E-fwletin Sul y Pasg, 2020

Ni fethodd gweddi daer erioed…

Diddorol oedd deall fod y Pab Francis yn annog Catholigion i droi’n union at Dduw i geisio maddeuant os nad oedd offeiriad ar gael i’w harwain mewn cyffes yn ystod yr argyfwng presennol. Yn eu paratoadau ar gyfer y Pasg, mae’n arfer gan lawer o Gatholigion i ymweld ag offeiriad i gyffesu’u pechodau. Esboniodd y Pab ei bod yn gwbl bosibl iddynt nesáu at faddeuant Duw heb gael offeiriad wrth law.

A dyma feddwl am ein sefyllfa ni, gapelwyr ac eglwyswyr, y dyddiau hyn. Mae’n hadeiladau ar gau a’r cyfle i ni ddod at ein gilydd  i addoli dan  arweiniad gweinidog neu glerigwr, dyweder, wedi diflannu dros dro. Diolch, wrth gwrs, am ymdrechion glew y cyfryngau torfol a chymdeithasol i’n cadw ynghyd. Buom yn araf iawn at ei gilydd i fabwysiadu’r diwylliant digidol ac addasu iddo ac onid yw’n eironig fel mae Covid-19 wedi’n gorfodi ni, gerfydd ein clustiau ambell waith, i’r cyfeiriad hwnnw.

Ond nid yw hyd yn oed y cyfryngau cymdeithasol yn gallu llanw’r gwacter yn llwyr ychwaith. A phan mae’n byd yn newid yn syfrdanol a’n trefn feunyddiol yn chwalu, mae gofyn i ni yn ein bywyd personol addasu i sefyllfa newydd a mabwysiadu trefn amgen yn ein hunigedd mewn ymdrech i gynnal iechyd meddwl ac ysbrydol da.

Wrth feddwl, dyw unigedd ddim yn sefyllfa hollol anobeithiol i gyflawni hynny ychwaith  Hyd yn oed mewn sefyllfa fel hon dydyn ni ddim yn bell oddi wrth Dduw. Yn wir, gall unigedd ein helpu i nesáu at Dduw – dim ond i ni ddefnyddio’n hamser yn ddoeth.

Y ffordd orau i ddysgu am werth unigedd yw drwy edrych ar fywyd Iesu ei hunan. Rydyn ni’n darllen yn y Beibl fel y byddai’n mynd wrth ei hunan i le unig neu i ben mynydd i weddïo.  Byddai’n ymwahanu oddi wrth ei bobl, gweithgareddau bywyd bob dydd a gofynion ei weinidogaeth  er mwyn treulio amser yn unig gyda Duw.  Byddai’n gwneud hynny gyda’r hwyr neu’n gynnar yn y bore fel y gallai roi ei holl feddwl yn llwyr ar Dduw. Gwnaeth hynny wrth baratoi ar gyfer tasgau arbennig. Aeth allan i’r mynydd, er enghraifft, a threulio noson gyfan wrth ei hunan yn gweddïo ar Dduw cyn gwneud penderfyniad pwysig yn gynnar yn ei weinidogaeth, sef dewis ei ddeuddeg disgybl  A chododd yn gynnar a mynd ymaith i le unig i weddïo cyn dechrau taith bregethu drwy holl Galilea. Byddai’n troi at weddi mewn unigrwydd yng nghanol gofid mawr. Gwnaeth hynny cyn iddo gael ei restio pan aeth ymlaen ychydig oddi wrth ei ddisgyblion yng Ngardd Gethsemane i weddïo. Gweddi oedd sylfaen ei weinidogaeth.  Treuliodd sawl tro’n encilio i fannau unig i weddio ac mae’n ein hannog ninnau i droi at Dduw yn yr un modd er mwyn ini ddod i’w adnabod fel Tad. A mwy na hynny, fe’n dysgodd sut i weddïo.

Ydy, mae cyngor y Pab i’w braidd yr un mor berthnasol i ninnau. Yng nghanol ein hunigedd presennol, mae modd i ni fanteisio ar y cyfle euraidd sydd gennym i gysylltu’n union â Duw mewn gweddi i erfyn am ei faddeuant a’i gynhaliaeth mewn bywyd.