Sgwrs gyda Steve Chalke (rhan 2)

 

Sgwrs gyda Steve Chalke (Rhan 2)

gyda Huw Spanner

Yn rhan gyntaf y sgwrs fe fuom yn darllen am dröedigaeth a galwad Steve Chalke.

HS Beth am eich cyfrol The Lost Message of Jesus? Fe greodd gynnwrf mawr yn y cylch efengylaidd yr oeddech yn rhan ohono ar y pryd.

SCH Roeddwn wedi darllen brawddeg yn un o lyfrau Tom Wright oedd yn dweud fod Iesu yn fwy o wleidydd na phregethwr: roedd ganddo neges ynglŷn â sut i gynnal bywyd cymdeithasol. Yr oedd hynny yn canu cloch i mi, gan fy mod yn credu mai’r alwad i mi oedd gweithio gyda phobl ar gyrion ein cymdeithas (fel y digartref yn Llundain). Felly fe ysgrifennais gyfrol am Iesu ddaeth â Newyddion Da yn emosiynol, yn addysgiadol, yn gymdeithasol, yn economaidd, yn amgylcheddol – ac yn ysbrydol.

Geiriau cyntaf Iesu ym Marc yw fod ‘Teyrnas Dduw wedi dod yn agos’. Am y Deyrnas y mae’n siarad yn gyson, a bod y Deyrnas honno i bawb yn ddiwahân. Mae neges Iesu yn newyddion da i bawb heddiw, ble bynnag rydyn ni’n byw; ac mae’n thema yn y pedair efengyl, fel yn Luc 4: ‘Mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf oherwydd y mae wedi fy ordeinio i ddwyn newyddion da i dlodion’. Dyna paham y mae’n dweud yn nameg fawr Mathew 25, ‘Pan oeddwn yn newynu, rhoesoch fwyd i mi ’ Mae’n agwedd holistig – cyfanrwydd bywyd – ac rwy’n credu fod bywyd Iesu, ei eiriau, ei ddysgeidiaeth, ei fywyd, yn profi hynny.

HS Efallai’n wir mai dim ond un frawddeg yn y llyfr achosodd yr helynt. Rydych yn cymharu athrawiaeth yr Iawn – yr Iawn Dirprwyol – â ‘cosmic child abuse’!

SCH Cefais fy nghyhuddo o ddefnyddio iaith y mudiad Ffeministaidd Ffrengig, ond nid dyna lle cefais y geiriau. Roedd tafarn yn ymyl swyddfa Oasis (gw. Rhan 1) lle roeddem yn cael cyfle ar nos Wener i sgwrsio â’r cwsmeriaid lleol. Roeddwn yn cyflwyno’r rhaglen deledu GMTV yn y cyfnod hwnnw ac roedd y cwsmeriaid yn hoff iawn o glywed am rai o’r selébs oedd yn cael eu cyf-weld. Yn un o’r nosweithau hynny gofynnodd un wraig i mi, ‘Sut y medrith pobl fel fi gredu mewn Duw sy’n ddig ac sy’n barod i ladd ei fab er mwyn i ni gael maddeuant?’ ‘Mae’n anfoesol’ oedd ei geiriau. Ac yna, meddai: ‘It’s like some kind of cosmic child abuse!’

HS Fe gawsoch eich amddiffyn gan Tom Wright a ddywedodd, i bob pwrpas, ‘Mae Steve Chalke yn uniongred ac yn credu mewn Iawn dirprwyol, ond nid yw’n credu …’

SCH … y fersiwn creulon.

HS Ond onid oeddech chi’n dweud nad yr ateb i’r cwestiwn ‘Pam y daeth Iesu i’r byd?’ yw ‘I farw dros ein pechodau’ ond, yn hytrach, ‘I iacháu a dysgu a datguddio i ni ffordd well o fyw’?

SCH Rwy’n meddwl fod yr efengyl yn cynnwys hynny i gyd.

Mae’r holl dractau a llyfrynnau a ddarllenais yn fy nglaslencyndod – wyddoch chi, mae gan Duw gynllun i’th fywyd/ yr wyt wedi gwneud llanast o’th fywyd/ ni all eich gweithredoedd da fynd â chi i’r nefoedd/ bu Iesu farw ar y groes er dy fwyn di/ dweud y weddi hon ac fe gei dy achub. Roeddwn yn arfer meddwl wrth ddarllen y geiriau, ‘Pam y mae geiriau fel hyn yn anwybyddu bywyd Iesu? Pam nad ydynt yn sôn am yr Atgyfodiad? Ar Sul y Pasg mae efengylwyr eisiau pregethu am y groes ETO. Ac ar y Nadolig. Dyna’r unig neges oedd i’w chlywed. Nid oedd hynny yn gwneud unrhyw synnwyr i mi.’

Roedd The Lost Message of Jesus am fywyd Iesu. Wrth ddod at hanes ei farwolaeth, roedd angen dweud: Duw cariad yw Duw, nid Duw dicter. Nid yw’n ceisio ein dal a’n cyhuddo a’n cael yn euog. Nid oes gan Dduw gyfraith foesol wahanol i ni – Ef wedi’r cyfan sydd am i ni faddau a pheidio â ‘gadael i’r haul fachlud ar ein digofaint’. Ac eto, deallwn fod miloedd o fachludoedd wedi bod ar ei ddicter Ef – fel petaent wedi eu storio cyn rhyddhau’r cyfan ar ei Fab. Nid oedd yn gwneud unrhyw synnwyr i mi.

Mae’n rhaid i’r Newyddion Da fod am rhywbeth mwy a gwell sy’n gweddnewid bywyd. Mae’r gair ‘Edifarhewch’ wedi magu ystyr negyddol: ’Edifarhewch neu uffern sydd o’ch blaen.’ Ond mae angen gweld pob peth yn wahanol: Mae bywyd yma! Dathlwch! Llawenhewch.

Yng nghynhadledd Cristnogaeth21 yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, 12 Medi, fe fydd Steve Chalke yn cyflwyno ac yn trafod ei gyfrol newydd, The Lost Message of Paul.

Bydd mwy o fanylion ar wefan Cristnogaeth 21 yn fuan.