Emynau

Emynau

Mae’n rhyfedd fel ry’n ni’r Cymry yn aml iawn yn troi at emynau pan ry’n ni’n cael ein hunain mewn amgylchiadau anodd ac ansicr.

Ers i’r pandemig yma ein cyrraedd ni, mae yna lawer mwy o emynau i’w clywed ar y radio – Radio Cymru, beth bynnag. Mae fel tase’r hen emynau yma yn rhoi mynegiant i rywbeth na allwn ni ei roi mewn geiriau am y ffordd ry’n ni’n teimlo. A dyna gamp llenyddiaeth ym mhob oes, sef galluogi rhywun i ganfod llais sy’n siarad ar ei ran.

Roedd un emyn ar raglen Shân Cothi’n ddiweddar a oedd yn siarad ar ran llawer ohonom, yn arbennig o gofio am deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid dros yr wythnosau diwethaf hyn i Covid-19.

Er ei fod yn emyn cyfarwydd, roedd ei glywed yn y sefyllfa ry’n ni ynddi heddiw bron iawn fel ei glywed am y tro cyntaf – mewn ffordd newydd.

O fy Iesu bendigedig,
unig gwmni f’enaid gwan,
ymhob adfyd a thrallodion
dal fy ysbryd llesg i’r lan;
a thra’m teflir yma ac acw
ar anwadal donnau’r byd
cymorth rho i ddal fy ngafael
ynot ti, sy’r un o hyd.

Rhof fy nhroed y fan a fynnwyf
ar sigledig bethau’r byd,
ysgwyd mae y tir o danaf,
darnau’n cwympo i lawr o hyd;
ond os caf fy nhroed i sengi
yn y dymestl fawr a’m chwyth,
ar dragwyddol graig yr oesoedd,
dyna fan na sigla byth.

Pwyso’r bore ar fy nheulu,
colli’r rheini y prynhawn;
pwyso eilwaith ar gyfeillion,
hwythau’n colli’n fuan iawn;
pwyso ar hawddfyd – hwnnw’n siglo,
profi’n fuan newid byd:
pwyso ar Iesu, dyma gryfder
sydd yn dal y pwysau i gyd.

     (EBEN FARDD, 1802–63)

Wrth bwyso ar yr Iesu yn y dyddiau anodd hyn, gweddïwn y cawn brofi’r cryfder hwn i ddal y pwysau i gyd.

Bedd Eben Fardd (Ebenezer Thomas), eglwys Clynnog Fawr.