E-fwletin 23 Mai 2021

Beth wnes i heddiw?

Sŵn fel gwynt grymus yn rhuthro … tafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob un ohonynt … pobl ofnus a dryslyd oedd yn llechu yn niogelwch yr oruwchystafell yn mentro allan ac yn dechrau annerch y dorf mewn ieithoedd dieithr … dyna’r hyn a ddigwyddodd, yn ôl Llyfr yr Actau, pan gafwyd ‘tywalltiad o’r Ysbryd Glân’ ar y Pentecost.

Yn wreiddiol, un o dair gŵyl Iddewig i ddiolch am y cynhaeaf oedd y Pentecost. Y Pasg oedd yr ŵyl gyntaf, diwrnod i ddathlu ‘geni’ y genedl yn yr Aifft pan gafodd ei gollwng yn rhydd dan arweiniad Moses. Saith wythnos yn ddiweddarach, byddai’r Iddewon yn diolch am gynhaeaf ‘blaenffrwyth dy lafur’ mewn gŵyl arbennig o’r enw ‘Gŵyl yr Wythnosau’.

Yn ddiweddarach, fe gyflwynwyd elfen grefyddol i’r ŵyl drwy honni i’r Iddewon dderbyn eu cyfraith ar lethrau mynydd Sinai hanner can diwrnod ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft am y Môr Coch a’r anialwch.

Ond ar ddydd y Pentecost, rai canrifoedd yn ddiweddarach, a’r disgyblion yn drist ac yn ofnus ar ôl colli eu harweinydd, fe ddigwyddodd rhywbeth gwirioneddol ryfeddol iddyn nhw, rhywbeth a newidiodd eu bywydau am byth. Ac yn draddodiadol, ystyrir mai dyma ddiwrnod sefydlu’r Eglwys Fore a dechrau lledaeniad Cristnogaeth ledled y byd.

Wrth edrych ymlaen at ddydd y Pentecost eleni, roeddem yn cofio hanner canmlwyddiant marw Waldo Williams, bardd a lwyddodd i grynhoi mor effeithiol rai o brif egwyddorion Cristnogaeth – yn arbennig ei syniad o frawdoliaeth (a chwaeroliaeth). Mae pennill clo ei gerdd ‘Brawdoliaeth’ yn ysgytwol, ac yn dal mor berthnasol heddiw, er enghraifft, wrth inni feddwl am y gwrthdaro sy’n digwydd o hyd rhwng Israel a’r Palestiniaid:

            Mae Teyrnas gref, a’i rhaith

            yw cydymdeimlad maith;

            cymod a chyfiawn we

            myfi, tydi, efe

            a’n cyfyd uwch y cnawd:

            pa werth na thry yn wawd

            pan laddo dyn ei frawd?

Mae neges Waldo am faddeuant yn ei gerdd ‘Pa beth yw dyn’ yn siarad â phob oes:

Beth yw maddau? Cael ffordd trwy’r drain
At ochr hen elyn.

Sut allwn ninnau geisio ymgyrraedd at y ddelfryd hon? Beth am holi ein hunain, fel y gwnaeth Henri Nouwen ein hannog i wneud?

Wnes i gynnig heddwch heddiw?

Ddois i â gwên i wyneb rhywun?

Ddywedes i eiriau oedd yn iacháu?

Wnes i gael gwared ar deimladau cas a chwerw?

Wnes i faddau?

Wnes i garu?

 

Dyma’r cwestiynau hollbwysig.

 

(Henri Nouwen, offeiriad a diwinydd o’r Iseldiroedd, 1932–96)