Archifau Categori: Agora 39

Dyfodol yr eglwys – ystyriaethau gwaith Gabor Maté

Dyfodol yr Eglwys Gristnogol – ystyriaethau sy’n deillio o waith Gabor Maté?

Yn ystod y deugain mlynedd diwethaf, bu newid mawr yn natur ein heconomi, ein cymdeithas a natur ein teuluoedd. I bob pwrpas, i drwch cymdeithas, fe ddiflannodd pwysigrwydd y teulu estynedig. Yr un pryd fe ddiflannodd y syniad o gymuned sy’n bodoli o amgylch sefydliad economaidd fel pwll glo neu ffatri benodol, ac fe ddiflannodd gan amlaf hyd yn oed yr ymdeimlad gwledig o gadernid cymunedol rhwng teuluoedd y ffermydd a theuluoedd y pentref neu’r dre.

Yr un pryd, fe welwyd cenedlaeth (neu ddwy neu dair, erbyn hyn) o bobl a fagwyd mewn capel neu eglwys yn penderfynu peidio â rhoi’r un fagwraeth i’w plant eu hunain. Tenau iawn yw pobl yn eu 20au sy’n cynnal perthynas ag eglwys Gymraeg erbyn hyn. Mae hyn yn hysbys i ni i gyd, ond a ddylai fod yn destun gofid?

Yn ddiweddar bûm yn edrych ar waith y therapydd Gabor Maté. Gwnaeth ei enw yn fwyaf amlwg ym maes dibyniaeth (addiction), ond mae ganddo lawer i’w ddweud am gyflwr ein cymdeithas yn ehangach. Meddyg wedi ymddeol yw e, ac er iddo gael ei eni i deulu Iddewig yn Hwngari yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe dreuliodd ei fywyd yn gweithio fel meddyg yng Nghanada.

https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=23547626

Gabor_Maté, gan Gabor Gastonyi – Clare Day, CC BY-SA 3.0

Cafodd ddylanwad ar Gymru dros y cyfnod diwethaf o ganlyniad i’w waith arloesol ym maes datblygiad plant, ac effaith profiadau plentyndod ar bob oedolyn. Fe ddatblygodd fodel sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru – sef yr ACEs (Adverse Childhood Experiences). Hanfod y gwaith hwn fu canfod pa nodweddion o fagwraeth plentyn fydd yn dylanwadu’n sylweddol ar ei allu i weithredu fel oedolyn cyfrifol a hunangynhaliol. O ganlyniad i’w waith, mae model bras ar gael i ddarogan pa blant sy’n fwyaf tebygol o ddioddef anawsterau sylweddol yn eu harddegau a thu hwnt, wrth sgorio’r profiadau negyddol a gaiff plentyn yn ystod y blynyddoedd mwyaf ffurfiannol, e.e. byw gyda rhiant sy’n gaeth i gyffur, ysgariad rhieni, marwolaeth, camdriniaeth rywiol, ayyb. Mae Cymru erbyn hyn yn wlad arloesol yn y maes hwn, ynghyd â’r Alban, ac ambell dalaith yng Nghanada. Y gred yw y gellir arbed pwysau ar yr unigolyn a’r gwasanaethau cyhoeddus yn hwyrach mewn bywyd wrth fuddsoddi, pan maent yn ifanc, yn y plant sy’n dioddef yr ACEs mwyaf allweddol yn ystod eu plentyndod.

Yn fwy diweddar fe drodd Gabor Maté ei sylw at ffenomen sy’n destun pryder byd-eang. Yn ei waith, mae’n olrhain sut y bu plant yn cael eu meithrin dros y canrifoedd drwy gyfres o gamau, i’w helpu i dyfu o fod yn faban i fod yn oedolyn. Yn y camau hynny, byddai plant wedi cael y profiad o chwarae ond hefyd y profiad o dreulio oriau sylweddol mewn sefyllfaoedd pob oed, e.e. gyda rhieni, modrybedd, cymdogion yn galw am baned. Yn y gymysgfa gyfoethog hon byddai profiad plentyn o fod yn rhan o eglwys neu fosg neu synagog, gan ddysgu patrymau ymddygiad tuag at oedolion, a’r plentyn yn gorfod byw ar delerau oedolion o tua 7/8 oed. Rwy’n tybio mai dyma oedd norm bywyd yn tyfu i fyny i’r mwayfrif o ddarllenwyr C21.

Dadl Maté yw fod y byd gorllewinol (gydag America a Phrydain yn aml yn esiamplau mwyaf eithafol) wedi symud at sefyllfa erbyn hyn lle mae dylanwad oedolion ar blant yn llai ac yn llai. Mewn canran uchel o’n poblogaeth, mae plant yn cael eu magu gan y sgrin ddigidol a gan bobl o’u cenhedlaeth nhw eu hunain. Felly, o ganlyniad, yr ymddygiad sy’n normal i blentyn yw ymddygiad plant eraill. Yr ymddygiad sy’n normal yn ystod glasoed yw ymddygiad glaslanciau a glaslancesi eraill. Nid yw ymddygiad oedolion yn cael ei fodelu yn y ffordd y bu, ac mae’r prognosis sydd ynglwm â hyn yn un sy’n codi braw ar Maté.

Yn ystod y broses hon, rydym wedi mynd o feddylfryd fyddai wedi cymryd yn ganiatol ei bod yn cymryd pentref cyfan i fagu plentyn, i’r sefyllfa interim a ddywedai mai ei rieni, yn breifat, oedd yn magu plentyn, i’r sefyllfa bresennol sy’n golygu mai plant eraill sy’n magu ein plant ni. Mae canlyniad hyn, yn ôl Maté, yn ein gadael yn agored i fethiant cymdeithasol llwyr.  

Wrth ddilyn ei ddadl, fe welwn fod teclynnau electronig yn wael am helpu gyda datblygiad emosiynol, ond os mai’r ffynhonnell arall ar gyfer datblygiad plentyn yw plant eraill, bydd y sgiliau o ddangos empathi, cydymdeimlad, gofal a llawer o bethau eraill yn mynd yn sgiliau sy’n estron i genhedlaeth gyfan o oedolion. Mae’n bosib ein bod yn gweld ffrwyth hyn yn ystod y dyddiau diwethaf lle mae pobl ifanc niferus wedi bod yn herio’r drefn ar strydoedd a thraethau Cymru, ac yn ymddwyn heb gonsýrn amdanynt eu hunain nac am eraill yn ystod pandemig.

Yn y cyfamser, mae eglwysi yn treulio llawer o’u hamser yn becso am dynnu’r sêt fawr neu’n trafod statws merched neu a ydy “Duw Cariad yw” yn cynnwys pobl hoyw.

Os ydy dadansoddiad Gabor Maté yn iawn, byddai’n ddoeth i’r eglwys Gristnogol ddeffro’n gyflym, neu bydd y sgiliau a’r nodweddion sydd eu hangen i weithredu yn unol â’r Gwynfydau yn gwbl estron i drwch y ddynoliaeth. Rwy’n cofio’r beiciwr a’r efengylwr John Smith o Awstralia yn siarad yn Greenbelt. Fe ddywedodd bryd hynny: “God has no grandchildren”. Yr hyn yr oedd yn ei olygu oedd fod pob cenhedlaeth yn gorfod ffeindio’u traed eu hunain yn y bywyd ysbrydol, ac nad ydym fel pobl yn etifeddu duwioldeb oddi wrth ein cyndeidiau. Her John Smith yn y sesiwn honno dros chwarter canrif yn ôl oedd fod angen i bob eglwys wneud cyswllt uniongyrchol â’r ifanc. Os ydy Maté yn iawn, mae hynny jyst wedi mynd yn llawer mwy anodd nag y bu, ond hefyd yn fwy tyngedfennol i’n gwareiddiad.

Geraint Rees

Mehefin 2020

O Eglwys Plymouth

O Eglwys Plymouth, Minneapolis

Plymouth Congregational Church is a progressive faith community grounded in the Christian tradition. In mutual care and with respect for our diverse understandings of God, we seek to embody the radical love and justice found in the life, teachings and spirit of Jesus.

 Minneapolis: 14 Mehefin 2020

Ddydd Sul, 14 Mehefin 2020, yn Eglwys Annibynnol Plymouth, Minneapolis, sydd dair milltir o’r fan lle lladdwyd George Floyd, traddodwyd pregeth o bulpud y capel (heb gynulleidfa) gan Seth Patterson, sydd newydd ei alw’n weinidog ‘Spiritual Formation and Theatre’ fel rhan o dîm gweinidogaeth yr eglwys. Teitl y bregeth oedd ‘Gwrth-hilyddiaeth fel ymarfer ysbrydol’ ac meddai mewn geiriau grymus yn ei bregeth: ‘here in our city we have seen bodies not protected by whiteness and state sanctioned crucifixion’.

 

Minneapolis: 3 Mai 1992

O’r pulpud hwn, ar 3 Mai 1992, y traddododd Gweinidog ac Arweinydd y Tîm, y Parchedig Vivian Jones, bregeth yn dilyn trais dychrynllyd yn Los Angeles ar ôl i Rodney King gael ei gicio a’i guro (51 o ergydion mewn munud a 20 eiliad) yn ddidrugaredd gan nifer o aelodau’r heddlu. Bu achos llys cwbwl annheg a arweiniodd at brotestiadau pan laddwyd 63 ac yr anafwyd dros 2,000 o bobl. Yn dilyn y protestiadau hyn y traddododd Vivian ei bregeth. Mewn 28 mlynedd does dim wedi newid. Mae hilyddiaeth hefyd yn bla.

Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Anna, merch Vivian a Mary a chwaer i Heledd, am anfon copi llawn o’r bregeth i ni ac mae i’w gweld ar ein cyfrif Facebook (https://www.facebook.com/groups/673420236088661/?fref=ts ). Y mae mor gyfoes ag yr oedd yn 1992. [Os nad ydych yn aelod o grŵp Facebook C21, cliciwch ar ‘Join Group’ i geisio mynediad]

Un ydym ni

 Dywed Vivian yn ei bregeth fod Cyngor Eglwysi Minneapolis wedi gofyn i bob eglwys y Sul hwnnw roi hilyddiaeth yn thema ar gyfer yr addoli. Yn yr un ffordd, golygfa ardderchog oedd gweld yr holl arweinwyr Cristnogol ac arweinwyr crefyddau eraill yn gorymdeithio gyda’i gilydd y Sul ar ôl llofruddiaeth George Floyd.

Menter Ffydd

Mae gan Vivian bennod ar ‘Hiliaeth’ yn ei gyfrol Menter Ffydd (2009) ac mae’n cynnwys yr un arweiniad, yr un argyhoeddiad a’r un welediageth Gristnogol ag a welwyd yn ei weinidogaeth yng Nghymru ac yn Minneapolis.

Anfonwn ein cofion ato ef a Mary yng nghartref Nyrsio Cysgod y Coed yn Llanelli, gan ddiolch iddo am ei dystiolaeth i’r Efengyl.

Y neges

Rhan allweddol o gelfyddyd byw yw nid yn unig dderbyn a goddef amrywiaeth ymysg pobl, ond ei groesawu, chwilio amdano ac ymhyfrydu wrth weld ein dynoliaeth gyffredin yn edrych yn wahanol, yn siarad yn wahanol, neu â hanes a storïau gwahanol. Rhan arall o gelfyddyd byw yw cyfrannu at adeiladu cyumedau sy’n croesawu’r amrywiaeth ac yn barod i wynebu’r heriau a ddaw mewn cymunedau felly. Rwyf am awgrymu fod y llys a fu’n trafod achos Rodney King yn byw, yn anffodus, gyda meddwl ‘cyfraith a threfn’ yn hytrach na meddwl ein dynoliaeth a’n bod i gyd yn blant i Dduw.
(Pregeth, 3 Mai 1992)

Yr oedd Howerd Thurman (1899–1981) yn ffrind ac yn weinidog i’r teulu pan oedd Martin Luther King yn blentyn. Gdawodd Thurman swydd ym Mhrifysgol Washington er mwyn sefydlu’r eglwys anenwadol ac amlddiwylliannol gyntaf yn UDA. Yn ei gyfrol Jesus and the disinherited y mae’n sôn am ddarllen y Beibl i’w fam-gu a fu’n gaethferch ac felly na chafodd ddysgu darllen. Mwynhâi hi rannau o’r Salmau, Eseia a’r Efengylau, ond ni ofynnai iddo fyth ddarllen o lythyrau Paul, ar wahân i’r bennod ar gariad. Pan ofynnodd iddi pam, ei hateb oedd y byddai ‘old McGhee’, ei pherchennog gynt, yn trefnu cwrdd i’w gaethweision, ond ei weinidog gwyn ef a bregethai, ac yn aml, meddai, pregethai ar Effesiaid 6.5, sy’n dweud wrth gaethweision, ‘ufuddhewch i’ch meisitri daearol mewn ofn a dychryn, mewn unplygrwydd calon, fel i Grist’. Dywedai wrthynt y caent nefoedd yn wobr os byddent yn gaethweision da. Penderfynais, meddai’r hen wraig, pe down yn rhydd, a dysgu darllen, na ddarllenwn yr adnodau hynny fyth eto.
(O’r gyfrol Menter Ffydd, tud. 120–121)

 Bûm yn byw ar stryd lle roedd un dyn du yn byw arni ac weithiau, wrth fynd heibio iddo, yr oedd yn anodd peidio gor-gysylltu ag ef! Ond cofiaf hefyd gerdded stryd llond pobl o bob lliw a llun yn San Jose, Costa Rica, a sylweddoli mai fi oedd yr unig ddyn gwyn yn y golwg, ond nad oedd neb o’m cwmpas yn malio taten bob beth oedd fy marn na’m rhagfarn i am neb na dim. Am eiliad ogoneddus teimlais yn gwbwl rydd o’r smicyn lleiaf o fwrdwn hiliaeth.

 Ond yn y diwedd, ffurf amlwg yw hiliaeth seiliedig ar liw croen, ar edrych i lawr ar bobl, am ba reswm bynnag – cefndir, cenedl, teulu, addysg, tlodi, anallu, anfantais, rhywioldeb, henaint. Daeth MLK ei hun gydag amser yn fwy ymwybodol o ‘gydgyswllt pethau’. Siaradai wedyn yn erbyn popeth a gyfyngai ar fywydau pobl – rhyfel, diweithdra, materoliaeth, tlodi, llwytholdeb, rhagfarn, anghyfiawnder – ‘beichiau’r difreintiedig’ y soniodd Thurman amdanynt.
(Menter Ffydd, 123)

 Yn 1961 yr oedd Cymanfa Cyngor Eglwysi’r Byd i gyfarfod yn India, y tro cyntaf erioed mewn gwlad nad oedd yn orllewinol wyn. Yn 1960 cynhaliwyd cyfarfod gyda chynrhychiolwyr y Dutch Reformed Church yn Ne Affrica oedd yn cefnogi polisi apartheid yn y wlad. Er bod y Cyngor yn awyddus iawn i gynnwys amrywiaeth eang o ddiwylliant ac eglwysi Cristnogol, yr oedd rhai pethau sylfaenol nad oedd cyfaddawdu arnynt oherwydd eu bod yn ymwneud â chalon yr Efengyl. Un o’r pethau hynny oedd fod pob un, yn ddiwahân, yn blentyn Duw.

Yr oedd y Cyngor yn iawn, wrth gwrs. Fe ddywedodd Paul yr un peth fwy nag unwaith, nad oedd yng Nghrist nac Iddew na Groegwr. Ac yr oedd Iesu yn byw hynny wrth siarad gyda’r wraig o Samaria, wrth ganmol y milwr Rhufeinig neu wrth iacháu plentyn y wraig o Syroffenicia. Nid eitem ar ryw agenda adain chwith yw brwydro i ddileu hiliaeth – calon y mater ydyw. Boed i Dduw ein galluogi fel ei bobl yn yr ymdrech i adeiladu cymdeithas gyfiawn a heddychol.(Pregeth, 3 Mai 1992)


Vivian Jones yn arwyddo copi o’i gyfrol Menter Ffydd yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 2009

Zoom

ZOOM! Bob tro y bydda i’n clywed y gair yna, mae’r meddwl yn llithro’n ôl i ddyddiau plentyndod: dyddiau hafau ‘hirfelyn, tesog’, dyddiau’r oriau allan yn chwarae a dyddiau Split a Mini Milk, Pineapple Mivvi a Zoom! Dwi’n cael fy nhemtio i ddweud bod ‘eis-lolis’ yn fwy difyr y pryd hynny, ond nid dyna bwrpas yr ychydig eiriau yma.

Bellach, mae Zoom yn golygu rhywbeth hollol wahanol, yn air a chyfrwng cyfarwydd i gynifer ac yn llwyfan i gyfathrebu o’r newydd, gan gynnwys yr Eglwys. A ninnau wedi bod yn pregethu cymaint am ddefnyddio cyfryngau ‘modern’ a ‘phethau’r oes’ i rannu’r Efengyl, fe’n taflwyd dros nos i fyd sy’n prysur ddod yn ‘norm’ i lawer un. Rhyfedd fel mae rhywun yn dod i arfer, ac mae cynnal oedfa neu fyfyrdod, cyfarfod blaenoriaid a phwyllgor, astudiaeth a chwrdd gweddi yn digwydd yn ddidrafferth o wythnos i wythnos. Da ydi Zoom a Facebook a Trydar a Teams, neu efallai ddim! Mae’r rhwyd yn cael ei thaflu’n ehangach ar hyn o bryd, a phobl yn dawel bach yn gwrando ac yn dilyn. ‘Dwi’n gwrando arnat ti bob Sul!’ meddai gwraig na welais erioed mewn oedfa, ac mae gweld y ffigwr ar ochr dudalen Facebook yn ddifyr ac yn galonogol. Mae gwerthiant Beiblau ar i fyny, ac yn ôl arolwg diweddar mae un ym mhob pedwar yn gwrando ar raglenni crefyddol. Beth felly am yr ‘efallai ddim!’

‘Efallai ddim’ oherwydd canlyniadau posibl i hyn i gyd.

Y ddealltwriaeth o ‘gymdeithas’ Gristnogol yn gyntaf. ‘Ac yn y gymdeithas,’ meddai Luc wrth ddisgrifio nodweddion bywyd dilynwyr yr Iesu wedi’r croeshoeliad. Mae hynny’n golygu wyneb yn wyneb, gyda dealltwriaeth o gymod a chariad. Nid o hirbell nac yn rhithiol, ond yn hytrach gyda’n gilydd. Y perygl yw cael Cristnogaeth unigolyddol, nid yn unig yn nhermau credo ond hefyd yn nhermau addoliad a gwasanaeth yr eglwys. Un rhan o dair o aelodaeth eglwysi Cymru sy’n gweld gwerth addoliad cyhoeddus ar hyn o bryd. Fydd hyn yn newid?

Y gallu i dderbyn. Cael trafferth i dderbyn bod pobl yn newid wnaeth Jona, ac mae Duw yn gyrru pryfyn i ddinistrio’r goeden oedd yn gysgod iddo – darlun awgrymog y gallwn ei addasu wrth feddwl am ein perthynas â’r Eglwys, yn lleol ac yn genedlaethol. Gall trefn a thraddodiad a chredo a bywyd cyfyng ‘ein cynulleidfa ni’ fod yn gyfrwng i’n gwarchod a’n cynnal ond, ar ei waetha, gall roi bod i ffiniau sy’n rhwystro wynebau newydd rhag bod yn rhan o’r bererindod ddyddiol i amgyffred Duw. Bryd hynny, a yw’n peidio â bod yn eglwys? Fyddwn ni’n barod i gamu allan o’n cysgodion clyd a dedwydd?

Dweud y peth iawn! Sylw rhywun yn ddiweddar oedd y geiriau, ‘Mae pawb wrthi!’ gan wneud i rywun feddwl am eiriau awdur y Llythyr at yr Effesiaid, ‘bob rhyw awel o athrawiaeth’. Mae ein mynediad i fywydau pobl wedi cynyddu, a rhai’n ceisio gwneud synnwyr o’r Gristnogaeth o’r newydd ac eraill yn ailgydio. Ac felly ein cyfrifoldeb yw diffinio hanfod Duw, sef cariad a’r ddealltwriaeth o fywyd newydd yng Nghrist, yn rhywbeth i’w brofi a’i gyhoeddi.

Sgwn i beth fydd yn digwydd yn ystod y misoedd sydd i ddod? Pwy a ŵyr! Tan hynny, ’nôl at Zoom am gyfarfod arall!

Eifion Roberts

Pererindod – o gwmpas y cartref

PERERINDOD O GWMPAS Y CARTREF YN YSTOD Y PANDEMIC CORONAVIRUS

Wrth bererindota fe fyddwn yn ymadael â’n cartrefi ac yn teithio i fan sanctaidd er mwyn gweddïo ac agosáu at Dduw. Ond mae ein cartrefi hefyd yn fannau sanctaidd, ac wrth symud o gwmpas ynddyn nhw gallwn weddïo ac agosáu at Dduw lawn cymaint â phetaem wedi mynd i ffwrdd ar bererindod.

  1. Y Drws Ffrynt

Efallai nad ydych wedi defnyddio llawer ar eich drws ffrynt ers sawl wythnos – efallai ddim o gwbl os ydych yn llwyr ynysu’ch hunan. Dyma, gan amlaf, ein man cyswllt cyntaf â’r byd y tu allan.

Arglwydd Dduw, mae’n anodd peidio mynd allan o’r tŷ. Er bod y drws ffrynt yn rhwystr sy’n ein gwahanu’n gorfforol oddi wrth y byd y tu allan, dyro i ni ras i gadw mewn cysylltiad mewn meddwl ac ysbryd ag eraill, gyda chyfeillion a theulu, gyda digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Yn enw Iesu, Amen.

  1. Yr Ystafell Fyw

Dyma’r man lle y byddwch chi’n treulio’r rhan fwyaf o’ch amser. Gan amlaf dyma’r ystafell i ymlacio ynddi, ond nawr gall fod yn teimlo’n debycach i garchar wrth i chi ddyfalu sut i dreulio’ch amser.

Arglwydd Ddduw, diolch i ti am gysur ein hystafell fyw a’r holl bethau ynddi sy’n arfer ein helpu i ymlacio. Bydded iddi ddal i fod yn fan cysur, a dangos i ni sut i ymroi i weithgareddau fydd yn rhoi i ni’r nerth a’r dyfalbarhad i fyw yn yr amser presennol hwn. Yn enw Iesu, Amen.

  1. Y Gegin a’r Ystafell Fwyta

Mae’n bosibl eich bod yn treulio mwy o amser yn paratoi bwyd – neu’n peidio ffwdanu, a ddim yn bwyta’n iach. Efallai’ch bod yn dibynnu ar bobl eraill i siopa drosoch ar hyn o bryd.

Arglwydd Dduw, diolch i bawb sy’n gweithio’n galed, ac efallai’n mentro’u bywydau, er mwyn darparu bwyd ar ein cyfer. Amddiffyn ffermwyr, dosbarthwyr, gweithwyr yn y siopau, gwirfoddolwyr mewn banciau bwyd a’r rhai sy’n defnyddio’u doniau i fwydo eraill, yn enwedig mewn ysbytai. Helpa ni i fwyta’n gall fel bod ein cyrff yn parhau’n gryf ac iach. Yn enw Iesu, Amen.

  1. Man Gwaith

Os ydych yn gweithio gartref, neu’n dysgu plant gartref, bu’n rhaid dod o hyd i le i wneud eich gwaith eich hunan.

Arglwydd Dduw, mae dod â gwaith adre i’r tŷ yn anodd. Mae’r ffiniau rhwng gwaith a ‘nid-gwaith’ yn mynd yn aneglur ac rydyn ni’n gweld colli ein cyd-weithwyr. Dyro ras i ni i gynnal ein gilydd wrth weithio ar wahân. Boed i blant fwynhau dysgu gartref a dod o hyd i ffyrdd i gadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau ysgol. Darpar ar gyfer y rhai sydd wedi colli swyddi a busnesau oherwydd yr argyfwng hwn. Yn enw Iesu, Amen.

  1. Man Gweddi

Efallai fod gennych gadair neu gornel ystafell lle y byddwch yn arfer gweddïo. Os nad oes, pam na ddewiswch chi fan gweddïo, yn enwedig gan nad ydyn ni’n gallu mynd i’r eglwys ar hyn o bryd? Gallwch osod croes, Beibl, Llyfr Gweddi, cannwyll, llun, neu flodau neu ryw gyfuniad o’r rhain ar fwrdd isel neu stôl neu gadair. Efallai yr hoffech wneud rhestr o bobl i weddïo drostyn nhw ar hyn o bryd.

Arglwydd Dduw, mae dy bresenoldeb yn llanw ein tŷ a gallwn gwrdd â thi yma gymaint ag mewn eglwys. Rho ddoethineb i bawb sy’n arweinwyr yn yr eglwys, wrth iddyn nhw ddod o hyd i ffyrdd newydd o weinidogaethu yn yr argyfwng hwn. Tyrd â Christnogion yn agosach atat Ti ac at ei gilydd mewn cyfeillach o addoli, cynnal a thystio. Yn enw Iesu. Amen.

  1. Yr Ystafell Ymolchi

Mae glendid, yn enwedig golchi ein dwylo, yn ffordd bwysig o gael gwared ar y firws. Cofiwn am y rhai sy’n byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid a ffurfiau eraill o dlodi, lle mae glendid a chadw pellter yn amhosibl.

Arglwydd Dduw, diolch i Ti am gyflenwad cyson o ddŵr pur. Helpa ni i gyd i barchu’r ffyrdd sy’n rhwystro’r firws rhag ymledu, yn enwedig pan fydd hynny’n teimlo’n drafferthus a chaethiwus. Amddiffyn y rhai heb adnoddau i’w cadw’n ddiogel. Yn enw Iesu, Amen. 

  1. Yr Ystafelloedd Gwely

Mae rhai’n ei chael yn anodd cysgu ar hyn o bryd ac eraill yn teimlo nad oes rheswm dros godi.

Arglwydd Dduw, mae patrymau cysgu pobl ar chwâl ar hyn o bryd. Dyro i bawb sy’n bryderus neu’n isel eu hysbryd y cwsg adnewyddol y mae ei angen arnynt, yn ogystal â phwrpas ar gyfer byw o ddydd i ddydd. Iachâ’r rhai a gyfyngir i’w gwely am eu bod yn sâl oherwydd y firws, gartref, neu mewn ward ysbyty neu dan ofal dwys. Diolch am bawb sy’n gofalu am eraill, a rho iddyn nhw’r adnoddau y mae arnynt eu hangen, yn ymarferol, yn feddyliol ac yn ysbrydol. Yn enw Iesu, Amen.

  1. Yr Ardd (neu, os nad oes gennych ardd, rhyw lecyn gwyrdd lleol)

Mae gennym gyfle bellach i dreulio amser mewn gerddi a llecynnau gwyrdd. Mae’r lleihad mewn llygredd a chynnydd bywyd gwyllt yn ystod y cyfnod cloi yn dangos y drwg y mae ein ffordd o fyw yn ei wneud i’r amgylchedd. Dyma’r amser i ailgysylltu â byd natur.

Arglwydd Dduw, helpa ni i fwynhau dy greadigaeth a dangos y mwynhad drwy fyw’n gynaladwy ynddi. Adnewydda ni, gorff ac enaid, wrth i ni dreulio amser yn yr awyr agored. Yn enw Iesu, Amen.

Gweddi i Gloi

Gweddi’r Arglwydd

Bydded i dangnefedd Duw sydd y tu hwnt i bob deall gadw ein calonnau a’n cartrefi yng ngwybodaeth a chariad Duw a’i Fab, Iesu Grist ein Harglwydd, ac i fendith Duw Hollalluog, y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân, aros gyda ni, yn awr ac am byth. Amen.

Margaret Le Grice
Cyfieithwyd gan Enid Morgan
Mai 2020

O Cox’s Bazaar i Gwm Sgwt

Gyda diolch i Cymorth Cristnogol

Deialog gan Anna Jane Evans a ddefnyddiwyd ar oedfa Radio Cymru yn ystod wythnos Cymorth Cristnogol. 

[Roedd un o’r gwersylloedd yn Cox’s Bazaar yn rhan o ymweliad tramor cyntaf Amanda Mukwashi fel Prif Weithredwraig CC. Dyma sgwrs gyda chefnogwyr o Gymru (Youtube) – https://www.youtube.com/watch?v=RrkWP_ugsg0

O Cox’s Bazaar i Gwm Sgwt

  1. Mae hi’n lockdown
  2. Mae hi’n lockdown
  3. Dwi’n y tŷ ’ma ers chwech wythnos
  4. ’Dan ni wedi gorfod gadael ein pentref ers tair blynedd
  5. Dwi mond yn cael mynd allan i brynu pethau hanfodol
  6. ’Dan ni ddim yn cael gadael y gwersyll
  7. Mae croen fy nwylo’n goch achos mod i’n eu golchi nhw mor aml
  8. Does gen i ddim sebon
  9. Maen nhw newydd agor ysbyty newydd yn yr ardal yma
  10. Maen nhw’n adeiladu llefydd newydd i ni olchi ein dwylo
  11. Dwi’n ofnus
  12. Dwi’n ofnus
  13. Dwi’n gweld colli fy merch – dwi heb ei gweld ers pump wythnos
  14. Dwi’n gweld colli fy nghartref – mae ’na dair blynedd ers inni orfod ffoi
  15. Diolch byth am Facetime
  16. Mae gen i lot o luniau ar fy ffôn a dwi’n edrych arnynt yn aml ond sgen i ddim ffordd o gysylltu efo neb
  17. Dwi’n nôl papur newydd i’r ddynes drws nesa – mae hi’n unig, bechod. Chwith mond gallu siarad drwy’r ffenest efo hi
  18. Sgen i ddim ffenest
  19. Dwi ’di cael llond bol
  20. Dwi ’di cael llond bol
  21. Fedra i’m dioddef gwisgo masg – mae’n gneud i’n sbectol stemio ac yn teimlo’n anghynnes ar fy ngheg
  22. Does ’na ddim masgiau yma o gwbl
  23. Mae’n od gweld pobl yn sefyll mor bell oddi wrth ei gilydd mewn ciw
  24. Mae ’na gymaint o bobl yn y lle ’ma, does dim ffordd yn y byd y gallwn gadw’n pellter
  25. Mae popeth yn teimlo mor ddiarth
  26. Mae popeth yn teimlo mor ddiarth
  27. Roedd petha mor braf cyn Covid – dwi’n bored ac mae pob diwrnod ’run fath – mae chwe wythnos yn amser mor hir!
  28. Roedd pethau mor braf cyn y rhyfel – mae pob diwrnod ’run fath – a dwi’n styc yn fama ers tair blynedd
  29. Mae’n lockdown
  30. Mae’n lockdown 

Gyda diolch i Cymorth Cristnogol

Mae gwybodaeth am ymateb Cymorth Cristnogol i’r sefyllfa cornafirws yno ar wefan CC: https://www.christianaid.org.uk/appeals/emergencies/coronavirus-emergency-appeal/rohingya

 

Trefn Gwasanaeth Cymorth Cristnogol

 

Cliciwch ar y ddolen isod i lawrlwytho ffeil PDF o drefn gwasanaeth Wythnos Cymorth Cristnogol 2020.

Trefn Gwasanaeth Cymorth Cristnogol 2020

‘Ar ein rhan ni sy’n byw yn y Gogledd gawn ni ddiolch i Anna Jane am ei gwaith dros Gymorth Cristnogol yn ein plith ers blynyddoedd lawer. Dymunwn yn dda iddi wrth iddi dderbyn galwad i weinidogaeth lawn amser gydag eglwysi Seilo Caernarfon a Chapel y Waun, Waunfawr.  Pob bendith Anna Jane’.

Gweddïau

Gweddïau

O Arglwydd fy Nuw
            Sy’n fy nghreu a’m hail-greu,

Mae fy enaid yn dyheu amdanat ti.
Dwêd wrtha i beth wyt ti, y tu hwnt i’r hyn rwy wedi’i weld,
Er mwyn i mi weld yn gliriach beth rwy’n dyheu amdano.
Rwy’n ymdrechu i weld mwy,
Ond wela i ddim y tu hwnt i’r hyn a welais i
Heblaw tywyllwch.
Neu’n hytrach, nid gweld tywyllwch yr ydw i,
Nid yw hwnnw’n rhan ohonot ti,
Ond rwy’n gweld nad ydw i’n gweld dim pellach
Oherwydd fy nhywyllwch fy hun.

Pam y mae hyn, Arglwydd?
A dywyllwyd fy llygaid gan fy ngwendid
Neu a ddallwyd fi gan dy ogoniant?
Y gwir yw mod i wedi fy nhywyllu gennyf fi fy hun,
A’m dallu gennyt ti.
Fe’m cymylwyd gan fy mychander,
Fy ngoddiweddyd gan dy fawredd;
Fe’m cyfyngwyd gan fy nghulni
A’m meistroli gan dy ehangder.
Yn wir, mae’n fwy nag y gall creadur ei ddeall! …

Arglwydd, gorchmynnwyd i ni, neu’n hytrach fe’n cynghorwyd ni
I ofyn trwy dy Fab,
Ac addewaist y cawn dderbyn,
Er mwyn i’n llawenydd fod yn gyflawn.
Y peth hwnnw yr wyt yn ei gynghori
Trwy’r ‘diddanydd ardderchog’ –
          Dyna beth rwy’n gofyn amdano, Arglwydd.
Gad i mi dderbyn
Yr hyn a addewaist trwy dy wirionedd,
‘er mwyn i’n llawenydd fod yn gyflawn’.

Dduw’r gwirionedd,
Rwy’n ceisio er mwyn derbyn,
‘er mwyn i’m llawenydd i fod yn gyflawn’.
Yn y cyfamser gad i’m crebwyll fyfyrio arno,
Fy nhafod lefaru amdano,
Fy nghalon ei garu,
Fy ngenau ei bregethu.
Gad i’m henaid newynu amdano,
Fy nghnawd sychedu amdano,
A’m holl hanfod ei chwennych
Nes i mi fynd i mewn i lawenydd fy Arglwydd
Sy’n un a thri, bendigedig am byth. Amen.

Detholiad o eiriau o’r Prosologion gan Anselm (1033–1109), Eidalwr a fu’n Abad Le Bec yn Ffrainc, ac yn Archesgob Caergaint

 

Pandita Mary Ramabai

Pandita Mary Ramabai

Gwyddom am ‘Pandit’ fel ffordd barchus yn India o annerch gŵr o ddysg, o awdurdod, o ddoethineb. Nid teitl i’w ddefnyddio am wraig, wrth gwrs. Pan aned merch i’r ysgolhaig o Framin Anant Shastri yng ngorllewin India ym 1858, fyddai neb wedi rhag-weld y byddai’r fechan hon yn tyfu i fod y wraig gyntaf i’w hanrhydeddu â’r enw ‘Pandita’.

Roedd Anant Shastri yn ddigon annibynnol ac od yn ei ddydd i gredu mewn addysg i ferched ac fe fynnodd i’w ferch gael dysgu Sansgrit, hen iaith y grefydd Hindŵaidd ac iaith llên hynafol a hardd y Vedas a’r Shastras. Defnyddir yr iaith o hyd mewn defodau crefyddol, gan gynnwys priodasau, a pheth anghyffredin o hyd yw i bobl ifanc ddeall y geiriau y maent yn cytuno i’w harddel.

Clywais am wraig ifanc a holodd beth oedd ystyr y geiriau, a darganfod ei bod yn mynd i addo hebrwng gwartheg ei gŵr, bob dydd, at y ffynnon. Gan ei bod yn byw mewn fflat mewn dinas, achosodd y darganfyddiad gymysgwch o chwerthin direidus a dicter ymhlith ei theulu a’i ffrindiau! Nid oedd ei mam a’i modrybedd wedi deall ystyr y geiriau pan briodwyd hwy!

Pandita Mary Ramabai

Felly, er pan oedd yn 8 oed, bu Ramabai yn dysgu Sansgrit. Bu farw ei thad a’i mam a’i chwaer, un ar ôl y llall, o newyn, a symudodd gyda’i brawd i fyw yn Calcutta. Pan sylweddolwyd yn y fan honno cymaint ei dysg, gofynnwyd iddi ddarlithio i wragedd am ddyletswyddau gwragedd a ddisgrifir yn y Shastras. Wrth baratoi’r darlithiau, daeth i sylweddoli, er bod y llyfrau’n anghyson am lawer o bethau, roedden nhw’n unfryd gytûn fod gwragedd fel grŵp yn ddrwg, yn wir yn waeth na chythreuliaid. Yr unig ffordd allan oedd drwy filiynau o ailymgorfforiadau a thrwy addoli eu gwŷr. Nid oeddent i fwynhau dim ond y caethiwed isaf posibl iddo ef. Doedd ganddyn nhw ddim hawl i astudio’r Vedas, a heb eu gwybod hwy, fyddai neb yn gallu adnabod y Brahma, na chael gwaredigaeth. Felly, nid oedd yn bosibl i wraig gael ei gwaredu. Arweiniodd ei hanghytundeb â’r ddysgeidiaeth hon hi at ochr ddiwygiadol y traddodiadau Hindŵaidd.

Ond daeth i adnabod cymuned Anglicanaidd o leianod Eingl-Gatholig Mair Forwyn (Wantage), a hwy a’i harweiniodd at Grist. Ond roeddent yn arswydo nad oedd hi’n fodlon troi ei chefn ar nodweddion Hindŵaidd eraill, ac fe fyddai hi’n croesawu gweinidogion o sawl traddodiad Cristnogol i gyfrannu i’r eglwys enfawr a adeiladodd hi i blant a gweddwon. Ysgrifennodd at y chwiorydd: ‘Dydw i ddim yn teimlo fy mod wedi fy rhwymo i dderbyn pob gair sy’n disgyn o wefusau offeiriaid ac esgobion; rwy newydd gael fy rhyddhau o iau’r llwyth offeiriadol Indiaidd … Rhaid i mi gael meddwl drosof fy hun. Rhoddodd Duw i mi gydwybod annibynnol.’

Roedd hi wedi troi ei chefn ar ei hetifeddiaeth, a’r canlyniad oedd ei bod hi’n byw ar ffin rhwng dwy ffydd a dau ddiwylliant, ac yn destun drwgdybiaeth gan y naill ochr a’r llall. Dyna paham, mae’n debyg, ar ôl ei marwolaeth ar 30 Ebrill 1920, yr aeth ei henw’n angof. Ond roedd hi’n arwres gref ac yn arweinydd sy’n haeddu ei chofio. Gwnaeth waith mawr fel athrawes, ac yr oedd hi ar y blaen yn datblygu dulliau oedd yn defnyddio’r ymennydd a’r dwylo. Dadleuodd yn erbyn priodi plant ac o blaid hawl gweddwon i ailbriodi. Yn ei dull o fyw yr oedd hi’n ragflaenydd i Ghandi, gan fyw’n syml heb eiddo ond ychydig ddillad a llyfrau. Sylwyd bod ei byw Cristnogol yn cadw’r elfennau gorau yn ei bywyd gynt fel Hindŵ. Teithiodd i Brydain (lle y bu’n dysgu Sansgrit yn yr ysgol fonedd i ferched yn Cheltenham) ac aeth i America. Ysgrifennodd am erchylltra bod yn wraig i Framin a chreulonder y system y trodd ei chefn arni. Nid oedd y Gristnogeth a’i derbyniodd yn rhydd o ragfarnau crefyddol yn erbyn gwragedd, ond fe wrthododd gael ei llyncu gan ragfarnau a rhagdybiaethau eglwysi’r bedwaredd ganrif ar bymtheg: ‘Rydych chi’n rhy ddysgedig ac ysbrydol, yn rhy ddoeth, yn rhy ffyddlon i’r ffydd yr ydych yn ei phroffesu i ddeall fy anawsterau i dderbyn yn llwyr y grefydd yr ydych chi’n ei dysgu.’

Ond erbyn hyn y mae’r calendr Anglicanaidd yn rhoi diwrnod i gofio am y wraig Indiaidd a gymerodd yr enw Mair wrth ddod yn Gristion. A dyna lle mae hi, rhwng Catrin o Siena a Gŵyl Philip ac Iago, ar Fai 1af. Diolch amdani, ei dewrder a’i dyfalbarhad.

           Enid Morgan

GiG Cymru

GIG CYMRU

 Diolch i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Os baner a sosbenni – a’u sŵn mawr
        sy’n morio’r clodfori,
   clyw yn nwfn ein calon ni
   y diolch n’all ddistewi.

Yn darian, yn dosturi – arwres
        drwy oriau’n trybini,
  chwaer yw hon, a’i charu hi
  a wnawn … nid jyst am ’leni.
                                                     Mererid Hopwood