Archif Tag: Vivian Jones

Teyrnged JGJ i Vivian Jones

Vivian Jones

O dro i dro mewn bywyd byddwn yn cwrdd â phobol fydd yn ffitio i mewn yn dwt i’n cymuned ni, a’r rhan fwya ohonyn nhw yn debyg iawn i ni ein hunain. Nid un fel yna oedd Dr Vivian Jones. Yn wir, fe fydde fe wedi chwyrnu arna i eisoes, o nghlywed i’n rhoi’r teitl yna iddo ac yntau’n gwybod mai Viv fyddai mewn cwmni ac yn ei gefn. Byddai’n meddwl amdano’i hun iddo gael ei fagu ar aelwyd gyffredin, ac eto aelwyd anghyffredin oedd hi, oherwydd cynhesrwydd ac anwyldeb y cartre a’r gymdeithas a welodd yn ei blentyndod. Fe wnaeth gymwynas â phob glöwr a gwraig i löwr wrth lunio portread mor fyw gerbron y byd, byd na wyddai am gwlwm twym ardaloedd y glo. A gwnaeth hynny’n fwriadol yn Saesneg, yn rhannol oherwydd iddo synhwyro mor ddieithr i Americanwyr a Saeson oedd y gymdeithas lofaol.

Ond nid y talcen glo oedd yn disgwyl amdano ef. Er iddo lwyddo i gael mynd i Ysgol Ramadeg Llanelli, roedd yna ryw anniddigrwydd yn ei dynnu o’r fan honno wedyn, ac yn un ar bymtheg oed aeth i swydd ysgrifenyddol yng Nghaerdydd. Yn y lle hwnnw, yn gwrando ar bregethau coeth y gweinidog a thrafodaethau bywiog yr ysgol Sul, fe’i tröwyd i gyfeiriad y Weinidogaeth. Y cam nesaf oedd Prifysgol Bangor a gradd anrhydedd mewn Cymraeg. Yna, cyfnod cofiadwy yng Ngholeg Diwinyddol Bala–Bangor. Byddai ei gyd-fyfyrwyr yn sôn ymhen blynyddoedd wedyn am ambell sgwrs dros ginio yn y coleg hwnnw, a’r Prifathro yn cydfwyta gyda’r myfyrwyr. Yng nghwmni Gwilym Bowyer byddai’r myfyrwyr yn gwybod mai gwrando oedd yn gymwys iddyn nhw tra byddai’r Prifathro yn traethu ei sylwadau ar y byd a’i bethau. Ond ni wnaeth Vivian erioed blygu i’r drefn honno, ac fe fyddai hi’n ddifyrrwch ambell awr ginio tra distawai sŵn y cyllyll a’r ffyrc er mwyn gwrando ar Vivian yn mentro anghytuno â rhyw sylw neu’i gilydd o eiddo Bowyer. Yn y cyfnod hwnnw fe sefydlodd Vivian ei le fel tipyn o anghydffurfiwr.

Yn ei gyfnod ym Mangor y datblygodd y garwriaeth hyfryd rhwng Vivian a Mary. Roedd hithau yno yn gwneud gradd mewn Astudiaethau Beiblaidd, a chlywais ddyfynnu’r Athro Bleddyn Jones Roberts yn sôn amdani fel myfyriwr galluog mewn Hebraeg. Byddai ei gyd-fyfyrwyr weithiau’n dyfalu beth oedd wedi ennill calon Vivian fwyaf, ai harddwch swynol ei gwedd a’i phersonoliaeth hi, neu ddisgleirdeb ei ysgolheictod hi? Beth bynnag yw’r gwir, doedd dim troi ’nôl ar Vivian, a phriodi fu hanes y ddau.

Am chwarter canrif wedyn bu Vivian yn weinidog yn yr Onllwyn, ym Mhentre Estyll ac yn yr Allt-wen. Yn y cyfnod cynta yn yr Onllwyn daeth i gysyllltiad â’r gweinidog hynaws, Erastus Jones. Daeth Ras yn destun edmygedd i Viv, nid yn unig ar gyfri ei bersonoliaeth dawel, drawiadol, ond hefyd ei argyhoeddiad diwyro dros ecwmeniaeth a chydweithredu eglwysig. Gadawodd hynny argraff ddofn ar Viv, a barhaodd ar hyd ei yrfa.

Pan oedd yntau a Mary ym Mhentre Estyll roedd fy mrawd yn gymydog iddo yn y Mynydd Bach. Ac un o atgofion dymunol fy mrawd am y cyfnod hwnnw oedd y boreau hynny pan fyddai mam Mary wedi dod ar ymweliad; gadawai Viv i Mary a’i mam gwmnïa yn y tŷ, a landiai Viv am fore o sgwrsio a thrafod yn stydi fy mrawd yng Nghilfwnwr.

, ymadael â chyrion tre Abertawe a symud i fyny i gwm diwydiannol ac i eglwys enwog yr Allt-wen. Buont yno fel teulu yn ddedwydd eu byd. Yn y cyfnod hwnnw byddai’n datblygu gwaith cydeglwysig ac yn cydarwain canolfan fach eciwmenaidd gydag Erastus Jones.

Bu hefyd yn ystod y cyfnod hwn yn weithgar dros addysg Gymraeg yng Nghwm Tawe fel ysgrifennydd y pwyllgor a sefydlodd Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe ac wedyn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Fel y gŵyr pawb ohonom sydd wedi ymladd y brwydrau hynny mae’r gwrthwynebiad yn medru bod yn chwyrn. Yn ffodus, roedd gan Vivian y meddwl craff a’r dycnwch ar gyfer yr ymgyrch. A dangosodd y gweithgarwch hwn mor agos at ei galon oedd Cymru a’r Gymraeg. Doedd hi ddim yn rhyfedd wedyn, ymhen blynyddoedd lawer, mai dymuniad Dr Gwynfor Evans, arweinydd amlycaf Plaid Cymru, oedd mai Vivian fyddai’n pregethu yn ei angladd ef, a gwnaeth Vivian hynny yn anrhydeddus.

Ond yr oedd gan Vivian orwelion lletach o lawer. Ym 1969 roedd wedi ennill ysgoloriaeth Cyngor Eglwysi’r Byd i wneud gradd Meistr mewn athroniaeth a diwinyddiaeth yn y Princeton Seminary, New Jersey yn yr Unol Daleithiau. Cafodd y cyfnod hwn gryn argraff arno. Profodd y cynnwrf a’r anniddigrwydd yn yr Unol Daleithiau yn dilyn marwolaeth Martin Luther King Jr. Roedd y profiadau hynny eto wedi lledu ei orwelion.

Yna, ym 1979 yr oedd Eglwys Annibynnol Plymouth Minneapolis, Minnesota, yn chwilio am ‘Brif Weinidog’, a chytunodd Vivian i gyfaill iddo gymeradwyo ei enw i’r eglwys. Beth sy’n amlwg yw hyn. Nid uchelgais oedd ei gymhelliad, ond yn hytrach y fenter, yr her i wasanaethu mewn amgylchfyd estron mewn gwlad estron mewn iaith estron. Er clod i Eglwys Plymouth, fe fentrodd hi roi’r alwad i Vivian. Gofynnodd Vivian am wythnos i ystyried yr alwad.

Cofiwch y byddai’n fenter i’r teulu oherwydd byddai’n golygu i Mary, dros y blynyddoedd cynta, orfod aros yng Nghymru er mwyn i Anna a Heledd barhau â’u haddysg. Bu hynny’n ystyriaeth ddwys iddyn nhw. Cyn pen yr wythnos penderfynodd y ddau fentro, ac ymadawodd Vivian â Chymru i wynebu her newydd.

Ac roedd hi’n her i weinidog oedd wedi arfer ag eglwysi uniaith Gymraeg a heb bregethu fawr ddim erioed yn Saesneg, gweinidog wedi arfer ag eglwysi gwahanol iawn eu hanian, a thipyn llai eu maint. Roedd yn yr eglwys ym Minneapolis dros ddwy fil o aelodau. Byddai gan Vivian bedwar o weinidogion cynorthwyol yn atebol iddo, a rhyw ddeg ar hugain o swyddogion yn gyfrifol am wahanol rannau o’r gwaith. Byddai’n her aruthrol.

Ond na. Dyn yw dyn ar bum cyfandir, meddai Elfed. Ac fel y clywais Vivian yn dweud, yr un ymroddiad oedd ei angen yn yr Unol Daleithiau ag yng Nghymru, yr un tynerwch mewn profedigaethau, yr un amynedd yn wyneb anawsterau, a’r un cariad a gras a maddeuant.

Ac yn ôl tystiolaeth ei staff a’i gyd-aelodau, fe welwyd y doniau hynny yng ngweinidogaeth Vivian, yn ogystal â threiddgarwch ei bregethu cofiadwy. Cafodd aelodau Eglwys Plymouth glywed hefyd am ddiwinyddion a llenorion a meddylwyr amlwg y byd, megis Wittgenstein ac Iris Murdoch ac R S Thomas.

Wedi rhyw bedair blynedd fe ymunodd Mary ag ef yn Minneapolis, a chawsant un mlynedd ar ddeg wedyn a fu’n ddedwydd a llwyddiannus iawn, gyda Mary yn cyfrannu ym mhob modd i’w bywyd ar yr aelwyd a’r gweithgarwch yn yr eglwys.

Yna, ym 1995 gwelwyd y ddau yn dychwelyd i Gymru, ac i’w cartre newydd yn yr Hendy. Yn y fan honno byddent yn agos at Anna a Heledd a’r teuluoedd. Fe enwyd eu tŷ yn Santa Fe, oherwydd cysylltiad â’u cyfeillion yn New Mexico, a’r atgofion melys am adegau hapus yn y lle hwnnw. Mae’r dewis hefyd yn dangos y cyfuniad rhyfedd ynddynt rhwng diwylliant America a Chymru, gan yr ysbrydolwyd y dewis gan gerdd T H Parry Williams:

Rwy’n mynd yn rhywle, heb wybod ymhle,
Ond mae enw’n fy nghlustiau – Santa Fe.

Ac yn y pennill ola:

Yr enwau persain ar fan a lle;
Rwy’n wylo gan enw Santa Fe.

Mae hudoliaeth yr enw yn awgrymu y byddai’r aelwyd honno yn yr Hendy yn lle delfrydol i ymddeol iddo, a hamddena a segura. Ond dim o’r fath beth i Viv. Fe roddodd, yn ystod pymtheng mlynedd olaf ei fywyd, gyfraniadau, mewn ysgrifau a chyfrolau, a fydd yn barhaol eu gwerth i grefydd yng Nghymru.

Roedd ynddo o ddechrau ei yrfa ysfa lenyddol anniddig. Daeth yn gyntaf yng Nghystadleuaeth y Fedal Lenyddiaeth yn y Bala ym 1967 gyda’i gyfrol Chwalu Cnapau, cyfrol a ddangosodd ei allu a’i hiwmor, a’i weledigaeth dreiddgar, fel yn ei ysgrif, ‘Y Gweinidog Olaf’. Felly, nid syndod i neb oedd iddo ymroi ar unwaith, wedi dychwelyd, i gyfrannu erthyglau i wahanol gyfnodolion.

Daeth i gysylltiad â nifer o Gristnogion blaengar megis Pryderi Llwyd Jones, Cricieth; Enid Morgan, Aberystwyth, ac Emlyn Davies o Bentyrch, a rhyngddynt hwy ac eraill sefydlwyd yn 2008 gymdeithas Cristnogaeth 21. Prif nod y gymdeithas honno yw bod yn fforwm agored i wahanol safbwyntiau crefyddol yng Nghymru, gan roi lle arbennig i arweiniad Iesu. Bu Vivian yn ysbrydoliaeth yng ngweithgarwch y Gymdeithas, yn trefnu darlithoedd a chynadleddau mewn gwahanol fannau drwy Gymru, gan fod yn ei dro yn Gadeirydd a Llywydd, ac yna yn Llywydd Anrhydeddus.

Welais i erioed awdur mor gynhyrchiol yn ei oedran ef. Yn 2004 cyhoeddodd Helaetha Dy Deyrnas, yn 2006 Y Nadolig Cyntaf, ac yn 2009 Menter Ffydd. Yna, yn 2012 cyhoeddodd addasiad o gyfrol Saesneg o dan y teitl, Byw’r Cwestiynau. Wedyn yn 2015, Symud Ymlaen, sy’n crynhoi llawer o’r syniadau a fu’n ei gyffroi dros y cyfnod diweddar.

Ond yna yn 2017 fe ailafaelodd mewn gwaith a fu ar y gweill ganddo ers degawdau, sef hunangofiant Saesneg am ran gyntaf ei fywyd, Childhood in a Welsh Mining Valley. Fe’i hysgogwyd i lunio’r gyfrol hon yn wreiddiol gan iddo deimlo nad oedd disgwyl i’w gynulleidfa yn Minneapolis amgyffred y gwerthoedd a geid mewn cymdeithas fel y Garnant. Y mae’n gyfrol sylweddol, a’r portreadau am bobol ac aelwydydd yn twymo’r galon.

Mae’n siŵr fod ein meddyliau ni nawr yn mynd at Mary yn ei hystafell yn y Cartref Gofal. Mewn adeg pan welwn deuluoedd yn cael eu cadw ar wahân, roedd hi’n fendith fod y ddau wedi cael cyfnod o fod yn yr un cartre yn Hafan y Coed. Ac rydym yn diolch i’r cartre hwnnw am eu gofal am y ddau. Dymunwn bob bendith i Mary, gan ddiolch i Dduw am gyfraniad hollol unigryw Vivian i’n bywydau ni ac i fywyd ein cenedl.

JGJ

Dr Vivian Jones

Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth Dr Vivian Jones, ein Llywydd Anrhydeddus. Ef, yn anad neb, oedd prif sefydlydd Cristnogaeth 21 yn 2008, a chyfrannodd yn hael o ran ei amser, ac yn ariannol, i geisio creu man diogel i ysgogi trafodaeth onest ac agored ar Gristnogaeth gyfoes, ymchwilgar. 

Yn frodor o’r Garnant, bu’n weinidog yn yr Onllwyn, Blaendulais a’r Allt-wen. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, a Choleg Bala–Bangor, ac wedyn yng Ngholeg Diwinyddol Princeton, U.D.A.

Treuliodd 15 mlynedd yn weinidog ar eglwys fentrus a blaengar Plymouth, Minneapolis, cyn ymddeol i’r Hendy. Wedi dychwelyd i Gymru, cyhoeddodd nifer o gyfrolau diwinyddol pwysig megis Helaetha dy Babell (2004), Y Nadolig Cyntaf (2006), Menter Ffydd (2009), Byw’r Cwestiynau (2013) a Symud Ymlaen (2015), ac wedyn dilynodd ei hunangofiant, A Childhood in a Welsh Mining Valley (2017).

Roedd yn ddiwinydd mawr ei ddylanwad, yn feddyliwr praff, yn llenor medrus, yn gyfaill ffyddlon ac yn gwmnïwr difyr, llawn direidi. Yn ei henaint, roedd yn benderfynol o feistroli’r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn hyrwyddo gwaith C21 ar y wefan newydd. Bu ef a’i wraig, Mary, yn byw mewn cartref gofal yn Llanelli dros y blynyddoedd diwethaf.

Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf â Mary a’r merched, Anna a Heledd, a’u teuluoedd. Roedd yn fraint cael adnabod Vivian, ac mae dyled y byd crefyddol yng Nghymru yn fawr iddo.

Y Nadolig Cyntaf

Y Nadolig Cyntaf

gan Vivian Jones (2006)

Mae cyfrol Vivian Jones, Y Nadolig Cyntaf, yn unigryw. Nid oes yr un gyfrol arall yn y Gymraeg wedi rhoi sylw manwl i’r Nadolig ar gyfer oedolion – neiniau, teidiau a rhieni’r plant a’r genhedlaeth sydd yn tueddu i gredu mai gŵyl i blant ydyw. Fel mae cyfranwyr eraill wedi ysgrifennu yn Agora yn ystod y mis, mae neges y Nadolig yn heriol ac yn radical iawn.

Meddai Vivian Jones yn ei Ragymadrodd:

Mae’n rhaid cofio bod cefndir i holl gynnwys y Beibl, a rhaid gweld popeth sydd ynddo yn erbyn y cefndir hwnnw. A’r cefndir hwnnw yw’r frwydr gosmig sy’n dechrau â’r creu yn Genesis ac yn dod i ben â buddugoliaeth derfynol yn llyfr y Datguddiad, y frwydr fawr waelodol rhwng bywyd a phopeth sy’n elyniaethus i fywyd. Iddo fod yn ddilys, rhaid i unrhyw ystyr a gawn ni yn unrhyw ran o’r Beibl gyfrannu at y naratif gorchestol hwnnw.

Ac fel hyn y mae’r gyfrol yn gorffen, gyda’r bennod ‘Rhywbeth am ddim’ (‘Mab a roed i ni’ Eseia 9:6). Meddai Vivian:

Craidd yr ŵyl yw rhywbeth anhraethol fawr a roddir am ddim i ni, graslonrwydd digymysg, pur tuag atom sydd yn ein harddel a’n codi ac sydd felly yn ein rhyddhau.

Ymhlyg yn hanesion Mathew a Luc am y graslonrwydd hwnnw y mae darlun o fywyd. Ni all dim gymryd lle’r hanesion hynny, yn yr ystyr pe baent hwy yn marw byddai’r darlun yn marw gyda nhw. Nid dull o fynegi rhywbeth yw’r hanesion chwaith, fel pe gellid eu rhoi naill ochr a chymryd allan ohonynt eu neges, fel pe bai’r hanesion yn fasgl a’r cynnwys ynddynt yn gnewyllyn. Hanesion ydynt y mae biliynau o Gristogion wrth dderbyn y darlun ynddynt wedi cael ysbrydiaeth a’u cynorthwyodd i wynebu pob peth y gallodd bywyd ei daflu atynt, a gwneud hynny â mesur da o raen a llwyddiant.

Cofiaf ddarllen am ddarlun gwahanol iawn yn fy arddegau, yn Mysterious Universe Syr James Jeans, y Seryddwr Brenhinol ar y pryd, a darllenais am ddarlun tebyg i hwnnw eto yn ddiweddarach yn The Problem of Pain, C. S. Lewis. ‘Pe byddai rhywun wedi gofyn imi pan oeddwn yn anffyddiwr,’ meddai Lewis, ‘pam na chredwn yn Nuw, buaswn wedi ateb rhywbeth fel hyn: “Edrychwch ar y bydysawd: mae’r cyrff nefol yn y gofod mor ychydig o’u cymharu â’r gofod ei hun, fel pe bai pob un ohonynt yn orlawn o greaduriaid cwbwl hapus. Hyd yn oed wedyn, byddai’n anodd credu bod bywyd a hapusrwydd yn ddim namyn cynnyrch damweiniol y pŵer a wnaeth y cread.”’ Â ymlaen i sôn am fyrder bywyd dynol ar ein daearen ni, y modd y mae’r ymwybod dynol wedi gwneud poen yn bosibl, a deall wedi ei gwneud yn bosibl rhagweld poen ac angau. Casgliad Jeans oedd bod y cread yn ddi-ddadl yn elyniaethus i fywyd dynol, a chasgliad Lewis bryd hynny oedd: naill ai nad oedd unrhyw ysbryd tu cefn i’r cread, neu fod yna ysbryd sy’n ddihitans o ddrwg a da y tu cefn iddo, neu fod yna ysbryd drwg yno.

Cynigia’r Nadolig i ni ddarlun o fyd y mae tu cefn iddo Dduw sydd, nid yn dirfeddiannwr absennol, nid yn ddirgelwch pur na allwn dreiddio i’w hanfod, ond sy’n Ysbryd presennol a fydd bob amser ‘gyda ni’ mewn addewid dihaeddiant o dynerwch plentyn-debyg ond anorchfygol. Darlun yw sy’n ein gwahodd i ymuno â’r angylion mewn mawl, a darlun yw sy’n ein nerthu i fod o gwmpas y themâu Nadoligaidd o barch a goleuni a thangnefedd a llawenydd i bawb yn y byd. Darlun yw a grisielir mewn geiriau y mae Cristnogion wedi eu hen feddiannu a’u gwneud yn eiddo iddynt hwy eu hunain, geiriau y proffwyd Eseia – ‘mab a roed i ni’. Halelwia, ac Amen.

 

O Eglwys Plymouth

O Eglwys Plymouth, Minneapolis

Plymouth Congregational Church is a progressive faith community grounded in the Christian tradition. In mutual care and with respect for our diverse understandings of God, we seek to embody the radical love and justice found in the life, teachings and spirit of Jesus.

 Minneapolis: 14 Mehefin 2020

Ddydd Sul, 14 Mehefin 2020, yn Eglwys Annibynnol Plymouth, Minneapolis, sydd dair milltir o’r fan lle lladdwyd George Floyd, traddodwyd pregeth o bulpud y capel (heb gynulleidfa) gan Seth Patterson, sydd newydd ei alw’n weinidog ‘Spiritual Formation and Theatre’ fel rhan o dîm gweinidogaeth yr eglwys. Teitl y bregeth oedd ‘Gwrth-hilyddiaeth fel ymarfer ysbrydol’ ac meddai mewn geiriau grymus yn ei bregeth: ‘here in our city we have seen bodies not protected by whiteness and state sanctioned crucifixion’.

 

Minneapolis: 3 Mai 1992

O’r pulpud hwn, ar 3 Mai 1992, y traddododd Gweinidog ac Arweinydd y Tîm, y Parchedig Vivian Jones, bregeth yn dilyn trais dychrynllyd yn Los Angeles ar ôl i Rodney King gael ei gicio a’i guro (51 o ergydion mewn munud a 20 eiliad) yn ddidrugaredd gan nifer o aelodau’r heddlu. Bu achos llys cwbwl annheg a arweiniodd at brotestiadau pan laddwyd 63 ac yr anafwyd dros 2,000 o bobl. Yn dilyn y protestiadau hyn y traddododd Vivian ei bregeth. Mewn 28 mlynedd does dim wedi newid. Mae hilyddiaeth hefyd yn bla.

Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Anna, merch Vivian a Mary a chwaer i Heledd, am anfon copi llawn o’r bregeth i ni ac mae i’w gweld ar ein cyfrif Facebook (https://www.facebook.com/groups/673420236088661/?fref=ts ). Y mae mor gyfoes ag yr oedd yn 1992. [Os nad ydych yn aelod o grŵp Facebook C21, cliciwch ar ‘Join Group’ i geisio mynediad]

Un ydym ni

 Dywed Vivian yn ei bregeth fod Cyngor Eglwysi Minneapolis wedi gofyn i bob eglwys y Sul hwnnw roi hilyddiaeth yn thema ar gyfer yr addoli. Yn yr un ffordd, golygfa ardderchog oedd gweld yr holl arweinwyr Cristnogol ac arweinwyr crefyddau eraill yn gorymdeithio gyda’i gilydd y Sul ar ôl llofruddiaeth George Floyd.

Menter Ffydd

Mae gan Vivian bennod ar ‘Hiliaeth’ yn ei gyfrol Menter Ffydd (2009) ac mae’n cynnwys yr un arweiniad, yr un argyhoeddiad a’r un welediageth Gristnogol ag a welwyd yn ei weinidogaeth yng Nghymru ac yn Minneapolis.

Anfonwn ein cofion ato ef a Mary yng nghartref Nyrsio Cysgod y Coed yn Llanelli, gan ddiolch iddo am ei dystiolaeth i’r Efengyl.

Y neges

Rhan allweddol o gelfyddyd byw yw nid yn unig dderbyn a goddef amrywiaeth ymysg pobl, ond ei groesawu, chwilio amdano ac ymhyfrydu wrth weld ein dynoliaeth gyffredin yn edrych yn wahanol, yn siarad yn wahanol, neu â hanes a storïau gwahanol. Rhan arall o gelfyddyd byw yw cyfrannu at adeiladu cyumedau sy’n croesawu’r amrywiaeth ac yn barod i wynebu’r heriau a ddaw mewn cymunedau felly. Rwyf am awgrymu fod y llys a fu’n trafod achos Rodney King yn byw, yn anffodus, gyda meddwl ‘cyfraith a threfn’ yn hytrach na meddwl ein dynoliaeth a’n bod i gyd yn blant i Dduw.
(Pregeth, 3 Mai 1992)

Yr oedd Howerd Thurman (1899–1981) yn ffrind ac yn weinidog i’r teulu pan oedd Martin Luther King yn blentyn. Gdawodd Thurman swydd ym Mhrifysgol Washington er mwyn sefydlu’r eglwys anenwadol ac amlddiwylliannol gyntaf yn UDA. Yn ei gyfrol Jesus and the disinherited y mae’n sôn am ddarllen y Beibl i’w fam-gu a fu’n gaethferch ac felly na chafodd ddysgu darllen. Mwynhâi hi rannau o’r Salmau, Eseia a’r Efengylau, ond ni ofynnai iddo fyth ddarllen o lythyrau Paul, ar wahân i’r bennod ar gariad. Pan ofynnodd iddi pam, ei hateb oedd y byddai ‘old McGhee’, ei pherchennog gynt, yn trefnu cwrdd i’w gaethweision, ond ei weinidog gwyn ef a bregethai, ac yn aml, meddai, pregethai ar Effesiaid 6.5, sy’n dweud wrth gaethweision, ‘ufuddhewch i’ch meisitri daearol mewn ofn a dychryn, mewn unplygrwydd calon, fel i Grist’. Dywedai wrthynt y caent nefoedd yn wobr os byddent yn gaethweision da. Penderfynais, meddai’r hen wraig, pe down yn rhydd, a dysgu darllen, na ddarllenwn yr adnodau hynny fyth eto.
(O’r gyfrol Menter Ffydd, tud. 120–121)

 Bûm yn byw ar stryd lle roedd un dyn du yn byw arni ac weithiau, wrth fynd heibio iddo, yr oedd yn anodd peidio gor-gysylltu ag ef! Ond cofiaf hefyd gerdded stryd llond pobl o bob lliw a llun yn San Jose, Costa Rica, a sylweddoli mai fi oedd yr unig ddyn gwyn yn y golwg, ond nad oedd neb o’m cwmpas yn malio taten bob beth oedd fy marn na’m rhagfarn i am neb na dim. Am eiliad ogoneddus teimlais yn gwbwl rydd o’r smicyn lleiaf o fwrdwn hiliaeth.

 Ond yn y diwedd, ffurf amlwg yw hiliaeth seiliedig ar liw croen, ar edrych i lawr ar bobl, am ba reswm bynnag – cefndir, cenedl, teulu, addysg, tlodi, anallu, anfantais, rhywioldeb, henaint. Daeth MLK ei hun gydag amser yn fwy ymwybodol o ‘gydgyswllt pethau’. Siaradai wedyn yn erbyn popeth a gyfyngai ar fywydau pobl – rhyfel, diweithdra, materoliaeth, tlodi, llwytholdeb, rhagfarn, anghyfiawnder – ‘beichiau’r difreintiedig’ y soniodd Thurman amdanynt.
(Menter Ffydd, 123)

 Yn 1961 yr oedd Cymanfa Cyngor Eglwysi’r Byd i gyfarfod yn India, y tro cyntaf erioed mewn gwlad nad oedd yn orllewinol wyn. Yn 1960 cynhaliwyd cyfarfod gyda chynrhychiolwyr y Dutch Reformed Church yn Ne Affrica oedd yn cefnogi polisi apartheid yn y wlad. Er bod y Cyngor yn awyddus iawn i gynnwys amrywiaeth eang o ddiwylliant ac eglwysi Cristnogol, yr oedd rhai pethau sylfaenol nad oedd cyfaddawdu arnynt oherwydd eu bod yn ymwneud â chalon yr Efengyl. Un o’r pethau hynny oedd fod pob un, yn ddiwahân, yn blentyn Duw.

Yr oedd y Cyngor yn iawn, wrth gwrs. Fe ddywedodd Paul yr un peth fwy nag unwaith, nad oedd yng Nghrist nac Iddew na Groegwr. Ac yr oedd Iesu yn byw hynny wrth siarad gyda’r wraig o Samaria, wrth ganmol y milwr Rhufeinig neu wrth iacháu plentyn y wraig o Syroffenicia. Nid eitem ar ryw agenda adain chwith yw brwydro i ddileu hiliaeth – calon y mater ydyw. Boed i Dduw ein galluogi fel ei bobl yn yr ymdrech i adeiladu cymdeithas gyfiawn a heddychol.(Pregeth, 3 Mai 1992)


Vivian Jones yn arwyddo copi o’i gyfrol Menter Ffydd yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 2009

Arswyd

Arswyd

 … a daeth arswyd arnynt. (Luc 2.9)

Eglantyne Jebb (sylfaenydd Cronfa Achub y Plant) ddywedodd, ‘Mae pob rhyfel, cyfiawn neu anghyfiawn, aflwyddiannus neu fuddugoliaethus, yn rhyfel yn erbyn plant!’ Nid mater academaidd, damcaniaethol mo hwn. Mae miliynau o blant yn dioddef yn y byd. Yn Affrica, India (Yemen, Irac, Gasa a.y.b.) yn y byd. Am nad oes ganddynt gartrefi … am nad oes ganddynt ddŵr glân …. am i’w rhieni farw o Aids … am eu bod yn dysgu defnyddio drylliau cyn dysgu darllen llyfr. Mae plant yn dioddef yn ein gwlad ninnau hefyd. Am mai plant yw eu rhieni … am eu bod o dan ddylanwad cyffuriau yn y groth … am mai Barbies and Rambos yw eu teganau. Am fod oedolion mewn swyddi cyfrifol yn eu defnyddio i foddio’u chwantau rhywiol.

Cymerodd lluoedd o oedolion y Gorllewin eu pleser ers tro, gan archwilio eu hunaniaeth a’i faldodi. Maent wedi profi o’r bywyd da, wedi mynnu eu hawliau, wedi dringo eu hysgolion, wedi cymryd eu rhyddid. Yr ydym ni, oedolion y Gorllewin, wedi adeiladu byd ar gyfer ein harchbersonau ni ein hunain. Mae’n bryd i blant gael eu tro ’nawr.

Mae’n bryd i bob un ohonom ystyried sut y gallwn ni’n bersonol gyfrannu at ddiogelwch cyrff, meddyliau ac eneidiau plant, sut y gallwn wneud y byd yn well byd iddynt. Pan fyddwn yn bobl ddifrifol a fydd, oherwydd ein bod yn arswydo rhag gwneud cam â nhw, yn pledio lles plant, gallwn fod yn fwy sicr o un peth nag y gallwn o ddim arall – bydd yr angylion hynny yn y nefoedd y dywedodd Iesu eu bod bob amser yn erych i lawr ar rai bach, a gyda’r rheiny pob angel yn hanesion y geni, yn canu a chanu a chanu a chanu – ‘heb ddiwedd byth i’r gân’.

(O’r gyfrol Y Nadolig Cyntaf, Vivan Jones, 2006)
PLlJ