Archif Tag: Pryderi Llwyd Jones

Cennad a Thyst

Cenn@d a Thyst

Gŵyl Ddewi eleni lansiwyd dau gylchgrawn wythnosol Cymraeg. Un oedd Cenn@d, cylchgrawn newydd y Bedyddwyr a’r Presbyteriaid, yn cyfuno’u papurau enwadol, sef Seren Cymru (1856) a’r Goleuad (1869).

Yr un wythnos yr oedd yr Annibynwyr yn ail-lansio Y Tyst, eu papur wythnosol, gyda sôn am ddatblygiadau cyffrous ar gyfer y papur a’u gwefan. Nid oeddynt am ymuno â’r Bedyddwyr a’r Presbyteriaid i gyhoeddi un papur wythnosol ar lein.

Fel arfer, testun llawenydd fyddai cylchgrawn Cymraeg newydd, heb sôn am ddau (er mai ail-lansio oedd un) ond, i’r rhai a ŵyr y cenfndir, cymysgedd o ddiolch heb ddathlu, tristwch a siom yw’r digwyddiad i mi ac i eraill. Dewis yr Annibynwyr oedd peidio â bod yn rhan o’r fenter. Gobaith heb ei gyflawni yw Cenn@d felly, ac roedd yr ysgogiad i barhau heb yr Annibynwyr yn siŵr o gynnwys elfennau eraill bellach, fel ystyriaethau ariannol ac ymarferol. Nid yw ‘nod’ y Cenn@d chwaith mor glir ag ydoedd i’r tri enwad. Dewis ail orau yw bod heb yr Annibynwyr. Mae rhai wedi sibrwd gobaith y byddant yn ymuno yn y dyfodol. Ond mentrwyd lansio Cenn@d mewn gobaith a ffydd. Nid yw’r Ysbryd yn aros yn ei unfan, meddai pregeth fawr Steffan yn yr Actau.

Gwell egluro. Mae’r cydweithio a’r rhannu rhwng y tri enwad yn arbennig iawn: ffydd a chred, gweinidogaeth a gofalaethau, gweinyddu sacramentau, rhannu adeiladau a chydaddoli cyson ac yn ddiweddar y Panel Diogelu. Ers ugain mlynedd y mae’r tri enwad wedi bod yn rhannu hanner (pedair tudalen) eu papur enwadol gyda’i gilydd. Maent yn gytûn ar yr hyn sy’n gwneud eglwys ac yn cael ei wireddu yn yr eglwys leol, sef ‘cymdeithas o bobl sy’n addoli Duw, yn cyffesu Iesu yn Arglwydd, ac wedi eu galw i fod yn dystion iddo’. Mae gan bob enwad ei strwythur i gynnig cefnogaeth a chymorth i’r eglwysi lleol, ond yr eglwys leol sy’n galw gweinidogion ac yn dewis arweinyddion. Fe ddywedir, a hynny’n hollol gywir, fod amrywiaeth o fewn eglwys Crist yn naturiol a phwysig, ond does dim amrywiaeth o werth yn ein plith. Y gwir yw ein bod yn rhy debyg!

Nid ecwmeniaeth

Nid sôn am ‘uno enwadau’ y mae ‘ecwmeniaeth’ ond am y cydweithio sydd yn arwain yr eglwys fyd-eang i berthynas ddyfnach â’i gilydd ac â Duw. Mae nifer fawr o aelodau’r capeli yn credu fod y cydweithio rhyngom wedi ein harwain, yn araf, i ddyfnach ‘undod’, ond nid yw ystyr yr ‘undod’ hwnnw yn glir. Mae’n hawdd deall yr awydd a’r cyfrifoldeb ym mhob enwad i warchod eu hetifeddiaeth ond perygl hynny yw credu mai ein henwad yw’r etifeddiaeth (‘I draddodiad fod yn fyw, rhaid iddo newid’, Bruce MacLaren). Mae penderfyniad yr Annibynwyr yn ymddangos yn bendant a therfynol ac roedd y bleidlais yn yr Undeb, mae’n debyg , yn unfrydol. Ymddengys mai ‘parhau’n enwadol’ fydd hi i’r dyfodol ac na fydd sôn am ‘undod’ ar unrhyw agenda. A phetai sôn am uno yn y dyfodol pell, fe fyddai’r broses honno yn feichus o araf a diflas.

Ond mae tristwch dyfnach nag uno papurau ac enwadau – a rhywbeth sy’n mynd i galon ein hargyfwng fel eglwysi a’n cymunedau Cymraeg. Pan mae tri chapel, ar gyfartaledd, wedi bod yn cau yn wythnosol yng Nghymru ers degawdau, fe wyddom beth yw dyfnder ein hargyfwng.

Tristwch a methiant

Nid oes yr un enghraifft o’r enwadau Anghydffurfiol yn cyflwyno, gyda’i gilydd, raglen genhadol hirdymor i Gymru. Er yr holl gydweithio, pob enwad â’i rhaglen fu ac ydyw’r drefn o hyd. Dyma un enghraifft ddiweddar.

Mae’r Annibynwyr yn dechrau ar gynllun, ‘Arloesi a buddsoddi’, sy’n cynnig arian sylweddol i eglwys / eglwysi i ddatblygu rhaglen genhadol a allai arwain at brosiectau, gweithgarwch a gweithwyr newydd. Nid cyfle i fedru trwsio’r to fydd ‘Arloesi a buddsoddi’. Cynllun manwl i genhadaeth leol ydyw.

Ers rhai blynyddoedd, mae’r Presbyteriaid yn gweithredu cynllun tebyg ar gyfer eglwys / eglwysi trwy fuddsoddi arian o werthiant capeli er mwyn datblygu prosiectau cenhadol / cymunedol, gwaith plant, ieuenctid a.y.b. Rhan o ffrwyth y cynllun yw nifer o ‘weithwyr cenhadol’ a nifer ohonynt o enwadau eraill. Cynllun cenhadol lleol ydyw, fel ‘Arloesi a buddsoddi’.

Rhaglen Genhadol 2021–2071 i Gymru

Rhaid wrth raglen hirdymor i wynebu argyfwng ein heglwysi a’n cymunedau. Nid cenhadaeth yma ac acw lle mae gan yr enwadau gapel, ond rhaglen gynhwysfawr Teyrnas Dduw i Gymru. Nid yr un fyddai’r amgylchiadau ym mhob ardal, wrth gwrs, ond fe fyddai’n rhan o’r un rhaglen.*

(* Mae Dafydd Iwan wedi cyfeirio at hyn yn ddiweddar, yn arbennig o safbwynt cyfrifoldeb cymunedol ac adeiladau’r enwadau. Mae rhai enwadau mewn gwledydd eraill hefyd wedi datblygu un rhaglen genhadol.)

Ai meddyliau gweinidog wedi ymddeol, naïf, yw’r meddyliau hyn? Neu ai perthyn i’r gorffennol y mae ysbryd Cristnogol, mentrus a radicalaidd Cymru? A aeth ein gweledigaeth o’r Deyrnas yn rhy gyfyng a’n Duw yn rhy fach?

Mae’n sefyllfa sy’n gofyn am gwestiynau caled ac anodd. Yr ydym, gobeithio, yn ddigon aeddfed i’w gofyn mewn cariad a goddefgarwch, mewn galar gwirioneddol, mewn gweddi ac yng ngobaith pobl y Pasg , gan werthfawrogi ein hetifeddiaeth gyfoethog a diolch am aberth y ‘cwmwl tystion’.

Wrth gwrs, mae dweud dim yn bosibl a bod yn grefyddol gwrtais rhag tarfu ar neb na dim. Mae lle i gredu fod hynny yn dod yn gyffredin iawn yn ein plith.

Cwestiynau

Ai Duw sydd wedi ein harwain i gydweithio drwy argyfwng ein heglwysi? Ac os felly, a oes awgrym ein bod, yn groes i’n gobeithion, wedi mynd mor bell ag y gallwn yn ein perthynas â’n gilydd?

A allwn ddweud mai mater i’r Annibynwyr ydyw ac nad oes gennym hawl i fusnesu ag enwad arall? Fe fyddai llawer yn cytuno â hynny, wrth gwrs. Ond eto … yr holl gydweithio a’r addoli? Ein cytundeb ar beth yw eglwys, ein bod yn rhannu yr un diwylliant cyfoethog a’r un iaith, ein bod yn gymdogion? Yr un maes cenhadol? Yr un Arglwydd?

Ond tybed, os yw un drws yn cau, fod yr Ysbryd yn agor drysau eraill? A dyma, efallai, un drws posibl.

1) Ildio mewn tristwch i’r rhai sy’n gweld ‘ecwmeniaeth’ yn fygythiad (a gwybod y byddai ‘uno’r enwadau’ yn broses faith a llafurus) a chredu bod ein cenhadaeth yn ein clymu yn un, yn ôl y Testament Newydd.

2) Nid enw papur wythnosol sy’n bwysig ond ei gynnwys. Yn hanes Cenn@d a’r Tyst fe allai’r ddau gynnwys yr un deunydd a’r deunydd hwnnw yn bennaf fyddai datblygu a hyrwyddo’r rhaglen genhadol. (Nid cynnwys ar gyfer y Pedair Tudalen fyddai hyn.)  

3) Gan fod argraffu mewn print ac/neu ar y we yn rhan o’n trafodaeth a’n cyfathrebu bellach, fe ellid rhoi materion enwadol ar wefannau’r enwadau – heb ddibrisio’r materion hynny gan y bydd trefnu a chynllunio yn hollbwysig mewn cenhadaeth dymor hir – a rhoi materion a deunydd a rhaglen ein cenhadaeth yn gyffredin i’r tri enwad. Fe allai hwn fod mewn print neu ar y we yn unig.

4) Fe fyddai rhaglen genhadol o’r fath yn golygu cyfnodau rheolaidd o gydaddoli lleol a rhanbarthol. Nid mewn pwyllgorau y byddai’r cenhadu yn datblygu, ond mewn addoli, arweiniad y Beibl a thrafod yn adeiladol gyda synnwyr cyffredin a doethineb yr Ysbryd. Fe fyddai’n gyfle hefyd, drwy’r we, i wneud ein heglwysi o bob enwad yn fwy democrataidd ac agored i’r holl aelodau.

Yn hyn, fe fyddem yn dod i sylweddol bod Duw wedi rhoi mwy o adnoddau i ni ar gyfer ein tasg nag yr ydym yn ei sylweddoli, digon i sefydlu eglwysi agored, newydd a llydan, gyda gweithgarwch cymunedol a phersonol a thwf mewn ysbrydolrwydd ac amgyffred cyfoeth y Beibl i’r cyfnod hwn. I faes cenhadol fel Cymru, mae ein hadnoddau yn fawr ond adnoddau Duw yn fwy. Gwybod hynny fydd dechrau ein hadferiad.*

(* Nid oes yma fwriad i drafod yr undod diwinyddol efengylaidd sy’n croesi ffiniau enwadol. Mae’r undod hwnnw i’w weld mewn ‘eglwysi efengylaidd’ neu’r gymuned glòs, efengylaidd . Fe fyddai ‘cenhadaeth yr enwadau anghydffurfiol’ yn esgor, gobeithio, drwy’r Ysbryd ar weithgarwch / eglwysi llydan, cynhwysol a chymunedol. Mae holl weithgarwch Duw yn y Beibl ac mewn hanes yn tystio bod cenhadaeth yn ei chyfoeth yn fwy nag efengylu, wrth gwrs.)

Y Tyst a’r Cenn@d

Mae’r erthygl hon yn cael ei hysgrifennu ar ôl gweld y rhifyn cyntaf o’r ddau gyhoeddiad, ac y mae’r ddau yn ddeniadol a hawdd eu darllen o ran diwyg a chynnwys. Gan Cenn@d yr oedd y dasg anoddaf, ond mae’r cyfuno yn naturiol ond (yn fwriadol?) heb gynnwys newyddion enwadol. Mae erthygl o groeso i’r Cenn@d gan Mererid Hopwood (tudalen flaen) ac un arall gan Lywydd y Pwyllgor Llywio, Yr Athro Densil Morgan. Mae Ysgrifenyddion y ddau enwad yn dymuno’n dda hefyd. Mae mwy o bwyslais ar y croeso nac ar ddathlu. Nid oes unrhyw gyfeiriad yn y rhifyn cyntaf at y siom nad yw’r Tyst yn rhan o’r datblygiad! Rhifyn cyntaf gwylaidd a gobeithiol ydyw. Mae lle amlwg i ddeunydd defosiwn ac arweiniad ar gyfer y Grawys, a gobeithio y bydd hynny yn elfen gyson yn Cenn@d.

Mae rhifyn ail-lansio Y Tyst yn hyderus a chyffrous, ac yn cyflwyno rhagflas o’r hyn sydd i ddod. Mae lle i faterion enwadol, wrth gwrs, gan gynnwys rhan gyntaf coffâd John Gwilym Jones i’r diweddar Vivian Jones ac erthygl gyntaf i ieuenctid gan ieuenctid. Mae gair o ddymuno’n dda i’r Cenn@d hefyd gan y golygydd.

Dau ddyfyniad

Mae’r golygydd yn nodi bod Undeb yr Annibynwyr ‘angen parhau gyda’r Tyst ar hyn o bryd’. Cymal hwylus iawn yw ‘ar hyn o bryd’. Rhaid gofyn felly: a oes gobaith y daw y pryd hwnnw, a pha bryd? Fe all heddiw, wrth gwrs, fod yn amser Duw oherwydd bod y Bedyddwyr a’r Presbyteriaid angen yr Annibynwyr. Yr ydym angen ein gilydd – er mwyn yr Efengyl ac er mwyn ein Cymru Gymraeg.

Mae’r Dr Geraint Tudur yn cyflwyno’i gyfres fisol newydd am bwysigrwydd y Cyngor Cenhadol Byd-eang (CWM) i’r Annibynwyr. Mae’r Presbyteriaid hefyd yn perthyn i’r teulu hwn o 32 o eglwysi. Mae CWM yn gwbwl ecwmenaidd, neges a ddysgwyd pan wrthododd llawer o eglwysi’r enwadaeth Ewropeaidd oedd yn amherthnasol i’w tystiolaeth – fel y mae’n ymddangos yng Nghymru, wrth gwrs. Dyna sydd wedi digwydd ym Madagasgar, Jamaica a De India. Mae’r egwyddor o rannu doniau ac adnoddau yn rhyngwladol yn ogystal ag o fewn ffiniau un gwlad fechan fel Cymru yn sylfaenol i CWM.

Ond yr un mor bwysig yw fod Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn rhan o Undeb Eglwysi Annibynnol y Byd. ‘Yr ydym,’ meddai Geraint, ‘yn cael ein galw fel Annibynwyr o’n mannau cyfforddus a’n corneli diogel … ni thâl i ni fod â meddyliau caeedig.’ Maent yn eiriau grymus a gwir. Fe wyddom fod ehangu gorwelion yr eglwys leol tu hwnt i adeilad ac enwadaeth yn dasg i bob enwad. Ond fe ddywed Geraint hefyd: ‘Ein braint ni fel Annibynwyr Cymru yw cael gweld a chymryd ein lle yn hyderus yng nghanol yr holl weithgarwch cynhyrfus hwn yn ein byd.’

Er mor bwysig hynny, fe fyddai’r Annibynwyr, y Bedyddwyr a’r Prebyteriaid yn cydnabod nad oes dim pwysicach na’r fraint a’r alwad y mae Duw wedi’i rhoi i ni i fod yn dystion yng Nghymru, y winllan fechan a roddwyd i ni. Yn ôl Iesu, heddiw yw Dydd yr Arglwydd. Fe’n galwodd yng Nghrist i ymateb i’w lais ar y dydd hwn o brysur bwyso.

‘Kairos’ yw gair y Testament Newydd – gair Iesu ar ddechrau ei weinidogaeth – yn datgan nad gair ddoe ydyw, na gair yfory chwaith, ond gair HEDDIW. Ac onid yw Iesu hefyd yn galw ar ei bobl i ollwng gafael ar bopeth arall, er mwyn y Deyrnas?

 

Pryderi Llwyd Jones

(8 Mawrth 2021)

Y Parchedig Rhodri Glyn Thomas yn sgwrsio

Y Parchedig Rhodri Glyn Thomas yn sgwrsio â gwefan Cristnogaeth 21

 Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Parchedig Rhodri Glyn Thomas (ond yn ein cymdeithas glòs fel Cymry Cymraeg Rhodri Glyn ydyw i bawb), am fodloni i gynnal sgwrs gyda Christnogaeth 21, y gyntaf mewn cyfres ddeufisol o sgyrsiau newydd. Fe’i ganwyd yn Wrecsam, yn fab i’r Parchedig T. Glyn ac Eleanor Thomas ac yn frawd i Huw. Mae’n briod â Marian ac yn dad i Lisa, Deian a Rolant, ac yn dad-cu i Gwen, Rhodri, Rhys, Alis a Heti. 

Rhodri, llawer o ddiolch am gytuno i gynnal sgwrs ar wefan Cristnogaeth 21. Efallai fod y mwyafrif ohonom yn y Gymru Gymraeg yn meddwl amdanat fel ‘gweinidog rhan amser’ o ddechrau dy weinidogaeth. Fe wn i nad yw hynny’n wir (rwy’n meddwl mai tua 18 mlynedd fuost yn Aelod Cynulliad ond dy fod wedi ymladd mwy nag un etholiad), ond a oedd galwad i weinidogaeth ran amser yn dy weledigaeth o’r dechrau? Mae llawer yn gweld hynny’n allweddol i ddeall ystyr ‘gweinidogaeth gyfoes’.

Rhodri: Mae’n siŵr bod nifer o aelodau’r ofalaeth wreiddiol yn credu taw gweinidog rhan amser oeddwn i. Roedd gen i nifer o ddiddordebau allanol gan gynnwys ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol – a hynny yn aml yn golygu herio awdurdodau a’r gyfraith. Roeddwn yn ystyried darlledu ac ysgrifennu fel rhan o’r weinidogaeth ehangach, ond roedd y cyfan yn bwyta i mewn i’r amser oedd gen i i’r weinidogaeth draddodiadol. Serch hynny, y bwriad ar y cychwyn, o leiaf, oedd y weinidogaeth lawn amser. Erbyn hyn, byddwn yn dadlau mai’r weinidogaeth ran amser sy’n apelio ataf. Mae gen i le mawr i ddiolch i aelodau’r capeli am ganiatáu imi gyflawni gweinidogaeth oedd yn anghonfensiynol iawn ar y pryd. Dyna sy’n esbonio pam fy mod i yma o hyd, mae’n siŵr gen i.

Pryderi: Nid oes angen sôn am ddylanwad yr aelwyd a chyfoeth dy wreiddiau, ond fe hoffwn ofyn hyn. Roedd dy dad, y Parchedig T. Glyn Thomas, yn weinidog enwog iawn fel pregethwr, fel awdur a diwinydd (mae rhestr ei waith cyhoeddiedig yn faith ar ddiwedd y gyfrol goffa iddo) ac yn arbennig y cyfrolau cyfoethog Ar ddechrau’r dydd ac Ar derfyn dydd, ac fel proffwyd (ac ysgogydd Cymru i Grist). Yr oedd ei ddilyn yn fraint ac yn her i weinidog ifanc, ond pa agwedd o’i weinidogaeth oedd y dylanwad mwyaf arnat ?

Nid oedd gen i unrhyw fwriad i geisio ei ddilyn mewn unrhyw ffordd. Roeddwn yn ymwybodol fy mod yn bersonoliaeth wahanol iawn iddo ef.

Pryderi: Ym mha ffordd, tybed?

Rhodri: Does gen i mo’i ddisgyblaeth na’i ddyfalbarhad e. Ond gan fy mod wedi gwrando arno ddwywaith y Sul drwy gydol fy magwraeth, roedd ei ddylanwad yn fawr arnaf. Dw i ddim yn siŵr a fyddai ef am arddel y dylanwad hwnnw. Yn rhyfedd ddigon, roedd gan fy nhad-cu, John Eleias Thomas – er na chefais y fraint o’i gyfarfod – ddylanwad rhamantus arnaf. Roedd yn focsiwr ym mythau’r ffeiriau cyn ei ordeinio’n weinidog, ac wedi hynny roedd ei natur wyllt a’i bregethu nerthol yn arwain at bob math o hanesion hudolus. Doedd gen i ddim adnabyddiaeth ohono, ond mae’n debyg fod y ffaith nad oedd e’n cydymffurfio â’r syniad traddodiadol o weinidog yn apelio,

Bu blynyddoedd Bala–Bangor a hyfforddiant R. Tudur Jones, Stanley John ac Alwyn Charles yn amhrisiadwy wrth fy mharatoi ar gyfer y weinidogaeth. Dw i ddim yn siŵr a fyddent hwy am dderbyn unrhyw gyfrifoldeb chwaith. Mae’n debyg mai’r wers sylfaenol a ddysgais gan bob un o’r rhain oedd yr angen i wreiddio fy mhregethu yn y testun Beiblaidd. Mae ambell hanesyn yn iawn ac mae’n bwysig gosod cyd-destun cyfoes, ond mae’r neges sylfaenol i’w chael yn y Gair.

Pryderi: Roedd hi, mae’n debyg, yn gyfnod arbennig yng Ngholeg Bala–Bangor, yn doedd, ac mae sôn amdano fel cyfnod o ‘adfywiad’ a ‘llwyddiant’. Mae’n amlwg fod y gymdeithas yn y coleg wedi parhau.

 Rhodri: Roeddwn yn ffodus i gael cwmni cyd-fyfyrwyr wrth ddechrau yn y weinidogaeth. Roedd Euros Wyn Jones (sydd yn anffodus wedi ein gadael) a Robin Samuel mewn pentrefi cyfagos, a Trefor Jones Morris heb fod ymhell. Roedd cyfeillion o Goleg y Bedyddwyr yn yr ardal hefyd, gan gynnwys Tecwyn Ifan ar stepen y drws yn Sanclêr. Roedd honno’n gwmnïaeth bwysig nad yw gweinidogion yn ei mwynhau bellach.

Pryderi: Nid yw’n anodd meddwl am y ‘gwleidydd yn ei bulpud’, ond mae’n fwy anodd meddwl am ‘y gweinidog yn Senedd Cymru’. A fedri di ddweud rhywbeth am hynny ac a wnaeth dy brofiad a’th ymrwymiad gwleidyddol (mewn nifer o swyddi) ddatblygu, newid neu ddyfnhau dy ddiwinyddiaeth?

Roedd cyfiawnder cymdeithasol yn sylfaenol i’r weledigaeth a’m harweiniodd at weithgaredd gwleidyddol. Roedd cryn dipyn o wleidyddiaeth ar yr aelwyd, yn enwedig o gyfeiriad fy mam. Cam naturiol imi oedd cefnogi ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru; doeddwn i ddim yn credu bod llwybr arall i Gymro Cymraeg ei ddilyn.

Nid oedd bod yn ymgeisydd gwleidyddol, heb sôn am ddod yn aelod o’r Cynulliad, yn fwriad; rhyw gwympo i mewn i’r peth yn ddamweiniol wnes i, ond bu’n anrhydedd mawr. Roedd cynrychioli etholwyr Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn fraint enfawr. Fe wnaeth cymysgu ag aelodau o bleidiau a chrefyddau eraill fi’n llai rhagfarnllyd ac yn fwy parod i werthfawrogi cyfraniad y rhai hynny oedd yn dilyn trywydd gwahanol i mi. Mae’r weinidogaeth Anghydffurfiol yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn gallu cynnig gweledigaeth cyfyngedig iawn o fywyd.

Pryderi: Ym mha ffordd?

 Rhodri: Rydym yn byw mewn swigen ymhell o realiti bywyd y rhelyw o’n cyd-Gymry. Arweiniodd hyn at gydweithio’n llawer mwy cysurus â gweinidogion Llafur yn Llywodraeth Cymru’n Un nag aelodau fy mhlaid fy hunan. Sylweddolais ein bod yn rhannu yr un dyheadau am gyfiawnder cymdeithasol, er yn perthyn i bleidiau gwahanol. Datblygodd fy ffydd wrth rannu profiad ag aelodau o draddodiadau crefyddol amrywiol y Bae, gan fynd â mi i gyfeiriadau nad oeddwn wedi eu hystyried cyn hynny.

Yr hyn a ddysgais yn y bôn oedd bod gwerthfawrogi safbwyntiau eraill yn fodd i gyfoethogi yn hytrach na glastwreiddio argyhoeddiadau personol ac mai’r gwerth mwyaf mewn bywyd ac o ran ffydd a gwleidyddiaeth yw goddefgarwch.

Pryderi: Yn fuan ar ôl ymddeol cefaist waeledd difrifol. I rywun mor weithgar ac yn byw bywyd mor brysur a llawn, mae’n anodd meddwl na fyddai’r profiad dirdynnol hwnnw wedi cael dylanwad emosiynol ac ysbrydol mawr arnat – hyd yn oed wedi dy newid, fel mae eraill sydd wedi mynd trwy brofiad tebyg yn tystio? A wyt yn barod i rannu rhywfaint o’r profiad hwnnw ?

Digwyddodd y strôc yn ddirybudd. Roeddwn wedi bod yn ymhyfrydu fy mod wedi mwynhau pum mlynedd a thrigain o fywyd hollol iach pan rybuddiodd y meddyg teulu, ‘Mae e’n dal lan ’da chi nawr’, a digon gwir hynny. Cefais dabledi i hyn a’r llall, ond roeddwn yn dal i deimlo’n berffaith iach. Newidiodd y cyfan ar amrantiad gan fy ngadael yn gaeth i wely ysbyty, yn methu symud hyd yn oed fy mysedd ar ochr dde fy nghorff.

Flwyddyn yn ddiweddarach, rwyf ’nôl ar fy nhraed ond yn ddibynnol ar ffon. Mae bywyd yn parhau’n braf a breintiedig, os rhyw ychydig yn arafach. Dw i’n dal i fwynhau ac i sylweddoli bod ’na lawer iawn o bobl llai ffodus na fi. Wrth gwrs, daeth y Coronafeirws i arafu a chyfyngu ar fywyd pawb.

Dw i ddim wedi bod trwy brofiad o chwalfa fawr o ran iechyd, dim ond rhyw gymaint ac angen addasu. Yn ffodus, dw i dal i wella er bod y broses yn araf.


Yn gwella

Pryderi: Wrth wella, tybed a oedd darllen yn bosibl ac a oedd llyfrau neu awduron arbennig a ddaeth â blas bendith arbennig i ti?

Rhodri: Roedd darllen yn broblem ar y cychwyn gan fy mod i’n ei chael hi’n anodd i ganolbwyntio. Yr unig beth oedd ar fy meddwl yn yr ysbyty oedd cael yn ôl ar fy nhraed. Wedi cyrraedd gartre, mae llyfrau am fywydau pobl ddiddorol wedi mynd â’m bryd: Michelle Obama; nofel Gwynn ap Gwilym am John Dafis, Mallwyd, Sgythia; a hunangofiant gŵr arbennig, David Nott o bentref cyfagos Tre-lech, y llawfeddyg oedd yn gadael awyrgylch cysurus yr ysbyty yn Llundain i fentro yn gyson i feysydd peryglus rhyfeloedd. Dylai pawb ddarllen ei hanes.

Pryderi: Ar ôl ymddeol o wleidyddiaeth a Senedd Cymru, tybed a fydd mwy o amser i ystyried sefyllfa ein tystiolaeth Gristnogol, yn enwedig yn y traddodiad Anghydffurfiol Cymraeg. A wyt yn digalonni wrth weld y ffordd yr ydym yn wynebu’r argyfwng? A oes tuedd i osgoi oblygiadau radical ‘diwygio’ drwy obeithio am ‘ddiwygiad’?

Rhodri: Mae’r ofalaeth, Cylch Annibynwyr San-clêr, wedi newid yn sylweddol dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Mae dau o’r capeli wedi eu cau a’r Coronafeirws wedi ein gorfodi i ymgynnull mewn un adeilad. Felly mae ’na ryw gymaint o symud, ond dim hanner digon. Mae ’na golli tir hefyd o ran y nifer sy’n mynychu ac ystod y gweithgareddau. Ar un adeg roedd gennym eisteddfod a chôr a chwmni drama, clwb ieuenctid a thîm criced, cwrdd chwiorydd a chwrdd gweddi – a’r cwbwl sy’n weddill yw un oedfa ar fore Sul a’r Gymdeithas ganol wythnos.

Ond yn fwy hyd yn oed na’r angen amlwg i resymoli nifer yr adeiladau, mae’n rhaid darganfod cyfeiriad a nod i weithgaredd yr Eglwys o fewn y gymdeithas. Cenhadaeth ar ei newydd wedd wedi ei seilio ar yr angen i ledaenu goddefgarwch a thrugaredd. Nid bodoli er ei mwyn ei hunan, nac ychwaith ei haelodau ei hunan, ond er mwyn cynnig perspectif amgenach o fyw.

Pryderi: Gan gytuno bod yr angen am ‘gyfeiriad a nod’ yn bwysig i’n heglwysi (a’n henwadau), beth yw’r ‘persbectif amgenach o fywyd ‘ sydd gennym i’w gynnig?

Rhodri: Mae’n hawdd cydymdeimlo â’r ffyddloniaid sy’n brwydro i gadw drws y capel ar agor ond mae angen agor y drysau hynny led y pen a chyfarch y byd oddi allan – rhywbeth sy’n llawer haws i’w ddweud na’i wneud. Mae’n debygol taw un o effeithiau’r Coronafeirws fydd rhesymoli nifer yr adeiladau. Mae ystyr a gwerth enwadaeth wedi hen farw allan …

Pryderi: Mae lle i gredu y byddai llawer yn anghytuno …

Rhodri: … ac un capel Anghydffurfiol cyfrwng Cymraeg sydd ei angen ym mhob pentref neu dref, er mae’n bosib bod modd caniatáu mwy nag un mewn ambell ddinas. Ond rywsut, mae angen inni ddianc o gysur ein bywydau ar gyrion cymdeithas. Cael fy magu yn Annibynnwr wnes i, yn hytrach na dewis hynny, er fy mod i’n ymhyfrydu yn y traddodiad radicalaidd. Hwyrach bod angen imi ddychwelyd at ddechreuadau fy ngweinidogaeth ac ailddarganfod y weledigaeth o ymgyrchu cymdeithasol!

Pryderi: Diolch, Rhodri, am fod yn barod i roi amser i ddarllenwyr Cristnogaeth 21. Fe fydd pawb yn falch o glywed dy fod yn gwella ac mai tu hwnt i Cofid 19 a’r gaeaf a’r ffon, y bydd dy adferiad yn llwyr. Mae dweud ‘Diolch am dy wasanaeth dros y blynyddoedd i’r Efengyl a’n cenedl’ yn gwneud i ti swnio’n hen, felly dyma ychwanegu ein gobaith o gael dy gyfraniad

Cerddaf o’r hen fapiau

‘Cerddaf o’r Hen Fapiau’

Ar ddiwedd wythnos Gŵyl Ddewi a thrannoeth Diwrnod y Llyfr profiad arbennig iawn oedd bod yn y Morlan i lansio cyfrol Aled Jones Williams, Cerddaf o’r Hen Fapiau. Nid ‘cyfrol’ chwaith ond rhodd gan Aled i’w ffrindiau. Y mae, ac fe fydd, yn rhodd amhrisiadwy. Fe wnaeth y cerddi gymaint o argraff ar y rhai a gafodd y fraint o’u derbyn fel yr aeth Cynog Dafis ac Emyr Llewelyn ati (gyda chaniatâd yr awdur – ‘Gwnewch chi be’ ydach chi isio’i wneud efo nhw rŵan, chi piau nhw.’) i drefnu copïau ffacsimili o’r cerddi. Fe fyddai paratoi copi unigol i’w holl ffrindiau wedi bod yn dasg amhosibl! Fe allwch eu prynu drwy’r wefan hon, os oes copïau ar ôl.

Daeth nifer dda o bobl ynghyd i’r Morlan, a nifer wedi teithio pellter i fod yno. Cristnogaeth 21 drefnodd y noson, gyda Gwerfyl Pierce Jones yn cadeirio. Wrth gyflwyno’i chyfraniad cerddorol i’r noson, soniodd Manon Steffan Ros am ei hedmygedd a’i dyled i Aled a fu’n ysgogiad mawr iddi fel llenor a dramodydd. Gan fod Cynog ac Aled wedi cydweithio ar gyhoeddi cyfrol heriol a phersonol am ffydd ac argyfwng cred, roedd yn braf eu clywed yn sgwrsio â’i gilydd, a phawb yn cael rhannu ysbryd cyfeillgar a siriol, annwyl a goddefgar Aled, er i’w daith ysbrydol fod yn ingol o boenus – ‘nos dywyll yr enaid’ – ac nid yn ymarfer deallusol. I amryw o bobl erbyn hyn mae gwaith Aled yn rhan o’u taith ysbrydol hwythau a hynny, i rai, yn golygu aeddfedu a chynnal eu ffydd. Er bod gan Cynog feddwl mawr o Aled, nid oedd y sgwrs heb ei chwestiynau anodd. Yn ystod y sgwrs roedd Llinos Dafis yn darllen rhai o gerddi Aled oedd wedi eu hargraffu ar daflen fel bod pawb yn medru eu darllen yr un pryd.

Emyr Llywelyn yn agor y noson. Llun drwy garedigrwydd Marian Delyth.

Emyr Llywelyn ddechreuodd y noson a hynny’n gofiadwy iawn gyda gwerthfawrogiad byr o gerddi Aled. Rydym yn ddiolchgar iawn i Emyr am ei ganiatâd i gyhoeddi ei werthfawrogiad. Roedd yn ddechrau cyfoethog i’r noson.

Cynog Dafis yn holi’r awdur. Llun drwy garedigrwydd Marian Delyth.

            ‘duw’
beth a wnaf
             heb y gair
                cymraeg
                  bychan
                      hwn ?

 

beth sydd hebddo ?
            Fe’i llyncaf
               a’r cosmos
                   ynof
                yn
                   goleuo

Aled
Gwerthfawrogiad o’i waith
gan Emyr Llywelyn

Pan gyhoeddodd Aled ei gyfrol Y Cylchoedd Perffaith rai blynyddoedd yn ôl mi wnes sgrifennu gwerthfawrogiad ohoni. Dyma ddywedais i:

Mae gweledigaeth y dyn dioddefus hwn o Dduw yn gwneud y llyfr bach hwn yn un o drysorau ein llên. Ni chafodd y gyfrol fawr sylw yn y wasg Gymraeg ond y mae’n sicr yn un o ychydig gyfrolau’r ganrif hon yn Gymraeg sy’n haeddu cael ei chyfieithu i ieithoedd eraill y byd a chynnwys rhai o’i cherddi mewn unrhyw gasgliad o weithiau cyfrinwyr mawr y byd.

Mi geisia i heno esbonio’n fyr pam rwy’n dal i arddel y geiriau yna.

Cwmwl o atomau sy’n llifo ac yn newid yn barhaol ydyn ni, ac yn byw ein bywydau byr ar belen fach o ddaear sy’n chwyrnellu drwy’r gofod ar gyflymdra aruthrol o gwmpas pelen o dân.

Ni fedr ein meddyliau dreiddio hwnt i’r ddau affwys sy’n ein cwmpasu, sef y microfyd ar un llaw sy’n ddyfnder diwaelod o atomau ac is-atomau, ac ar y llaw arall mae’r cosmos gyda’i alaethau gweladwy ac anweladwy a’r pellteroedd anchwiliadwy.

Mae rhyw rym anweledig yn cynnal y cyfan – yn cynnal yn rhyfeddol undod ein cwmwl atomau ac yn cynnal y planedau yn eu cylchoedd. Fel y dywedodd Einstein, “Rydyn ni i gyd yn dawnsio i gân ryfeddol a genir gan bibydd anweledig.”

Mae Aled yn gofyn cwestiwn sylfaenol: pa fodd y mae gwybod unrhyw beth am y grym anweledig tu ôl i bopeth byw – am Dduw?

A fedrir dal duw yng ngwe geiriau?
Ei ddal o am yn ddigon hir i deimlo’i riddfan
cyn iddo dorri iaith a dengid yn ôl i’w fudandod.

Ond fe lwyddodd Aled yn ei gyfrolau i ddal Duw yng ngwe geiriau.

Y gwir yw bod Duw yn nes aton ni nag rydyn ni’n meddwl; nid allan ym mhellterau’r cosmos y mae’r ateb i natur Duw, nac ym myd yr is-atomau chwaith, ond yn y galon.

Yn ôl Meister Eckhart: “Dyw Duw ddim pellach i ffwrdd na drws y galon. Yno mae’n disgwyl hyd nes ei fod yn gweld dy fod yn barod i’w adael i mewn.”

Dull y cyfrinydd o geisio adnabod Duw yw gwacáu’r galon o bopeth hunanol er mwyn gadael Duw i mewn i’w galon. Does dim lle i Dduw a’r Hunan, yr Ego Mawr, yn y galon.

Dyma weddi Aled:

gwna fi’n wag fel bol mandolin,
gwna fi’n wag fel crombil tjelo.

Cyn y medrwn ni wneud ein bywydau yn gân ddwyfol sy’n fynegiant o’r Da a’r Cyfiawn, ‘y gân y mae’n rhaid ei chanu’ – Plato, ‘y gân ni chanwyd’ – Waldo, rhaid i ni wneud ein calonnau yn wag fel ‘bol mandolin’ a ‘chrombil tjelo’.

Agorodd Aled ddrws ei galon a darlunio i ni Dduw harddach na Duw dogma a diwinyddiaeth.

Ti

yn fy Nychymyg yr wyt ti yn fwy
na’r hyn y mae’r diwinyddion a’u beibl
yn ei ddweud wyt ti
yn fwy cariadus na chariad
yn fwy tosturiol na thosturi
harddach na harddwch
ac o hyn ymlaen
byddaf yn ymddiried yn fy Nychymyg
ac nid yn y diwinyddion a’u beiblau.

Yn ôl un o Siamaniaid yr Esgimo, mae yna bris uchel i’w dalu am ddoethineb – am weledigaeth o Dduw:

Ni ellir cyrraedd gwir ddoethineb ond drwy ddioddefaint … Dim ond unigrwydd a dioddefaint sy’n agor y meddwl i’r cyfan sy’n guddiedig i eraill.

Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ffoi rhag poen ein profiadau chwerw i fyd hunanol pleserau a chysuron bydol. Ond mae yna eneidiau prin fel Aled sy’n ddigon dewr, fel y dywysoges Elisa yn chwedl Hans Anderson ‘Yr Elyrch Gwyllt’, i geisio gafael yn nanadl poethion bywyd a’u gwasgu er mwyn cael hyd i wirionedd.

Dywedwyd wrth Elisa, os oedd hi am achub ei un brawd ar ddeg oedd wedi cael eu troi yn elyrch gwyllt a’u gwneud nhw’n ddynol eto, y byddai’n rhaid iddi wau crysau iddyn nhw o’r danadl poethion:

Rhaid i ti gasglu danadl poethion er iddyn nhw dy bigo a llosgi dy ddwylo, wedyn rhaid i ti eu sathru nhw dan dy draed noeth i’w gwneud fel llin.

Diolch am awdur sydd â’r dewrder i afael yn nanadl poethion bywyd er gwaethaf y boen er mwyn ceisio’n hachub ni rhag oerni annynol ac amhersonol dogma, a dyneiddio ein Duw a’n gwneud ninnau yn fodau dynol a chynnes eto, yn blant i dduw er gwaethaf ein holl feiau a’n gwendidau.

Meddai André Gide am Simone Weil:

Dywedodd hi mai ei chenhadaeth oedd sefyll ar y groesffordd rhwng Cristnogion a’r rhai heb fod yn Gristnogion. Mae hi, felly, yn dod yn nawddsantes pob un sydd ar y tu allan.

Mentrodd Aled hefyd sefyll ar y tu allan ar y groesffordd honno:

aros wna i bellach
yn hofal Cristnogaeth            
ar riniog y drws
rhwng mynd allan a dwad i mewn
am i’w storïau
yn well na dim
yn fwy na heb ddisgrifio’n gywir
ogwydd a thueddiadau
fy mywyd …

yr unig awdurdod
yr ymgrymaf iddo bellach
yw awdurdod dioddefaint
a’r dioddefus …

 I orffen, fe hoffwn i ddarllen fy hoff eiriau o’i waith lle mae e’n arddel y rhai sydd ar y tu allan: gwrthodedigion cymdeithas a hereticiaid o bob math. Dyma neges oesol sydd yn hollol gyfoes heddiw, oherwydd mwy marwol nag unrhyw firws sy’n lledu dros y byd ar y funud yw firws ffwndamentaliaeth grefyddol sy’n erlid ac yn lladd yn enw Duw.

Fe hoffwn beintio’r geiriau yma o eiddo Aled ar waliau ym mhobman – ymhob iaith a gwlad:

cadw fi
o hyd
tu mewn i anniddigrwydd ffydd
hefo’r hereticiaid
yn rhedeg o dre i dre
yn y caddug
drwy’r corsydd
a’r lonydd cefn
rhag stanc a chyllith
yr uniongred …

cadw fi’n aflonydd
yn y chwilota
yn meddwl i mi gael hyd
i’r cwestiwn iawn
ymhlith cyrff
yr holl atebion terfynol
marwol
ffals …
a phaid fyth â rhoi imi
y gorffwys tragwyddol
y mae’r Llyfr Claddu
yn sôn amdano
na’r Bythol Oleuni chwaith
rho imi yn hytrach
y gwingo gwastadol
a’r tywyllwch eglur
tydw i ’rioed wedi gwyro
at daclusrwydd
uniongrededd
a’i thueddiad i erlidio …

 

Gweledigaeth o Dduw cariad a thosturi a geir yng ngwaith Aled.
Mae Duw Aled Jones Williams yn union fel Duw Iesu o Nasareth:
yn gyfaill publicanod a phechaduriaid,
yn achub pob dafad golledig,
yn codi pob truan syrthiedig
ac yn Dduw cyfiawn sy’n elyn i bob anghyfiawnder a gormes.

Carwn orffen gyda’r crynodeb o’i weledigaeth sydd ar ddiwedd ei gerdd i’w dad

Gosodasoch fi’n solat
ar ochr y gwan, yr od a’r ysgymun,
y moesol fel-a’r-fel a’r toredig.
Bywydau sy’n furddunnod yn balasau yn ei olwg Ef.

Mewn oes o leisiau celwyddog, dig a chras, diolch, Aled, am eich llais dewr a didwyll. Diolch am eich llais tyner ac addfwyn i’n tywys ni fel unigolion ac fel cenedl gerllaw y dyfroedd tawel i chwilio am ‘hafan distawrwydd y dwfn dosturi’.

Emyr Llywelyn

Manon Steffan Ros yn cloi’r noson. Llun drwy garedigrwydd Marian Delyth.

Ni recordiwyd y sgwrs rhwng Cynog ac Aled ond yn fuan wedi hynny bu Aled yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar Radio Cymru.. Mae’n werth gwrando arni. Dyma’r ddolen.

FFURFLEN ARCHEBU COPI YMA