Archif Tag: pantycelyn

Pantycelyn a’n picil ni heddiw

Galw am ddiwygio Cristnogaeth er mwyn ei gwneud yn berthnasol ar gyfer yr 21ain ganrif

Mae llai a llai o Gymry yn datgan eu bod nhw’n grefyddol erbyn heddiw, a llai fyth yn mynychu addoldy yn rheolaidd. Gwelir nifer fawr o gapeli’n cau ac yn troi’n adfeilion neu’n cael eu troi yn ail gartrefi ledled y wlad. Oes yna le i Gristnogaeth yn ein bywydau yn yr 21ain ganrif?

Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol fach sy’n ceisio ateb y cwestiwn yma, gan bwysleisio hefyd werthoedd Cristnogaeth a’r ffaith eu bod mor angenrheidiol heddiw ag erioed. Mae Pantycelyn a’n picil ni heddiw gan Cynog Dafis (Y Lolfa, £4.99) wedi’i ysgrifennu ar ffurf llythyr ac yn gobeithio ysgogi diddordeb o’r newydd yng ngwaith Williams Pantycelyn, gan agor deialog â’r genhedlaeth ifanc ynghylch ailddiffinio Cristnogaeth.

Meddai’r awdur, Cynog Dafis:

Ers blynyddoedd mae rhyw awydd wedi bod arnaf i ysgrifennu rhywbeth am Williams Pantycelyn. Yn sgil amgylchiadau arbennig fy magwraeth, yn fab i bregethwr, a’r dylanwad mawr gafodd byd y capel ar fy mhrofiadau ffurfiannol, mae Williams Pantycelyn wedi tyfu i fod yn dipyn o obsesiwn personol gen i. Dros y blynyddoedd rwyf wedi peidio â derbyn bodolaeth Duw goruwchnaturiol ond rwyf wedi para i lynu wrth Gristnogaeth ac yn dal i gredu yn ei gwerth yn ein hoes ni. Mae angen i ni gofio effaith ddofn a phellgyrhaeddol Pantycelyn a’i bethau ac, yn fy marn i, mae gan Bantycelyn rywbeth o bwys i’w ddweud wrthon ni heddiw.

Roedd William Williams, Pantycelyn, yn ffigwr blaenllaw a blaengar ym mudiad y Diwygiad Methodistaidd yn y 18fed ganrif. Wrth astudio i fod yn ddoctor, newidiodd llwybr ei fywyd ar ôl iddo glywed Howell Harries yn pregethu yn Nhalgarth. Ac aeth ymlaen i fod yn bregethwr, yn llenor ac yn brif emynydd Cymru.

Mae Pantycelyn a’n picil ni heddiw yn archwilio credoau Pantycelyn a Richard Price, cyd-efrydydd i Bantycelyn yn Nhalgarth, athronydd moesegol, gweinidog Anghydffurfiol, mathemategydd, diwygiwr gwleidyddol ymysg pethau eraill, a fu’n weithgar yn y 18fed ganrif. Trwy archwilio gwaith y ddau ffigwr ac wrth ystyried picil y ddynoliaeth heddiw, mae Cynog Dafis yn cynnig bod angen ailddiffinio Cristongaeth, gan awgrymu y bydd angen moeseg newydd wedi’i ‘seilio ar ddwysbarch at fyd natur’.

Mae’n edrych yn debyg bod yr union Gynnydd sydd wedi gweddnewid ein bywydau (ond nid pawb ohonon ni), wedi’n tywys ar lwybr seithug ac yn awr yn cyrraedd impasse. Fe ddyblodd poblogaeth y byd yn ystod fy oes i, ac mae gofynion y boblogaeth o ran nwyddau, bwydydd, cartrefi, gofod, a moethau hefyd wedi cynyddu ar garlam. Mae yna argyfwng ym mherthynas ecsbloetiadol dynoliaeth a gweddill y byd sy’n bygwth ein hawddfyd, os nad ein goroesiad, ni fel rhywogaeth.

Gan gloi, mae Cynog Dafis eto’n troi at dylanwad Pantycelyn:

Rhaid i ni sylweddoli bod angen mwy o ostyngeiddrwydd a diolchgarwch am yr hyn sydd ganddom ac mai rhodd yw popeth sy’n eiddo i ni. Trwy ras yr ydyn-ni’n cael y fraint o gael byw. Gall Cristnogaeth feithrin y ffordd yma o weld y byd a byw ynddo. Mae angen i ni ailddysgu rhyfeddu at amrywioldeb natur, fel y gwnaeth Pantycelyn. Ac fel y gwnaeth Pantycelyn, bydd codi’n golygon tua’r nefoedd, tua phellterau’r cosmos, yn peri ni, yng ngeiriau un o’i gymrodyr, “synnu fyth ar synnu” wrth syllu ar yr eangderau a cheisio dirnad y dirgelwch eithaf sy’r tu hwnt iddynt. Trwy ddefodau megis ymdawelu, gweddïo, cyd-ganu, rhannu bara a gwin y mae Cristnogaeth yn meithrin yr agwedd meddwl yna. Dichon y byddai addasu ac ychwanegu at y defodau cyfarwydd hynny yn pwysleisio pa mor berthnasol ydyn nhw i anghenion ein cyfnod ni.

Mab i weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw’r awdur, wedi’i fagu yn Aberaeron a Chwm Nedd. Graddiodd yn y Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, a bu’n athro Saseneg ym Mhontardawe, Castellnewydd Emlyn, Aberaeron a Llandysul, cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol (1992–2000) ac yn Aelod Cynulliad (1999–2003). Cafodd radd MAdd yn Aberystwyth yn 1978 ac mae’n gymrawd Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant.

Mae Pantycelyn a’n picil ni heddiw gan Cynog Dafis ar gael nawr yn eich siop Gymraeg leol neu ar www.gwales.com am £4.99