GIG CYMRU
Diolch i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Os baner a sosbenni – a’u sŵn mawr
sy’n morio’r clodfori,
clyw yn nwfn ein calon ni
y diolch n’all ddistewi.
Yn darian, yn dosturi – arwres
drwy oriau’n trybini,
chwaer yw hon, a’i charu hi
a wnawn … nid jyst am ’leni.
Mererid Hopwood