Archifau Categori: Agora 38

Deunydd ar gyfer y Grawys

Ar gyfer y Grawys

Oherwydd bod eglwysi wedi eu gwahardd rhag cydymgynnull yn sgil y coronafirws, mae Cristnogaeth 21 yn awyddus i dynnu sylw at ddau gwrs Grawys sy’n cynnig deunydd ac arweiniad sydd yr un mor addas i unigolion ag i’w hanfon ymlaen at eraill wrth inni droi ein golygon tuag at y Pasg. Beth bynnag yr ofnau a’r dychryn a’r galar, yr ydym ynghanol deffro’r gwanwyn ac yn edrych ymlaen at ŵyl fawr y Pasg.

  1. Mae ‘Agor yr Ysgrythyrau’ (gan Claire Amos) wedi ei seilio ar y daith i Emaus ac mae’n cynnig cyfoeth o ddeunydd mewn gweddi, myfyrdod ac astudiaeth Feiblaidd. Yn ddwyieithog, mae’r cyfan mewn lliw, ond mae’r testun i’w gael mewn Cymraeg yn unig hefyd – ac am ddim.

Ewch i: www.cytun.co.uk/cwrsgrawys

  1. O Esgobaeth Bangor: Cydymaith i’r Grawys

         www.bangor.eglwysyngnghymru.org.uk

Yr ydym yn ddiolchgar am cael cyhoeddi rhan o’r myfyrdod ar gyfer Sul cyntaf y Grawys o’r ‘Cydymdairh i’r Grawys’ gan Siôn Rhys Evans. Thema’r cydymdaith cyfoethog yw ‘Mi a droaf yn awr’ – dyfyniad o gerdd enwog R. S. Thomas.

Nid brysio yw bywyd
at ddyfodol sy’n cilio,
na chwantu
am orffennol y dychymyg. Ond troi
yn awr fel Moses i weld y berth
yn llosgi’n dân, a gwyrth
y goleuni a welaist gynt ar wib,
ar doriad gwawr,
ac a fydd dragwyddoldeb dy fachlud.

(Cyfieithiad o ‘The Bright Field’)

Cyhoeddir y Cydymaith yn ddwyieithog gan Esgobaeth Bangor ac mae ar gael ar wefan yr Esgobaeth, eto yn rhad am ddim. Rydym yn falch o gael cyhoeddi rhan o’r Cydymaith, ac yn ddiolchgar am y caniatâd i gyhoeddi cerdd Siôn Aled gan Wasg Carreg Gwalch.

  

Llandanwg
gan Siôn Aled

 

Pagan fu’r môr erioed
a’r traeth yn ffin rhwng sobrwydd y Saint
a Chantre’r Gwaelod
lle cysgai diawliaid crefydd ddoe
yn feddw fud.

Cyfaill oedd y tywod
yn glên dan sodlau cenhadon troednoeth
rôl creigiau creulon Rhinog Fawr.

Ac yno y tyfodd cell yn gapel
a llan yn eglwys
a thrwch ei muriau’n gaer rhag gwayw’r gaeaf
a llymder haf.

Yno cyhoeddai’r litwrgi’r
Duw newydd digyfnewid:
heddiw, ddoe a fory’n un.

Heddiw
rwyf yma’n ceisio cysur
a llawnder ieuenctid yn pallu
yn crafangu yn nhudalennau Llyfr Gweddi tamp
a Beibl crin
am rhyw fymryn
o
seintiau
echdoe a ddoe a’m mabinogi innau.

Wrth y drws,
mae’r tywod ar grwydr
fel eira sych,
yn claddu’r cerrig beddau mewn ail farwolaeth.

A’r môr,
eto’n anweledig,
yn chwyrnu’i fygythiad
ac yng nghrafiad y graean
sŵn diawliaid yn sgriblian deffro.

Mae’r gerdd wedi’i lleoli mewn llecyn sanctaidd penodol – eglwys Tanwg Sant, sy’n swatio mewn twyni tywod y tu allan i Harlech. Mae’r tywod yn gorchuddio llawer o’r cerrig beddi wrth ddynesu at yr eglwys, a chaiff rhywun y teimlad y gallai ar unrhyw adeg foddi’r llwybr; ac, os nad y tywod, yna’r tonnau sy’n torri ar y traeth sydd ddim nepell i ffwrdd y tu hwnt i’r twyni tal. Mae’r eglwys, â’i muriau hynafol o garreg solet, wedi bod yn noddfa dros ganrifoedd lawer; ac mae llechfeddiant natur wyllt, elfennol, yr un mor oesol, a pharhaus, ac o bob tu. Ond nid cerdd am lecyn yn unig mo hon – cerdd sydd yma am berson, yn heneiddio, yn colli rhyw ychydig o sicrwydd ieuenctid, yn ceisio rhywfaint o ddealltwriaeth newydd; cerdd sydd yma am enaid dynol yn ymdrin â ffydd ac amheuaeth, yn myfyrio am yr hyn a fu a’r hyn sydd i ddod, yn pendroni am y fath sicrwydd ag sydd gennym, ac am yr ansicrwydd hynnw nad yw’n diflannu. Clywn adleisiau yma o ddwy gerdd enwog am ffydd ac amheuaeth: ‘Church going’ gan Philip Larkin, pan fo’r ymwelydd â’r eglwys hynafol yn dod i weld bod yma ‘dŷ difrifol ar ddaear ddwys’, llecyn i ‘dyfu’n ddoeth ynddo’; a ‘Dover beach’, campwaith Matthew Arnold, pan fo’r bardd yn clywed Cefnor ein Ffydd yn ‘rhuo gadael, y felan ar drai, / Yn encilio ar anadl / Gwynt y fagddu.’

(Cafodd Siôn Aled ei eni ym Mangor a’i fagu ym Mhorthaethwy. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Maldwyn a’i Chyffiniau, 1981, am bryddest ar y testun ‘Wynebau’. Mae’n fardd ac yn gyfieithydd nodedig, ac yn byw bellach yn Wrecsam.)

Ysgrythur

Ioan 3:1–17 – y darlleniad o’r Efengyl ar Ail Sul y Grawys.

Yr oedd dyn o blith y Phariseaid, o’r enw Nicodemus, aelod o Gyngor yr Iddewon. Daeth hwn at Iesu liw nos a dweud wrtho, “Rabbi, fe wyddom iti ddod atom yn athro oddi wrth Dduw; ni allai neb wneud yr arwyddion hyn yr wyt ti’n eu gwneud oni bai fod Duw gydag ef.” Atebodd Iesu ef: “Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o’r newydd ni all weld teyrnas Dduw.” Meddai Nicodemus wrtho, “Sut y gall neb gael ei eni ac yntau’n hen? A yw’n bosibl, tybed, i rywun fynd i mewn i groth ei fam eilwaith a chael ei eni?” Atebodd Iesu: “Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o ddŵr a’r Ysbryd ni all fynd i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn sydd wedi ei eni o’r cnawd, cnawd yw, a’r hyn sydd wedi ei eni o’r Ysbryd, ysbryd yw. Paid â rhyfeddu imi ddweud wrthyt, ‘Y mae’n rhaid eich geni chwi o’r newydd.’ Y mae’r gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei sŵn, ond ni wyddost o ble y mae’n dod nac i ble y mae’n mynd. Felly y mae gyda phob un sydd wedi ei eni o’r Ysbryd.”

Dywedodd Nicodemus wrtho, “Sut y gall hyn fod?” Atebodd Iesu ef: “A thithau yn athro Israel, a wyt heb ddeall y pethau hyn? Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthyt mai am yr hyn a wyddom yr ydym yn siarad, ac am yr hyn a welsom yr ydym yn tystiolaethu; ac eto nid ydych yn derbyn ein tystiolaeth. Os nad ydych yn credu ar ôl imi lefaru wrthych am bethau’r ddaear, sut y credwch os llefaraf wrthych am bethau’r nef? Nid oes neb wedi esgyn i’r nef ond yr un a ddisgynnodd o’r nef, Mab y Dyn. Ac fel y dyrchafodd Moses y sarff yn yr anialwch, felly y mae’n rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu, er mwyn i bob un sy’n credu gael bywyd tragwyddol ynddo ef. Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Oherwydd nid i gondemnio’r byd yr anfonodd Duw ei Fab i’r byd, ond er mwyn i’r byd gael ei achub trwyddo.”

Myfyrdod

Nid peth hawdd ydi ffydd, a tydi perthynas â Duw byth yn statig nac yn llonydd. Yn ein bedydd, rydyn ni’n penderfynu troi oddi wrth y tywyllwch at oleuni Crist; mae ein bywydau wedi’u selio ers hynny â’r Ysbryd Glân. Ond nid cyflawnder mo hynny. Mae’n ddechrau taith, yn ddechrau’n pererindod droellog tuag at sancteiddrwydd mwy perffaith, tuag at ddyfnderoedd Duw. Fe fydd yna adegau o agosrwydd ar hyd y daith – adegau o ddatguddiad, hyd yn oed – ennyd o weddnewid wrth addoli yn yr eglwys, neu mewn gweddi, neu yng nghanol byd natur, neu wrth wrando ar gân, neu’n edrych ar anwylyd – ennyd pan wyddom mai dyma yw gogoniant. Fe fydd yna adegau o bellter ac unigedd hefyd, weithiau o’n hanobaith a dro arall o’n diogi llugoer. Efallai y bydd adegau o anghyfanhedd-dra pan ddarganfyddwn ni, er mawr syndod, fod gwendid, neu dristwch, neu unigrwydd, neu angen, yn dwyn gras Duw yn agos iawn atom, ein hunig gydymaith ar y daith. Nid methiant yw bod ar drywydd Duw, yn ôl ac ymlaen, weithiau’n agos ac weithiau’n bell; nid methiant, ond mesur bywyd.

 

Cerddaf – adolygiad

Cerddaf o’r Hen Fapiau gan Aled Jones Williams

Dyma gyfrol o gerddi, cywrain, prydferth, diwastraff, di-falu-awyr, dwysfyfyriol, synhwyrus, craff-sylwgar, clyfar, a dyfeisgar mewn cyfrol ffacsimili fach gain yn llawysgrifen yr awdur.

Nid cefnu ar ‘hen fapiau’ y teitl sydd yma yn hollol ond rhaid mentro i diriogaeth newydd, ffyrdd newydd o ganfod realiti. Crwydro y mae’r bardd, nid cerdded yn hyderus. Roedd yr hen fapiau, sy’n aros yn y cof, yn ddiamwys-eglur. Amwys-aneglur yw’r mapiau newydd a’r bardd, drosodd a thro, yn ffaelu ffeindio’r ‘duw’, nid Duw sylwer, y mae’n ei geisio.

Beth bynnag, y gair ‘duw’ yn gymaint â’r sylwedd, a geiriau fel y cyfryw, yw testun y sylw. Ond y tu ôl i’r gair mae cysyniad, ac yn y cysyniad mae duw (os nad Duw) annirnad yn llechu, neu’n ymrithio – er nad yw’n ‘bod’ yn ystyr synnwyr-cyffredin y gair hwnnw.

Yn ôl y rhagair mae geiriau’r cerddi yma i fod i ‘symud o’r ffordd er mwyn creu lle’ a’r ‘lle a grëir sydd oruchaf nid yr hyn a ddywedir’. Ond rhaid cael y geiriau er mwyn ‘creu lle’ ac mae’r ‘hyn a ddywedir’ yn cyfrif er mwyn i’r lle sy’n cael ei greu fod yn ‘oruchaf’ iddo. Does dim dewis felly ond astudio’r geiriau, gan gydnabod ar yr un pryd bod ystyr pethau, natur bod a’r bydysawd, y Dirgelwch, y tu hwnt i eiriau am ei fod y tu hwnt i’n deall cyfyng ni ac yn llithro o’n gafael yn dragwyddol.

Y tu allan i’r hen fapiau mae’r bardd yma, fel y bydd beirdd, yn dyfalu drwy drosiadau yn ei ymgyrraedd at ‘dduw’. Mae’n craffu ar bethau diriaethol mewn ffordd sy’n creu hyfrydwch oddi mewn i’r darllenydd ac yn deffro’i ddychymyg – brigau, rhaeadr, abwyd ar lein bysgota, cwn yn hela, rhewlif, dyn yn dychwelyd o daith, gwiail, gwydr, gogor, llaw, adeiladau (rhai cysegredig) ac ati. Drwy’r diriaethau cyfareddol hyn a’r geiriau sy’n eu disgrifio y mae’n ymgyrraedd at yr anhraethol – yr hyn na ellir traethu amdano – ac yn anochel yn methu cyrraedd.

Dilyn teithiau y mae’r bard – rhai crwydrol, igam-ogam, chwilfrydig, drwy diriogaeth ddieithr. Mae’n cychwyn gyda methiant rhwystredig, anhyfryd. Erbyn y diwedd mae’r naws wedi altro. Mae’n ymgadw rhag cilio ’nôl i’r hen fapiau. Rhaid i’r gwir weld drwy’r rhithiau. Ond dyw hi ddim yn glir bod y ‘lleufer anhraethadwy’ yn cael ei ‘falu’n siwrwd’. Mae sôn am ffyddlondeb yn y sêr; blagur a haf; peidio siomi am golli’r goruwchnaturiol; rhyfeddod bod ac anchwiliadwyedd anhraethol y cosmos.

Erbyn y diwedd rwy’n synhwyro, ac yn wir yn teimlo, llonyddwch. Ac mae’r gair ‘duw’ yn offeryn cain, defnyddiol, anhepgor efallai, os annigonol, wrth geisio dirnad y Dirgelwch llonydd hwnnw.

Cynog Dafis
12.02.20 
(Ymddangosodd yr adolygiad hwn yn y rhifyn cyfredol o Barn)

FFURFLEN ARCHEBU COPI YMA

 

Cerddaf o’r hen fapiau

‘Cerddaf o’r Hen Fapiau’

Ar ddiwedd wythnos Gŵyl Ddewi a thrannoeth Diwrnod y Llyfr profiad arbennig iawn oedd bod yn y Morlan i lansio cyfrol Aled Jones Williams, Cerddaf o’r Hen Fapiau. Nid ‘cyfrol’ chwaith ond rhodd gan Aled i’w ffrindiau. Y mae, ac fe fydd, yn rhodd amhrisiadwy. Fe wnaeth y cerddi gymaint o argraff ar y rhai a gafodd y fraint o’u derbyn fel yr aeth Cynog Dafis ac Emyr Llewelyn ati (gyda chaniatâd yr awdur – ‘Gwnewch chi be’ ydach chi isio’i wneud efo nhw rŵan, chi piau nhw.’) i drefnu copïau ffacsimili o’r cerddi. Fe fyddai paratoi copi unigol i’w holl ffrindiau wedi bod yn dasg amhosibl! Fe allwch eu prynu drwy’r wefan hon, os oes copïau ar ôl.

Daeth nifer dda o bobl ynghyd i’r Morlan, a nifer wedi teithio pellter i fod yno. Cristnogaeth 21 drefnodd y noson, gyda Gwerfyl Pierce Jones yn cadeirio. Wrth gyflwyno’i chyfraniad cerddorol i’r noson, soniodd Manon Steffan Ros am ei hedmygedd a’i dyled i Aled a fu’n ysgogiad mawr iddi fel llenor a dramodydd. Gan fod Cynog ac Aled wedi cydweithio ar gyhoeddi cyfrol heriol a phersonol am ffydd ac argyfwng cred, roedd yn braf eu clywed yn sgwrsio â’i gilydd, a phawb yn cael rhannu ysbryd cyfeillgar a siriol, annwyl a goddefgar Aled, er i’w daith ysbrydol fod yn ingol o boenus – ‘nos dywyll yr enaid’ – ac nid yn ymarfer deallusol. I amryw o bobl erbyn hyn mae gwaith Aled yn rhan o’u taith ysbrydol hwythau a hynny, i rai, yn golygu aeddfedu a chynnal eu ffydd. Er bod gan Cynog feddwl mawr o Aled, nid oedd y sgwrs heb ei chwestiynau anodd. Yn ystod y sgwrs roedd Llinos Dafis yn darllen rhai o gerddi Aled oedd wedi eu hargraffu ar daflen fel bod pawb yn medru eu darllen yr un pryd.

Emyr Llywelyn yn agor y noson. Llun drwy garedigrwydd Marian Delyth.

Emyr Llywelyn ddechreuodd y noson a hynny’n gofiadwy iawn gyda gwerthfawrogiad byr o gerddi Aled. Rydym yn ddiolchgar iawn i Emyr am ei ganiatâd i gyhoeddi ei werthfawrogiad. Roedd yn ddechrau cyfoethog i’r noson.

Cynog Dafis yn holi’r awdur. Llun drwy garedigrwydd Marian Delyth.

            ‘duw’
beth a wnaf
             heb y gair
                cymraeg
                  bychan
                      hwn ?

 

beth sydd hebddo ?
            Fe’i llyncaf
               a’r cosmos
                   ynof
                yn
                   goleuo

Aled
Gwerthfawrogiad o’i waith
gan Emyr Llywelyn

Pan gyhoeddodd Aled ei gyfrol Y Cylchoedd Perffaith rai blynyddoedd yn ôl mi wnes sgrifennu gwerthfawrogiad ohoni. Dyma ddywedais i:

Mae gweledigaeth y dyn dioddefus hwn o Dduw yn gwneud y llyfr bach hwn yn un o drysorau ein llên. Ni chafodd y gyfrol fawr sylw yn y wasg Gymraeg ond y mae’n sicr yn un o ychydig gyfrolau’r ganrif hon yn Gymraeg sy’n haeddu cael ei chyfieithu i ieithoedd eraill y byd a chynnwys rhai o’i cherddi mewn unrhyw gasgliad o weithiau cyfrinwyr mawr y byd.

Mi geisia i heno esbonio’n fyr pam rwy’n dal i arddel y geiriau yna.

Cwmwl o atomau sy’n llifo ac yn newid yn barhaol ydyn ni, ac yn byw ein bywydau byr ar belen fach o ddaear sy’n chwyrnellu drwy’r gofod ar gyflymdra aruthrol o gwmpas pelen o dân.

Ni fedr ein meddyliau dreiddio hwnt i’r ddau affwys sy’n ein cwmpasu, sef y microfyd ar un llaw sy’n ddyfnder diwaelod o atomau ac is-atomau, ac ar y llaw arall mae’r cosmos gyda’i alaethau gweladwy ac anweladwy a’r pellteroedd anchwiliadwy.

Mae rhyw rym anweledig yn cynnal y cyfan – yn cynnal yn rhyfeddol undod ein cwmwl atomau ac yn cynnal y planedau yn eu cylchoedd. Fel y dywedodd Einstein, “Rydyn ni i gyd yn dawnsio i gân ryfeddol a genir gan bibydd anweledig.”

Mae Aled yn gofyn cwestiwn sylfaenol: pa fodd y mae gwybod unrhyw beth am y grym anweledig tu ôl i bopeth byw – am Dduw?

A fedrir dal duw yng ngwe geiriau?
Ei ddal o am yn ddigon hir i deimlo’i riddfan
cyn iddo dorri iaith a dengid yn ôl i’w fudandod.

Ond fe lwyddodd Aled yn ei gyfrolau i ddal Duw yng ngwe geiriau.

Y gwir yw bod Duw yn nes aton ni nag rydyn ni’n meddwl; nid allan ym mhellterau’r cosmos y mae’r ateb i natur Duw, nac ym myd yr is-atomau chwaith, ond yn y galon.

Yn ôl Meister Eckhart: “Dyw Duw ddim pellach i ffwrdd na drws y galon. Yno mae’n disgwyl hyd nes ei fod yn gweld dy fod yn barod i’w adael i mewn.”

Dull y cyfrinydd o geisio adnabod Duw yw gwacáu’r galon o bopeth hunanol er mwyn gadael Duw i mewn i’w galon. Does dim lle i Dduw a’r Hunan, yr Ego Mawr, yn y galon.

Dyma weddi Aled:

gwna fi’n wag fel bol mandolin,
gwna fi’n wag fel crombil tjelo.

Cyn y medrwn ni wneud ein bywydau yn gân ddwyfol sy’n fynegiant o’r Da a’r Cyfiawn, ‘y gân y mae’n rhaid ei chanu’ – Plato, ‘y gân ni chanwyd’ – Waldo, rhaid i ni wneud ein calonnau yn wag fel ‘bol mandolin’ a ‘chrombil tjelo’.

Agorodd Aled ddrws ei galon a darlunio i ni Dduw harddach na Duw dogma a diwinyddiaeth.

Ti

yn fy Nychymyg yr wyt ti yn fwy
na’r hyn y mae’r diwinyddion a’u beibl
yn ei ddweud wyt ti
yn fwy cariadus na chariad
yn fwy tosturiol na thosturi
harddach na harddwch
ac o hyn ymlaen
byddaf yn ymddiried yn fy Nychymyg
ac nid yn y diwinyddion a’u beiblau.

Yn ôl un o Siamaniaid yr Esgimo, mae yna bris uchel i’w dalu am ddoethineb – am weledigaeth o Dduw:

Ni ellir cyrraedd gwir ddoethineb ond drwy ddioddefaint … Dim ond unigrwydd a dioddefaint sy’n agor y meddwl i’r cyfan sy’n guddiedig i eraill.

Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ffoi rhag poen ein profiadau chwerw i fyd hunanol pleserau a chysuron bydol. Ond mae yna eneidiau prin fel Aled sy’n ddigon dewr, fel y dywysoges Elisa yn chwedl Hans Anderson ‘Yr Elyrch Gwyllt’, i geisio gafael yn nanadl poethion bywyd a’u gwasgu er mwyn cael hyd i wirionedd.

Dywedwyd wrth Elisa, os oedd hi am achub ei un brawd ar ddeg oedd wedi cael eu troi yn elyrch gwyllt a’u gwneud nhw’n ddynol eto, y byddai’n rhaid iddi wau crysau iddyn nhw o’r danadl poethion:

Rhaid i ti gasglu danadl poethion er iddyn nhw dy bigo a llosgi dy ddwylo, wedyn rhaid i ti eu sathru nhw dan dy draed noeth i’w gwneud fel llin.

Diolch am awdur sydd â’r dewrder i afael yn nanadl poethion bywyd er gwaethaf y boen er mwyn ceisio’n hachub ni rhag oerni annynol ac amhersonol dogma, a dyneiddio ein Duw a’n gwneud ninnau yn fodau dynol a chynnes eto, yn blant i dduw er gwaethaf ein holl feiau a’n gwendidau.

Meddai André Gide am Simone Weil:

Dywedodd hi mai ei chenhadaeth oedd sefyll ar y groesffordd rhwng Cristnogion a’r rhai heb fod yn Gristnogion. Mae hi, felly, yn dod yn nawddsantes pob un sydd ar y tu allan.

Mentrodd Aled hefyd sefyll ar y tu allan ar y groesffordd honno:

aros wna i bellach
yn hofal Cristnogaeth            
ar riniog y drws
rhwng mynd allan a dwad i mewn
am i’w storïau
yn well na dim
yn fwy na heb ddisgrifio’n gywir
ogwydd a thueddiadau
fy mywyd …

yr unig awdurdod
yr ymgrymaf iddo bellach
yw awdurdod dioddefaint
a’r dioddefus …

 I orffen, fe hoffwn i ddarllen fy hoff eiriau o’i waith lle mae e’n arddel y rhai sydd ar y tu allan: gwrthodedigion cymdeithas a hereticiaid o bob math. Dyma neges oesol sydd yn hollol gyfoes heddiw, oherwydd mwy marwol nag unrhyw firws sy’n lledu dros y byd ar y funud yw firws ffwndamentaliaeth grefyddol sy’n erlid ac yn lladd yn enw Duw.

Fe hoffwn beintio’r geiriau yma o eiddo Aled ar waliau ym mhobman – ymhob iaith a gwlad:

cadw fi
o hyd
tu mewn i anniddigrwydd ffydd
hefo’r hereticiaid
yn rhedeg o dre i dre
yn y caddug
drwy’r corsydd
a’r lonydd cefn
rhag stanc a chyllith
yr uniongred …

cadw fi’n aflonydd
yn y chwilota
yn meddwl i mi gael hyd
i’r cwestiwn iawn
ymhlith cyrff
yr holl atebion terfynol
marwol
ffals …
a phaid fyth â rhoi imi
y gorffwys tragwyddol
y mae’r Llyfr Claddu
yn sôn amdano
na’r Bythol Oleuni chwaith
rho imi yn hytrach
y gwingo gwastadol
a’r tywyllwch eglur
tydw i ’rioed wedi gwyro
at daclusrwydd
uniongrededd
a’i thueddiad i erlidio …

 

Gweledigaeth o Dduw cariad a thosturi a geir yng ngwaith Aled.
Mae Duw Aled Jones Williams yn union fel Duw Iesu o Nasareth:
yn gyfaill publicanod a phechaduriaid,
yn achub pob dafad golledig,
yn codi pob truan syrthiedig
ac yn Dduw cyfiawn sy’n elyn i bob anghyfiawnder a gormes.

Carwn orffen gyda’r crynodeb o’i weledigaeth sydd ar ddiwedd ei gerdd i’w dad

Gosodasoch fi’n solat
ar ochr y gwan, yr od a’r ysgymun,
y moesol fel-a’r-fel a’r toredig.
Bywydau sy’n furddunnod yn balasau yn ei olwg Ef.

Mewn oes o leisiau celwyddog, dig a chras, diolch, Aled, am eich llais dewr a didwyll. Diolch am eich llais tyner ac addfwyn i’n tywys ni fel unigolion ac fel cenedl gerllaw y dyfroedd tawel i chwilio am ‘hafan distawrwydd y dwfn dosturi’.

Emyr Llywelyn

Manon Steffan Ros yn cloi’r noson. Llun drwy garedigrwydd Marian Delyth.

Ni recordiwyd y sgwrs rhwng Cynog ac Aled ond yn fuan wedi hynny bu Aled yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar Radio Cymru.. Mae’n werth gwrando arni. Dyma’r ddolen.

FFURFLEN ARCHEBU COPI YMA

Arglwyddiaeth

ARGLWYDDIAETH

Daeth i’m meddwl yn ddiweddar mor bellgyrhaeddol yw dylanwad Cristnogaeth ar fywyd a diwylliant y Gorllewin. Ble, er enghraifft, fyddai cerddoriaeth Ewrop heb J. S. Bach, Requiem Verdi, Mozart a Fauré? Mor dlawd fyddai ein celfwaith heb luniau’r Meistri o Enedigaeth Iesu, y Dioddefaint, a’r Pieta, heb sôn am gampwaith Michaelangelo ar nenfwd y Capel Sistinaidd yn y Fatican. A beth am holl bensaernïaeth Ewrop o’r Oesoedd Canol ymlaen? Byddai bwlch enfawr yn ein diwylliant cyfoethog petaem yn tynnu pob dylanwad Cristnogol allan ohono.

Ond mewn cyfrol newydd o’i waith mae Tom Holland yn mynd ymhellach o lawer, ac yn dadlau bod holl syniadaeth a gwerthoedd y byd gorllewinol yn tarddu o’r ffydd Gristnogol. Hanesydd a Chlasurwr yw Tom Holland, darlledwr ac awdur toreithiog. Ei gyfrol ddiweddaraf yw Dominion, The Making of the Western Mind (2019), ac y mae’n gampwaith.

O’i darllen, cawn wylio ymerodraethau’r Dwyrain Canol ac Ewrop yn codi ac yn cwympo wrth iddo gwmpasu cyfandiroedd a chanrifoedd – gan gynnwys y ganrif bresennol. Mae’r awdur yn gosod y cyfan ar gynfas eang: tour de force yn wir; ond yr hyn sy’n gwneud y gwaith mor nodedig yw ei fod yn darllen fel nofel. Llwydda Tom Holland i blethu milenia o hanes, ochr yn ochr ȃ manylder trawiadol, yn ddiwnïad.

Ceir aml i berl yma: er enghraifft, mae’n ein hatgoffa nad yw’r gair efengyl (newyddion da) yn perthyn i Gristnogaeth yn y bȏn, ond ei fod wedi ei fenthyg o fyd y Rhufeiniaid. Mae’n tynnu ein sylw at arysgrif ar garreg yn ninas Priene ar lan y Mȏr Egeaidd sy’n dyddio o 29 CC, yn canmol Cesar Awgwstws am roi terfyn ar ryfel a sefydlu heddwch. Dyma newyddion da (euangelia, lluosog) i bawb. Dysgais air newydd yma hefyd, nid o’r byd Clasurol, ond o eirfa gyfoes: gair sy’n tarddu o slang Affro-Americanaidd yr unfed ganrif ar hugain, sef woke. A’i ystyr? Bod â chydwybod gymdeithasol, yn effro i anghenion pobl eraill. Gobeithio ein bod ni i gyd yn bobl woke!

Y naratif sy’n rhedeg trwy’r gwaith yw mai Cristnogaeth sydd wedi llywio nid yn unig ein diwylliant, ond ein holl feddylfryd, ein moeseg a’n gwleidyddiaeth, a’i bod yn para i wneud hynny. Er enghraifft, mae’n tynnu sylw at ddatganiad y Chwyldro Ffrengig ar hawliau dynol, a oedd yn dilyn patrwm yr Unol Daleithiau. Maes o law, cafodd datganiad tebyg ei fabwysiadu gan y Cenhedloedd Unedig, a chyfeirir yn aml at egwyddor hawliau dynol fel ‘a self-evident truth’. Dim o’r fath beth, medd Holland: mae’r cysyniad yn deillio o waith Cyfreithwyr Eglwysig yr Oesoedd Canol, ac yn y pen draw, wrth gwrs, o ddysgeidiaeth Iesu ei hun. ‘Repeatedly,’ meddai, ‘like a great earthquake, Christianity has sent reverberations across the world.’

Wrth ddisgrifio bywyd Ewrop yn y nawfed ganrif, mae’n gyrru’r pwynt adref fel hyn:

Increasingly, in the depths of the Frankish countryside, there was no aspect of existence that Christian teaching did not touch … The rhythms of the Lord’s Prayer and the Creed, repeated daily across the Frankish empire and beyond, in the kingdoms of Britain, and Ireland, and Spain, spoke of a Christian people becoming ever more Christian. The turning of the year, the tilling, the sowing, the reaping, and the passage of human life, from birth to death – all now lay in the charge of Christ.

Drosodd a throsodd, mae Holland yn tynnu sylw at ddwy egwyddor sylfaenol y Ffydd; dwy egwyddor sy’n unigryw i Gristnogaeth, ac a fu’n rhan o’r ‘ddaeargryn’ oesol hon. Yn gyntaf, bod Duw wedi’i wneud ei hun yn wan yn Iesu, gan ddioddef y boen a’r gwaradwydd eithaf: dyma’r ‘tramgwydd’ (skandalon) y cyfeiria Paul ato yn 1 Corinthiaid, pennod 1. Yn ail, y darlun a gawn o fywyd yr Eglwys Fore yn yr Actau, pennod 2: ‘Yr oedd yr holl gredinwyr ynghyd yn dal pob peth yn gyffredin. Byddent yn gwerthu eu heiddo a’u meddiannau, ac yn eu rhannu rhwng pawb, yn ôl fel y byddai angen pob un.’ Dyna sail y cymhelliad i rannu ac i ofalu, i sefydlu ysbytai a rhoi cardod. O’r traddodiad Iddewig-Gristnogol y mae olrhain argyhoeddiadau’r Iddew Karl Marx a’r chwyldro Comiwnyddol. A beth a wnawn o’r datganiad hwn? ‘Christianity, it seemed, had no need of actual Christians for its assumptions still to flourish.’

Diddorol hefyd yw ei ymdriniaeth o rai sydd wedi adweithio i Gristnogaeth yn y cyfnod Modern, oherwydd adweithio y maen nhw, medd Holland, yn erbyn egwyddorion sylfaenol y Ffydd. Mae’n honni y gellir olrhain dadleuon llawer o wyddonwyr, athronwyr a gwleidyddion mwyaf eithafol Ewrop yn ystod yr 20g. a’r 21g. yn ôl i waith Nietzsche, gyda’i ddatganiad enwog fod ‘Duw wedi marw’, a’i alwad daer ar ddynoliaeth i gefnu nid yn unig ar y cysyniad o’r dwyfol, ond hefyd ar y math o weithredu sydd, ym marn Nietzsche, yn arddangos gwendid a meddalwch.

Wrth ymdrin â’r ffynonellau ysgrythurol, mae Holland yn ymwybodol o’r cwestiynau sy’n codi o astudiaethau beirniadol: e.e., mae’n rhannu amheuaeth llawer o ysgolheigion yr Hen Destament ynghylch yr adroddiadau am yr Ecsodus a’r Goresgyniad, a hynny oherwydd diffyg tystiolaeth hanesyddol ac archaeolegol. Fel llawer un o’i flaen, mae’n cwestiynu bodolaeth Moses fel ffigur hanesyddol. Wrth drafod Moslemiaeth, o’i dechreuad yn y seithfed ganrif hyd at dwf Islam eithafol, filitaraidd ein cyfnod ni, mae’n dangos dealltwriaeth ddofn, ynghyd â beirniadaeth. A gwir y dywed am yr eglwys ar hyd yr oesoedd mai rhyfel cartref rhwng ei gwahanol garfanau fu ei pherygl pennaf!

Amhosibl fyddai gwneud cyfiawnder â chyfrol mor gynhwysfawr o fewn terfynau ysgrif fer fel hon, ond mae’n werth tynnu sylw at y cwestiynau a’r heriau y mae’n eu codi i ni, yn hanesyddol ac yn gyfoes.

Glyn Tudwal Jones
Caerdydd

 

Rhyfeddod rhif

Rhyfeddod rhif
Un o ryfeddodau’r Cread

Dathlu Diwrnod Pai Cymru: 14 Mawrth

Mae’n debyg mai’r Groegwr Archimedes (tua 400 CC) oedd un o’r rhai cyntaf i geisio deall sut i ddadansoddi siapiau crwm: cylch, sffêr, côn ac ati. Un diwrnod, wrth dynnu lluniau cylchoedd yn y tywod, sylwodd fod y pellter o amgylch cylch – ei gylchedd – ychydig dros deirgwaith ei ddiamedr. Sylwodd hefyd nad yw’r gymhareb hon yn dibynnu ar faint y cylch. Yr un yw’r gymhareb wrth fesur modrwy ag wrth fesur y lleuad, sef rhif sydd ychydig yn fwy na 3. Y rhif hwn – ‘3 ac ychydig yn fwy’ – yw’r rhif sy’n cael ei alw heddiw yn π ond doedd gan Archimedes ddim symbol ffurfiol i’w gynrychioli.

Sut i fynd ati i ddarganfod yr ‘ychydig yn fwy’ oedd y cwestiwn a boenai Archimedes. I wneud hynny byddai angen dadansoddi siapiau crwm, siapiau a oedd y tu hwnt i gyrraedd mathemateg y Groegiaid. Gweledigaeth Archimedes oedd canfod ffordd wreiddiol o amcangyfrif y ‘3 ac ychydig yn fwy’.

Dangosodd Archimedes fod yr ‘ychydig’ yn llai na’r ffracsiwn 1/7 ac yn fwy na’r ffracsiwn 10/71. Ffracsiynau oedd dull y Groegiaid o weithio gyda rhifau; aeth canrifoedd lawer heibio cyn y daeth degolion i fri. Roedd dangos bod π yn llai na 31/7 ac yn fwy na 310/71 yn dipyn o gamp.

Mae’r disgrifiad yn yr Hen Destament o godi Palas Solomon yn Jerusalem tua’r cyfnod 800 CC, rhyw bedair canrif cyn cyfnod Archimedes yng ngwlad Groeg, yn cynnwys y mesuriadau hyn o ‘fasn anferth’ crwn:

Yna dyma fe’n gwneud basn anferth i ddal dŵr. Roedd hwn wedi’i wneud o bres wedi’i gastio, ac yn cael ei alw ‘Y Môr’. Roedd yn bedwar metr a hanner ar draws o un ochr i’r llall, dros ddau fetr o ddyfnder ac un deg tri metr a hanner o’i hamgylch.

(1 Brenhinoedd 7, 23; beibl.net)

Cylchedd y basn yw 13.5 metr, sydd union deirgwaith diamedr y basn, 4.5 metr. Mae fel petai gwneuthurwyr y basn wedi cymryd gwerth π yn 3, a bod hynny’n ddigon agos ati i bob pwrpas ymarferol yn y cyd-destun hwn.

Felly yr arhosodd pethau am flynyddoedd lawer. Os byddech yn holi oedolion heddiw beth yw gwerth π, yr atebion mwyaf cyffredin – ar wahân i ‘does gen i ddim syniad’ – fyddai 22/7 neu 31/7 fel ffracsiwn neu 3.14 fel degolyn. Roedd hi’n arferol tan yn ddiweddar i weld cyfarwyddyd i ddisgyblion ar ben papurau arholiad i ddefnyddio 22/7 fel gwerth π. Nid yw’n syndod, felly, i bobl gymryd mai’r 31/7 hwn yw’r ‘3 ac ychydig yn fwy’, heb sylweddoli mai amcangyfrif gwreiddiol Archimedes ddwy fil a hanner o flynyddoedd yn ôl oedd hynny. Wrth ysgrifennu 31/7 fel degolyn cawn 3.1428… sydd ddim ond yn cyfateb i wir werth π i ddau le degol – dim ond y digidau 3, 1 a 4 sy’n gywir.

‘Draw, draw yn Tsieina’ tua’r flwyddyn OC 500 darganfyddodd Zu Chongzhi ffracsiwn sy’n agosach o lawer at werth π nag yw 22/7. Y ffracsiwn rhyfeddol hwnnw yw 355/113. Gwerth 355/113 fel degolyn yw 3.14159292…, sy’n cytuno â gwerth π i chwe lle degol, ac felly mae’r ffracsiwn yn dipyn nes ati na 22/7. At ddibenion ymarferol bob dydd, mae 355/113 yn ateb y diben i’r dim, a hwn a ddefnyddir yn aml gan beirianwyr electronig mewn rhaglenni cyfrifiadurol er mwyn cyfrifo gwerth π yn fras ac yn gyflym. Ond un peth ydy bodloni peirianwyr; peth arall ydy bodloni mathemategwyr sy’n mynnu cywirdeb llawer llymach.

Erbyn cyfnod Isaac Newton (1643–1727) roedd mathemategwyr – Newton ei hun yn Lloegr a Gottfried Wilhelm Leibnitz yn yr Almaen – wedi dechrau datblygu technegau mathemateg cwbl newydd (y calcwlws) a agorodd y llifddorau i ddadansoddi pob math o broblemau, gan gynnwys effaith disgyrchiant, a chyfrinachau symudiadau’r planedau, y lloer a’r sêr. Fel cyfaill Newton ac un a’i cynorthwyodd i gyhoeddi ei waith, roedd William Jones (1674–1749), un o feibion Môn, wedi meistroli’r technegau newydd hyn. Sylwodd Jones nad oedd π yn cyfateb i unrhyw ffracsiwn – nid i 22/7 nac i 355/113 nac i unrhyw ffracsiwn arall. Gwelodd hefyd fod π, fel y degolyn 3.14159…, yn mynd ymlaen ac ymlaen am byth. Yn ei lyfr Synopsis palmariorum matheseos, ysgrifennodd Jones, ‘. . . the exact proportion between the diameter and the circumference can never be expressed in numbers.’ Dyna oedd camp William Jones a dyna pam y penderfynodd ddewis symbol arbennig i gynrychioli’r rhif.

Arwydd o boblogrwydd y rhif π yw’r cynnydd mewn diddordeb ynddo, nid yn unig gan fathemategwyr proffesiynol, ond gan bawb sy’n ymddiddori mewn rhifau. Ers 1988 mae 14 Mawrth wedi cael ei ddynodi’n ddiwrnod rhyngwladol i ddathlu π. Larry Shaw gychwynnodd yr arferiad yn San Francisco ar sail patrwm Americanwyr o ysgrifennu’r dyddiad â’r mis yn gyntaf. Felly, 14 Mawrth yw 3/14 yn y patrwm hwn, a gwerth π i ddau le degol yw 3.14 (tri pwynt un pedwar). Ym mis Mawrth 2009, cytunodd Tŷ’r Cynrychiolwyr, Unol Daleithiau America, i ddynodi 14 Mawrth fel Diwrnod Pai, i’w ddathlu’n rhyngwladol. Ers hynny mae’r diwrnod wedi ysgogi mwy a mwy o weithgareddau, yn arbennig mewn ysgolion a cholegau, a llawer o fwyta peis amrywiol eu cynnwys! I gydnabod y cysylltiad Cymreig, dynodwyd 14 Mawrth yn Ddiwrnod Pai Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2015.

Camp sydd wedi denu sylw poblogaidd yw ceisio cofio cynifer â phosibl o ddigidau π. I ddathlu Diwrnod Pai Cymru yn 2015, aeth llond bws o blant Ysgol Gynradd Llanfechell (pentref ysgol William Jones) i stesion Llanfairpwllgwyngyll, a ailfedyddiwyd yn ‘Llanfair π G’ am y diwrnod. Ymysg eu gweithgareddau yno, gyda chamerâu’r cyfryngau yn eu ffilmio, adroddodd y plant tua 20 o ddigidau π ar eu cof ac roedd ambell un ohonynt yn gallu adrodd hyd at ryw 30 digid. Roedd yn gryn gamp, platfform y stesion wedi’i droi yn llwyfan eisteddfodol a’r plant yn cynorthwyo’i gilydd i gofio pob manylyn.

Clywir straeon am gamp unigolion yn cofio llawer mwy o ddigidau π, a thasg Guinness World Records yw gwirio’r honiadau gorchestol hynny gan ofalu bod swyddogion yn bresennol i gadw cofnod ffurfiol o’r canlyniadau. Y pencampwr presennol am gofio’r nifer mwyaf o ddigidau π yw Rajveer Meena, myfyriwr 21 oed a adroddodd 70,000 o ddigidau ym Mhrifysgol VIT, Vellore, yn yr India ar 21 Mawrth 2015 dros gyfnod o ddeg awr â mwgwd dros ei lygaid. Honnir bod myfyriwr yn Siapan wedi adrodd 111,700 o ddigidau, ond nid yw’r honiad hwnnw wedi cael ei gadarnhau dan amodau’r Guinness World Records.

Un sydd wedi cael ei swyno gan y rhif π a’i ddigidau ac a ddisgrifiodd y profiad hwnnw’n drawiadol iawn yw Daniel Tammet, llenor o Lundain sydd â’r ddawn arbennig o gofio rhifau. Ymhell wedi iddo adael yr ysgol roedd cyfaredd π yn parhau i’w ddenu. ‘Roedd y digidau wedi sleifio’n llechwraidd i’m cof,’ meddai, ac aeth ati’n fwriadol ac yn drefnus i geisio cofio myrdd ohonynt. Yn 2004, yn 24 oed, rhoddodd Tammet ei gof ar brawf yn gyhoeddus ar bnawn 14 Mawrth – Diwrnod Pai, wrth gwrs – yn Amgueddfa Gwyddoniaeth Rhydychen. Dychmygwch yr olygfa:

Mae’r adeilad yn llawn, pawb yn gwrando’n astud ar Tammet yn adrodd rhesi o ddigidau un ar ôl y llall, y tempo’n gyson ond mae’n arafu o dro i dro fel petai’n chwilio am ysbrydoliaeth cyn ailgyflymu. ‘Hwnt ac yma ni allaf lai na sylwi ar ambell ddeigryn,’ meddai. ‘Does neb wedi eu rhybuddio y gallai’r rhifau eu cyffwrdd. Ond maent yn ildio’n llawen i’w llif.’ Am bum awr a naw munud ymwelodd tragwyddoldeb â’r amgueddfa, dawns y digidau’n cyfareddu’r gynulleidfa wrth greu patrymau di-batrwm, y digidau’n ymgiprys am flaenoriaeth. Erbyn y diwedd mae Tammet wedi adrodd 22,514 o ddigidau. Mae’r cyfan yn cael ei wireddu cyn i’r arolygwyr gadarnhau bod hynny’n record Ewropeaidd newydd. Yn union fel diweddglo cyngerdd o gerddoriaeth glasurol, mae’r dorf yn ymdawelu am ennyd cyn dangos eu cymeradwyaeth a diflannu wedyn i niwloedd diwedd pnawn strydoedd y ddinas gyda digidau π yn eu dilyn yn llechwraidd yr holl ffordd adref.

Mae’r rhif π wedi cydio yn nychymyg mathemategwyr yn ogystal ag artistiaid a llenorion. Mae hefyd wedi cydio yn nychymyg plant. Rhan o gyfaredd π yw sut y mae bwrlwm di-drefn ei ddigidau yn gallu codi o syniad mor syml ac mor berffaith â chylch.

Cawn ein cyffroi gan y byd o’n cwmpas a’n rhyfeddu gan liwiau enfys, gan batrwm pluen eira, gan dân gwyllt mellt a tharanau, a chan gyfrinachau’r lloer a’r sêr. Ond wrth gael ein rhyfeddu gan ddigidau π mae’r rhyfeddod hwnnw yn gwbl wahanol gan mai ffrwyth dychymyg dyn yw π: rhif nad oes neb wedi’i weld, rhif sydd y tu hwnt i’n hymdrechion i’w gofnodi’n llawn.

Cafodd y gynulleidfa yn Rhydychen eu cyffwrdd gan eu profiad a oedd, i rai, yn brofiad ysbrydol, os nad yn un crefyddol.

Cychwynnodd π ei fywyd fel cymhareb di-nod ond mae bellach yn eicon diwylliannol i’r holl fyd. Y rhif hwn yw draig goch ein mathemateg.

Gareth Ffowc Roberts

(Addasiad gan yr awdur o ran o bennod yn ei lyfr Cyfri’n Cewri a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Gorffennaf 2020.)

 

 

Steve Chalke

Steve Chalke
yn cael ei holi gan Huw Spanner (Rhan 1)

Huw Spanner

Steve Chalke, mae’r hyn rydych wedi’i gyflawni yn eithriadol, fel Gweinidog gyda’r Bedyddwyr yn eglwys Oasis, Waterloo, yn Llundain; fel sylfaenydd ac arweinydd Oasis Trust, sy’n un o elusennu mwyaf Prydain bellach; fel Ymgynghorydd i’r Cenhedloedd Unedig ar Fasnachu Pobl (Human Trafficking); ac fel awdur llwyddiannus iawn. Beth sydd i’w gyfrif am eich llwyddiant? Ai mater o gryfder cymeriad ac egni neu …?

Steve Chalke

Na, hyn: ym mhob ffordd posibl y gallwch ddefnyddio’r gair ‘iachawdwriaeth’ / gwaredu /fy mod wedi fy ‘arbed’, fy ‘achub’ – dyna, yn y bôn yw’r eglurhad.

Pan oeddwn yn 14 oed, syrthias mewn cariad â merch oedd yn mynd i’r ysgol ramadeg (sec-mod oedd fy ysgol i !) a doedd pawb ddim yn cael cerdded i lawr y stryd lle roedd yr ysgol ramadeg! Yr unig le y gallwn ei gweld oedd yng nghlwb ieuenctid capel y Bedyddwyr lleol yn Croydon. Felly dechreuais fynd yno. Yna dywedodd ffrind wrthyf nad oedd y ferch ddim yn fy ffansïo o gwbwl ac nad oedd hyd yn oed wedi sylwi arna i. Roedd clywed hynny’n ddigwyddiad poenus i mi ac wrth gerdded adre y noson honno – ar hyd stryd oedd yn rhedeg yn gyfochrog â chae pêl-droed Crystal Palace, meddyliais, ‘Tydi hi ddim isio fi! Mae mywyd yn ddibwrpas.’ Dyna oedd yn mynd trwy fy meddwl! Ond meddyliais hefyd, ‘Tydw i ddim yn mynd i’r clwb ieueuctid yna eto.’ Ond meddyliais wedyn, ‘Mae be maen nhw’n ei ddweud wrtha i yn y capel yn gwneud mwy o sens na’r hyn maen nhw’n ei ddweud yn yr ysgol. Yn yr ysgol roedd rhai athrawon yn dweud na wnawn ni (plant y sec-mod) ddim ohoni ac na fydd yna fawr o le i rai fel ni yn ein cymdeithas. Ond yn y capel roeddent yn dweud ein bod wedi ein creu ar ddelw Duw a bod yna bosibiliadau mawr i ni.’ A chofiaf feddwl yn glir y diwrnod hwnnw: ‘Wel, efallai nad oes fawr yn fy mhen i, ond tydw i ddim yn stupid. Rydw i am ddal i fynd i’r capel … ac rydw i am fod yn Gristion, ac os bydda i’n Gristion, bydd hynny’n mynd bwysicach na dim. Rydw i am dreulio gweddill fy mywyd – rydw i’n cofio meddwl hynny’n glir – yn dweud wrth bobl am Iesu. Ac ar ôl tyfu, rydw i am fod yn arweinydd eglwys ac rydw i am sefydlu ysgol a hostel ac ysbyty i bobl y dywedwyd wrthynt nad oedd fawr o werth iddynt ac nad oes lle iddyn nhw. Rydw i am ddweud stori hollol wahanol wrthyn nhw!’

Hwnnw oedd y diwrnod neu’r digwyddiad achubol i mi. Nid dweud yr ydw i fod golau wedi fflachio a bod bywyd wedi bod yn braf ers hynny. A dweud y gwir, mae bywyd wedi bod yn ddipyn o ymdrech, os nad brwydr. Ond roeddwn yn teimlo fy mod wedi cael fy arbed, fy rhyddhau. Tan hynny doeddwn i ddim ond yn dipyn o riff-raff. … A pham ysgol a hostel ac ysbyty? Wel, pan oeddwn yn 15 oed, bob nos Wener fe fyddwn i’n mynd i orsaf Charing Cross, lle roedd y digartref (‘tramps’ y dyddiau hynny) yn byw ‘underneath the arches’. Roedd Mam yn gwneud brechadanau a dau lond fflasg o gawl i mi, ac roeddwn i’n siarad â’r tramps wrth gynnig rhywbeth iddynt.

 (Dyfyniad, trwy ganiatâd Huw Spanner, o gyfweliad rhyngddo a Steve Chalke yn 2013.)

Sefydlodd Steve Chalke Ymddiriedolaeth Oasis yn 1985, yn wreiddiol er mwyn agor hostel i’r digartref yn ne Llundain. Erbyn hyn mae 5,000 o staff a gwirfoddolwyr yn gyfrifol am 50 o ysgolion, 30,000 o fyfyrwyr, a nifer o brosiectau tai ac iechyd. Mae Oasis wedi datblygu yn grŵp o elusennu sy’n gweithredu yn Ewrop, Asia, Affrica a Gogledd America. Yn 1996 dechreuodd Chalke Oasis Media (‘integrated communications agency’), yn 1997 sefydlwyd Parentalk ac yn 2001 sefydlwyd Faithworks. Derbyniodd Ddoethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Sheffield a’r MBE am ei gyfraniad i waith cymdeithaseg gynhwysol ac i gyfiawnder. Mae wedi cyhoeddi 40 o lyfrau.

I ddod eto yn Agora …

Steve Chalke, aelod o’r Gynghrair Efengylaidd, ac awdur y gyfrol ddadleuol The Lost Message of Jesus, a arweinodd at ei ddiarddel o’r Gynghrair, oherwydd iddo ‘wyro o’r ffydd Efengylaidd’.

Yn rhan 2: Steve Chalke yn trafod The Lost Message of Jesus

Fe fydd Steve Chalke yn arwain Cynhadledd Cristnogaeth 21 yng Nghaerdydd ar Fedi 12ed ac yn cyflwyno’i gyfrol ddiweddaraf: The Lost Message of Paul.