E-fwletin 1af. Mawrth 2020

Pa Dduw …

Yn yr Hen Destament , mae Duw yn mynegi ei ddicter trwy drais yn uniongyrchol a hefyd yn anuniongyrchol trwy orchymyn ei ddilynwyr i’w gyflawni. Mae ei gosbedigaethau’n llethol.

Cymerwn hanes Noah. Duw yn penderfynu difa dynolryw oddieithr un teulu a oedd yn ddieuog o bechod ac yn barod i wrando arno. Yn ôl yr ysgolheigion, mae’r stori’n seiliedig ar un o fythau diwylliant Babilon, sef Uta-Napisthim, ac mae nodweddion o’r chwedl yn perthyn i fytholegau hŷn mewn ddiwylliannau eraill. Alegori yw’r hanes, meddir , yn pwysleisio gwerth moesoldeb a phwysigrwydd ffyddlondeb i Dduw. Fodd bynnag, yn ôl arolwg barn ar ffurf pôl piniwn Gallup yn 2006, roedd 50% o boblogaeth Unol Daleithiau America yn derbyn bod y stori’n llythrennol wir, a thrwy hynny yn mynegi eu canfyddiad derbyniol o Dduw fel ‘bod’ neu ‘rym’ treisgar. Pan ddaeth dioddefaint mawr o ganlyniad i’r tswnami yn Asia yn 2004, dehonglwyd y digwyddiad gan lawer nid fel effaith symudiad plat tectonig ond fel cosbedigaeth gan Dduw am bechodau’r bobl yn yfed a dawnsio yn y tai-tafarnau a thorri rheolau crefyddol.

Mae ymdriniaeth o ferched yn yr Hen Destament yn ddychryn. Nid ydynt ond gwrthrychau i’w treisio neu i fargeinio â hwy – yn ddim ond megis gwerin gwyddbwyll yn ymwneud dynion â’i gilydd wrth ymgiprys am oruchafiaeth ‘foesol’ a bodloni Duw. A beth am Abraham, yn barod i aberthu ei fab ei hun pe bai raid er mwyn ennill ffafr Duw? Neu Jefftha, yn aberthu ei ferch ei hun i ddiolch am gymorth Duw i ddinistrio’r Ammoniaid?

Moses, fel cosb i’r bobl wedi iddo ddinistrio’r llo aur, o dan arweiniad Duw, a barodd i lwyth offeiriadol Lefi ladd oddeutu tair mil o bobl.  Ymhellach, mae Duw yn annog Moses i ymosod ar y Midianiaid. Yn y frwydr, lladdwyd y gwŷr i gyd ond arbedwyd bywydau’r merched a’r plant gan ei fyddin. Cynddeiriogwyd Moses gan hyn a gorchmynnodd i’w filwyr ladd y bechgyn ynghyd â’r merched nad oedd yn wyryf, ac iddynt gymryd y genethod a’r merched gwyryf yn eiddo iddynt hwy eu hunain. Dioddefodd y Midianiaid genedl-laddiad yn eu gwlad eu hunain. Cenedl arall a ddaeth yn wrthrych trais Duw oedd y Moabiaid pan alwodd ar Moses i dorri eu pennau i’w crogi yn wyneb yr haul. Druan hefyd â’r Amoriaid, yr Hethiaid, y Pheresiaid, yr Hefiaid, y Jebusiaid a’r Canaaneaid.

A yw hyn oll yn peri anesmwythyd ynom? Ai dyma Dduw Iesu? Duw Dewi Sant?

 

‘Cerddaf o’r Hen Fapiau’: Cyfrol ‘unigryw’ o gerddi gan y Prifardd Aled Jones Williams.  Lansiad: Morlan, Aberystwyth, 6 Mawrth 2020.  51 o gerddi – yn llaw’r bardd – wedi eu rhwymo’n gain – rhediad cyfyngedig o gopïau ffacsimili – ar gael trwy’r post neu yn y lansiad.  Medrwch archebu copi ar y wefan drwy glicio YMA neu www.cristnogaeth21.cymru a mynd i’r adran Newyddion.