gofyn, ‘Ydw i’n nabod unrhyw David yn Gasa?’
Maen nhw’n ein galw rŵan i ddweud,
Rhedwch!
Mae gennych 58 eiliad o ddiwedd y neges,
Eich tŷ chi sydd nesa.
Maen nhw’n meddwl am y peth fel rhyw gwrteisi rhyfel.
Dio’m ots
Nad oes unrhyw le i chi redeg iddo.
Dio’m ots bod y ffiniau wedi eu cau
A bod eich papurau’n ddiwerth
Ac yn eich marcio am oes o gaethiwed
Yn y carchar hwn ger y môr
A bod y strydoedd yn gul
A bod mwy o fywydau dynol
Wedi eu pacio gyda’i gillydd
Nag yn unrhyw le arall ar y ddaear.
Jest rhedwch.
’Dan ni ddim yn trio’ch lladd chi.
Dio’m ots na fedrwch ein ffonio ’nôl i ddweud wrthym
adn ydi’r bobl dach chi isio yn eich tŷ,
nad oes unrhyw un yno
ond chi a’ch plant
oedd yn gweiddi dros Argentina
wrth rannu’r dorth olaf yr wythnos hon
a chyfri’r canhwyllau rhag ofn i’r trydan ddiffodd.
Dio’m ots bod plant gennych.
Dach chi’n byw yn y lle anghywir
a nawr yw’ch cyfle i redeg
i nunlle.
Dio’m ots
bod 58 eiliad yn rhy fyr
i gael hyd i’ch albwm priodas
neu hoff flanced eich mab
neu gais coleg bron-â’i-orffen eich merch
neu’ch esgidiau
neu i gael pawb at ei gilydd yn y tŷ.
Dio’m ots beth oedd eich cynlluniau.
Dio’m ots pwy ydych chi.
Profwch mai pobl ydych chi.
Profwch eich bod yn sefyll ar ddwy goes.

Rhedwch.

 

Gellir prynu ei chyfrol Water and Salt o’r fan hyn.