Archif Tag: llyfr

Pantycelyn a’n picil ni heddiw

Galw am ddiwygio Cristnogaeth er mwyn ei gwneud yn berthnasol ar gyfer yr 21ain ganrif

Mae llai a llai o Gymry yn datgan eu bod nhw’n grefyddol erbyn heddiw, a llai fyth yn mynychu addoldy yn rheolaidd. Gwelir nifer fawr o gapeli’n cau ac yn troi’n adfeilion neu’n cael eu troi yn ail gartrefi ledled y wlad. Oes yna le i Gristnogaeth yn ein bywydau yn yr 21ain ganrif?

Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol fach sy’n ceisio ateb y cwestiwn yma, gan bwysleisio hefyd werthoedd Cristnogaeth a’r ffaith eu bod mor angenrheidiol heddiw ag erioed. Mae Pantycelyn a’n picil ni heddiw gan Cynog Dafis (Y Lolfa, £4.99) wedi’i ysgrifennu ar ffurf llythyr ac yn gobeithio ysgogi diddordeb o’r newydd yng ngwaith Williams Pantycelyn, gan agor deialog â’r genhedlaeth ifanc ynghylch ailddiffinio Cristnogaeth.

Meddai’r awdur, Cynog Dafis:

Ers blynyddoedd mae rhyw awydd wedi bod arnaf i ysgrifennu rhywbeth am Williams Pantycelyn. Yn sgil amgylchiadau arbennig fy magwraeth, yn fab i bregethwr, a’r dylanwad mawr gafodd byd y capel ar fy mhrofiadau ffurfiannol, mae Williams Pantycelyn wedi tyfu i fod yn dipyn o obsesiwn personol gen i. Dros y blynyddoedd rwyf wedi peidio â derbyn bodolaeth Duw goruwchnaturiol ond rwyf wedi para i lynu wrth Gristnogaeth ac yn dal i gredu yn ei gwerth yn ein hoes ni. Mae angen i ni gofio effaith ddofn a phellgyrhaeddol Pantycelyn a’i bethau ac, yn fy marn i, mae gan Bantycelyn rywbeth o bwys i’w ddweud wrthon ni heddiw.

Roedd William Williams, Pantycelyn, yn ffigwr blaenllaw a blaengar ym mudiad y Diwygiad Methodistaidd yn y 18fed ganrif. Wrth astudio i fod yn ddoctor, newidiodd llwybr ei fywyd ar ôl iddo glywed Howell Harries yn pregethu yn Nhalgarth. Ac aeth ymlaen i fod yn bregethwr, yn llenor ac yn brif emynydd Cymru.

Mae Pantycelyn a’n picil ni heddiw yn archwilio credoau Pantycelyn a Richard Price, cyd-efrydydd i Bantycelyn yn Nhalgarth, athronydd moesegol, gweinidog Anghydffurfiol, mathemategydd, diwygiwr gwleidyddol ymysg pethau eraill, a fu’n weithgar yn y 18fed ganrif. Trwy archwilio gwaith y ddau ffigwr ac wrth ystyried picil y ddynoliaeth heddiw, mae Cynog Dafis yn cynnig bod angen ailddiffinio Cristongaeth, gan awgrymu y bydd angen moeseg newydd wedi’i ‘seilio ar ddwysbarch at fyd natur’.

Mae’n edrych yn debyg bod yr union Gynnydd sydd wedi gweddnewid ein bywydau (ond nid pawb ohonon ni), wedi’n tywys ar lwybr seithug ac yn awr yn cyrraedd impasse. Fe ddyblodd poblogaeth y byd yn ystod fy oes i, ac mae gofynion y boblogaeth o ran nwyddau, bwydydd, cartrefi, gofod, a moethau hefyd wedi cynyddu ar garlam. Mae yna argyfwng ym mherthynas ecsbloetiadol dynoliaeth a gweddill y byd sy’n bygwth ein hawddfyd, os nad ein goroesiad, ni fel rhywogaeth.

Gan gloi, mae Cynog Dafis eto’n troi at dylanwad Pantycelyn:

Rhaid i ni sylweddoli bod angen mwy o ostyngeiddrwydd a diolchgarwch am yr hyn sydd ganddom ac mai rhodd yw popeth sy’n eiddo i ni. Trwy ras yr ydyn-ni’n cael y fraint o gael byw. Gall Cristnogaeth feithrin y ffordd yma o weld y byd a byw ynddo. Mae angen i ni ailddysgu rhyfeddu at amrywioldeb natur, fel y gwnaeth Pantycelyn. Ac fel y gwnaeth Pantycelyn, bydd codi’n golygon tua’r nefoedd, tua phellterau’r cosmos, yn peri ni, yng ngeiriau un o’i gymrodyr, “synnu fyth ar synnu” wrth syllu ar yr eangderau a cheisio dirnad y dirgelwch eithaf sy’r tu hwnt iddynt. Trwy ddefodau megis ymdawelu, gweddïo, cyd-ganu, rhannu bara a gwin y mae Cristnogaeth yn meithrin yr agwedd meddwl yna. Dichon y byddai addasu ac ychwanegu at y defodau cyfarwydd hynny yn pwysleisio pa mor berthnasol ydyn nhw i anghenion ein cyfnod ni.

Mab i weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw’r awdur, wedi’i fagu yn Aberaeron a Chwm Nedd. Graddiodd yn y Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, a bu’n athro Saseneg ym Mhontardawe, Castellnewydd Emlyn, Aberaeron a Llandysul, cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol (1992–2000) ac yn Aelod Cynulliad (1999–2003). Cafodd radd MAdd yn Aberystwyth yn 1978 ac mae’n gymrawd Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant.

Mae Pantycelyn a’n picil ni heddiw gan Cynog Dafis ar gael nawr yn eich siop Gymraeg leol neu ar www.gwales.com am £4.99

 

Cerddaf o’r hen fapiau

‘Cerddaf o’r Hen Fapiau’

Ar ddiwedd wythnos Gŵyl Ddewi a thrannoeth Diwrnod y Llyfr profiad arbennig iawn oedd bod yn y Morlan i lansio cyfrol Aled Jones Williams, Cerddaf o’r Hen Fapiau. Nid ‘cyfrol’ chwaith ond rhodd gan Aled i’w ffrindiau. Y mae, ac fe fydd, yn rhodd amhrisiadwy. Fe wnaeth y cerddi gymaint o argraff ar y rhai a gafodd y fraint o’u derbyn fel yr aeth Cynog Dafis ac Emyr Llewelyn ati (gyda chaniatâd yr awdur – ‘Gwnewch chi be’ ydach chi isio’i wneud efo nhw rŵan, chi piau nhw.’) i drefnu copïau ffacsimili o’r cerddi. Fe fyddai paratoi copi unigol i’w holl ffrindiau wedi bod yn dasg amhosibl! Fe allwch eu prynu drwy’r wefan hon, os oes copïau ar ôl.

Daeth nifer dda o bobl ynghyd i’r Morlan, a nifer wedi teithio pellter i fod yno. Cristnogaeth 21 drefnodd y noson, gyda Gwerfyl Pierce Jones yn cadeirio. Wrth gyflwyno’i chyfraniad cerddorol i’r noson, soniodd Manon Steffan Ros am ei hedmygedd a’i dyled i Aled a fu’n ysgogiad mawr iddi fel llenor a dramodydd. Gan fod Cynog ac Aled wedi cydweithio ar gyhoeddi cyfrol heriol a phersonol am ffydd ac argyfwng cred, roedd yn braf eu clywed yn sgwrsio â’i gilydd, a phawb yn cael rhannu ysbryd cyfeillgar a siriol, annwyl a goddefgar Aled, er i’w daith ysbrydol fod yn ingol o boenus – ‘nos dywyll yr enaid’ – ac nid yn ymarfer deallusol. I amryw o bobl erbyn hyn mae gwaith Aled yn rhan o’u taith ysbrydol hwythau a hynny, i rai, yn golygu aeddfedu a chynnal eu ffydd. Er bod gan Cynog feddwl mawr o Aled, nid oedd y sgwrs heb ei chwestiynau anodd. Yn ystod y sgwrs roedd Llinos Dafis yn darllen rhai o gerddi Aled oedd wedi eu hargraffu ar daflen fel bod pawb yn medru eu darllen yr un pryd.

Emyr Llywelyn yn agor y noson. Llun drwy garedigrwydd Marian Delyth.

Emyr Llywelyn ddechreuodd y noson a hynny’n gofiadwy iawn gyda gwerthfawrogiad byr o gerddi Aled. Rydym yn ddiolchgar iawn i Emyr am ei ganiatâd i gyhoeddi ei werthfawrogiad. Roedd yn ddechrau cyfoethog i’r noson.

Cynog Dafis yn holi’r awdur. Llun drwy garedigrwydd Marian Delyth.

            ‘duw’
beth a wnaf
             heb y gair
                cymraeg
                  bychan
                      hwn ?

 

beth sydd hebddo ?
            Fe’i llyncaf
               a’r cosmos
                   ynof
                yn
                   goleuo

Aled
Gwerthfawrogiad o’i waith
gan Emyr Llywelyn

Pan gyhoeddodd Aled ei gyfrol Y Cylchoedd Perffaith rai blynyddoedd yn ôl mi wnes sgrifennu gwerthfawrogiad ohoni. Dyma ddywedais i:

Mae gweledigaeth y dyn dioddefus hwn o Dduw yn gwneud y llyfr bach hwn yn un o drysorau ein llên. Ni chafodd y gyfrol fawr sylw yn y wasg Gymraeg ond y mae’n sicr yn un o ychydig gyfrolau’r ganrif hon yn Gymraeg sy’n haeddu cael ei chyfieithu i ieithoedd eraill y byd a chynnwys rhai o’i cherddi mewn unrhyw gasgliad o weithiau cyfrinwyr mawr y byd.

Mi geisia i heno esbonio’n fyr pam rwy’n dal i arddel y geiriau yna.

Cwmwl o atomau sy’n llifo ac yn newid yn barhaol ydyn ni, ac yn byw ein bywydau byr ar belen fach o ddaear sy’n chwyrnellu drwy’r gofod ar gyflymdra aruthrol o gwmpas pelen o dân.

Ni fedr ein meddyliau dreiddio hwnt i’r ddau affwys sy’n ein cwmpasu, sef y microfyd ar un llaw sy’n ddyfnder diwaelod o atomau ac is-atomau, ac ar y llaw arall mae’r cosmos gyda’i alaethau gweladwy ac anweladwy a’r pellteroedd anchwiliadwy.

Mae rhyw rym anweledig yn cynnal y cyfan – yn cynnal yn rhyfeddol undod ein cwmwl atomau ac yn cynnal y planedau yn eu cylchoedd. Fel y dywedodd Einstein, “Rydyn ni i gyd yn dawnsio i gân ryfeddol a genir gan bibydd anweledig.”

Mae Aled yn gofyn cwestiwn sylfaenol: pa fodd y mae gwybod unrhyw beth am y grym anweledig tu ôl i bopeth byw – am Dduw?

A fedrir dal duw yng ngwe geiriau?
Ei ddal o am yn ddigon hir i deimlo’i riddfan
cyn iddo dorri iaith a dengid yn ôl i’w fudandod.

Ond fe lwyddodd Aled yn ei gyfrolau i ddal Duw yng ngwe geiriau.

Y gwir yw bod Duw yn nes aton ni nag rydyn ni’n meddwl; nid allan ym mhellterau’r cosmos y mae’r ateb i natur Duw, nac ym myd yr is-atomau chwaith, ond yn y galon.

Yn ôl Meister Eckhart: “Dyw Duw ddim pellach i ffwrdd na drws y galon. Yno mae’n disgwyl hyd nes ei fod yn gweld dy fod yn barod i’w adael i mewn.”

Dull y cyfrinydd o geisio adnabod Duw yw gwacáu’r galon o bopeth hunanol er mwyn gadael Duw i mewn i’w galon. Does dim lle i Dduw a’r Hunan, yr Ego Mawr, yn y galon.

Dyma weddi Aled:

gwna fi’n wag fel bol mandolin,
gwna fi’n wag fel crombil tjelo.

Cyn y medrwn ni wneud ein bywydau yn gân ddwyfol sy’n fynegiant o’r Da a’r Cyfiawn, ‘y gân y mae’n rhaid ei chanu’ – Plato, ‘y gân ni chanwyd’ – Waldo, rhaid i ni wneud ein calonnau yn wag fel ‘bol mandolin’ a ‘chrombil tjelo’.

Agorodd Aled ddrws ei galon a darlunio i ni Dduw harddach na Duw dogma a diwinyddiaeth.

Ti

yn fy Nychymyg yr wyt ti yn fwy
na’r hyn y mae’r diwinyddion a’u beibl
yn ei ddweud wyt ti
yn fwy cariadus na chariad
yn fwy tosturiol na thosturi
harddach na harddwch
ac o hyn ymlaen
byddaf yn ymddiried yn fy Nychymyg
ac nid yn y diwinyddion a’u beiblau.

Yn ôl un o Siamaniaid yr Esgimo, mae yna bris uchel i’w dalu am ddoethineb – am weledigaeth o Dduw:

Ni ellir cyrraedd gwir ddoethineb ond drwy ddioddefaint … Dim ond unigrwydd a dioddefaint sy’n agor y meddwl i’r cyfan sy’n guddiedig i eraill.

Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ffoi rhag poen ein profiadau chwerw i fyd hunanol pleserau a chysuron bydol. Ond mae yna eneidiau prin fel Aled sy’n ddigon dewr, fel y dywysoges Elisa yn chwedl Hans Anderson ‘Yr Elyrch Gwyllt’, i geisio gafael yn nanadl poethion bywyd a’u gwasgu er mwyn cael hyd i wirionedd.

Dywedwyd wrth Elisa, os oedd hi am achub ei un brawd ar ddeg oedd wedi cael eu troi yn elyrch gwyllt a’u gwneud nhw’n ddynol eto, y byddai’n rhaid iddi wau crysau iddyn nhw o’r danadl poethion:

Rhaid i ti gasglu danadl poethion er iddyn nhw dy bigo a llosgi dy ddwylo, wedyn rhaid i ti eu sathru nhw dan dy draed noeth i’w gwneud fel llin.

Diolch am awdur sydd â’r dewrder i afael yn nanadl poethion bywyd er gwaethaf y boen er mwyn ceisio’n hachub ni rhag oerni annynol ac amhersonol dogma, a dyneiddio ein Duw a’n gwneud ninnau yn fodau dynol a chynnes eto, yn blant i dduw er gwaethaf ein holl feiau a’n gwendidau.

Meddai André Gide am Simone Weil:

Dywedodd hi mai ei chenhadaeth oedd sefyll ar y groesffordd rhwng Cristnogion a’r rhai heb fod yn Gristnogion. Mae hi, felly, yn dod yn nawddsantes pob un sydd ar y tu allan.

Mentrodd Aled hefyd sefyll ar y tu allan ar y groesffordd honno:

aros wna i bellach
yn hofal Cristnogaeth            
ar riniog y drws
rhwng mynd allan a dwad i mewn
am i’w storïau
yn well na dim
yn fwy na heb ddisgrifio’n gywir
ogwydd a thueddiadau
fy mywyd …

yr unig awdurdod
yr ymgrymaf iddo bellach
yw awdurdod dioddefaint
a’r dioddefus …

 I orffen, fe hoffwn i ddarllen fy hoff eiriau o’i waith lle mae e’n arddel y rhai sydd ar y tu allan: gwrthodedigion cymdeithas a hereticiaid o bob math. Dyma neges oesol sydd yn hollol gyfoes heddiw, oherwydd mwy marwol nag unrhyw firws sy’n lledu dros y byd ar y funud yw firws ffwndamentaliaeth grefyddol sy’n erlid ac yn lladd yn enw Duw.

Fe hoffwn beintio’r geiriau yma o eiddo Aled ar waliau ym mhobman – ymhob iaith a gwlad:

cadw fi
o hyd
tu mewn i anniddigrwydd ffydd
hefo’r hereticiaid
yn rhedeg o dre i dre
yn y caddug
drwy’r corsydd
a’r lonydd cefn
rhag stanc a chyllith
yr uniongred …

cadw fi’n aflonydd
yn y chwilota
yn meddwl i mi gael hyd
i’r cwestiwn iawn
ymhlith cyrff
yr holl atebion terfynol
marwol
ffals …
a phaid fyth â rhoi imi
y gorffwys tragwyddol
y mae’r Llyfr Claddu
yn sôn amdano
na’r Bythol Oleuni chwaith
rho imi yn hytrach
y gwingo gwastadol
a’r tywyllwch eglur
tydw i ’rioed wedi gwyro
at daclusrwydd
uniongrededd
a’i thueddiad i erlidio …

 

Gweledigaeth o Dduw cariad a thosturi a geir yng ngwaith Aled.
Mae Duw Aled Jones Williams yn union fel Duw Iesu o Nasareth:
yn gyfaill publicanod a phechaduriaid,
yn achub pob dafad golledig,
yn codi pob truan syrthiedig
ac yn Dduw cyfiawn sy’n elyn i bob anghyfiawnder a gormes.

Carwn orffen gyda’r crynodeb o’i weledigaeth sydd ar ddiwedd ei gerdd i’w dad

Gosodasoch fi’n solat
ar ochr y gwan, yr od a’r ysgymun,
y moesol fel-a’r-fel a’r toredig.
Bywydau sy’n furddunnod yn balasau yn ei olwg Ef.

Mewn oes o leisiau celwyddog, dig a chras, diolch, Aled, am eich llais dewr a didwyll. Diolch am eich llais tyner ac addfwyn i’n tywys ni fel unigolion ac fel cenedl gerllaw y dyfroedd tawel i chwilio am ‘hafan distawrwydd y dwfn dosturi’.

Emyr Llywelyn

Manon Steffan Ros yn cloi’r noson. Llun drwy garedigrwydd Marian Delyth.

Ni recordiwyd y sgwrs rhwng Cynog ac Aled ond yn fuan wedi hynny bu Aled yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar Radio Cymru.. Mae’n werth gwrando arni. Dyma’r ddolen.

FFURFLEN ARCHEBU COPI YMA