Archif Tag: Urdd

Neges Heddwch yr Urdd – paratoi ar gyfer y 18ed

Neges Heddwch ac Ewyllys Da gan bobol ifanc Cymru, 18 Mai 2020 – Stopio’r Cloc ac Ailddechrau

Thema neges eleni yw dyhead pobl ifanc i weld y byd yn gwrando ac yn dysgu o argyfwng feirws Covid-19.

Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn unigryw i Gymru, ac wedi ei danfon yn flynyddol ers 98 o flynyddoedd  – dyma’r unig neges o’i fath yn y byd.

Gofynnaf am eich cefnogaeth i helpu pobl ifanc Cymru ar y 18fed o Fai i wneud hon y neges fwyaf mewn hanes.

Bydd y neges yn cael ei chyhoeddi o gyfrifon cymdeithasol Urdd Gobaith Cymru ar ddydd Llun y 18fed o Fai ac rydym yn gofyn i chi wneud o leiaf 1 o’r 3 peth canlynol:

  1. Aildrydarwch / postio y neges ar eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar yr 18fed o Fai gyda 
  • Llun ohonoch yn gwneud symbol ‘triongl’ gyda’ch dwylo fel hyn a thagio 5 person yn eu herio i wneud yr un peth gyda’r #heddwch2020 –
  • Neu Emoji baner eich gwlad chi / Emoji y byd / Eich hoff Emoji ac #heddwch2020
  1. Paratowch ymateb i’n neges ni  – gall hyn fod yn lun/geiriad /gair o gefnogaeth /lluniau / fideo /can gan ddefnyddio #heddwch2020 neu ei ebostio at heddwch@urdd.org
  2. Anogwch eich ffrindiau a chysylltiadau ar draws y byd i ymateb

Helpwch yr Urdd

Helpwch Gymru

Helpwch ein Pobl ifanc ………………. i gyrraedd 15 miliwn o bobl mewn 50 o wledydd ar draws y byd yn 2020!

Eisiau mwy o fanylion e-bostiwch – heddwch@urdd.org

Er gwybodaeth, bydd rhaglen arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol ar ddydd Sul yr 17eg o Fai yn trafod y Neges eleni gyda chyfweliadau arbennig gyda nifer o bobl ifanc fu’n rhan o’r neges/ffilm eleni.

Coch gwyn a gwyrdd

“Ar Fai y cyntaf helpwch yr Urdd
i droi’r diwrnod yn goch, gwyn a gwyrdd”

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi bod 1 Mai 2020, yn Ddiwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd, ac y bydd yn codi arian i Llamau, prif elusen ddigartrefedd Cymru, ar y diwrnod arbennig yma. Mae aelodau a ffrindiau enwog yr Urdd yn annog pawb i gymryd rhan, trwy enwebu pum person i wisgo coch, gwyn a gwyrdd.

Mae teuluoedd, plant a hyd yn oed anifeiliaid anwes yn cael eu hannog i wisgo lliwiau’r Urdd. Gall pobl rannu eu lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #UrddLlamau ac enwebu 5 person i wneud yr un peth. Gallwch gyfrannu drwy decstio URDD a’r swm yr hoffech ei gyfrannu, e.e. URDD5 i gyfrannu £5, at 70085. Mae tudalen justgiving hefyd ar gael: https://www.justgiving.com/cochgwynagwyrdd.

Mae gwaith Llamau, prif elusen ddigartrefedd Cymru ar gyfer pobl ifanc a menywod sy’n agored i niwed, yn bwysicach nag erioed. Mae’r elusen yn adrodd cynnydd yn nifer yr achosion o drais domestig, yn ogystal â phobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd, gyda sofa surfers yn gadael cartrefi ffrindiau a theulu oherwydd y mesurau llymach ar hyn o bryd. Mae angen help ar Llamau i gefnogi’r bobl ifanc, y menywod a’r plant sydd yn eu gofal yn ystod y cyfnod hwn – gyda nifer heb fynediad i ardd na llefydd i chwarae ac ymlacio.

Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Fel mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, roedden ni’n teimlo’n gryf y dylai’r Urdd fod yn gwneud rhywbeth positif i helpu ein partneriaid, Llamau. Mae’n gyfnod lle mae plant a phobl ifanc wedi dod yn ymwybodol iawn o anghenion cymdeithasol a sut gallan nhw helpu. Mae hefyd yn gyfnod lle mae croeso i rywbeth ychydig ysgafnach, felly gobeithio y bydd Diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd yr Urdd yn rhoi gwên ar wynebau pobl, yn gyfle i rannu lluniau hwyliog ar-lein ac i godi rhywfaint o arian ar yr un pryd.”

Mae Llamau yn sefydliad sy’n gweithio gyda phobl ifanc a menywod bregus. Mae eu gwasanaethau hanfodol yn cynnwys – llety i bobl ifanc 24 awr y dydd, llochesau cam-drin domestig a chyngor ar wasanaethau cymorth argyfwng i bobl ifanc a menywod sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu o ddioddef camdriniaeth ddomestig, gan gynnwys Llinell Gymorth Digartrefedd Ieuenctid.

Wrth i’r sefyllfa fyd-eang COVID-19 barhau i esblygu, gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd i lawer. Mae’n debygol o fod yn gyfnod anodd dros ben i’r bobl y mae Llamau yn eu cefnogi. Nid oes gan lawer ohonynt gefnogaeth ffrindiau a theulu fel sydd gan lawer ohonom ni, a thra mae eraill yn byw ‘adref’, yn anffodus nid yw’r adref hwnnw’n debygol o fod yn lle diogel.

Mae hwn yn gyfnod ansicr a phryderus i bawb a gwyddom fod gennych eich pryderon a’ch blaenoriaethau eich hunain. Fodd bynnag, os ydych mewn sefyllfa i helpu, byddem yn gwerthgfawrogi eich cefnogaeth. DIOLCH.

Cofiwch ddefnyddio #UrddLlamau i ddangos eich cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gellir cael mwy o wybodaeth am Llamau ar www.llamau.org.uk.