Archifau Categori: Agora 43

Cyfweliad Karen Owen

Karen Owen

Karen Owen. Llun: Huw Dylan Owen.

Newyddiadurwr a bardd sydd wedi perfformio ei gwaith ar bum cyfandir, gan dreulio cyfnodaun byw yn Vilnius, Bogota, Cape Town, Chennai a Kiev. Treuliodd hanner blwyddyn yn byw mewn cwfaint yn Fienna. Mae wedi ymroi i herio tri pheth: yr ego, anwybodaeth, a’r syniad fod yn rhaid i bopeth Cymraeg fod yn ‘neis’.

  1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod …

Mi ges fy magu ar aelwyd gwbwl Gymraeg, yn ferch i fecanig ac ysgrifenyddes feddygol, ym mhentref Pen-y-groes, yn hen ardal chwareli llechi Dyffryn Nantlle – yr hynaf o ddwy chwaer. Yn ôl fy rhieni, mi ofynnais am gael mynd i’r Ysgol Sul yn ddwyflwydd a hanner, ac i Ysgol Sul Capel Saron (MC) y bûm yn mynd tan oeddwn yn 16 oed. Ces fy nerbyn yn aelod yn Saron yn 1990, yn un o griw anferth o 23 o bobol ifanc o’r ofalaeth y flwyddyn honno.

Ond er i mi gyfeirio at fy rhieni (fy mam oedd y ddisgyblwraig), mae’n wir nad y nhw yn unig fagodd fi a fy chwaer. Magwyd ni yn nheras Heol Buddug yng nghanol y pentref yn y 1970/80au, pan oedd drysau pawb yn agored a di-glo, a lle’r oedd disgwyl i ni, blant, fynd i gnocio ar gymdogion hŷn a dangos ein hadroddiadau ysgol a ffrogiau a sgidiau newydd.

Mi fywion ni hefyd trwy ddirwasgiad yr 1980au a deall beth oedd ‘three-day week’ a gwaeth na hynny, pan gollodd Dad ei waith mewn ffatri leol. Mam oedd yn gwneud ein dillad, ac fe arferwn gasáu’r ffaith fod fy chwaer a finnau’n cael ein gwisgo yn yr un defnydd! Roedd Mam yn gallu gwau popeth: festiau, cardigans, cotiau i ni, yn ogystal â dillad i’n doliau. Roedd Mam hefyd yn fy mhrofi ar fy ngeirfa Saesneg ers o’n i’n ddim o beth: “Beth ydi’r gwahaniaeth rhwng ‘copse’ a ‘corpse’?” a phethau tebyg. Gan fod fy rhieni wedi bod yn ofalwyr Capel Saron am 30 mlynedd ers diwedd y 1970au, ro’n i’n gyfarwydd iawn ag ymweld â’r lle yn ystod yr wythnos, pan fyddai Mam angen glanhau cyn cyfarfod neu angladd … a dyna pryd y dois yn gyfarwydd â gweld eirch, a chlosio atynt er mwyn darllen y placiau sgleiniog arnyn nhw.

2. Oedd yna achlysur neu ddigwyddiad yn eich bywyd a daniodd eich diddordeb ym materion ffydd?

Dim un digwyddiad penodol, i mi ei gofio. Ond, yn chwech oed, mi wnes i gornelu ein gweinidog, y diweddar Brian Morgan Griffith, yn sêt fawr Saron, ynglyn â set-yp teuluol Adda ac Efa. O’n i’n methu’n lân â deall, os mai dim ond nhw oedd ar y ddaear, a nhwthau’n rhieni i dri o feibion (Cain, Abel a Seth), sut y tyfodd y teulu? Os nad oedd merched yn unman, sut y cawson nhw blant? O ble y daeth y mamau i gyd? Mi gytunodd Mr Griffith, mae’n debyg, fod Duw wedi creu mwy nag Efa, oherwydd mai Duw sy’n creu pawb yn y bôn. Doeddwn i ddim yn gwbwl fodlon ar hynny!

Y digwyddiad mawr nesaf i mi oedd dod i gysylltiad efo athro a ddaeth wedyn yn ffrind ac yn fentor, sef Gareth Maelor. A fo, yn y wers RI gyntaf yn Ysgol Dyffryn Nantlle, yn dod i mewn i’r dosbarth yn chwifio Beibl yn yr awyr ac yn dweud: “Dydi pob peth oddi mewn i hwn ddim yn wir.” Ond brawddeg ar ei hanner oedd honno, oherwydd ei hanner arall oedd: “… ond mae pob gwirionedd am fywyd i’w gael yn y Beibl.” Am weddill y tymor hwnnw, mi fuon ni’n edrych ar ddelwedddau ac eglurhadau daearyddol a gwyddonol dros gwymp Sodom a Gomorra, dros y berth yn llosgi, dros gerdded ar ddyfroedd hallt, dros negeseuon a pherthnasedd y straeon yn eu cyfnod … ar y pryd (1985) pan oedd y dosbarth cyfan yn mynd i ysgol Sul, wedi arfer dysgu manylion ar gyfer arholiad sirol, a chofio-heb-ddeall ar gyfer ein maes llafur cof. Fe newidiodd Gareth bopeth, gwneud i ni amau pob peth, ac ailffurfio ein barn am ffydd (nid crefydd). Ugain mlynedd yn ddiweddarach, ro’n i’n gyw-prentis iddo yn yr ofalaeth, yn cynnal dosbarthiadau derbyn pobol ifanc. Ac ar ddiwedd 2006, fe ofynnodd i mi ei “helpu” i gynnal ei oedfa olaf, ac yntau o fewn wythnosau i farw. Dyna’r cyfrifoldeb mwya i mi ei gael yr adeg honno yn fy mywyd, a dw i mor ddiolchgar am gael rhannu’r gyfrinach.

  1. 3. Sut fyddech chi’n disgrifio ble y’ch chi ar hyn o bryd o ran eich gweledigaeth o Dduw neu fywyd ysbrydol?

Duw ydi’r gair agosaf sydd ganddom am yr hyn na allwn ei ddisgrifio, ei ddirnad na’i ddehongli yn iawn. Y grym, yr egni, y pŵer a’r enaid maddeugar sy’n dal y greadigaeth. Ohono/ohoni yr ydan ni’n dod, ac iddo/iddi yr ydym yn dychwelyd. A chariad ydyw.

4.  Sut cyrhaeddoch chi ble y’ch chi nawr yn eich bywyd?

Dw i wedi cyrraedd 46 oed trwy fenter, chwilfrydedd, gwaith caled, crei ddyddiol, lwc a chariad pobol eraill. Roedd yna adeg pan o’n i’n poeni na fyddwn yn ei gwneud hi i 40 … ond fe basiodd hynny.

5. Beth yw’ch rhwystredigaethau mwyaf chi a’r gobeithion mwyaf sydd gyda chi o ran bywyd eglwysig yng Nghymru heddiw?

Nid o fewn adeiladau eglwysig yn unig y bydd ffydd byw. Ym mhrofiadau ac yng nghalonnau pobol y digwydd hynny. Ond mae’n rhaid i’r ‘peth’ hwnnw gael ei herio, a’i ailddiffinio ar gyfer pob oes. “Newid mae gwybodaeth a dysgeidiaeth dyn …”

Yn y cyd-destun hwn, mae fy ofn pennaf yn ymwneud â dylanwad yr adain dde a’r lleng o bobol sy’n mynnu bod raid credu’r Beibl yn llythrennol er mwyn cael mynediad at Dduw. Mae Duw yn fwy na hynny, ac y mae pawb yr un mor agos ato.

6.  I ble fyddwch chi’n troi am ysbrydoliaeth i’ch cynnal chi? Oes yna awduron, llenorion, cerddorion, artistiaid ayyb sy’n eich cynnal chi fyddai’n help i eraill wybod amdanyn nhw?

Pan fydda i ar fy ngwannaf, mi fydda i’n crio. Dw i’n crio’n aml iawn … a dydi hynny ddim yn brofiad trist bob amser. Rhyddhad ydi o. Gollwng gafael ydi o. Proses o gyfaddef fy ngwendid ac ymddiried ydi hi. Does yna ddim geiriau yn perthyn i hynny. Cerdded glannau môr a mynyddoedd, neu deimlo elfennau fel gwyntoedd neu ddafnau glaw o’m cwmpas, sy’n fy atgoffa mai rhan fechan o’r darlun mawr ydw i. Dadlwytho unrhyw gyfrifoldeb. Mae’n fy nghodi bob tro … Hynny a siarad gyda ffrindiau da fel Aled Jones Williams a Huw John Hughes, sy’n gwybod llawer iawn mwy na fi.

7.  Sut fyddech chi’n hoffi i bobl eich cofio chi?

Fel rhywun a wnaeth ei gorau, a deimlodd ormod weithiau, ond a ochrodd bob amser efo’r ‘underdog’.

Cyfweliad Allan R Jones

Y Parch. Dad Allan R. Jones, CRIC

Crefyddwr ac offeiriad Catholig, ac aelod o Urdd Canon Rheolaidd Sant Awstin ers 2006; cafodd ei ordeinio ddeng mlynedd yn ôl. Mae wedi byw mewn nifer o wledydd a lleoedd gwahanol gan gynnwys Daventry, ei gartref presennol, ers 2018.

  1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod.

Mae gen i deulu cymysg o ran ffydd; roedd teulu fy mam yn gymysg o Gatholigion ac anffyddwyr, a chapelwyr ar ochr fy nhad. Dim ond fy mam oedd yn mynd i’r Eglwys pan oeddwn i’n fach ac aeth hi â fi yno yn ffyddlon bob dydd Sul. Y mae fy mam yn ddall, ac mae ei ffydd yn golygu llawer iddi hi. Roedd fy nhad yn darllen storïau’r Beibl i fi cyn amser gwely pan oeddwn i’n fach, ac wedyn roedd fy mam yn mynd â fi i’r gwely ac yno roedden ni’n gweddïo gyda’n gilydd.

Er mai dim ond ar y Sul yr oedd fy mam a finnau yn mynd i’r Eglwys, unwaith y mis roedden ni’n mynd i gyfarfodydd Torch, grŵp i bobl ag anableddau gweledol, efengylaidd ei naws, ac oherwydd nifer y plant roedd yno ysgol Sul. Dysgais lawer am y ffydd a’r Beibl gyda’r grŵp hwn. Doedd gan fy nhad ddim gwir ddiddordeb mewn crefydd, ar ôl mynd i gapel efengylaidd ei ddau ewythr – nhw oedd pregethwyr y capel – deirgwaith ar y Sul yn blentyn a chyfarfodydd di-rif yn ystod yr wythnos; dw i’n credu ei fod wedi cael digon o grefydd. Yn sgil hynny, es i ddim i ysgolion y plwyf, ond i ysgolion lleol.

Yn 15 oed, derbyniais fedydd esgob, ac wedi dod i adnabod pobl ifainc eraill y plwyf, ces i fy ngwahodd i fynd i gyfarfodydd grŵp ieuenctid y ddeoniaeth; trwy’r grŵp hwn daeth llu o bosibiliadau eraill: gwersylloedd, encilion, pererindodau ac offerennau dros bobl ifainc. Cafodd y mudiad carismataidd gryn dipyn o effaith ar weithgareddau’r eglwys yn ôl yn y 90au – y ffordd o weddïo, y gerddoriaeth fywiog, eisiau bod yn agos at Dduw a gwneud Duw yn rhan o fywyd bob dydd. Trefnodd offeiriad y plwyf bererindod i Rufain ar gyfer gweision yr allor, ac felly, yn 16 oed, es i i Rufain am y tro cyntaf. Arhoson ni yn Nhŷ Mam yr Urdd am wythnos a gwelson ni drysorau’r ddinas dragwyddol. Des i adnabod aelodau ifainc yr Urdd oedd yn Rhufain i gael eu hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth, ac rwy’n dal mewn cysylltiad â rhai ohonyn nhw heddiw. Urdd Canoniaid Rheolaidd yr Ymddygiad Glân oedd yn gofalu am y plwyf lle ces i fy magu, ac aelod o’r Urdd hon ydw i heddiw; mae hynny’n dystiolaeth o ddylanwad yr Urdd arnaf.

  1. Oedd yna achlysur neu ddigwyddiad yn eich bywyd a daniodd eich diddordeb ym materion ffydd?

Alla i ddim meddwl am foment fawr a daniodd fy niddordeb mewn materion ffydd – mae wastad wedi bod yn rhan ohonof. Ond, yn sicr, ar ôl i fi dderbyn fy medydd esgob a dechrau mynychu grwpiau’r plwyf, y ddeoniaeth a’r esgobaeth, roedd fy ffydd yn bwysicach nag erioed o’r blaen. Roedd grŵp y bobl ifainc yn y plwyf, y gweithgareddau gwahanol, y cyfleoedd i aeddfedu yn y ffydd a dod i adnabod Duw yn well yn bwysig.

Ces i gryn dipyn o sioc pan es i i’r coleg yn Aber a dod o hyd i Gatholigion nad oedd y llawenydd amlwg yn rhan o’u ffydd, ond roedd eu ffydd nhw yn rhan o’u diwylliant yn fwy na’u cred. Doedden nhw ddim yn fy neall i a doeddwn i’n sicr ddim yn eu deall nhw. Er i mi fynd yn wythnosol i’r offeren yn Eglwys Santes Wenfrewi a’r offeren yn y caplandy, roeddwn i hefyd yn aelod o’r Undeb Cristnogol ac yn mynd i Eglwys Sant Mike’s bob nos Sul. Doedd aelodau eraill y Gymdeithas Gatholig ddim yn hapus gyda hyn o gwbl, na fy Nghymreictod.

Dechreuais i fynd i’r offeren Gymraeg, ac roedd y Tad John Fitzgerald yn gymaint o help, mewn adeg pan oeddwn i’n gofyn: ‘Oes lle i fi yn yr eglwys hon?’ Roedd y Chwaer Anne, un o’r lleianod oedd yn byw yn Aber yr adeg honno, yn mynd â nifer ohonom i gyfarfodydd carismataidd yn yr esgobaeth, a des i adnabod Catholigion Cymraeg eu hiaith am y tro cyntaf.

Fel rhan o’r cwrs gradd mewn Astudiaethau Celtaidd, bues i yn Roazhon (Rennes), Llydaw, am flwyddyn gron. Gwlad Gatholig, gyda chymaint o eglwysi, lle roeddwn i’n cael mynd i’r offeren yn ddyddiol. Fe ddaeth yr offeren ddyddiol yn rhan o fy mywyd yr adeg honno – cyfle i stopio, i weddïo, i fod yn agos at Dduw.

Ar ôl imi adael Aber, bues i’n gweithio yn Llundain a des i o hyd i eglwys yno lle roedd yr hen offeren draddodiadol yn cael ei dathlu yn Lladin, a byddwn yn mynd yno yn aml. Roeddwn i wedi meddwl am yr offeiriadaeth ers fy mhlentyndod ac roedd nifer o bobl wedi dweud y dylwn wneud cais i fynd yn offeiriad. Felly, wedi gweithio yn Llundain am bum mlynedd, ysgrifennais lythyr i ofyn a fyddai diddordeb gyda’r Urdd yn fy helpu i ddehongli fy nyfodol. Ces i fy nerbyn fel myfyriwr ar gyfer yr offeiriadaeth, ac er nad oedd y broses yn hawdd, ces i f’ordeinio yn 2011.

  1. 3. Sut fyddech chi’n disgrifio ble y’ch chi ar hyn o bryd o ran eich gweledigaeth o Dduw neu fywyd ysbrydol?

Dw i’n astudio’n llawn amser ac yn gurad ym mhlwyf Daventry, Swydd Northampton. Fi ydi Cadeirydd y Cylch Catholig, ac mae nifer o ddyletswyddau gwahanol gyda’r Urdd. Mae’r ddoethuriaeth wedi bod yn hunllef o’r cychwyn cyntaf hyd heddiw, ond mae’r bywyd crefyddol yn help, yn ogystal â gwaith bugeiliol y plwyf a gwrando ar straeon fy mrodyr mewn gwledydd eraill. Er gwaetha Covid-19 yn Ewrop, mae’r sefyllfa ym Mheriw, er enghraifft, yn waeth fyth.

Ydw i’n hapus? Ydw; mae’r cyfnodau clo a thawelwch y plwyf wedi rhoi amser i fi fyfyrio a gweddïo’n fwy nag arfer. Mae gweinyddu’r offeren ar fy mhen fy hun yn beth gwahanol. Ond, wedi dweud hynny, dw i’n ymwybodol fy mod i’n rhan o rywbeth llawer mwy na’r plwyf. Er fy mod i’n sefyll mewn capel ar fy mhen fy hun, dw i’n ymwybodol o’r eglwys fyd-eang, fy mrodyr yn yr offeiriadaeth yn gwneud yr un peth, a’n bod ni’n offrymu aberth yr offeren dros yr eglwys, ein plwyfolion, aelodau ein teuluoedd, ein cyfeillion, aelodau’r Urdd a’r rhai sydd wedi mynd o’n blaenau i’r nef. Fel pawb arall, dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y dyfodol a rhyw fath o normalrwydd mewn bywyd, ond dw i ddim wrthi’n cynllunio sut bydd y sefyllfa wedi i’r feirws hen ddarfod.

  1. Sut cyrhaeddoch chi ble y’ch chi nawr yn eich bywyd?

Rwy’n ddiolchgar i’r Urdd am fy mywyd bach tawel yma yn Daventry, fel curad, ac yn fwy na ddim offeiriad cynorthwyol. Dw i ddim yn gwneud llawer yn y plwyf; tref fach dawel yw Daventry gyda tua 20 o bentrefi yn y plwyf, ond does dim llawer o Gatholigion yn y pentrefi hyn.

Am wyth mlynedd yn syth ar ôl i fi gael f’ordeinio, fe fues i’n gweinidogaethu mewn dau blwyf mawr yn Milton Keynes. Roedd tua mil o bobl yn yr eglwys bob Sul, dwy ysgol Gatholig, caplaniaeth prifysgol, hosbis, eglwys eciwmenaidd, cartrefi gofal, a fi oedd caplan Catholig yr ysbyty yn ogystal â dau ysbyty iechyd meddwl. Roedd fy nghyflwyniad i’r weinidogaeth yn fedydd tân, a phob blwyddyn roedd yna fwy a mwy o ddyletswyddau. Er fy mod i’n colli’r bobl a’r prysurdeb, roedd y sefyllfa wedi mynd dros ben llestri i ni – dim ond dau offeiriad, a dim llawer o wirfoddolwyr.

Cyn i mi gael f’ordeinio, roeddwn i’n paratoi at yr offeiriadaeth. Fe fwynheais i’r hyfforddiant: tair blynedd yn Mill Hill, gogledd Llundain, yn astudio athroniaeth gyda myfyrwyr o bedwar ban y byd yn The Missionary Institute of London. Wedyn, y nofyddiaeth yn Awstria: blwyddyn yn Abaty Klosterneuburg – amser i weddïo, ystyried fy ngalwad i’r bywyd crefyddol fel Canon Rheolaidd a byw bywyd y canon er mwyn gweld, gyda chymorth, ai dyma oedd fy ngalwad.

Ar ôl y flwyddyn honno, treuliais dair blynedd yng Ngholeg Heythrop, Coleg yr Iesuwyr, yn Kensington, sydd wedi cau erbyn hyn ond oedd yn arfer bod yn Goleg Ffederasiwn Prifysgol Llundain, yn astudio diwinyddiaeth gyda chrefyddwyr, lleygwyr, a phobl o draddodiadau crefyddol eraill. Ar gyfer yr MA, fe ddes i’n ôl i Gymru, i Lambed, am flwyddyn cyn i fi gael fy ordeinio’n ddiacon ac wedyn yn offeiriad.

Profiadau gwahanol, mewn lleoedd gwahanol: cwrdd â chyfeillion newydd oedd hefyd yn cael eu hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth. Bob blwyddyn, byddwn yn treulio amser yn ôl yn Rhufain yn Nhŷ Mam yr Urdd, ac yn dod i adnabod aelodau eraill yr Urdd. Roedd yna adegau anodd a doedd popeth ddim yn berffaith. Yn wahanol i’r ffordd y mae myfyrwyr ar gyfer yr offeiriadaeth esgobaethol yn dilyn un rhaglen yn unig, mae’r hyfforddiant i grefyddwyr yn llawer mwy hyblyg ac amrywiol. Ar y cyfan, wyth mlynedd hapus iawn.

Ar ôl i mi adael Milton Keynes, ces i’r cyfle i fynd yn ôl at f’astudiaethau, a dyna pam rwyf yn Daventry. Daeth y cyfle i astudio yn Leuven a bues i’n byw yn Abaty Keizersberg yn Leuven, Gwlad Belg, am ddeunaw mis (2018–2020) hyd at y cyfnod clo. Mae bywyd yr abaty, a’i rythmau, yn rhoi patrwm rheolaidd i’r bywyd dyddiol – y tawelwch a’r gymuned yn sicrhau bod rhywun yn cael caru Duw a chymydog, er nad yw’n hawdd caru pob aelod mewn cymuned glòs drwy’r amser. Yr Urdd yw fy nghartref ysbrydol; a threulio amser gydag aelodau’r Urdd yn y capel, yn y ffreutur, ar wyliau gyda’n gilydd – dyma fy mywyd i erbyn hyn, a dw i’n hapus iawn gyda fy ngalwad.

Dw i’n colli bywyd yr abaty’n fawr iawn; mae byw yng nghymunedau bychain y plwyfi’n anodd. Un o beryglon bywyd cymunedol yn y plwyfi yw ein bod ni’n gallu anghofio taw crefyddwyr ydyn ni yn gyntaf oll wrth i ni gael ein llyncu gan gyfrifoldebau’r plwyf.

‘Hybrids’ ydyn ni’r Canoniaid Rheolaidd, offeiriaid sy’n byw fel mynachod yn ein plwyfi. Rydyn ni’n debyg i’r mynachod yn ein bywyd o weddïo’r litwrgi ar y cyd a’r pwyslais ar ein bywydau cymunedol gyda’n cyd-frodyr, ond, yn wahanol i’r mynachod, ein gwaith ni yw gwaith bugeiliol mewn plwyfi.

  1.  Beth yw’ch rhwystredigaethau mwyaf chi a’r gobeithion mwyaf sydd gyda chi o ran bywyd eglwysig yng Nghymru heddiw?

Fel Cymro oddi cartre, dw i’n gweld yr eglwys yn dirywio, heb sôn am sefyllfa’r iaith yn yr Eglwys Gatholig. Er bod y niferoedd wedi gostwng yn aruthrol, mae rhai plwyfi Catholig, yn arbennig yn y trefi, yn ffynnu ymysg cymunedau o wledydd gwahanol sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru erbyn hyn. Mae rhai o’n heglwysi’n llawn bob dydd Sul, gyda Phwyliaid, Slofaciaid, Indiaid a Philipiniaid, pobl o Ghana a Nigeria sydd wedi dod i weithio yng Nghymru; mae yna hefyd ffoaduriaid o Sri Lanka, y Dwyrain Canol a gwledydd gwahanol o Affrica. Ledled Cymru mae nifer o offeiriaid tramor yn gweinidogaethu; mae’r rhan fwyaf ohonynt yng nghefn gwlad, a dy’n nhw ddim yn cael eu paratoi i weithio yn y Fro Gymraeg.

Dim ond dwywaith y mis y dethlir yr offeren yn Gymraeg yn rheolaidd, ac yng Nghaerdydd y mae’r ddwy offeren hon. Y mae rhai Cymry Cymraeg yn yr Eglwys Gatholig yn teimlo bod yr eglwys wedi eu gadael nhw, ac oherwydd statws yr iaith yn yr Eglwys Gatholig, mae llawer wedi penderfynu peidio â dod.

Dim ond un gobaith personol sydd gennyf, sef cael y cyfle i ddod yn ôl i Gymru, a helpu i sicrhau bod yr offeren yn cael ei gweinyddu yn y Fro. Mae nifer o offeiriaid sy’n siarad Cymraeg wedi’i chael hi’n anodd a dw i’n poeni pa fath o groeso a gaf gan y plwyfolion, ond yn fwy na ddim gan fy nghyd-offeiriaid. Hoffwn i weld pob offeiriad yng Nghymru yn dysgu Cymraeg ac yn defnyddio’r iaith yn eu plwyfi a phob myfyriwr sy’n cael ei hyfforddi i fod yn offeiriad yn dysgu Cymraeg. Ond breuddwyd gwrach yw hyn: diffyg arian a diffyg amser yw’r dadleuon yn erbyn syniad o’r fath. Yng nghymunedau’r Urdd yn yr Unol Daleithiau, mae’n rhaid i bob darpar offeiriad ddysgu Sbaeneg, a dyna sut dylai fod yng Nghymru hefyd.

  1. I ble fyddwch chi’n troi am ysbrydoliaeth i’ch cynnal chi? Oes yna awduron, llenorion, cerddorion, artistiaid ayyb sy’n eich cynnal chi fyddai’n help i eraill wybod amdanyn nhw?

Mae f’ysbrydoliaeth yn dod trwy’r litwrgi yn fwy na ddim. Dyma ysbrydolrwydd yr Urdd: bedair gwaith bob dydd dy’n ni’n ymgasglu yn yr eglwys i weddïo Litwrgi’r Oriau: moliannau, gweddi yn ystod y dydd, gosber, a’r offeren ddyddiol gyda’r plwyfolion. Mae’r patrwm yn debyg bob dydd, fel y dywedodd hen fynach unwaith, ‘Yr un hen salmau, a’r un hen wynebau’. Ond, drwy dreigl tymhorau’r litwrgi a’r lectio continua, mae’r litwrgi’n cyflwyno themâu gwahanol bob dydd.

Fel Canon Rheolaidd, mae disgwyl i ni gadw awr o weddi bersonol bob dydd. Yn y bore dw i’n gwneud fy lectio divina, sef darllen ac ystyried darlleniadau offeren y dydd, cyn rhannu ffrwythau’r myfyrdod hwnnw â’r gynulleidfa wrth draddodi pregeth fer yn ystod yr offeren. A chyda’r nos dw i’n mynd i’r capel yn gynnar i ddarllen am y bywyd mewnol a bywyd gweddi, cyn myfyrio ar y testunau a gweinyddu’r gosber. Dw i’n hoff iawn o gyfrinwyr mawrion y Canoloesoedd: Richard Rolle, Walter Hilton, Julian o Norwich, ond hefyd awduron yr ugeinfed ganrif: Charles de Foucauld, Thomas Merton a Bede Griffiths. Ar hyn o bryd dw i’n defnyddio myfyrdodau Ioan van Ruysbroeck, Canon Rheolaidd, a gŵr o Fflandrys yn yr 14eg ganrif. Er mai canon ac nid mynach ydw i, dw i’n cael f’ysbrydoli gan y traddodiad mynachaidd.

  1. Sut fyddech chi’n hoffi i bobl eich cofio chi?

Fel crefyddwr ac offeiriad sydd wedi tyngu llw i fyw heb gymar na theulu, dim ond fel offeiriad a chrefyddwr y bydd pobl yn fy nghofio, offeiriad sydd wedi helpu i greu cymunedau lle y caiff pawb groeso, offeiriad a wnaeth ei orau glas dros yr iaith yn yr Eglwys Gatholig yng Nghymru. Fel aelod o Urdd grefyddol, hoffwn feddwl amdanaf fy hun fel brawd caredig a ffyddlon, sydd wastad yn barod i helpu aelodau eraill i gyflawni eu galwad. Ar ôl i bawb anghofio amdanaf, o leiaf bydd f’enw ac ychydig ffeithiau amdanaf yng nghoflyfr meirwon yr Urdd a bydd fy nghyd-ganoniaid yn gweddïo dros f’enaid.