Archif Tag: cerdd

Pentecost

Pentecost

Mae Llyfr yr Actau yn sôn am yr Apostolion, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, yn siarad â thafodau, hynny yw yn llefaru mewn iaith ryfedd, a phawb yn ei chlywed fel ei iaith ef ei hun. Roedd yr arferion rhyfedd hyn i’w gweld mewn hen grefyddau paganaidd pan fyddai rhyw addolwr mewn ecstasi, ac fe gredid ei fod yn siarad iaith angylion.

Daeth hyn wedyn yn rhan o fywyd ambell eglwys Gristnogol yn y canrifoedd cynnar, ac yn ddiweddarach ymhlith y Pentecostiaid a’r mudiadau Apostolaidd a’r Mormoniaid. Beth gaed fyddai un o’r addolwyr, yn hollol ddigymell, yn torri allan i lefaru mewn iaith a swniai’n garbwl annealladwy, ac weithiau ceid un arall yn y gynulleidfa yn honni cyfieithu’r seiniau hyn i iaith ddealladwy. Mae yna gysylltiadau teimladwy i’r peth, ac oherwydd elfen emosiynol y diwygiadau fe frigodd y nodwedd hon i’r golwg am ysbaid yn y diwygiad yng Nghymru dros ganrif yn ôl. Bydddai rhai o blaid y peth am ei fod yn rhoi gwreichionyn o ysbrydoliaeth mewn oedfa. Byddai eraill yn ei weld yn hollol wrthun o ddisynnwyr a dibwrpas am ei fod yn annealladwy.

Ac eto, yr wrtheb ryfeddol yw hyn: mae holl bwyslais yr adroddiadau am lefaru â thafodau yn sôn fod y lleferydd yn annealladwy i’r gwrandawyr, tra mai’r prif bwyslais yn Llyfr yr Actau yw fod pawb o bob cenedl yn deall pob gair a lefarai’r apostolion. Un peth arall y dylid ei nodi yw na wnaeth Iesu ei hun erioed lefaru â thafodau na sôn am y peth. A dyna lle daw’r gwirionedd sylfaenol adre i ni. Roedd pob gair a lefarodd Iesu erioed yn ddealladwy i bob crefydd a phob cenedl dan haul, am ei fod yn sôn am yr hanfodion, cariad a thrugaredd.

Pentecost Iesu

Yn Jerwsalem ein heddiw ni
clywir côr o ieithoedd:
clywn dafodiaith y di-ffydd
a geiriau esmwyth y glastwryn glwth;
parabl y di-dduw a’r di-ddim,
a lleferydd yr amheuwr a’r sinic a’r penboeth gwyllt.

Ac yn y carbwl llafar hwn
mae clustiau plant ein strydoedd yn drysu,
a’u llygaid ar y lluniau yn eu sgrin fach gyfrin.

Gwaeth fyth yw hi ym Mhentecost ein crefyddau.
Bydd gan y Mwslim ddirgel fantra yn ei blyg,
a’r Bwdydd ei fyfyr, a’r Hindŵ ei berlewyg.
Ninnau yn ein Salem a’n Soar,
yn Annibynwyr chwyrn,
y mae gennym ninnau ein cystrawen dwt;
ym Methel y pentre nesaf
clywn acenion pêr eu Presbyteriaeth;
a chan deyrngarwyr capel Ainon
eu deddfol ddefodol fedydd.

A bydd plant ein strydoedd yn drysu mwy fyth ymhlith y lleisiau,
a suddo’n ddyfnach i’r lluniau bach ar eu sgrin gyfrin.

Ond yna ryw ddydd daw’r Ysbryd
i ffrwydro â’i dân drwy’r pedlera a’r ddogma ddall,
gan roi inni ei iaith newydd.
Iaith y gwneud fydd hon, nid iaith y dweud;
iaith y ffydd, nid iaith y duwiol gredoau.
Enwau a fydd yn drugaredd, ansoddeiriau maddeuant,
idiomau gras a chymwynas, a berfau’n gyhyrog gan gariad.
Hon yw iaith yr actau tosturiol y bydd pawb yn ei deall,
Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid y cychod brau
a ffoaduriaid y pebyll pell.

Canys iaith Iesu yw hon, a daw’n plant i’w deall,
petaem ni ond yn dechrau ei siarad hi.

(Daw’r gerdd hon o’r gyfrol, Am yn ail)

 

 

Nid ynys sy’n goroesi (Gwawr wedi Cofid)

Nid ynys sy’n goroesi (Gwawr wedi Cofid)

Â’r Cofid wedi dwyn ein haf
a’n cysylltiadau,
a rhwystro ymweld â’r mannau
sy’n ein cadw ar lôn sadrwydd
ar ein trywydd am y Trysor.

Collasom y mannau sydd fel arfer
yn dod â ni adref i gyfannedd.

Fe gafwyd sgwrsio rhwng ynysoedd
a chofleidio gyda’n llygaid
o bellter diogel ein giatiau,
a bendith ffrindiau newydd ar y we
yn gyrru fferi’r neges destun
fel dyhead oesol o’r galon.
Dangosodd y Cofid i ni ffrindiau newydd,
a chynhesrwydd galwad ffôn
gan un sy’n gwybod amdanoch
a’ch tylwyth ers cyn cof.

Er i’r haint gau’r bont i’n hynys arferol,
nid ynys yw ynys am byth.
O raid, daw trem y Tir Mawr
fel dyhead ar y gorwel.
Geiriau hen lythyr teuluol, neu atgof llun
sydd â’i rin yn dal i olygu
y peth byw hwnnw sy’n ein clymu ynghyd.

Cariad sy’n ein dysgu am byth
mai ynys ddiwerth
yw ynys yr hunan,
a bod rheidrwydd estyn allan
a gweld y breuder cyson.
Dyhëwn ar y Cei am y dyfodol
lle bydd pawb wedi eu trwsio
yn dy gariad cynnes Di.

Bydd dagrau ein hunigrwydd
yn bethau i’w gadael i ddoe,
er mwyn i ni weld y wawr glir a gyfyd
wedi i’r Cofid ddwyn yr haf.

Goroeswn yn ynysig
gan wybod na allwn fod yn ynysoedd am byth
heb ein breichiau’n rhychwantu’r gwahanu;
a’n cariad wrth gloddio’n ddwfn i chwarel atgof
a’n dwg o’r Cofid i’r cofleidio.

Aled Lewis Evans

GiG Cymru

GIG CYMRU

 Diolch i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Os baner a sosbenni – a’u sŵn mawr
        sy’n morio’r clodfori,
   clyw yn nwfn ein calon ni
   y diolch n’all ddistewi.

Yn darian, yn dosturi – arwres
        drwy oriau’n trybini,
  chwaer yw hon, a’i charu hi
  a wnawn … nid jyst am ’leni.
                                                     Mererid Hopwood

 

Llwybrau

Dyma gerdd fuddugol i’r dysgwyr yn Eisteddfod 2017, gan Judith Stammers, gafodd ei anfon ataf fore Sul y Pasg, gyda thristwch nad oedd eglwysi Bangor eleni’n gallu ymgynnull i  fyny yn y ‘Gwersyll Rhufeinig’ ar doriad gwawr i ddathlu’r atgyfodiad. 
AJE

LLWYBRAU    
Bore Sul y Pasg, Gwersyll Rhufeinig, Bangor

Trwy’r wawr ’dan ni’n dod
O bob cyfeiriad, i gopa’r bryn:
Ar lwybrau cul drwy’r goedwig dywyll  
Lle mae llygaid Ebrill yn gloywi ymhlith y dail,
Llwybrau bach, prin yn weladwy dros y glaswellt,
Llwybrau llithrig, llethrog, ar y bryn.

’Dan ni’n cyrraedd y copa.
’Dan ni o bob oed, bob capel, eglwys, enwad,
Henoed yn pwffio, plant hanner cysglyd eto.
Efo’n gilydd ’dan ni’n canu,
’Dan ni’n dathlu,
Dathlu atgyfodiad, gwanwyn, cyfeillgarwch.

Yn sydyn mae’r haul yn codi.
Dyma’r mynyddoedd, afon Menai, Môn, y porthladd,
Strydoedd a thai Bangor yn nythu odanon ni.
Efo’n gilydd ’dan ni’n syllu,
’Dan ni’n synnu,
Synnu at ein gwlad, harddwch, heddwch …

Bellach mae’n amser mynd i lawr
At ein bywydau unigol
Ar hyd llwybrau ar wahân.

Judith Stammers, 2017

Pandemig

Pandemig

Addasiad Enid Morgan o gerdd gan Lynn Ungar, bardd a gweinidog gyda’r Undodiaid (Church for the Larger Fellowship :https://www.questformeaning.org/), sy’n byw yn San Francisco.
 
Mae ei cherdd bellach wedi ei rhannu ar hyd ac ar led y cyfryngau cymdeithasol: http://www.lynnungar.com/poems/pandemic/?fbclid=IwAR20BVpdW_Xw6sRno3Xk66UBTxGz9-LIa0HSOmfL2wpZ2GvXKEo5_Korwho
 
Gyda diolch i Lynn Ungar am ryddhau’r gerdd i’r byd ac i Enid Morgan am ei haddasu i’r Gymraeg – with deep thanks to Lynn Ungar for releasing the poem to the world, and to Enid Morgan for translation.


Beth am feddwl amdano
fel y mae’r Iddewon yn ystyried y Sabath –
yr amser mwyaf sanctaidd?

Rhowch y gorau i deithio,
rhowch y gorau i werthu a phrynu.
Rhowch y gorau am y tro
i ymdrechu i newid y byd.

Canwch.

Gweddïwch.

Cyffyrddwch yn unig
â’r rhai y byddech yn ymddiried eich bywyd iddynt.
Ymdawelwch.
A phan fydd eich corff wedi llonyddu
estynnwch eich calon.
Gwybyddwch fod cysylltiad rhyngom
mewn ffyrdd sy’n arswydus a phrydferth.
(Fedrwch chi ddim gwadu hynny nawr.)
Sylweddolwch fod ein bywydau                 
yn nwylo’n gilydd.
(Rhaid bod hynny wedi gwawrio erbyn hyn.)

Peidiwch estyn eich dwylo,
estynnwch eich calon;
estynnwch eich geiriau.
Estynnwch fân frigau trugaredd
sy’n estyn a symud
i’r mannau na allwn eu cyrraedd.

Addawch eich cariad i’r byd
er gwell, er gwaeth,
mewn gwynfyd ac adfyd,
cyhyd ag y byddwch byw.

Deunydd ar gyfer y Grawys

Ar gyfer y Grawys

Oherwydd bod eglwysi wedi eu gwahardd rhag cydymgynnull yn sgil y coronafirws, mae Cristnogaeth 21 yn awyddus i dynnu sylw at ddau gwrs Grawys sy’n cynnig deunydd ac arweiniad sydd yr un mor addas i unigolion ag i’w hanfon ymlaen at eraill wrth inni droi ein golygon tuag at y Pasg. Beth bynnag yr ofnau a’r dychryn a’r galar, yr ydym ynghanol deffro’r gwanwyn ac yn edrych ymlaen at ŵyl fawr y Pasg.

  1. Mae ‘Agor yr Ysgrythyrau’ (gan Claire Amos) wedi ei seilio ar y daith i Emaus ac mae’n cynnig cyfoeth o ddeunydd mewn gweddi, myfyrdod ac astudiaeth Feiblaidd. Yn ddwyieithog, mae’r cyfan mewn lliw, ond mae’r testun i’w gael mewn Cymraeg yn unig hefyd – ac am ddim.

Ewch i: www.cytun.co.uk/cwrsgrawys

  1. O Esgobaeth Bangor: Cydymaith i’r Grawys

         www.bangor.eglwysyngnghymru.org.uk

Yr ydym yn ddiolchgar am cael cyhoeddi rhan o’r myfyrdod ar gyfer Sul cyntaf y Grawys o’r ‘Cydymdairh i’r Grawys’ gan Siôn Rhys Evans. Thema’r cydymdaith cyfoethog yw ‘Mi a droaf yn awr’ – dyfyniad o gerdd enwog R. S. Thomas.

Nid brysio yw bywyd
at ddyfodol sy’n cilio,
na chwantu
am orffennol y dychymyg. Ond troi
yn awr fel Moses i weld y berth
yn llosgi’n dân, a gwyrth
y goleuni a welaist gynt ar wib,
ar doriad gwawr,
ac a fydd dragwyddoldeb dy fachlud.

(Cyfieithiad o ‘The Bright Field’)

Cyhoeddir y Cydymaith yn ddwyieithog gan Esgobaeth Bangor ac mae ar gael ar wefan yr Esgobaeth, eto yn rhad am ddim. Rydym yn falch o gael cyhoeddi rhan o’r Cydymaith, ac yn ddiolchgar am y caniatâd i gyhoeddi cerdd Siôn Aled gan Wasg Carreg Gwalch.

  

Llandanwg
gan Siôn Aled

 

Pagan fu’r môr erioed
a’r traeth yn ffin rhwng sobrwydd y Saint
a Chantre’r Gwaelod
lle cysgai diawliaid crefydd ddoe
yn feddw fud.

Cyfaill oedd y tywod
yn glên dan sodlau cenhadon troednoeth
rôl creigiau creulon Rhinog Fawr.

Ac yno y tyfodd cell yn gapel
a llan yn eglwys
a thrwch ei muriau’n gaer rhag gwayw’r gaeaf
a llymder haf.

Yno cyhoeddai’r litwrgi’r
Duw newydd digyfnewid:
heddiw, ddoe a fory’n un.

Heddiw
rwyf yma’n ceisio cysur
a llawnder ieuenctid yn pallu
yn crafangu yn nhudalennau Llyfr Gweddi tamp
a Beibl crin
am rhyw fymryn
o
seintiau
echdoe a ddoe a’m mabinogi innau.

Wrth y drws,
mae’r tywod ar grwydr
fel eira sych,
yn claddu’r cerrig beddau mewn ail farwolaeth.

A’r môr,
eto’n anweledig,
yn chwyrnu’i fygythiad
ac yng nghrafiad y graean
sŵn diawliaid yn sgriblian deffro.

Mae’r gerdd wedi’i lleoli mewn llecyn sanctaidd penodol – eglwys Tanwg Sant, sy’n swatio mewn twyni tywod y tu allan i Harlech. Mae’r tywod yn gorchuddio llawer o’r cerrig beddi wrth ddynesu at yr eglwys, a chaiff rhywun y teimlad y gallai ar unrhyw adeg foddi’r llwybr; ac, os nad y tywod, yna’r tonnau sy’n torri ar y traeth sydd ddim nepell i ffwrdd y tu hwnt i’r twyni tal. Mae’r eglwys, â’i muriau hynafol o garreg solet, wedi bod yn noddfa dros ganrifoedd lawer; ac mae llechfeddiant natur wyllt, elfennol, yr un mor oesol, a pharhaus, ac o bob tu. Ond nid cerdd am lecyn yn unig mo hon – cerdd sydd yma am berson, yn heneiddio, yn colli rhyw ychydig o sicrwydd ieuenctid, yn ceisio rhywfaint o ddealltwriaeth newydd; cerdd sydd yma am enaid dynol yn ymdrin â ffydd ac amheuaeth, yn myfyrio am yr hyn a fu a’r hyn sydd i ddod, yn pendroni am y fath sicrwydd ag sydd gennym, ac am yr ansicrwydd hynnw nad yw’n diflannu. Clywn adleisiau yma o ddwy gerdd enwog am ffydd ac amheuaeth: ‘Church going’ gan Philip Larkin, pan fo’r ymwelydd â’r eglwys hynafol yn dod i weld bod yma ‘dŷ difrifol ar ddaear ddwys’, llecyn i ‘dyfu’n ddoeth ynddo’; a ‘Dover beach’, campwaith Matthew Arnold, pan fo’r bardd yn clywed Cefnor ein Ffydd yn ‘rhuo gadael, y felan ar drai, / Yn encilio ar anadl / Gwynt y fagddu.’

(Cafodd Siôn Aled ei eni ym Mangor a’i fagu ym Mhorthaethwy. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Maldwyn a’i Chyffiniau, 1981, am bryddest ar y testun ‘Wynebau’. Mae’n fardd ac yn gyfieithydd nodedig, ac yn byw bellach yn Wrecsam.)

Ysgrythur

Ioan 3:1–17 – y darlleniad o’r Efengyl ar Ail Sul y Grawys.

Yr oedd dyn o blith y Phariseaid, o’r enw Nicodemus, aelod o Gyngor yr Iddewon. Daeth hwn at Iesu liw nos a dweud wrtho, “Rabbi, fe wyddom iti ddod atom yn athro oddi wrth Dduw; ni allai neb wneud yr arwyddion hyn yr wyt ti’n eu gwneud oni bai fod Duw gydag ef.” Atebodd Iesu ef: “Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o’r newydd ni all weld teyrnas Dduw.” Meddai Nicodemus wrtho, “Sut y gall neb gael ei eni ac yntau’n hen? A yw’n bosibl, tybed, i rywun fynd i mewn i groth ei fam eilwaith a chael ei eni?” Atebodd Iesu: “Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o ddŵr a’r Ysbryd ni all fynd i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn sydd wedi ei eni o’r cnawd, cnawd yw, a’r hyn sydd wedi ei eni o’r Ysbryd, ysbryd yw. Paid â rhyfeddu imi ddweud wrthyt, ‘Y mae’n rhaid eich geni chwi o’r newydd.’ Y mae’r gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei sŵn, ond ni wyddost o ble y mae’n dod nac i ble y mae’n mynd. Felly y mae gyda phob un sydd wedi ei eni o’r Ysbryd.”

Dywedodd Nicodemus wrtho, “Sut y gall hyn fod?” Atebodd Iesu ef: “A thithau yn athro Israel, a wyt heb ddeall y pethau hyn? Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthyt mai am yr hyn a wyddom yr ydym yn siarad, ac am yr hyn a welsom yr ydym yn tystiolaethu; ac eto nid ydych yn derbyn ein tystiolaeth. Os nad ydych yn credu ar ôl imi lefaru wrthych am bethau’r ddaear, sut y credwch os llefaraf wrthych am bethau’r nef? Nid oes neb wedi esgyn i’r nef ond yr un a ddisgynnodd o’r nef, Mab y Dyn. Ac fel y dyrchafodd Moses y sarff yn yr anialwch, felly y mae’n rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu, er mwyn i bob un sy’n credu gael bywyd tragwyddol ynddo ef. Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Oherwydd nid i gondemnio’r byd yr anfonodd Duw ei Fab i’r byd, ond er mwyn i’r byd gael ei achub trwyddo.”

Myfyrdod

Nid peth hawdd ydi ffydd, a tydi perthynas â Duw byth yn statig nac yn llonydd. Yn ein bedydd, rydyn ni’n penderfynu troi oddi wrth y tywyllwch at oleuni Crist; mae ein bywydau wedi’u selio ers hynny â’r Ysbryd Glân. Ond nid cyflawnder mo hynny. Mae’n ddechrau taith, yn ddechrau’n pererindod droellog tuag at sancteiddrwydd mwy perffaith, tuag at ddyfnderoedd Duw. Fe fydd yna adegau o agosrwydd ar hyd y daith – adegau o ddatguddiad, hyd yn oed – ennyd o weddnewid wrth addoli yn yr eglwys, neu mewn gweddi, neu yng nghanol byd natur, neu wrth wrando ar gân, neu’n edrych ar anwylyd – ennyd pan wyddom mai dyma yw gogoniant. Fe fydd yna adegau o bellter ac unigedd hefyd, weithiau o’n hanobaith a dro arall o’n diogi llugoer. Efallai y bydd adegau o anghyfanhedd-dra pan ddarganfyddwn ni, er mawr syndod, fod gwendid, neu dristwch, neu unigrwydd, neu angen, yn dwyn gras Duw yn agos iawn atom, ein hunig gydymaith ar y daith. Nid methiant yw bod ar drywydd Duw, yn ôl ac ymlaen, weithiau’n agos ac weithiau’n bell; nid methiant, ond mesur bywyd.

 

Gorchymyn rhedeg

Rhydd-gyfieithiad gan Anna Jane Evans o’r gerdd ‘Running Orders’, gan Lena Khalaf Tuffaha – o’r gyfrol Letters to Palestine (gol. Vijay Prashad)

Gorchymyn rhedeg

Maen nhw’n ein galw rŵan
Cyn iddynt ollwng y bomiau.
Mae’r ffôn yn canu
Ac mae rhywun sy’n gwybod fy enw cyntaf
Yn dweud, mewn Arabeg perffaith,
‘David sydd ’ma.’
Ac yn fy nryswch o wydr yn torri a sonic booms yn chwalu
Yn fy mhen
Rwy’n gofyn, ‘Ydw i’n nabod unrhyw David yn Gasa?’
Maen nhw’n ein galw rŵan i ddweud,
Rhedwch!
Mae gennych 58 eiliad o ddiwedd y neges,
Eich tŷ chi sydd nesa.
Maen nhw’n meddwl am y peth fel rhyw gwrteisi rhyfel.
Dio’m ots
Nad oes unrhyw le i chi redeg iddo.
Dio’m ots bod y ffiniau wedi eu cau
A bod eich papurau’n ddiwerth
Ac yn eich marcio am oes o gaethiwed
Yn y carchar hwn ger y môr
A bod y strydoedd yn gul
A bod mwy o fywydau dynol
Wedi eu pacio gyda’i gillydd
Nag yn unrhyw le arall ar y ddaear.
Jest rhedwch.
’Dan ni ddim yn trio’ch lladd chi.
Dio’m ots na fedrwch ein ffonio ’nôl i ddweud wrthym
adn ydi’r bobl dach chi isio yn eich tŷ,
nad oes unrhyw un yno
ond chi a’ch plant
oedd yn gweiddi dros Argentina
wrth rannu’r dorth olaf yr wythnos hon
a chyfri’r canhwyllau rhag ofn i’r trydan ddiffodd.
Dio’m ots bod plant gennych.
Dach chi’n byw yn y lle anghywir
a nawr yw’ch cyfle i redeg
i nunlle.
Dio’m ots
bod 58 eiliad yn rhy fyr
i gael hyd i’ch albwm priodas
neu hoff flanced eich mab
neu gais coleg bron-â’i-orffen eich merch
neu’ch esgidiau
neu i gael pawb at ei gilydd yn y tŷ.
Dio’m ots beth oedd eich cynlluniau.
Dio’m ots pwy ydych chi.
Profwch mai pobl ydych chi.
Profwch eich bod yn sefyll ar ddwy goes.

Rhedwch.

 

Gellir prynu ei chyfrol Water and Salt o’r fan hyn.