Pandita Mary Ramabai

Pandita Mary Ramabai

Gwyddom am ‘Pandit’ fel ffordd barchus yn India o annerch gŵr o ddysg, o awdurdod, o ddoethineb. Nid teitl i’w ddefnyddio am wraig, wrth gwrs. Pan aned merch i’r ysgolhaig o Framin Anant Shastri yng ngorllewin India ym 1858, fyddai neb wedi rhag-weld y byddai’r fechan hon yn tyfu i fod y wraig gyntaf i’w hanrhydeddu â’r enw ‘Pandita’.

Roedd Anant Shastri yn ddigon annibynnol ac od yn ei ddydd i gredu mewn addysg i ferched ac fe fynnodd i’w ferch gael dysgu Sansgrit, hen iaith y grefydd Hindŵaidd ac iaith llên hynafol a hardd y Vedas a’r Shastras. Defnyddir yr iaith o hyd mewn defodau crefyddol, gan gynnwys priodasau, a pheth anghyffredin o hyd yw i bobl ifanc ddeall y geiriau y maent yn cytuno i’w harddel.

Clywais am wraig ifanc a holodd beth oedd ystyr y geiriau, a darganfod ei bod yn mynd i addo hebrwng gwartheg ei gŵr, bob dydd, at y ffynnon. Gan ei bod yn byw mewn fflat mewn dinas, achosodd y darganfyddiad gymysgwch o chwerthin direidus a dicter ymhlith ei theulu a’i ffrindiau! Nid oedd ei mam a’i modrybedd wedi deall ystyr y geiriau pan briodwyd hwy!

Pandita Mary Ramabai

Felly, er pan oedd yn 8 oed, bu Ramabai yn dysgu Sansgrit. Bu farw ei thad a’i mam a’i chwaer, un ar ôl y llall, o newyn, a symudodd gyda’i brawd i fyw yn Calcutta. Pan sylweddolwyd yn y fan honno cymaint ei dysg, gofynnwyd iddi ddarlithio i wragedd am ddyletswyddau gwragedd a ddisgrifir yn y Shastras. Wrth baratoi’r darlithiau, daeth i sylweddoli, er bod y llyfrau’n anghyson am lawer o bethau, roedden nhw’n unfryd gytûn fod gwragedd fel grŵp yn ddrwg, yn wir yn waeth na chythreuliaid. Yr unig ffordd allan oedd drwy filiynau o ailymgorfforiadau a thrwy addoli eu gwŷr. Nid oeddent i fwynhau dim ond y caethiwed isaf posibl iddo ef. Doedd ganddyn nhw ddim hawl i astudio’r Vedas, a heb eu gwybod hwy, fyddai neb yn gallu adnabod y Brahma, na chael gwaredigaeth. Felly, nid oedd yn bosibl i wraig gael ei gwaredu. Arweiniodd ei hanghytundeb â’r ddysgeidiaeth hon hi at ochr ddiwygiadol y traddodiadau Hindŵaidd.

Ond daeth i adnabod cymuned Anglicanaidd o leianod Eingl-Gatholig Mair Forwyn (Wantage), a hwy a’i harweiniodd at Grist. Ond roeddent yn arswydo nad oedd hi’n fodlon troi ei chefn ar nodweddion Hindŵaidd eraill, ac fe fyddai hi’n croesawu gweinidogion o sawl traddodiad Cristnogol i gyfrannu i’r eglwys enfawr a adeiladodd hi i blant a gweddwon. Ysgrifennodd at y chwiorydd: ‘Dydw i ddim yn teimlo fy mod wedi fy rhwymo i dderbyn pob gair sy’n disgyn o wefusau offeiriaid ac esgobion; rwy newydd gael fy rhyddhau o iau’r llwyth offeiriadol Indiaidd … Rhaid i mi gael meddwl drosof fy hun. Rhoddodd Duw i mi gydwybod annibynnol.’

Roedd hi wedi troi ei chefn ar ei hetifeddiaeth, a’r canlyniad oedd ei bod hi’n byw ar ffin rhwng dwy ffydd a dau ddiwylliant, ac yn destun drwgdybiaeth gan y naill ochr a’r llall. Dyna paham, mae’n debyg, ar ôl ei marwolaeth ar 30 Ebrill 1920, yr aeth ei henw’n angof. Ond roedd hi’n arwres gref ac yn arweinydd sy’n haeddu ei chofio. Gwnaeth waith mawr fel athrawes, ac yr oedd hi ar y blaen yn datblygu dulliau oedd yn defnyddio’r ymennydd a’r dwylo. Dadleuodd yn erbyn priodi plant ac o blaid hawl gweddwon i ailbriodi. Yn ei dull o fyw yr oedd hi’n ragflaenydd i Ghandi, gan fyw’n syml heb eiddo ond ychydig ddillad a llyfrau. Sylwyd bod ei byw Cristnogol yn cadw’r elfennau gorau yn ei bywyd gynt fel Hindŵ. Teithiodd i Brydain (lle y bu’n dysgu Sansgrit yn yr ysgol fonedd i ferched yn Cheltenham) ac aeth i America. Ysgrifennodd am erchylltra bod yn wraig i Framin a chreulonder y system y trodd ei chefn arni. Nid oedd y Gristnogeth a’i derbyniodd yn rhydd o ragfarnau crefyddol yn erbyn gwragedd, ond fe wrthododd gael ei llyncu gan ragfarnau a rhagdybiaethau eglwysi’r bedwaredd ganrif ar bymtheg: ‘Rydych chi’n rhy ddysgedig ac ysbrydol, yn rhy ddoeth, yn rhy ffyddlon i’r ffydd yr ydych yn ei phroffesu i ddeall fy anawsterau i dderbyn yn llwyr y grefydd yr ydych chi’n ei dysgu.’

Ond erbyn hyn y mae’r calendr Anglicanaidd yn rhoi diwrnod i gofio am y wraig Indiaidd a gymerodd yr enw Mair wrth ddod yn Gristion. A dyna lle mae hi, rhwng Catrin o Siena a Gŵyl Philip ac Iago, ar Fai 1af. Diolch amdani, ei dewrder a’i dyfalbarhad.

           Enid Morgan