Archifau Categori: Agora 38

Llwybrau

Dyma gerdd fuddugol i’r dysgwyr yn Eisteddfod 2017, gan Judith Stammers, gafodd ei anfon ataf fore Sul y Pasg, gyda thristwch nad oedd eglwysi Bangor eleni’n gallu ymgynnull i  fyny yn y ‘Gwersyll Rhufeinig’ ar doriad gwawr i ddathlu’r atgyfodiad. 
AJE

LLWYBRAU    
Bore Sul y Pasg, Gwersyll Rhufeinig, Bangor

Trwy’r wawr ’dan ni’n dod
O bob cyfeiriad, i gopa’r bryn:
Ar lwybrau cul drwy’r goedwig dywyll  
Lle mae llygaid Ebrill yn gloywi ymhlith y dail,
Llwybrau bach, prin yn weladwy dros y glaswellt,
Llwybrau llithrig, llethrog, ar y bryn.

’Dan ni’n cyrraedd y copa.
’Dan ni o bob oed, bob capel, eglwys, enwad,
Henoed yn pwffio, plant hanner cysglyd eto.
Efo’n gilydd ’dan ni’n canu,
’Dan ni’n dathlu,
Dathlu atgyfodiad, gwanwyn, cyfeillgarwch.

Yn sydyn mae’r haul yn codi.
Dyma’r mynyddoedd, afon Menai, Môn, y porthladd,
Strydoedd a thai Bangor yn nythu odanon ni.
Efo’n gilydd ’dan ni’n syllu,
’Dan ni’n synnu,
Synnu at ein gwlad, harddwch, heddwch …

Bellach mae’n amser mynd i lawr
At ein bywydau unigol
Ar hyd llwybrau ar wahân.

Judith Stammers, 2017

Paid â glynu wrthyf

Paid â glynu wrthyf – paid dal gafael ynof fi
(Beibl.net)

Ers tair wythnos bellach mae aelodau Eglwys y Berth, Penmaen-mawr, wedi cynnal eu hoedfaon dros y ffôn. Y Sul cyntaf, y gynulleidfa ffyddlon wythnosol oedd yno – ynghyd ag Elwyn, y trysorydd, sy’n byw yng Nghaeredin. Mae’r gynulleidfa bellach wedi tyfu i gynnwys aelodau eglwysi eraill o Lanbryn-mair; Dryslwyn, Sir Gaerfyrddin; Tal-y-bont, Conwy; a Chasnewydd!

Yn ein Ffoniadaeth y Cysegr ar Sul y Pasg arweiniodd y Parch Olwen Williams ni’n ddychmygus drwy lygaid Mair Magdalen i weld digwyddiadau’r Wythnos Fawr: at artaith ac erchylltra’r Croeshoeliad, a thrwy hynny at fore bach y trydydd dydd a’r cyfarfyddiad hyfryd yn yr ardd.

Roedd bwrlwm ac emosiwn, tyndra ac ofn yr wythnos yn berwi yng nghymeriad Mair Magdalen: ei dryswch a’i galar, ei hunigrwydd ysig ynghanol ei dagrau.

A’r llais, yr enw a’r adnabyddiaeth – ‘dim ond Iesu allai ddweud fy enw fel’na!’ – y tynerwch rhyfeddol, y cyffyrddiad gofalgar a charedig. Gobaith yr atgyfodiad! Goleuni’r trydydd dydd!

Paid â glynu wrthyf, meddai wedyn. Ar ôl y tynerwch, y gorchymyn anodd hwnnw i ollwng gafael.

A ninnau ynghanol y dyddiau o ollwng gafael ar gwmni ein gilydd, o hunanynysu a thorri unrhyw gysylltiad corfforol â theulu a chyfeillion, fe gofiwn fod yr hanes cyntaf hwn o atgyfodiad Iesu wedi bod yn gyfarfyddiad ag unigolyn – gwraig, ar ei phen ei hun, gwraig oedd wedi arfer cael ei hesgymuno a’i gwrthod, gwraig amheus y saith cythraul, gwraig oedd wedi hen arfer hunanynysu rhag pobl eraill a’u gwawdio sarhaus.

Ac er y gorchymyn i beidio â chyffwrdd (William Morgan), i beidio glynu wrthyf (BCN), neu i beidio dal gafael ynof fi (Beibl.net), mae cwlwm y cariad, tynerwch y llais, adnabyddiaeth yr enw yn dal i gydio ynom drwy brofiadau Mair, yn ein cydio’n dynn yn ein gilydd ar draws y gwacter dau fetr a mwy – ac yn ein cofleidio yng nghalon Duw.

‘Mae o/hi wedi gollwng’ ydi cri balch rhiant wrth i blentyn gymryd ei gamau sigledig cyntaf a cherdded.

Beth fyddwn ni’n ei ollwng dros yr wythnosau nesaf fydd yn help i ni symud ymlaen yn gryfach ar ein taith ffydd fel unigolion ac fel eglwysi, tybed?

Sgwrs gyda Steve Chalke (rhan 2)

 

Sgwrs gyda Steve Chalke (Rhan 2)

gyda Huw Spanner

Yn rhan gyntaf y sgwrs fe fuom yn darllen am dröedigaeth a galwad Steve Chalke.

HS Beth am eich cyfrol The Lost Message of Jesus? Fe greodd gynnwrf mawr yn y cylch efengylaidd yr oeddech yn rhan ohono ar y pryd.

SCH Roeddwn wedi darllen brawddeg yn un o lyfrau Tom Wright oedd yn dweud fod Iesu yn fwy o wleidydd na phregethwr: roedd ganddo neges ynglŷn â sut i gynnal bywyd cymdeithasol. Yr oedd hynny yn canu cloch i mi, gan fy mod yn credu mai’r alwad i mi oedd gweithio gyda phobl ar gyrion ein cymdeithas (fel y digartref yn Llundain). Felly fe ysgrifennais gyfrol am Iesu ddaeth â Newyddion Da yn emosiynol, yn addysgiadol, yn gymdeithasol, yn economaidd, yn amgylcheddol – ac yn ysbrydol.

Geiriau cyntaf Iesu ym Marc yw fod ‘Teyrnas Dduw wedi dod yn agos’. Am y Deyrnas y mae’n siarad yn gyson, a bod y Deyrnas honno i bawb yn ddiwahân. Mae neges Iesu yn newyddion da i bawb heddiw, ble bynnag rydyn ni’n byw; ac mae’n thema yn y pedair efengyl, fel yn Luc 4: ‘Mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf oherwydd y mae wedi fy ordeinio i ddwyn newyddion da i dlodion’. Dyna paham y mae’n dweud yn nameg fawr Mathew 25, ‘Pan oeddwn yn newynu, rhoesoch fwyd i mi ’ Mae’n agwedd holistig – cyfanrwydd bywyd – ac rwy’n credu fod bywyd Iesu, ei eiriau, ei ddysgeidiaeth, ei fywyd, yn profi hynny.

HS Efallai’n wir mai dim ond un frawddeg yn y llyfr achosodd yr helynt. Rydych yn cymharu athrawiaeth yr Iawn – yr Iawn Dirprwyol – â ‘cosmic child abuse’!

SCH Cefais fy nghyhuddo o ddefnyddio iaith y mudiad Ffeministaidd Ffrengig, ond nid dyna lle cefais y geiriau. Roedd tafarn yn ymyl swyddfa Oasis (gw. Rhan 1) lle roeddem yn cael cyfle ar nos Wener i sgwrsio â’r cwsmeriaid lleol. Roeddwn yn cyflwyno’r rhaglen deledu GMTV yn y cyfnod hwnnw ac roedd y cwsmeriaid yn hoff iawn o glywed am rai o’r selébs oedd yn cael eu cyf-weld. Yn un o’r nosweithau hynny gofynnodd un wraig i mi, ‘Sut y medrith pobl fel fi gredu mewn Duw sy’n ddig ac sy’n barod i ladd ei fab er mwyn i ni gael maddeuant?’ ‘Mae’n anfoesol’ oedd ei geiriau. Ac yna, meddai: ‘It’s like some kind of cosmic child abuse!’

HS Fe gawsoch eich amddiffyn gan Tom Wright a ddywedodd, i bob pwrpas, ‘Mae Steve Chalke yn uniongred ac yn credu mewn Iawn dirprwyol, ond nid yw’n credu …’

SCH … y fersiwn creulon.

HS Ond onid oeddech chi’n dweud nad yr ateb i’r cwestiwn ‘Pam y daeth Iesu i’r byd?’ yw ‘I farw dros ein pechodau’ ond, yn hytrach, ‘I iacháu a dysgu a datguddio i ni ffordd well o fyw’?

SCH Rwy’n meddwl fod yr efengyl yn cynnwys hynny i gyd.

Mae’r holl dractau a llyfrynnau a ddarllenais yn fy nglaslencyndod – wyddoch chi, mae gan Duw gynllun i’th fywyd/ yr wyt wedi gwneud llanast o’th fywyd/ ni all eich gweithredoedd da fynd â chi i’r nefoedd/ bu Iesu farw ar y groes er dy fwyn di/ dweud y weddi hon ac fe gei dy achub. Roeddwn yn arfer meddwl wrth ddarllen y geiriau, ‘Pam y mae geiriau fel hyn yn anwybyddu bywyd Iesu? Pam nad ydynt yn sôn am yr Atgyfodiad? Ar Sul y Pasg mae efengylwyr eisiau pregethu am y groes ETO. Ac ar y Nadolig. Dyna’r unig neges oedd i’w chlywed. Nid oedd hynny yn gwneud unrhyw synnwyr i mi.’

Roedd The Lost Message of Jesus am fywyd Iesu. Wrth ddod at hanes ei farwolaeth, roedd angen dweud: Duw cariad yw Duw, nid Duw dicter. Nid yw’n ceisio ein dal a’n cyhuddo a’n cael yn euog. Nid oes gan Dduw gyfraith foesol wahanol i ni – Ef wedi’r cyfan sydd am i ni faddau a pheidio â ‘gadael i’r haul fachlud ar ein digofaint’. Ac eto, deallwn fod miloedd o fachludoedd wedi bod ar ei ddicter Ef – fel petaent wedi eu storio cyn rhyddhau’r cyfan ar ei Fab. Nid oedd yn gwneud unrhyw synnwyr i mi.

Mae’n rhaid i’r Newyddion Da fod am rhywbeth mwy a gwell sy’n gweddnewid bywyd. Mae’r gair ‘Edifarhewch’ wedi magu ystyr negyddol: ’Edifarhewch neu uffern sydd o’ch blaen.’ Ond mae angen gweld pob peth yn wahanol: Mae bywyd yma! Dathlwch! Llawenhewch.

Yng nghynhadledd Cristnogaeth21 yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, 12 Medi, fe fydd Steve Chalke yn cyflwyno ac yn trafod ei gyfrol newydd, The Lost Message of Paul.

Bydd mwy o fanylion ar wefan Cristnogaeth 21 yn fuan.

 

Yr Wythnos Fawr Mewn Hanner Awr

Yr Wythnos Fawr Mewn Hanner Awr
Karen Owen

YR WYTHNOS FAWR MEWN HANNER AWR

Ar CD ac ar Facebook – leisiau yn dweud stori’r Pasg yn ystod lockdown 2020

Adnodd sain ar Facebook ar gyfer cyfnod y Pasg

Mae hanes wythnos olaf bywyd Iesu Grist yn un o straeon mawr y byd – ac nid i Gristnogion yn unig.

Mae’n llawn emosiwn a gwleidyddiaeth, mae’n trafod cyfeillgarwch a theulu, ffyddlondeb a brad, a sut y mae’r bobol fawr sy’n rhedeg y byd yn cymryd yn erbyn dyn ifanc sydd yn meiddio herio’r drefn.

Yn Jerwsalem tua’r flwyddyn 33 OC yr oedd hynny, ond mae’r stori bellach yn fwy na’r un capel, eglwys a mosg.

Wrth i’r feirws COVID-19 ymledu eleni, ac wrth i ninnau orfod aros yn ein tai a chanslo oedfaon ffurfiol, mi fyddai’n biti meddwl bod y Pasg yn pasio heb i ni glywed y stori.

A dyna ydi pwrpas y CD yma – sydd am ddim i chi ac i bawb yr ydach chi’n dewis ei rhannu hi efo nhw.

Bydd y cynnwys hefyd ar gael ar Facebook a YouTube. Chwiliwch am ‘Yr Wythnos Fawr mewn hanner awr’.

Fydd pob un ohonan ni ddim yn credu yr un fath. Efallai na fyddwn ni’n cytuno ar y manylion. Ond gobeithio y bydd pawb yn cael rhyw fudd o ail-gerdded y llwybr o’r deml i’r oruwch ystafell, o Gethsemane i Golgotha, yn ȏl traed Iesu Grist.

Mi glywn ni am Pedr a Jwdas Iscariot, am Mair Magdalen a Herod a Peilat… cyn i fywyd dyn ifanc ddod yn symbol o’r ffordd y mae gobaith y gwanwyn, yn y diwedd, yn trechu duwch drygioni a feirws.

Mi fydd yn Basg gwahanol eleni. Ond mae rhai pethau yn oesol ac yn werth eu clywed drachefn a thrachefn. Mwynhewch y gwrando.

Sut a phryd y mae gwrando?

Gellir gwrando ar dudalen arbennig Facebook 

Mae’r CD yn cynnwys pump trac, ac mae modd gwrando ar un eisteddiad, neu mi fedrwch wrando ychydig bob dydd rhwng Sul y Blodau a Sul y Pasg (Ebrill 5-12). Mae’r stori gyfan yn cael ei dweud mewn hanner awr. Mae modd rhwygo’r traciau mp3 oddi ar y CD er mwyn eu llwytho i’ch ffȏn neu i go’ bach (USB) a chario’r stori o gwmpas efo chi. Mi fedrwch chi hyd yn oed gyd-ddarllen efo’r lleisiau (dim yn syniad da os ydach chi’n gwrando tra’n dreifio car neu’n smwddio dillad).

Trac 1 – Sul y Blodau

Yr ymdaith fuddugoliaethus i mewn i Jerwsalem

 Trac 2 – Dydd Llun dydd Mawrth dydd Mercher

Y mwyaf yn nheyrnas nefoedd… Yr eneinio ym Methania… Glanhau’r deml… Iesu’n rhagfynegi ei farwolaeth… Jwdas yn cytuno i fradychu Iesu… Paratoi gwledd y Pasg

 Trac 3 Nos Iau Cablyd

Golchi traed y disgyblion… Iesu’n rhagfynegi ei fradychu… Sefydlu swper yr Arglwydd… Y weddi ar Fynydd yr Olewydd… Dal a bradychu Iesu… Addewid Pedr

 Trac 4 – Gwener y Groglith

Iesu gerbron y Sanhedrin… Milwyr yn gwatwar Iesu… Peilat yn holi Iesu… Iesu gerbron Herod… Pedr yn gwadu Iesu… Peilat yn dedfrydu Iesu i farwolaeth… Y milwyr yn hebrwng Brenin yr Iddewon… Croeshoelio Iesu… Marwolaeth Iesu… Joseff o Arimathea… Claddu corff Iesu

Trac 5 – Y Saboth a Sul y Pasg

Y gwarchodlu wrth y bedd… Atgyfodiad Iesu… Iesu’n ymddangos i Mair Magdalen

Lleisiau’r hunan-ynysu yn rhannu’r stori

Trwy recordio darnau ohoni ar ffonau symudol y mae’r stori yma’n cael ei dweud eleni. Does neb wedi bod ar gyfyl yr un stiwdio, dim ond siarad y geiriau o’r Beibl i mewn i’w teclynau, cyn eu rhannu ar y we. Mae’r lleisiau’n amrywio o 18-72 oed…

Marian Ifans, Arfon Wyn, Gwilym Sion Prithard, Karen Owen, Cai Fȏn Davies, Manon Vaughan Wilkinson, Bob Morris, John Dilwyn Williams, Siân Teifi, Tudur Dylan Jones, Lleuwen Steffan, Alun Ffred Jones, Leisa Gwenllian, Carwyn John, Rhian Roberts, John M Pritchard, Dyfrig Wyn Evans, Sara Lloyd Evans, Dewi Llwyd, Dei Tomos, Aled Jones Williams, Judith Humphreys, Talfryn Griffiths, Cefin Roberts, Anni Llŷn.    

Diolch hefyd i Richard Durrell am ei gyngor a’i glust fain; ac i Emyr Rhys, Stiwdio Aran, am y CDs.

O Sul y Palmwydd i Sul y Pasg 2020

O Sul y Palmwydd i Sul y Pasg 2020

Sul y Palmwydd

Ac meddai rhai o’r Phariseaid wrtho o’r dyrfa, ‘Athro, cerydda dy ddisgyblion.’ Atebodd yntau, ’Rwy’n dweud wrthych, os bydd y rhain yn tewi, bydd y cerrig yn gweiddi.’ (Luc 19.39)

Llonydd fydd Sul y Palmwydd eleni:
dim gorymdeithio, dim chwifio’r canghennau,
dim ebol asyn a thyrfa camera yn gweiddi,
‘Hosanna’,
na phrotest yn y deml,
dymchwel byrddau’r farchnad
a’r muriau sy’n ymyrryd
â gwaith Creawdwr byd.

Llonydd
yw’r llun hardd o’r Brenin tlawd
yn dod yn dawel i deyrnas
cariad, cymod a thangnefedd
ei Dad;
dod yn ostyngedig ddigoron
i ganol grymoedd teyrnasoedd daear.

Llonydd yw’r dydd
fel mynwent oer, ddiflodau,
heb neb yn galaru wrth fedd anwyliaid.
Mae Sul y Blodau wedi ei ohirio.

Ond mae’r Brenin tlawd, di-gledd wedi dod
ac yn dod eto ac eto i herio ein hanes,
ac ni all disgyblion beidio â sôn
nad llonydd
yw’r Aflonyddwr Addfwyn hwn
ac nad oes atal
ei deyrnas dawel.

Ac ni fydd y cerrig yn gweiddi.

Wrth i ni gofio’r hanes yr wythnos hon, Arglwydd, diolch ein bod yn cael cyfnodau o wybod fod Aflonyddwr Adddfwyn Sul y Palmwydd yr un o hyd.

 Dydd Gwener y Groglith

 Daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o’r gloch y prynhawn a’r haul wedi diffodd. (Luc 23.44–5)

Ni fydd cario croes eleni,
ni fydd cyfle i wasgu’n dyrfa,
ni fydd llys barn yn eistedd,
ni chaiff disgyblion fod gyda’i gilydd
i dorri bara neu i ganu’r hen emynau
ac fe fydd llwybrau cyhoeddus
Gethsemane a Golgotha ar gau.

Ond mae’r galar a’r gofid yn nes nag erioed
a chyrff a marwolaeth yn cydio’r ddynoliaeth
mewn creulondeb cyfarwydd:
marwolaeth plant wrth y miloedd o newyn,
lladd y diniwed mewn rhyfela didiwedd,
ffoaduriarid yn ffoi i wersylloedd heintiau.

Llawn cystal i oes ac i ddyddiau fel hyn
sy’n gyfarwydd â galar
ohirio, am y tro, Gwener y Groglith.

Heddiw yn yr Eidal,
tarddle lluniau a cherfluniau ac eglwysi,
seremonïau a chorau
darddodd o’r dydd Gwener hwn
heb hawl na chaniatâd
i ymyrryd na dwyn urddas
marwolaeth unigolyn,
na hawl teulu a chymdeithas
i alaru’n dawel –
heb gwestiynau’r
siniciaid amheus.

Mae Groglith Iesu eleni
yn fwy
na drama’r dioddefaint.

Agor ein llygaid a’n calonnau a’n meddyliau, Arglwydd, i dreiddio’n ddyfnach i dywyllwch a dioddefaint ein byd, i weld y golau yn nhywyllwch ganol dydd y dydd hwn a’r wythnos hon.

 Sul y Pasg

 Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, ar doriad gwawr, daethant at y bedd … ac yr oedd y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd oddi wrth y bedd. (Luc 24.1,2)

Ni fydd awyrennau na threnau na llongau
i ymwelwyr haul i ddathlu’r Pasg eleni
ac ni fydd emynau na chorau –
yn atsain ‘Cododd Iesu’.

Ond o fedd y feirws
mae gwanwyn yn ffrwydro,
mae cenhedloedd yn cydio dwylo,
mae gwyddonwyr yn cydymchwilio,
mae meddygon a nyrsys, yn ddiflino, yn llafurio,
mae gwirfoddolwyr yn heidio,
mae gwleidyddion yn cydweithio,
mae’r cread yn cael ei ddiheintio
mae ysbytai yn cael eu hadeiladu,
mae gwerthoedd yn cael cadarnhau,
mae bywyd yn cael ei ddyrchafu.

Heddiw, dydd dagrau Mair
–  a sychwyd,
ac ofn disgyblion,
–  a dawelwyd;
mae tywyllwch ac anobaith a marwolaeth
yn doriad gwawr
Gobaith
Goleuni
Bywyd,
ac mae Iesu
Sul y Palmwydd a Sul y Pasg
ar ei daith oesol
ddi-droi’n-ôl
na fydd byth, bellach,
yn dod i ben.

Ti, Greawdwr y cread a rhoddwr bywyd, diolch ein bod, oherwydd Iesu, yn cael ein gwahodd a’n denu i fod yn Bobl y Pasg mewn cyfnod mor dywyll.

JPG

Phoebe

Phoebe – yr un sy’n disgleirio
Enid R. Morgan

Pan oeddwn yn blentyn, ‘Anti Ffebi’ oedd mam Anti May a lechai yn ei llofft gan lywodraethu’r cartre i gyd oddi yno. Yr oedd hi’n hen iawn, iawn, ac os rhywbeth yr oedd arnaf ei hofn hi. Ond yn ddiweddarach, wrth ymdrechu yn y ddadl dros ordeinio gwragedd, deuthum yn hoff iawn o’r enw gan fod Paul yn ei lythyr at y Rhufeiniaid yn sôn amdani hi fel ‘diakon’, yn wir fel cyd-weithiwr ag ef.

Wyddwn i ddim mai ystyr yr enw yw ‘un sy’n disgleirio’, a minnau wedi bod yn ddigon hy i ddefnyddio’r gair fel ffugenw o dro i dro.

Dyna reswm felly dros brynu ffuglen (nid nofel) dan yr enw Phoebe gan ddiwinydd praff o’r enw Paula Gooder. Mae hi’n ganghellor Eglwys Gadeiriol St Paul yn Llundain. Nid yw’n gweu stori gyffrous a phoblogaidd megis yn y nofelau o’r ganrif ddiwethaf fel The Big Fisherman a The Robe. Ond y mae hi’n procio’n dychymyg wrth roi cnawd ac esgyrn o gwmpas rhai o’r cymeriadau nad ydynt yn fwy nag enwau bellach yn epistolau’r Testament Newydd ac yn gweu darlun byw iawn o’r gymdeithas newydd a grëwyd gan Gristnogion o gefndiroedd tra gwahanol. Mae hi’n dangos bod y ffydd yn cynnig ffordd gwbl newydd o feddwl ac ymddwyn fyddai’n herio cymdeithas hierarchaidd Rhufain. Dyna paham y denwyd cymaint o wragedd a chaethion, a pham ei bod mor anodd i gyfoethogion a bonedd dderbyn yr her.

Rydyn ni wedi arfer dychmygu sut gymeriadau oedd pobl yr efengylau a gwyddom y straeon amdanynt. Does dim cymaint i’w gael am Junia, nac am Prisca ac Acwila, nac am Titus a Marc.

Mae’n bywhau’r cefndir i’r hyn a alwyd yn ‘Efengyl yn ôl Paul’ yn gampus ddarllenadwy, ac ar ddiwedd y stori ceir nodiadau darllenadwy-ysgolheigaidd. Ffordd ddiog o wneud astudiaeth Feiblaidd!

Os bydd hi’n dal yn bosibl archebu llyfrau drwy’r post yn y cyfyngder presennol, yna archebwch gopi. Mae’n ddarllenadwy ac yn apelio i’r dychymyg a’r deall. Ac nid yw’n mentro cyfleu Paul fel cymeriad annwyl a chariadus chwaith!

Paula Gooder, Phoebe: a Story (Hodder, 2019; £8.99)

 

Rheol Buchedd Fach

RHEOL BUCHEDD FACH

I’R GARAWYS

Annerch y dydd trwy ddiolch am ddiogelwch y nos.
Ailgynnau a meithrin tân y galon.
Gwarchod bywyd ar y cilcyn yma o ddaear.
Gweithio, gweddïo, gorffwys.
Osgoi barnu.
Peidio gwneud drwg.
Meddwl am bethau sy’n cyfrif.
Gochel manion dibwys.
Talu sylw i’r corff.
Croesawu gwesteion a dieithriaid.
Derbyn beth ddaw yn ddiolchgar.
Croesawu’r nos gyda dewrder.
Adolygu’r dydd a chofio’r pethau
          bychain llon na sylwyd arnynt ar y pryd.
Yna, yn y tywyllwch, ymddiried.

Llurig Sant Padrig

Llurig Sant Padrig

Yn emyn, yn weddi, yn fyfyrdod, yn adlais o weddïau’r Hen Destament a siantiau’r Derwyddon ond yn Grist ganolog, mae geiriau Padrig yn mynd â ni yn ôl i’r oes lle roedd bywyd o ddydd i ddydd yn llawn peryglon a dychryn. Ar ddydd Gŵyl Padrig eleni, fe dynnwyd sylw, yn fwy nag erioed o‘r blaen, gan bob traddodiad Cristnogol yn Iwerddon at eiriau Padrig pan gyhoeddwyd mesurau argyfwng llym yn y wlad yn dilyn y patrwn drwy Ewrop a’r byd.

Mae’r ymateb i’r Coronafirws yn nodweddiadol o’r ofnau a’r cwestiynau mewn cyfnod o argyfwng: mwy o gwestiynau nag atebion, mwy o ofergoeliaeth na rhesymeg, mwy o sinigiaeth na ffydd. Ond mae geiriau Sant Padrig wedi cyfeirio cenedlaethau at gadernid a gobaith mewn Duw a ddaeth yn ddigon agos atom i rannu ein dynoliaeth yn Iesu. Nid atebion syml sydd yma, ond bod Duw’r Creadwr yng nghanol popeth ac mai byd da yw hwn. ‘The Catheral of Creation’ oedd teitl un pennod o gyfrol John Robinson, Rediscovering the Celts.

Mae’r llurig yn faith ac mae sawl fersiwn i’w gael. O gofio i Badrig farw yn 461, go brin y gallai’r cyfan fod yn waith Padrig ei hun, ac mae’n bosibl fod disgyblion i Badrig wedi ychwanegu ati dros y blynyddoedd. Dyma ddetholiad o’r llurig ar gyfer 2020 gydag ychwanegiad byr ar y diwedd.

Anadlaf yn nerth fy Nuw,
galwaf enw’r Tri yn Un
ar fy nhaith …

Anadlaf yn nerth y nef
gyda geni Crist,
gyda chariad ei groes,
a grym ei atgyfodiad.

Anadlaf yn nerth fy Nuw
dan las y nef a’r nefoedd,
oleuni llachar yr haul
a dirgelwch mawr y lleuad,
yn llewyrch y tân,
yn fflachiadau’r mellt, yng nghyflymder y gwynt,
yn nyfnder y cefnfor, yng ngwreiddiau’r ddaear,
yng nghadernid y graig.

Anadlaf yn nerth fy Nuw
gyda’i gariad i’m harwain,
Ei nerth i’m cynnal, ei ddoethineb i’m cyfarwyddo,
Ei lygaid i weld imi,
Ei glust i glywed imi,
Ei air i lefaru wrthyf,
Ei ffordd i godi o’m blaen,
Ei darian i’m hamddiffyn
rhag bygythiadau, rhag temtasiynau,
rhag ofnau …

Crist i’m gwared heddiw
rhag gwenwyno, rhag llosgi,
rhag boddi, rhag anafu …

Crist heddiw o’m hamgylch i,
ar y dde i mi, ar y chwith i mi,
oddi mewn imi,
oddi uchod i’m codi, oddi tanaf i’m cynnal,
o’m blaen i’m harwain.
o’m hôl i’m hatal,
o’m hamgylch i’m hamddiffyn.

Anadlaf yn nerth fy Arglwydd Dduw
ar fy ffordd …
Greawdwr y cread da,
diolch am ofalwyr dy gread,
a gwarchodwyr bywyd,
am ddoniau iacháu ac adfer,
am y gobaith sydd ym mhob goleuni
ac am gael cydgerdded i gyfeiriad
gwanwyn tawel Dy gariad.

Pandemig

Pandemig

Addasiad Enid Morgan o gerdd gan Lynn Ungar, bardd a gweinidog gyda’r Undodiaid (Church for the Larger Fellowship :https://www.questformeaning.org/), sy’n byw yn San Francisco.
 
Mae ei cherdd bellach wedi ei rhannu ar hyd ac ar led y cyfryngau cymdeithasol: http://www.lynnungar.com/poems/pandemic/?fbclid=IwAR20BVpdW_Xw6sRno3Xk66UBTxGz9-LIa0HSOmfL2wpZ2GvXKEo5_Korwho
 
Gyda diolch i Lynn Ungar am ryddhau’r gerdd i’r byd ac i Enid Morgan am ei haddasu i’r Gymraeg – with deep thanks to Lynn Ungar for releasing the poem to the world, and to Enid Morgan for translation.


Beth am feddwl amdano
fel y mae’r Iddewon yn ystyried y Sabath –
yr amser mwyaf sanctaidd?

Rhowch y gorau i deithio,
rhowch y gorau i werthu a phrynu.
Rhowch y gorau am y tro
i ymdrechu i newid y byd.

Canwch.

Gweddïwch.

Cyffyrddwch yn unig
â’r rhai y byddech yn ymddiried eich bywyd iddynt.
Ymdawelwch.
A phan fydd eich corff wedi llonyddu
estynnwch eich calon.
Gwybyddwch fod cysylltiad rhyngom
mewn ffyrdd sy’n arswydus a phrydferth.
(Fedrwch chi ddim gwadu hynny nawr.)
Sylweddolwch fod ein bywydau                 
yn nwylo’n gilydd.
(Rhaid bod hynny wedi gwawrio erbyn hyn.)

Peidiwch estyn eich dwylo,
estynnwch eich calon;
estynnwch eich geiriau.
Estynnwch fân frigau trugaredd
sy’n estyn a symud
i’r mannau na allwn eu cyrraedd.

Addawch eich cariad i’r byd
er gwell, er gwaeth,
mewn gwynfyd ac adfyd,
cyhyd ag y byddwch byw.