Pentecost

Pentecost

Mae Llyfr yr Actau yn sôn am yr Apostolion, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, yn siarad â thafodau, hynny yw yn llefaru mewn iaith ryfedd, a phawb yn ei chlywed fel ei iaith ef ei hun. Roedd yr arferion rhyfedd hyn i’w gweld mewn hen grefyddau paganaidd pan fyddai rhyw addolwr mewn ecstasi, ac fe gredid ei fod yn siarad iaith angylion.

Daeth hyn wedyn yn rhan o fywyd ambell eglwys Gristnogol yn y canrifoedd cynnar, ac yn ddiweddarach ymhlith y Pentecostiaid a’r mudiadau Apostolaidd a’r Mormoniaid. Beth gaed fyddai un o’r addolwyr, yn hollol ddigymell, yn torri allan i lefaru mewn iaith a swniai’n garbwl annealladwy, ac weithiau ceid un arall yn y gynulleidfa yn honni cyfieithu’r seiniau hyn i iaith ddealladwy. Mae yna gysylltiadau teimladwy i’r peth, ac oherwydd elfen emosiynol y diwygiadau fe frigodd y nodwedd hon i’r golwg am ysbaid yn y diwygiad yng Nghymru dros ganrif yn ôl. Bydddai rhai o blaid y peth am ei fod yn rhoi gwreichionyn o ysbrydoliaeth mewn oedfa. Byddai eraill yn ei weld yn hollol wrthun o ddisynnwyr a dibwrpas am ei fod yn annealladwy.

Ac eto, yr wrtheb ryfeddol yw hyn: mae holl bwyslais yr adroddiadau am lefaru â thafodau yn sôn fod y lleferydd yn annealladwy i’r gwrandawyr, tra mai’r prif bwyslais yn Llyfr yr Actau yw fod pawb o bob cenedl yn deall pob gair a lefarai’r apostolion. Un peth arall y dylid ei nodi yw na wnaeth Iesu ei hun erioed lefaru â thafodau na sôn am y peth. A dyna lle daw’r gwirionedd sylfaenol adre i ni. Roedd pob gair a lefarodd Iesu erioed yn ddealladwy i bob crefydd a phob cenedl dan haul, am ei fod yn sôn am yr hanfodion, cariad a thrugaredd.

Pentecost Iesu

Yn Jerwsalem ein heddiw ni
clywir côr o ieithoedd:
clywn dafodiaith y di-ffydd
a geiriau esmwyth y glastwryn glwth;
parabl y di-dduw a’r di-ddim,
a lleferydd yr amheuwr a’r sinic a’r penboeth gwyllt.

Ac yn y carbwl llafar hwn
mae clustiau plant ein strydoedd yn drysu,
a’u llygaid ar y lluniau yn eu sgrin fach gyfrin.

Gwaeth fyth yw hi ym Mhentecost ein crefyddau.
Bydd gan y Mwslim ddirgel fantra yn ei blyg,
a’r Bwdydd ei fyfyr, a’r Hindŵ ei berlewyg.
Ninnau yn ein Salem a’n Soar,
yn Annibynwyr chwyrn,
y mae gennym ninnau ein cystrawen dwt;
ym Methel y pentre nesaf
clywn acenion pêr eu Presbyteriaeth;
a chan deyrngarwyr capel Ainon
eu deddfol ddefodol fedydd.

A bydd plant ein strydoedd yn drysu mwy fyth ymhlith y lleisiau,
a suddo’n ddyfnach i’r lluniau bach ar eu sgrin gyfrin.

Ond yna ryw ddydd daw’r Ysbryd
i ffrwydro â’i dân drwy’r pedlera a’r ddogma ddall,
gan roi inni ei iaith newydd.
Iaith y gwneud fydd hon, nid iaith y dweud;
iaith y ffydd, nid iaith y duwiol gredoau.
Enwau a fydd yn drugaredd, ansoddeiriau maddeuant,
idiomau gras a chymwynas, a berfau’n gyhyrog gan gariad.
Hon yw iaith yr actau tosturiol y bydd pawb yn ei deall,
Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid y cychod brau
a ffoaduriaid y pebyll pell.

Canys iaith Iesu yw hon, a daw’n plant i’w deall,
petaem ni ond yn dechrau ei siarad hi.

(Daw’r gerdd hon o’r gyfrol, Am yn ail)