Paid â glynu wrthyf

Paid â glynu wrthyf – paid dal gafael ynof fi
(Beibl.net)

Ers tair wythnos bellach mae aelodau Eglwys y Berth, Penmaen-mawr, wedi cynnal eu hoedfaon dros y ffôn. Y Sul cyntaf, y gynulleidfa ffyddlon wythnosol oedd yno – ynghyd ag Elwyn, y trysorydd, sy’n byw yng Nghaeredin. Mae’r gynulleidfa bellach wedi tyfu i gynnwys aelodau eglwysi eraill o Lanbryn-mair; Dryslwyn, Sir Gaerfyrddin; Tal-y-bont, Conwy; a Chasnewydd!

Yn ein Ffoniadaeth y Cysegr ar Sul y Pasg arweiniodd y Parch Olwen Williams ni’n ddychmygus drwy lygaid Mair Magdalen i weld digwyddiadau’r Wythnos Fawr: at artaith ac erchylltra’r Croeshoeliad, a thrwy hynny at fore bach y trydydd dydd a’r cyfarfyddiad hyfryd yn yr ardd.

Roedd bwrlwm ac emosiwn, tyndra ac ofn yr wythnos yn berwi yng nghymeriad Mair Magdalen: ei dryswch a’i galar, ei hunigrwydd ysig ynghanol ei dagrau.

A’r llais, yr enw a’r adnabyddiaeth – ‘dim ond Iesu allai ddweud fy enw fel’na!’ – y tynerwch rhyfeddol, y cyffyrddiad gofalgar a charedig. Gobaith yr atgyfodiad! Goleuni’r trydydd dydd!

Paid â glynu wrthyf, meddai wedyn. Ar ôl y tynerwch, y gorchymyn anodd hwnnw i ollwng gafael.

A ninnau ynghanol y dyddiau o ollwng gafael ar gwmni ein gilydd, o hunanynysu a thorri unrhyw gysylltiad corfforol â theulu a chyfeillion, fe gofiwn fod yr hanes cyntaf hwn o atgyfodiad Iesu wedi bod yn gyfarfyddiad ag unigolyn – gwraig, ar ei phen ei hun, gwraig oedd wedi arfer cael ei hesgymuno a’i gwrthod, gwraig amheus y saith cythraul, gwraig oedd wedi hen arfer hunanynysu rhag pobl eraill a’u gwawdio sarhaus.

Ac er y gorchymyn i beidio â chyffwrdd (William Morgan), i beidio glynu wrthyf (BCN), neu i beidio dal gafael ynof fi (Beibl.net), mae cwlwm y cariad, tynerwch y llais, adnabyddiaeth yr enw yn dal i gydio ynom drwy brofiadau Mair, yn ein cydio’n dynn yn ein gilydd ar draws y gwacter dau fetr a mwy – ac yn ein cofleidio yng nghalon Duw.

‘Mae o/hi wedi gollwng’ ydi cri balch rhiant wrth i blentyn gymryd ei gamau sigledig cyntaf a cherdded.

Beth fyddwn ni’n ei ollwng dros yr wythnosau nesaf fydd yn help i ni symud ymlaen yn gryfach ar ein taith ffydd fel unigolion ac fel eglwysi, tybed?