Archifau Categori: Agora 39

Ar drothwy

Yr Alarch (Rhif 17), Hima af Klint, 1915, Moderna Museet, Stockholm, Sweden. Parth cyhoeddus – Public domain (Wikimedia)

Ar drothwy – ymdroi ar y ffin

Fel llawer un yr wythnosau diwethaf hyn, rwy wedi bod yn treulio amser yn yr ardd, yn meithrin prosiectau newydd, yn symud planhigion, yn dyfrhau’r egin bach gwyrdd ac yn dyfalu a ddaw pethau i ffrwythlondeb. Ac mae ’na lu o ddamhegion am chwynnu a thocio a bwydo a dyfrhau i ffurfio tomen o ystrydebau pregethrwrol. Mae hi’n gyfnod rhwng dau fyd, yn gyfnod ar drothwy. Byddai Elfed ap Nefydd yn ein cymell, pan oeddem yn fyfyrwyr yn y coleg yn Aberystwyth, i gofio bod angen edrych yn y drych wrth yrru car er mwyn medru gyrru ymlaen yn ddiogel – cymhariaeth weledol berthnasol iawn i’r ifanc gorhyderus eu bod yn gwybod popeth!

Ond ar y funud, wyddom ni ddim i ble rydyn ni’n mynd, dim ond na fydd pethau byth yr un fath eto; cawn ein dal rhwng hiraeth am a fu, ac ofn am y dyfodol. Mae hunanynysu rhag ofn rhywbeth er mwyn goroesi wedi arafu’r hen yn ein plith fwy nag roedden ni wedi arafu eisoes! Ond mae’r rhai sydd wedi gorfod addasu eu ffyrdd o weithio yn darganfod posibiliadau’r We, yn dysgu sut i wneud fideos a’u hanfon, yn ceisio arbed eu bywioliaeth, yn gorfod geni plentyn, yn gorfod claddu cymar oes – does dim amser i synfyfyrio, dim ond i geisio dod i ben a goroesi. Ar drothwy, paratoi i groesi’r rhiniog, petruso ar y ffin.

Ar un cyfnod yr oedd adnod 6 o Salm 16 yn golygu llawer i mi: ‘Syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol. Y mae i mi etifeddiaeth deg.’

Yn y Saesneg cyfieithir llinynnau fel ‘boundary lines’. Ond wir, ni chefais i erioed bod byw ar draws ffiniau yn lle dymunol. Yn wir, mae byw ar ffin yn aml yn golygu cael eich amau gan y naill ochr a’r llall. Bu ambell sant yn ymdrechu’n fwriadus i fyw ar ffin ei ddiwylliant, yn fath o arwydd i’w gyfoedion fod perthyn o lwyrfryd calon i un diwylliant yn unig yn rhywbeth y dylai Cristnogion ymochel rhagddo. Ystyriwch fywyd Ffransis o Assissi, a Julian, y wraig fu’n byw mewn cell ym merw peryglus y 14eg ganrif yn Norwich tra oedd pla a rhyfel yn rhuo o’i chwmpas; ac yn yr ugeinfed ganrif, Dorothy Day yn dewis byw gyda’r tlodion yn America, a Ghandi – bendith arno – yn sefyll ar y ffin rhwng crefyddau yn India.

Ond yn y bwlch rhwng un peth a’r llall mae yna bosibiliadau newydd. Mae pethau yn y fantol. Nid yn unig bod amgylchiadau’n ein newid ni, ond bod mwy o ryddid i ni newid pethau. Gallech honni bod hwn yn amser sanctaidd, yn rhodd, yn fan lle y gall rhywbeth cwbl newydd ddechrau. A gwewyr yw esgor ar fywyd newydd: drws i fynd trwyddo i ddechrau dysgu gwersi newydd am waith, ac amynedd, ac ymroddiad a dyfnder cariad. Yn enwedig i’r hen, sydd, fel yr ifanc, yn orhyderus eu bod yn gwybod popeth!

Mae’r pandemig hwn, a ragwelwyd flynydoedd yn ôl a’n rhybuddio amdano gan arbenigwyr, yn ein gosod ninnau rhwng dau gyfnod, dau fyd, gan ymddihatru o’n rhagdybiaethau a’n hawydd i rag-weld.

Mae gen i hen ffrind ysgol – gwraig sydd, wrth i minnau deipio’r geiriau hyn, yn gwybod bod ei gŵr yn gorwedd mewn ysbyty rhwng byw a marw. Mae hi’n medru ymddiried y bydd beth bynnag ddigwydd iddo, yn ôl ‘ewyllys Duw’. Mae ein cyfnod ni, a’n diffyg ymddiriedaeth ni, yn gwrthryfela yn erbyn y syniad o Dduw sydd fel petai’n lladd fan hyn, ac yn achub draw. Ond camddeall ydi hynny. Ymddiried y mae hi fod ‘popeth yn gweithio er daioni i’r rhai sy’n caru Duw’. Nid crefydd swcwr yw hynny, ond her. Mae’n fy atgoffa i’n ddwys o ddarn o un o gerddi rhyfeddol T. S. Eliot, ‘Four Quartets’ – na fedra i fentro’i gyfieithu’

I said to my soul, be still, and wait without hope,
For hope would be hope for the wrong thing; wait without love,
For love would be love of the wrong thing; there is yet faith.
But the faith and the love and the hope are all in the waiting.
Wait without thought, for you are not ready for thought:
So the darkness shall be the light, and the stillness the dancing.

 ‘Four Quartets’, T. S. Eliot (Section III, East Coker)

Porth i Weithredu a Myfyrio

Wyt ti’n gallu cofio rhyw gyfnod o newid sylweddol neu gyfnod o ddysgu dwys? Oes rhyw gymal wedi dy daro yn yr uchod? Os oes, dalia dy afael ynddo a sylwi ar dy ymateb – corfforol, meddyliol, emosiynol. Oes yna rywbeth y dylet ei wneud yn wahanol?

(Mae’r uchod yn ymateb i un o draethodau Richard Rohr yn ei lythyrau dyddiol ar wefan Centre for Action and Contemplation.)

Llun: Yr Alarch (Rhif 17), Hima af Klint, 1915, Moderna Museet, Stockholm, Sweden.

Enid Morgan

Emynau

Emynau

Mae’n rhyfedd fel ry’n ni’r Cymry yn aml iawn yn troi at emynau pan ry’n ni’n cael ein hunain mewn amgylchiadau anodd ac ansicr.

Ers i’r pandemig yma ein cyrraedd ni, mae yna lawer mwy o emynau i’w clywed ar y radio – Radio Cymru, beth bynnag. Mae fel tase’r hen emynau yma yn rhoi mynegiant i rywbeth na allwn ni ei roi mewn geiriau am y ffordd ry’n ni’n teimlo. A dyna gamp llenyddiaeth ym mhob oes, sef galluogi rhywun i ganfod llais sy’n siarad ar ei ran.

Roedd un emyn ar raglen Shân Cothi’n ddiweddar a oedd yn siarad ar ran llawer ohonom, yn arbennig o gofio am deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid dros yr wythnosau diwethaf hyn i Covid-19.

Er ei fod yn emyn cyfarwydd, roedd ei glywed yn y sefyllfa ry’n ni ynddi heddiw bron iawn fel ei glywed am y tro cyntaf – mewn ffordd newydd.

O fy Iesu bendigedig,
unig gwmni f’enaid gwan,
ymhob adfyd a thrallodion
dal fy ysbryd llesg i’r lan;
a thra’m teflir yma ac acw
ar anwadal donnau’r byd
cymorth rho i ddal fy ngafael
ynot ti, sy’r un o hyd.

Rhof fy nhroed y fan a fynnwyf
ar sigledig bethau’r byd,
ysgwyd mae y tir o danaf,
darnau’n cwympo i lawr o hyd;
ond os caf fy nhroed i sengi
yn y dymestl fawr a’m chwyth,
ar dragwyddol graig yr oesoedd,
dyna fan na sigla byth.

Pwyso’r bore ar fy nheulu,
colli’r rheini y prynhawn;
pwyso eilwaith ar gyfeillion,
hwythau’n colli’n fuan iawn;
pwyso ar hawddfyd – hwnnw’n siglo,
profi’n fuan newid byd:
pwyso ar Iesu, dyma gryfder
sydd yn dal y pwysau i gyd.

     (EBEN FARDD, 1802–63)

Wrth bwyso ar yr Iesu yn y dyddiau anodd hyn, gweddïwn y cawn brofi’r cryfder hwn i ddal y pwysau i gyd.

Bedd Eben Fardd (Ebenezer Thomas), eglwys Clynnog Fawr.

Perthyn

Perthyn

Diolch i’r Parch Desmond Davies, Caerfyrddin am baratoi yr erthygl hon, ac i Seren Cymru am eu caniatad i’w chyhoeddi yn Agora.

Y mae byw drwy’r cyfnod hwn o hunan- ynysu ac ymbellhau cymdeithasol yn brofiad newydd a chwithig i bawb ohonom. Tra’n derbyn yn ddi- gwestiwn fod mesurau’r llywodraeth yn angenrheidiol er mwyn atal lledaeniad haint Covid-19 (gwell enw arno yn ôl amlwg ddigon fod y cyfyngiadau yn gwyrdroi patrwm bywyd yn gyfan gwbl. Wrth reswm, y mae’r dull newydd hwn o fyw ac ymddwyn yn gwbl groes i’r hyn yw hanfod eglwys, lle mae cydymgynnull a chydaddoli yn sylfaenol bwysig. Oddi mewn i gymdeithas yr eglwys yr ydym yn deulu – yn deulu Duw, yn deulu’r ffydd – ac y mae’r ymdeimlad o berthyn i’n gilydd fel brodyr a chwiorydd yng Nghrist yn greiddiol i’r cyfan.

Prawf

Pan aeth yr athronydd René Descartes ati i geisio prawf o’i fodolaeth, y canlyniad y daeth iddo oedd: ”Yr wyf yn meddwl, felly yr wyf” (“Cogito, ergo sum”).

Cofiaf John V. Taylor ar raglen deledu un tro, yn pwysleisio mai’r prawf a fedd y Cristion yw, ”Yr wyf yn perthyn, felly yr wyf”. Y mae i rywun honni bod yn Gristion heb berthyn, mewn modd ystyrlawn a gweithredol, i’r eglwys yn groesddywediad llwyr. Adroddir am y Cristionogion cyntaf, y sawl y disgynnodd yr Ysbryd Glân arnynt ar ddydd cyflawni cyfnod y Pentecost, eu bod “oll ynghyd yn yr un lle”.

O ganlyniad i’r aflwydd presennol nid yw’n bosibl i ninnau gyfarfod “yn yr un lle”, ac eisoes yr ydym yn ymdeimlo i’r byw â’r golled. Gallwn yn hawdd ddeall rhwystredigaeth Paul am iddo gael ei atal rhag gweinidogaethu i aelodau’r eglwys yn Rhufain. “Y mae hiraeth arnaf am eich gweld”, meddai, ac felly ninnau ‘nawr wrth inni gael ein hamddifadu o’r cyfle i gydgyfarfod. Tebyg mae’n siwr, oedd profiad Ioan ar ynys Patmos, ac yntau’n alltud unig yn hiraethu am gwmnïaeth ei gyd-Gristnogion. “Ioan, eich brawd” yw ei gyfarchiad iddynt.

Ar ddechrau ei lythyr o garchar i’w rieni, dyddiedig 14 Mehefin 1943, sgrifennodd Dietrich Bonhoeffer: “Wel, y mae’n Sulgwyn, ac yr ydym yn dal i gael ein gwahanu wrth ein gilydd … Pan glywais glychau’r eglwys yn canu y bore ‘ma, buaswn wedi rhoi’r byd i gael mynd i’r gwasanaeth, ond yn lle hynny dilynais esiampl Ioan ar ynys Patmos, a chynnal gwasanaeth bychan ar fy mhen fy hun. O’r braidd y teimlais yn unig, oherwydd yr oeddwn yn gwbl sicr eich bod chwithau gyda mi, ac felly hefyd y cynulleidfaoedd hynny y bûm yn dathlu’r Sulgwyn gyda nhw yn ystod y blynyddoedd a fu”. Er i Bonhoeffer fod ar ei ben ei hunan yn ei gell gyfyng, nid oedd wrth ei hunan.

Mae’n wirioneddol bwysig ein bod ninnau’n cofio yn awr, er bod drws y capel ynghau bod yr eglwys yn dal i fod, a’n bod ninnau’n dal i berthyn iddi. Er ein bod yn gaeth i’r tþ, ac er na fedrwn gyfarfod â’n gilydd wyneb yn wyneb, y mae ein cymdeithas â’n gilydd yn parhau yn ddigyfnewid. Oherwydd, “nid estroniaid a dieithriaid” ydym mwyach “ond cyd-ddinasyddion â’r saint”, ac ni all unrhyw haint na rhwystr amharu ar hynny. Mae’n dda clywed, felly, am eglwysi sy’n defnyddio pob dull posibl (llythyr; galwad ffôn; y dechnoleg fodern, ac ati) i gysylltu â’i gilydd fel aelodau, ac i gynnal a hyrwyddo yr ymdeimlad o berthyn i’w gilydd yn yr argyfwng presennol.

Y Pasg

Un peth sy’n od i’w ryfeddu eleni yw na chawsom gyfle i ddod ynghyd i ddathlu’r Groglith a’r Pasg. Eithr er na chynhaliwyd y gyfres hon o gyfarfodydd mor real a pherthnasol ag erioed. Ni all ei Ysbryd, yn dal i’w amlygu ei hun i’r sawl sy’n credu ynddo. Yn dilyn ei 
atgyfodiad, daeth at ei ddisgyblion, a’u cyfarch â’r gair “Tangnefedd”, hynny “er bod “y drysau wedi eu cloi”. “Canaf am yr addewidion”, medd Watcyn Wyn, ac y mae addewidion Iesu ynglþn â’i bresenoldeb di-dor gyda’i bobl gyn wired ag erioed: “Ni adawaf chwi’n amddifad; fe ddof yn ôl atoch chwi”; amser hyd ddiwedd y byd”.

Arculfe (VIIè siècle) & Saint Adamnan (≈624 – 704) / Parth Cyhoeddus – Public Domain

Profiad diangof yw dringo i fyny’r grisiau yn yr eglwys honno yng Nghaersalem a godwyd gan Helena (mam Cystennin Fawr) ar y fangre, yn ôl traddodiad, lle safai croes Iesu, ac yna disgyn drachefn i weld ”y man lle gosodasant ef”. Yr enw a roddwn ninnau, Gristnogion y Gorllewin, ar yr eglwys hon yw Eglwys y Beddrod Sanctaidd, eithr fe’i gelwir gan Eglwys Uniongred y Dwyrain yn Eglwys yr Atgyfodiad. Dyna, mewn gwiriondd, yw pob eglwys. Yn ddiamau, y mae’r Groes yn ganolog i ffydd a’i thystiolaeth eglwys Crist, ac fel rhan annatod o’r un dystiolaeth gelwir arni hefyd i dystio i fuddugoliaeth Calfarî, a’r bedd.

Y mae inni gysur mawr o wybod bod yr Iesu byw gyda ni yn awr. Heb-os fe â pla’r coronafeirws heibio, ryw ddydd (nid yw i barhau am byth; daw amser pan fydd brechlyn ar gael i’n diogelu rhagddo), ac yna cawn gyfle i ddod ynghyd unwaith eto, i adnewyddu ein perthynas â’n gilydd oddi mewn i’r coinonia Cristnogol. Yn y cyfamser, mawrygwn y ffaith ein bod yn perthyn i gymdeithas y saint, ac i eglwys “na chaiff holl bwerau angau y trechaf arni”.

Dichon y bydd yr argyfwng presennol yn fodd i ddyfnhau ein gwerthfawrogiad o’r gymuned ffydd, a’n hiraeth amdani.

Desmond Davies

Gŵyl Fai 2020

Gŵyl Fai 2020

Mae Gŵyl y Banc ddechrau mis Mai fel arfer yn cael ei chynnal ar ddydd Llun cynta’r mis. Y bwriad eleni, serch hynny, oedd cynnal yr ŵyl ddydd Gwener, 8 Mai, er mwyn nodi 75 mlynedd ers diwedd y rhyfela yn Ewrop ar 8 Mai 1945 – diwrnod VE (Victory in Europe). Bellach, mae Covid-19 wedi golygu na fydd unrhyw ddathliadau’n digwydd ar ŵyl Fai o gwbwl.

Ond mae’r garreg filltir hanesyddol yma yn gyfle i ni gofio, er ei bod hi’n 75 mlynedd ers i’r rhyfel ddod i ben yn Ewrop, fod ymarferion milwrol a’r gwariant ariannol ar baratoadau ar gyfer rhyfela wedi parhau. Ers y rhyfel mae llywodraethau’r Deyrnas Unedig wedi gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd ar baratoi i fynd i ryfel, ac maent ar fin gwario rhagor.

Cyhoeddodd y llywodraeth yn ddiweddar ei bod yn codi’r gwariant milwrol o £2bn i £41.5bn. Caiff cyfran helaeth o’r arian hwnnw ei wario ar dros gant o awyrennau F-35 sydd wedi eu harchebu oddi wrth gwmni Lockwood.

F35. Awyrlu’r UD : gan Master Sgt. Donald R. Allen / Parth Cyhoeddus – Public domain

Mae’r arian yma’n fwy na dwywaith cymaint ag y mae’r Deyrnas Unedig yn ei wario ar geisio atal y bygythiad a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd. Mae ganwaith yn fwy nag y mae’r llywodraeth wedi’i wario ar baratoi ar gyfer pandemig fel Covid-19, fel ry’m ni’n darganfod yn awr.

 

Dadl Ben Wallace, Ysgrifennydd Amddiffyn Prydain, mewn araith yn ddiweddar, yw bod ein gwariant milwrol yn ein galluogi i ymyrryd fel ‘grym er daioni’ mewn gwledydd lle mae gwrthdaro.

Ond, am yr ugain mlynedd diwethaf, bron, mae ymyrraeth milwrol y Deyrnas Unedig mewn gwledydd tramor wedi bod yn un o brif achosion gwrthdaro ac ansefydlogrwydd yn y byd. Mae ein hymyrraeth yn Irac ac yn Affganistan wedi cyfrannu tuag at greu mwy o ddioddefaint ac ansicrwydd yn y gwledydd hynny ac wedi hyrwyddo ffyniant mudiadau terfysgol fel Isis.

Ar hyn o bryd mae’r Deyrnas Unedig yn cyfrannu tuag at hyfforddi lluoedd milwrol Saudi Arabia yn ei hymosodiadau ar Yemen. Mae’r ymosodiadau hynny wedi achosi newyn enbyd yn y wlad, gan gyfrannu at gynnydd mewn afiechydon a chlefydau heintus. Mae Saudi Arabia wedi defnyddio arfau Prydain i fomio ysgolion, marchnadoedd ac ysbytai.

Ar ben y gwariant hwn i gyd, cyhoeddodd y llywodraeth yn y gyllideb ddiwethaf ei bod yn ‘creu cronfa newydd o £1bn i fenthyg arian i wledydd tramor i brynu nwyddau a gwasanaethau amddiffyn gan gwmnïau yn y Deyrnas Unedig’ – hynny yw, arfau. Y Deyrnas Unedig yw un o’r allforwyr arfau mwyaf yn y byd.

Ar achlysur cofio diwedd yr Ail Ryfel Byd, onid yw’r cynlluniau milwrol sydd ar droed gan y llywodraeth yn gywilydd ac yn warth, yn enwedig â ninnau yn y fath argyfwng ar hyn o bryd?

Wrth gloi, carwn dynnu eich sylw at ymgyrch ddiweddar ‘Healthcare, not Warfare’ gan Peace Pledge Union, gyda’r bwriad o bwyso ar y llywodraeth i wario mwy ar ‘Wella, nid Rhyfela’. Am fwy o wybodaeth:  

Mae Cymdeithas y Cymod wedi ryddhau’r neges yma o gefnogaeth i ymgyrch y PPU gan Mererid Hopwood:

Ac am na all bom waredu afiechyd,
Ac am na all gwn greu byd diofid,
Ac am na all ymladd na beunos beunydd
Wneud dim oll i wella’n gilydd

Heddiw
Trown beiriannau lladd yn beiriannau byw.

 

Coch gwyn a gwyrdd

“Ar Fai y cyntaf helpwch yr Urdd
i droi’r diwrnod yn goch, gwyn a gwyrdd”

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi bod 1 Mai 2020, yn Ddiwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd, ac y bydd yn codi arian i Llamau, prif elusen ddigartrefedd Cymru, ar y diwrnod arbennig yma. Mae aelodau a ffrindiau enwog yr Urdd yn annog pawb i gymryd rhan, trwy enwebu pum person i wisgo coch, gwyn a gwyrdd.

Mae teuluoedd, plant a hyd yn oed anifeiliaid anwes yn cael eu hannog i wisgo lliwiau’r Urdd. Gall pobl rannu eu lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #UrddLlamau ac enwebu 5 person i wneud yr un peth. Gallwch gyfrannu drwy decstio URDD a’r swm yr hoffech ei gyfrannu, e.e. URDD5 i gyfrannu £5, at 70085. Mae tudalen justgiving hefyd ar gael: https://www.justgiving.com/cochgwynagwyrdd.

Mae gwaith Llamau, prif elusen ddigartrefedd Cymru ar gyfer pobl ifanc a menywod sy’n agored i niwed, yn bwysicach nag erioed. Mae’r elusen yn adrodd cynnydd yn nifer yr achosion o drais domestig, yn ogystal â phobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd, gyda sofa surfers yn gadael cartrefi ffrindiau a theulu oherwydd y mesurau llymach ar hyn o bryd. Mae angen help ar Llamau i gefnogi’r bobl ifanc, y menywod a’r plant sydd yn eu gofal yn ystod y cyfnod hwn – gyda nifer heb fynediad i ardd na llefydd i chwarae ac ymlacio.

Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Fel mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, roedden ni’n teimlo’n gryf y dylai’r Urdd fod yn gwneud rhywbeth positif i helpu ein partneriaid, Llamau. Mae’n gyfnod lle mae plant a phobl ifanc wedi dod yn ymwybodol iawn o anghenion cymdeithasol a sut gallan nhw helpu. Mae hefyd yn gyfnod lle mae croeso i rywbeth ychydig ysgafnach, felly gobeithio y bydd Diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd yr Urdd yn rhoi gwên ar wynebau pobl, yn gyfle i rannu lluniau hwyliog ar-lein ac i godi rhywfaint o arian ar yr un pryd.”

Mae Llamau yn sefydliad sy’n gweithio gyda phobl ifanc a menywod bregus. Mae eu gwasanaethau hanfodol yn cynnwys – llety i bobl ifanc 24 awr y dydd, llochesau cam-drin domestig a chyngor ar wasanaethau cymorth argyfwng i bobl ifanc a menywod sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu o ddioddef camdriniaeth ddomestig, gan gynnwys Llinell Gymorth Digartrefedd Ieuenctid.

Wrth i’r sefyllfa fyd-eang COVID-19 barhau i esblygu, gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd i lawer. Mae’n debygol o fod yn gyfnod anodd dros ben i’r bobl y mae Llamau yn eu cefnogi. Nid oes gan lawer ohonynt gefnogaeth ffrindiau a theulu fel sydd gan lawer ohonom ni, a thra mae eraill yn byw ‘adref’, yn anffodus nid yw’r adref hwnnw’n debygol o fod yn lle diogel.

Mae hwn yn gyfnod ansicr a phryderus i bawb a gwyddom fod gennych eich pryderon a’ch blaenoriaethau eich hunain. Fodd bynnag, os ydych mewn sefyllfa i helpu, byddem yn gwerthgfawrogi eich cefnogaeth. DIOLCH.

Cofiwch ddefnyddio #UrddLlamau i ddangos eich cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gellir cael mwy o wybodaeth am Llamau ar www.llamau.org.uk.

Awdurdod y Cymun a’r lockdown

Awdurdod, y Cymun a’r lockdown

Tua diwedd yr 1980au oedd hi pan gododd y drafodaeth. Tydi hi ddim yn haeddu cael ei galw’n ddadl, heb sôn am ffrae, ond roedd yna drafodaeth eitha difrifol. Chofia i ddim bellach yn lle’r oedd yr Undeb i’w gynnal; aeth yr amser yn rhy hir i’r cof. Rhywle yn Sir Benfro, os cofiaf yn iawn, ond tydi hynny’n golygu fawr, gan mai’r gornel hynod honno o Gymru oedd un o gadarnleoedd yr enwad. Ond yn y sir honno yn rhywle yr oedd uchel ŵyl y Bedyddwyr i’w chynnal unwaith yn rhagor.

Fel pob enwad anghydffurfiol arall yng Nghymru, cymysgedd o wahanol gyfarfodydd busnes a defosiynol oedd yr Undeb hwn i fod: cyfle i swyddogion gyflwyno’u hadroddiadau; cyfle i’r Llywydd roi ei anerchiad; cyfle i bregethwyr gorau’r enwad ein swyno â’u huodledd. Ond y tro hwn, roedd gan yr eglwys lle y cynhelid y cyfarfodydd awydd cynnal oedfa gymun ar y bore Sul. A dyna destun y trafod.

Mae trefn y Bedyddwyr yn wahanol i’r Methodistiaid Calfinaidd a’r Annibynwyr. Un eglwys trwy Gymru gyfan sydd gan yr MCs – dyna pam y gelwir yr enwad yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Nifer fawr o eglwysi lleol ar hyd a lled y wlad sydd gan yr Annibyns, a phob un gynulleidfa yn gyfrifol am lywodraethu ei hunan. Yn yr ystyr hon o hunanlywodraeth yr eglwys leol, dyna drefn y Batus hefyd, ond bod gwahaniaeth pwysig – tra bo’r Annibynwyr yn undeb o eglwysi, undeb o gymanfaoedd ydi trefn y Bedyddwyr. Ond efallai mai manion ydi hynny erbyn heddiw.

Yr hyn sy’n bwysig ydi mai’r eglwys leol sy ben. Ac yn ôl traddodiad yr enwad, dim ond oddi mewn i’r eglwys gynnull y dylid cynnal cymundeb. Dyna pam y bu trafodaeth. Roedd yr eglwys lle y cynhelid cyfarfodydd yr Undeb am i gynrychiolwyr yr eglwysi dderbyn cymun fel Undeb. Na, meddai’r gwrthwynebwyr yn glir iawn, dim ond yr eglwys leol all weinyddu’r cymun. Nid eglwys leol sy wedi ymgynnull, ond yn hytrach cynrychiolwyr eglwysi wedi ymgasglu mewn Undeb. Ni fyddai’r cymundeb yn gymwys felly.

Fel cymaint arall yn hanes Anghydffurfiaeth Gymreig, daethpwyd o hyd i gyfaddawd derbyniol i bawb; wedi’r cwbl, sôn am y 1980au ydan ni, nid y 1880au. Bydded i’r eglwys leol gynnal oedfa gymun a gwahodd pwy bynnag arall oedd am ymuno gyda nhw at y bwrdd. Digon teg, am wn i. Fyddai neb o’r tu allan wedi gweld gwahaniaeth o gwbl, ond roedd yr enwad wedi dod dros y broblem.

Maddeuwch ragarweiniad eithaf hir i’r ysgrif, ond mae’r hanesyn yn dangos inni’r problemau a gyfyd i draddodiad pan ddaw gweinyddu’r cymun yn fater trafodaeth. Ac yng nghanol lockdown y Coronafirws, daeth dilysrwydd y cymundeb yn fater trafod unwaith yn rhagor. Gydag adeiladau ein heglwysi ar gau, a ddylem ni gael rhyddid i weinyddu cymundeb adref? Dyna’r cwestiwn.

Ffenest y Cymun Bendigaid, Eglwys Llanfihangel-genau’r-glyn

I un sydd â’i egwyddorion wedi eu plannu yn naear yr Ailfedyddwyr – er mai gyda’r Eglwyswyr yr addolaf – tydi’r cwestiwn ddim yn codi o gwbl. Bydd Helen a minnau’n torri bara ac yfed o’r cwpan yn y ffordd symlaf posib bob bore Sul. Tydi hynny ddim yn golygu nad ydw i’n cael budd a bendith o drefn yr Eglwys yng Nghymru – ddim o gwbl. Ond phlyga i’r un glin i’r peth chwaith. Tydi drysau eglwys y plwyf ddim ar agor; tydi’r offeiriad ddim ar gael i arwain; ond ddylai hynny ddim golygu na alla i dderbyn bendith Swper yr Arglwydd.

Dyna fy marn i. Gwn yn iawn nad dyna farn pawb. O bosib mai barn leiafrifol iawn ydyw oddi mewn i’r Eglwys, onid oddi mewn i sawl enwad arall yng Nghymru.

Bid a fo am hynny. Mae mwy i’r cwestiwn, wrth gwrs, na beth ydi eglwys; mae hefyd yn gwestiwn o bwy ddylai weinyddu. Unwaith yn rhagor, dywed f’egwyddorion ailfedyddiedig wrthyf nad oes angen rhyw boeni fawr am hyn chwaith. Offeiriadaeth yr holl saint ydi un o egwyddorion mawr y traddodiad. Does dim angen person wedi ei ordeinio i weinyddu’r cymun na’r bedydd. Defnyddiol iawn mewn oes lle mae prinder gweinidogion ordeiniedig, a mwy defnyddiol byth yng nghyfnod y lockdown!

Yn y bôn, mater o awdurdod yw hwn. Pwy yw’r person awdurdodedig i weinyddu’r ordinhad? Yr hyn a rydd awdurdod ydi’r act o ordeinio. Mae’r gair o bosibl yn golygu rhywbeth ychydig yn wahanol mewn gwahanol draddodiadau. Mae’r Bedyddwyr yn ordeinio’u gweinidogion – gan roi statws arbennig iddynt. Ond ddim mor arbennig ­ gobeithio – fel nad ydyw’n tarfu ar offeiriadaeth yr holl saint. Tybiaf ei fod yn gryfach gair yng ngeiriadur y Presbyteriaid, er bod peth llacio wedi bod yn ein hoes brin-o-weinidogion. Ond llaciodd yr Eglwyswyr ddim ar y gair – er bod yna lawn cymaint o greisis gweinidogaethol yn eu plith hwy ag unrhyw enwad arall. Na, dim ond offeiriad all weinyddu’r sagrafen. Rhoddwyd iddynt awdurdod rhyfeddol ar ddydd eu hordeinio, ac ni all dim wanio hynny. Dyna reswm sawl un dros beidio ag ordeinio merched. Ydach chi’n cofio’r drafodaeth honno? Mae’r offeiriad wedi ei osod ar wahân mewn ffordd unigryw – a dim ond dynion all gario’r fath awdurdod. Ac y mae ambell un, yn ôl y sôn, sy’n parhau i ddadlau felly. Awdurdod, felly, ydi’r gair allweddol.

Aeth amddiffyn yr awdurdod hwn yn bwysig, hyd yn oed yng nghyfnod y lockdown. Chaiff neb arall weinyddu’r cymun, er y golygai hynny na chaiff neb arall dderbyn y cymun chwaith. Yn wir, mae ambell offeiriad yn torri bara yn ei eglwys ac yn cael ei ddarlledu’n fyw i gartrefi ei blwyfolion yn gwneud hynny. Ysywaeth, yr offeiriad yn unig sy’n cymuno. Gwylio y mae pawb arall.

Eironi mawr y sefyllfa hon ydi mai’r traddodiadau hynny a rydd y pwyslais mwyaf ar bwysigrwydd cymuno, ac ar wir bresenoldeb Crist mewn ffordd gwbl unigryw yn y cymun, ydi’r un traddodiadau ag sy’n atal eu plwyfolion rhag cymuno yn ystod y lockdown. Onid yw eu pwyslais ar awdurdod unigryw’r offeiriad/gweinidog bellach yn atal y lleygwyr rhag derbyn eu bwyd ysbrydol?

Ydi hi’n amser meddwl eto am y pethau hyn? Dadl rhai yn nyddiau cynnar yr argyfwng ydi na ddylid newid athrawiaethau pwysig oherwydd anghyfleuster byr-dymor. Digon teg. Ond aeth y tair wythnos yn chwech yn barod, a does dim arwydd fod ymgynnull eglwysig yn mynd i gael ei ganiatáu yn fuan.

Am ba hyd, felly, y caniatewch chi i’r saint beidio derbyn y cymun? Ynteu ydi awdurdod yn ben ar bopeth bellach?

Dyfed Wyn Roberts