Archif Tag: dewi sant

Dewi Sant

DEWI SANT

Sawl Dewi Sant sydd? Faint o wahanol fersiynau o nawddsant Cymru sy’n bodoli? A pha Ddewi Sant yw’ch dewis chi?

Ffenest Dewi Sant, Castell Coch

Rhaid i mi gyfaddef na wyddwn pa sawl Dewi Sant sydd pan es i ati i sgrifennu llyfr amdano – ond fe ges i’r hwyl ryfeddaf o fynd ar eu holau nhw. Dyna Ddewi Sant Dydd Gŵyl Ddewi, gyda merched bach ysgolion cynradd yn eu hetiau cardbord a’u bratiau gwyn a sgerti gwlanen. Mae Dewi Sant y gwledda a’r llwncdestun mewn gwestai crand, a Dewi Sant y swperau mewn neuaddau pentref, gyda chawl cennin a theisen afal.

Neu ystyriwch yr holl sefydliadau sy’n bodoli dan enw Dewi: yr ysgolion, yr ysbytai, y canolfannau siopa, y meysydd parcio, y neuaddau, y cymdeithasau, yr elusennau. Neu symudwn yn ôl, at y pasiantau a’r cantatas ac awdlau oes Fictoria. Yn y ddeunawfed ganrif y sefydlwyd y cinio Dewi Sant, a chyhoeddi baledi amdano:

 

We are of valiant hearts,
Of nature kind and meek;
An honour on St David’s Day
It is to wear a leek.

Dathlodd y bardd Nathaniel Griffith Ddewi Sant fel cadfridog byddin Gymreig a drechodd y Saeson. Yn oes Elisabeth dathlwyd Dewi yn y llyfr The Seven Champions of Christendom fel marchog yn achub merched del o afael dynion rheibus, yn tadogi mab, ac yn lladd y Sacsoniaid paganaidd.

Dyna ddewis i chi o sawl Dewi – a dim un ohonyn nhw’n Gristion! Roedd y Diwygwyr Protestannaidd wedi alltudio’r seintiau o’r eglwys – dim ond seintiau’r Beibl gâi aros. Sut yn wir y glynodd y cof am Ddewi, wedi i’r Gatholigiaeth oedd wedi ei gynnal cyhyd ddarfod amdani, i bob pwrpas? Dim ond echdoe y sylweddolais beth yw’r ateb i’r cwestiwn yna – yn rhy hwyr i’w cynnwys yn y llyfr.

Beth oedd gan bobl Cymru erbyn yr ail ganrif ar bymtheg i ymfalchïo ynddo? Roedd gan y Saeson eu teulu brenhinol, eu senedd, eu trefn cyfraith, eu hiaith – ac roedden nhw’n barod iawn i’w gwthio ar y Cymry. Beth oedd gan y Cymry? Dim teulu brenhinol, dim ond Tywysog Seisnig nad oedd yn bodoli am ddegawdau am y tro. Dim Senedd, dim prifysgol, dim prifddinas. Eu hiaith oedd ganddyn nhw, eu prif drysor er gwaethaf gwawd y Sais hyd heddiw – a Dewi Sant – sydd i’r mwyafrif yn ffigur tri-chwarter seciwlar.

Ond nid felly y bu. Agorwch eich llygaid a’ch clustiau, a gwrandewch ar dirwedd Cymru’n llefaru’n ddistaw: Llanddewi Aber-arth, Llanddewi Felffre, Llanddewi Rhydderch, Llanddewi Ystrad Enni, Llanddewi Abergwesyn ac wrth gwrs, Tyddewi ei hun, a lliaws o eglwysi eraill a gysegrwyd yn enw Dewi – Henfynyw, Llangyfelach, Llan-y-crwys ac yn y blaen.

Neu ewch dros y ffin i Loegr: mae hen eglwysi Dewi i’w cael yn swyddi Henffordd, Gwlad yr Haf, Dyfnaint, Cernyw – ac Efrog, coeliwch neu beidio. Neu ewch dros y môr i Iwerddon a Llydaw, yn enwedig Llydaw, lle ceir nifer helaeth o eglwysi Difi, a ffynhonnau niferus. Cofiwn hefyd y ffrydiau o bererinion a ddeuai o bob cyfeiriad i anrhydeddu Dewi, a’u rhoddion yn ei gwneud yn bosibl i godi salm o eglwys gadeiriol yn Nhyddewi.

Cofiwn am y beirdd yn dathlu Dewi a’i hanes, fel Lewis Glyn Cothi’n cofio Dewi’r llysieuwr hunanymwadol:

Bara gymerth a berwr,
Neu ddŵr afonydd oerion;
ac o’r rhawn, gwisg ar ei hyd,
a phenyd ar lan ffynnon.

Dyna’r Dewi a alltudiwyd gan y Diwygwyr Protestannaidd, ond mor gryf oedd y traddodiadau amdano, mor dreiddiol ei ddylanwad, fel nad oedd modd iddo fynd yn angof yn llwyr, ond yn hytrach ei gofio fel ffigur brith-Gristnogol.

Yn wir, mae modd gweld dau Ddewi Sant: y dyn seciwlar, a Dewi Sant y canoloesoedd. Ond fe wyddom oll fod Dewi’n perthyn i gyfnod cynharach o lawer na hynny. Pan aeth Rhygyfarch ati tua 1090 i sgrifennu Buchedd Dewi, roedd Dewi ei hun wedi marw bum can mlynedd yn gynharach. Pam oedd Rhygyfarch, yr ysgolhaig mawr o Lanbadarn, yn barod i droi i sgrifennu am Ddewi? Oherwydd roedd ei dad, Sulien, yn esgob Tyddewi, ac yn awyddus i gyhoeddi pwysigrwydd Dewi a’r Eglwys Gymreig yn nannedd y Normaniaid.

Ysywaeth, prin oedd y defnyddiau i lunio buchedd Ddewi. Eto, cofiwn nad sgrifennu bywgraffiad Dewi oedd y bwriad, ond buchedd, sef proclamasiwn o hawl Dewi i gael ei alw’n sant. I wneud hynny roedd traddodiad yn bod, sef crynhoi hanes genedigaeth wyrthiol y sant a’i fedyddio, ei addysg, ei fawrion weithredoedd gwyrthiol. a’i farwolaeth yn sawr sancteiddrwydd.

Beth sy’n bosibl ei achub o’r cyfan a sgrifennodd Rhygyfarch? Rwyf newydd gael fy nghyf-weld ar y pwnc gan Huw Edwards ar gyfer darllediad Gŵyl Ddewi, a rhois ateb cryno mewn paragraff cymen. Ond meddai Huw: ‘Ond beth yw’r ffeithiau manwl?’ A gorfu i mi ateb, ‘Ond, Huw, rwy i newydd eu rhoi nhw.’ Dyma beth y mae modd ei sefydlu am Ddewi Sant heb amheuaeth. Roedd Dewi’n ddyn go iawn, yn byw yn y chweched ganrif Oed Crist. Rhoddwyd enw iddo o’r Beibl, felly cafodd ei fedyddio’n Gristion. Roedd yn byw yn ne-orllewin Cymru, lle roedd tafodiaith yn mynnu troi’r enw Dafydd yn Dewi, fel y mae mynydd yn troi’n fwni i’r de o’r Ceinewydd hyd heddiw.

Cysylltwyd enw Dewi â Henfynyw, ger Aberaeron. Nid ffansi Rhygyfarch oedd hynny, mi gredaf, oherwydd y cysylltiad rhwng yr enw Hen-fynyw a’r hen enw Mynyw o gwmpas Tyddewi. Ond er gwaethaf ei wreiddiau yn Henfynyw, roedd yn fanteisiol i symud i’r Mynyw newydd, lle saif Tyddewi heddiw. Mae’n ganolfan i’r moroedd Celtaidd, o fewn cyrraedd hawdd i Iwerddon. Roedd y Gwyddelod yn croesi i Dyddewi i weld y sant, ac roedd disgyblion Dewi yn croesi’r moroedd i’r Ynys Werdd, i Gernyw ac i Lydaw. A phan fu Dewi farw ar y cyntaf o Fawrth, 593, cofnodwyd ei farw yn Iwerddon.

Beth am y pethau eraill? Ai Sant, brenin Ceredigion, a Non o Gaer-gawch oedd ei rieni? Nid Sant, rwy’n siŵr; enw gwneud i lenwi bwlch oedd hwnnw, a dweud ei fod yn frenin Ceredigion er mwyn honni bod y bachgen Dewi o waed brenhinol. Ffiloreg, felly. Beth am wyrth Llanddewibrefi, a’r tir yn codi o dan ei draed? Chwedl werin hyfryd i esbonio bodolaeth y bryncyn a’r eglwys ar ei ben. Beth am Ddewi’n trechu Pelagiaeth, heresi ddeniadol Morgan y Brython? Ffantasi, rwy’n ofni – ceisio dangos bod Dewi Sant cyn gryfed ȃ Garmon, a drechodd Belagiaeth yn derfynol gan mlynedd yn gynharach.

Ond – ydw i’n gwadu popeth! Oes ’na ddim y mymryn lleiaf o wirionedd i’w loffa o’r cyfan? Wel, oes – a hynny yng ngwaith Rhygyfarch. Rhaid i mi grynhoi geiriau’r Fuchedd Ladin, oherwydd mae’r fersiwn Gymraeg wedi hepgor y darn pwysicaf oll o waith Rhygyfarch. Mae hwnnw’n disgrifio’r ddisgyblaeth fynachaidd yr oedd Dewi a’i frodyr yn ei dilyn.

I ddechrau, rhaid i ddyn a ddymunai ddod yn un o’r brodyr ddangos, hyd yn oed cyn mynd trwy’r drws, ei fod yn barod i ymostwng ei hun yn llwyr, i ymwrthod ȃ phob eiddo, pob myfïaeth. Rhaid bod yn barod i fwyta’n fain ac i yfed dim ond dŵr. Gwaharddwyd danteithion. Gwaith a gweddi oedd trefn pob diwrnod heblaw’r Sul. Rhaid trin y tir gydag aradr y frest, oherwydd ni ddylid ddefnyddio anifeiliaid i lafurio drostynt. Os nad oedd angen gwaith ar y tir, rhaid ysgrifennu, darllen, gweddïo. Roedd ufudd-dod i Ddewi’n gyflawn.

O ble daeth seiliau’r ddisgyblaeth fynachaidd lem yma? O’r Aifft, yw’r ateb. Mae’n wir mai Sant Benet, neu Benedict, yw tad mynachaidd y Gorllewin. Ond patrwm hen fynachaeth yr Aifft, a threfn Sant Antwn, yw patrwm Dewi. A oes unrhyw beth i dystio bod hyn yn wir yn hen fynachaeth Cymru?

Oes! Awdur o Gymro, neu Frython, cyfoes ȃ Dewi oedd Gildas Sant. Yn un o’i weithiau mae’n condemnio trefn mynachaeth oedd yn rhy galed, yn drech na’r enaid. Ac er nad yw’n enwi Dewi Sant, nac unrhyw sant arall, mae’n amlwg bod trefn o’r fath yn bodoli.

Unrhyw beth arall? Oes, y dyddiad – 1 Mawrth, a hwnnw’n ddydd Mawrth. Oherwydd, er nad oes unrhyw gofnod am ddyddiad geni unrhyw sant yn y gwledydd Celtaidd, roedd diwrnod marw’r sant o’r pwys mwyaf. Dyna’r diwrnod yr elai dyn neu ddynes o fuchedd eithriadol yn syth i’r nefoedd, dydd o dristwch i’w ddilynwyr, diwrnod gogoniant nefol i’r sant – felly’n ddiwrnod i’w gofio.

Hoffwn feddwl bod yr un peth yn wir am eiriau olaf Dewi: ‘cadwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf fi.’ Ond cofiwch, cyfieithiad rhydd o eiriau Lladin Rhygyfarch sydd yna. Yn 1973, pan geisiais berswadio athrawon ysgol newydd Penweddig y dylai geiriau Dewi fod yn arwyddair yr ysgol, fe’m gwrthodwyd. ‘Pethau bychain? Hy!’ oedd yr ymateb. Mae ar Gymru angen pethau mawr. Ildiais, gwaetha’r modd. Oherwydd os ailddarllenwch ddamhegion Iesu, mi welwch bwysigrwydd y pethau bychain: y ddafad golledig, hatling y weddw, yr hedyn mwstard, y perl tra gwerthfawr. Gwyddai Iesu werth y pethau bychain, a’r bobl fychain hefyd, fel y Sacheus byr hwnnw a ddringodd goeden i gael golwg ar ei feistr, neu’r lleidr a groeshoeliwyd ar ei ochr dde.

Awn ninnau felly, yn enw Dewi, i wneud y pethau bychain, ac i gadw ein ffydd a’n cred. 

Gerald Morgan