Archif Tag: atgyfodiad

Paid â glynu wrthyf

Paid â glynu wrthyf – paid dal gafael ynof fi
(Beibl.net)

Ers tair wythnos bellach mae aelodau Eglwys y Berth, Penmaen-mawr, wedi cynnal eu hoedfaon dros y ffôn. Y Sul cyntaf, y gynulleidfa ffyddlon wythnosol oedd yno – ynghyd ag Elwyn, y trysorydd, sy’n byw yng Nghaeredin. Mae’r gynulleidfa bellach wedi tyfu i gynnwys aelodau eglwysi eraill o Lanbryn-mair; Dryslwyn, Sir Gaerfyrddin; Tal-y-bont, Conwy; a Chasnewydd!

Yn ein Ffoniadaeth y Cysegr ar Sul y Pasg arweiniodd y Parch Olwen Williams ni’n ddychmygus drwy lygaid Mair Magdalen i weld digwyddiadau’r Wythnos Fawr: at artaith ac erchylltra’r Croeshoeliad, a thrwy hynny at fore bach y trydydd dydd a’r cyfarfyddiad hyfryd yn yr ardd.

Roedd bwrlwm ac emosiwn, tyndra ac ofn yr wythnos yn berwi yng nghymeriad Mair Magdalen: ei dryswch a’i galar, ei hunigrwydd ysig ynghanol ei dagrau.

A’r llais, yr enw a’r adnabyddiaeth – ‘dim ond Iesu allai ddweud fy enw fel’na!’ – y tynerwch rhyfeddol, y cyffyrddiad gofalgar a charedig. Gobaith yr atgyfodiad! Goleuni’r trydydd dydd!

Paid â glynu wrthyf, meddai wedyn. Ar ôl y tynerwch, y gorchymyn anodd hwnnw i ollwng gafael.

A ninnau ynghanol y dyddiau o ollwng gafael ar gwmni ein gilydd, o hunanynysu a thorri unrhyw gysylltiad corfforol â theulu a chyfeillion, fe gofiwn fod yr hanes cyntaf hwn o atgyfodiad Iesu wedi bod yn gyfarfyddiad ag unigolyn – gwraig, ar ei phen ei hun, gwraig oedd wedi arfer cael ei hesgymuno a’i gwrthod, gwraig amheus y saith cythraul, gwraig oedd wedi hen arfer hunanynysu rhag pobl eraill a’u gwawdio sarhaus.

Ac er y gorchymyn i beidio â chyffwrdd (William Morgan), i beidio glynu wrthyf (BCN), neu i beidio dal gafael ynof fi (Beibl.net), mae cwlwm y cariad, tynerwch y llais, adnabyddiaeth yr enw yn dal i gydio ynom drwy brofiadau Mair, yn ein cydio’n dynn yn ein gilydd ar draws y gwacter dau fetr a mwy – ac yn ein cofleidio yng nghalon Duw.

‘Mae o/hi wedi gollwng’ ydi cri balch rhiant wrth i blentyn gymryd ei gamau sigledig cyntaf a cherdded.

Beth fyddwn ni’n ei ollwng dros yr wythnosau nesaf fydd yn help i ni symud ymlaen yn gryfach ar ein taith ffydd fel unigolion ac fel eglwysi, tybed?

Pasg 2018

PASG 2018 (Marc 16:1–8)

“Peidiwch ag arswydo. Yr ydych yn ceisio Iesu, y gŵr o Nasareth a groeshoeliwyd. Y mae wedi ei gyfodi; nid yw yma; dyma’r man lle gosodasant ef. Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Pedr. ‘Y mae’n mynd o’ch blaen chwi i Galilea: yno y gwelwch ef, fel y dywedodd wrthych.’”

 ‘Pasg llawen!’– dyna’r ymadrodd cyfoes, yntê, tebyg i’r Saesneg: ‘Happy Easter!’

Maen nhw’n gwneud y pethau hyn yn well yng ngwlad Groeg. Hyd yn oed mewn gwesty digon syml fe fydd ymwelwyr yn derbyn wy wedi’i ferwi’n galed a’r anerchiad ‘Christos Anneste’. A phan fydd rhywun yn clywed y geiriau, yr ateb iawn yw ‘Alithos Anneste’.  Mae’n trosi’n hawdd i’r Gymraeg ac yn rhan o’n gwasanaeth ni’r bore ’ma.

 Atgyfododd Crist – atgyfododd yn wir.

Y trafferth yw y bydden ni’r Cymry’n rhy swil o lawer i’w ddweud y tu allan i furiau’r eglwys. Ond o leia dwedwch e ag argyhoeddiad yma: ‘Atgyfododd Crist, atgyfododd yn wir.’

Eleni, yn y cylch darlleniadau, Efengyl Marc sy’n cael sylw arbennig. A dyna paham y  darlleniad moel, ymddangosiadol ddigalon sydd o’n blaenau ni. Mae ysgolheigion yn reit gytûn erbyn hyn mai Marc oedd yr Efengyl gyntaf i gael ei hysgrifennu. Ac mae’r disgrifiad o’r gwragedd yn mynd at y bedd yn hynod siomedig o’i gymharu â’r Efengylau eraill; yno mae yna ddisgrifiadau o bobl yn cael gweld  Iesu ac, ar waethaf yr anawsterau, yn ei adnabod. Yma, dim ond addewid sydd y cân’ nhw ei weld rywbryd yn y dyfodol. Ac mae’r gwragedd yn anobeithiol: ‘ni ddywedasant ddim wrth neb, oherwydd yr oedd ofn arnynt’. Dim llawer o obaith na llawenydd yn yr ymateb yna!

Mae’r dyn ifanc sydd yn y bedd (yn yr Efengylau eraill, angylion yw’r rhai wrth y bedd) yn dweud wrthynt:

“Peidiwch ag arswydo. Yr ydych yn ceisio Iesu, y gŵr o Nasareth a groeshoeliwyd. Y mae wedi ei gyfodi; nid yw yma; dyma’r man lle gosodasant ef. Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Pedr. ‘Y mae’n mynd o’ch blaen chwi i Galilea: yno y gwelwch ef, fel y dywedodd wrthych.’”

 A pwy yw’r dŷn ifanc, tybed? Oes cysylltiad rhyngddo fe a’r llanc sy’n dianc o ardd Gethsemane yn y bennod cynt, ac yn colli’r wisg liain oedd amdano? Ydi’r lliain, sydd fel petai’n cynrychioli ofn a brad a diffyg ffydd y disgyblion, yn ailymddangos yn y stori hon fel rhyw fath o symbol o gywilydd wedi troi’n ogoniant?  Mae Marc yn llenor llawer rhy ddwys a gwreiddiol ei feddwl i fynd ati i egluro. Ond, a wrandawo, ystyried!

Enghraifft fach arall o fanylder Marc yw’r ffordd y mae’n disgrifio’r gwragedd yn dod at y bedd gyda’u peraroglau. Ond mae eisoes wedi disgrifio’n fanwl Iesu’n hawlio bod gwraig wedi’i eneinio o flaen llaw ar gyfer ei gladdedigaeth. Ydyn, rydyn ni i fod i sylwi ar bethau fel hyn – mae’r Efengylau’n llawn arwyddion bach manwl i’r rheini sy’n fodlon gwrando’n astud.

Ac mae angen gwrando’n astud ar y geiriau sy’n ymddangos mor ddigalon ac sy’n diweddu’r Efengyl. (Ychwanegiadau mwy diweddar yw’r hyn a gewch yn ein Beiblau presennol.) Y gorchymyn yw i fynd yn ôl i Galilea – ond ble yno? Oes yna fan daearyddol y byddan nhw’n cael profiad tebyg i’r ddau ar y daith i Emaus, neu Mair Magdalen yn yr ardd, neu’r un ar ddeg yn yr oruwchystafell? Neu a oes yma her – i fwrw ’mlaen a mynd ’nôl i’r dechrau? I fentro na allai angau ddal Iesu’n gaeth a’i fod mewn rhyw ffordd ryfeddol yn gwbl, gwbl fyw.

Mewn llawer o eglwysi cadeiriol y canoloesoedd mae ’na ryw fath o gapel y tu hwnt i’r drws gorllewinol lle roedd pobl yn dod ynghyd i lunio gorymdaith cyn gwasanaeth. Os fuoch chi erioed yn Durham, mae ’na un hardd eithriadol yno. Beth yw’r enw arno? Capel Galilea. Yma mae’n rhaid dod i gwrdd â Iesu.

Un manylyn ola’. Yn llyfr Genesis y mae’r storïau hynod am Abraham a Sara, ei wraig, y ddau sy’n rhoi sail i genedl Israel. Mae ’na dri ymwelydd yn galw heibio ac yn cael pryd o fwyd dan y dderwen yn Mamre. Wel, maen nhw’n dweud wrth Abraham y bydd e, ymhen blwyddyn, wedi dod yn dad i fachgen. Mae Sara, fel gwraig dda, yn cwato yn y babell yn gwrando, ac mae hi’n piffian chwerthin, yn cael pwl o giggles, wrth feddwl bod y tri dyn dwl yma’n meddwl y gallai hi gael babi yn ei henaint ac Abraham hefyd yn hen. Ac mae’r tri yn ei chlywed hi’n chwerthin ac yn gofyn pam. Mae hi fel croten ysgol wedi cael ei dal, yn gwadu ei bod hi wedi chwerthin, ac mae’r testun yn egluro “am fod arni ofn”. Allan o’r ffaith nad ydi hen wragedd ddim yn cael babis y daw’r baban amhosibl, Isaac. Ystyr yitzak yw “chwerthin”. ’Nôl yn nechrau’r genedl y mae anobaith ac ofn, ac mae ’na addewid hefyd.

Yn yr ardd ar fore’r Pasg yn Efengyl Marc, y mae ofn, ac addewid a gobaith y byddan nhw’n gweld Iesu eto yng Nghalilea. Ond yn union fel Sara, ‘yr oedd arnynt ofn’.

Y mae cyfnod newydd yn cychwyn. Ac wrth i ni fynd i’n Galilea ni, mewn galar ac yn llawn amheuaeth, cawn ei weld. Falle’ch bod chi wedi cyrraedd eich Galilea chi eisoes. Dyna ble mae llawenydd y Pasg. I’r rhai sydd ddim wedi cyrraedd yno, mae’r addewid yn dal. A’n braint yw cyhoeddi: ‘Atgyfododd Crist, atgyfododd yn wir.’