Cyfweliad gyda Gareth L Davies
Tyfodd Gareth i fyny mewn teulu uniaith Gymraeg, a chael ei addysg yn Ysgol Gymraeg Llanelli ac wedyn yn Lloegr. Cymerodd ddiddordeb mewn pynciau crefyddol ac athronyddol fel myfyriwr yn y chwedegau, cyfnod Honest to God, a theimlo’r her o droedio llwybr rhwng anffyddiaeth a ffwndamentaliaeth. Ar ôl dysgu ieithoedd, a bod yn diwtor i bregethwyr lleyg dan nawdd yr Eglwys Fethodistaidd, mae’n cynnull grŵp lleol o’r Progressive Christian Network yng Nghanolbarth Lloegr.
AR Y FFORDD O HYD, Gareth L Davies
- 1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod.
Wrth imi gael fy magu ar aelwyd Gymraeg ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf, roeddwn i’n bur gyfarwydd â mynd i’r capel dair gwaith ar y Sul. Rwy’n cofio dioddef y tonnau emosiynol fyddai’n mynd drosof wrth wrando ar y canu gyda’r nos, tra bu’r bregeth yn gyfle i adael i’m meddyliau grwydro’n rhydd. Nid oedd ein bywyd teuluol yn ddefodol iawn, ond cofiaf drafodaethau brwd, ac weithiau ddadleuon, ar bynciau gwleidyddol a diwinyddol. Gan fwyaf, ar foeseg yn hytrach nag ysbrydoliaeth – gair nad oedd yn gyfarwydd i mi tan y chwedegau – yr oedd y pwyslais. Un atgof sy’n aros o’r dyddiau cynnar: fy mod i’n amharod iawn i dderbyn, yn ateb i’m cwestiynau parhaus am ble oedd Duw yn bod, ei fod “ym mhob man”. O’r diwedd, daeth yr ateb “i fyny, yn y nef”. Mae’n debyg imi dreulio’r prynhawn yn taflu cerrig mân i’r awyr i weld faint ohonynt fyddai’n disgyn, a thybio bod y rhai a ddisgynnodd heb i mi eu gweld wedi eu dal gan law anweledig. Mae’n amlwg nad bodolaeth Duw oedd y broblem, ond ei leoliad.
- Oedd yna achlysur neu ddigwyddiad yn eich bywyd a daniodd eich diddordeb ym materion ffydd?
Yn raddol, wrth inni symud i ffwrdd o’n cynefin yn ne Cymru, aeth mynychu oedfaon yn beth achlysurol. Wrth i mi ddarllen yn helaeth fel myfyriwr, datblygodd diddordeb mewn testunau diwinyddol – rhai eithaf hygyrch i ddechrau, gan C. S. Lewis yn arbennig, ond maes o law daeth esboniad Karl Barth ar Lythyr Paul i’r Rhufeiniaid i’m sylw, a llyfr Albert Schweitzer ar Iesu Hanes, gan gynnig mwy o gwestiynau nag o atebion.
Dau ddigwyddiad a ysgogodd chwilfrydedd yn yr ochr ysbrydol: darganfod gwaith celfyddydol a barddonol William Blake mewn arddangosfa helaeth, ac ymweld yn ddiweddarach â’r fynachlog yn Taizé. Datguddiodd Blake y posibilrwydd newydd fod yna realiti anweledig, a chynnig mwy nag un ffordd i feddwl am Dduw. Mewn oedfa yn Taizé daeth ystyriaeth ddofn fod y tawelwch dwys yn llawn awgrym a chyffro. Rhwng y ddau daeth ffydd yn beth amgenach na chrefydd i mi, rhywbeth cyfareddol, os yn llai pendant.
- Sut fyddech chi’n disgrifio ble y’ch chi ar hyn o bryd o ran eich gweledigaeth o Dduw neu fywyd ysbrydol?
Erbyn hyn, rwy’n ystyried ffydd fel proses o chwilio am ystyr mewn bywyd a thu hwnt, a bywyd fel taith. Mae rhywbeth aflonydd a di-ben-draw yn y delweddau hyn, sy’n gwneud pob sicrwydd a chasgliad yn garreg filltir ar hyd y ffordd, yn hytrach na therfyn. Ar yr un pryd, fel rhan o’r etifeddiaeth, rwy’n gweld perthynas agos rhwng ysbrydoliaeth a chyfiawnder. Mae crefydd sy’n agored i ddatblygiad a newid yn galw am wleidyddiaeth iach.
- Sut cyrhaeddoch chi ble y’ch chi nawr yn eich bywyd?
Dau newid sylfaenol mewn bywyd sydd wedi llywio fy nghwrs ymlaen hyd at yr argyfwng presennol: mynd yn bregethwr lleyg a dod i gysylltiad â’r Rhwydwaith Cristnogol Rhyddfrydol (Progressive Christian Network). Mae’r ddau yn gyson ag awyrgylch y chwedegau, ond mewn byd lle mae’r asgell dde bellach wedi ennill tir ym maes gwleidyddiaeth a Christnogaeth fwy pendant ond cul wedi dod i fri, mae’r ddwy agwedd yma yn cynnig gweithgarwch newydd.
- Beth yw’ch rhwystredigaethau mwyaf a’r gobeithion mwyaf sydd gyda chi o ran bywyd eglwysig yng Nghymru heddiw?
Wedi ymgyfarwyddo â diwinyddiaeth flaengar o’r pulpud yn ogystal ag mewn ambell lyfr, rwy’n profi rhwystredigaeth o bryd i’w gilydd wrth glywed dehongliadau llythrennol o’r Ysgrythur neu osodiadau o’r oesoedd gynt, boed mewn oedfa neu yn y cyfryngau cymdeithasol. Wedi dweud hynny, ni welaf ddim o’i le mewn cyflwyno hanes y Geni, er enghraifft, yn uniongyrchol heb ymdrechu i ddehongli unrhyw ystyr ar gyfer yr oes sydd ohoni. Boed hanesyn symbolaidd neu hanes ffeithiol, yr un yw’r neges; ond ran fynychaf af ymlaen i bwysleisio mai stori ac ystyr iddi ydyw, cyn ymhelaethu ar yr ystyr. Ond y mae sawl emyn na allaf ei oddef erbyn hyn. Mae gormod o emynau newydd yn rhy geidwadol eu delweddau.
- I ble fyddwch chi’n troi am ysbrydoliaeth i’ch cynnal chi? Oes awduron, llenorion, cerddorion, artistiaid ayyb sy’n eich cynnal chi fyddai’n help i eraill wybod amdanyn nhw?
Wrth bori mewn llyfrau mae dyn yn derbyn syniadau newydd. Ni phrofais i lawer o fudd wrth weddïo nes imi daro ar lyfryn John Baillie, ei “Ddyddiadur Defosiwn”, yn nyddiau’r coleg. Ond fel rheol rwy’n osgoi llyfrau defosiwn. Ar hyd y blynyddoedd daeth gwaith Dorothee Soelle o’r Almaen, a Søren Kierkegaard o Ddenmarc, yn ffynonellau gwerthfawr. Mae gwaith Marcus Borg a John Dominic Crossan wedi ennyn awydd ynof i wybod a deall mwy am gefndir hanesyddol Iesu, tra bo’r cyn-esgob Spong yn fy aflonyddu a’m denu ar y cyd.
Fel llawer un, byddaf yn troi at nofelau am loches, am gysur, ac am gael deall mwy ar fywyd: yn enwedig Robertson Davies a Marilynne Robinson. Er gwaethaf fy magwraeth Ymneilltuol, rwy’n parchu rhai o arferion y Catholigion a’r Eglwysi Uniongred, gan ddefnyddio eiconau fel sail i fyfyrdod. Ymhlith artistiaid, y mae gwaith David Jones ac El Greco yn gyson eu dylanwad arnaf. Ar hyn o bryd rwy’n pori yng ngwaith Gwenallt.
- Sut fyddech chi’n hoffi i bobl eich cofio chi?
Wrth dynnu ymlaen mewn oedran, bydd dyn yn troi ei feddwl at yr argraff a wnaeth ar eraill ac yn dyfalu sut fydd eraill yn ei gofio. Gobeithiaf adael yr argraff fy mod i wedi ymroi i’r achosion rwyf yn gysylltiedig â hwy, gorff ac enaid, ond heb golli fy synnwyr cyffredin ac ymdeimlad o ddigrifwch pethau.