E-fwletin 8 Mawrth 2020

Prin yw’r sylw a roddwyd yn y wasg Gymraeg a Chymreig i’r newyddion a ryddhawyd  yn ystod y pythefnos ddiwethaf am y diweddar Jean Vanier, sylfaenydd cymunedau L’Arche, athronydd a diwinydd Cristnogol, ac aelod amlwg, mawr ei barch o’r Eglwys Rufeinig Gatholig.

Ganed Vanier yng Ngenefa yn 1928 ac fe’i haddysgwyd yn Ffrainc a Lloegr. Ar ôl treulio cyfnod yn y Llynges astudiodd athroniaeth ym Mharis gan gwblhau ei ddoethuriaeth yno ond yna, yn 1964, gadawodd y brifysgol a sefydlu cymuned gyntaf y mudiad L’Arche yn Trosy-Breuil, Ffrainc ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu. Cam arloesol ar y pryd, oherwydd yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf roedd pobl ag anableddau dysgu yn cael eu cadw o dan glo mewn sefydliadau mawr ac amhersonol. Ond roedd gan Vanier syniadau gwahanol. Credai yng ngwerth yr unigolyn a’r modd y gallai pobl ddysgu oddi wrth ei gilydd beth bynnag eu gallu. Ei awydd oedd sicrhau bywydau mor lawn â phosib i bobl ag anableddau dysgu ac i’r perwyl hwn credai y dylent fyw ochr yn ochr â’r sawl a fyddai’n gofalu amdanynt mewn cymunedau bychain. Meddai gwefan y mudiad: ‘L’Arche is a worldwide federation of people, with and without learning disabilities, working together for a world where all belong’.

Dros y blynyddoedd datblygodd L’Arche i fod yn fudiad rhyngwladol gyda dros 130 o gymunedau wedi’u sefydlu mewn nifer o wledydd, gan gynnwys Cymru.   Parhaodd Vanier i fyw yn y gymuned wreiddiol a sefydlodd yn Trosy-Breuil hyd at ei farwolaeth yn 2019. Bu’n fawr ei barch ac yn arbennig felly yn yr Eglwys Rufeinig Gatholig. Wythnos cyn ei farwolaeth cysylltodd y Pab Francis ag ef i ddiolch iddo am ei wasanaeth a’i weinidogaeth. Derbyniodd sawl anrhydedd am ei waith a bu’n gyfrifol am dros 30 o gyfrolau. Ysgrifennodd y cofiannydd adnabyddus Kathryn Spink gofiant iddo ‘The Miracle, The Message, The Story.’ Yn ddi-os gwnaeth Vanier wahaniaeth aruthrol nid yn unig i fywydau pobl ag anawsterau dysgu ond i’r gwirfoddolwyr oedd yn byw yn y cymunedau. I filoedd yr oedd yn eicon.

Ond rhyw bythefnos yn ôl cyhoeddwyd datganiad ac adroddiad gan L’Arche a oedd yn sôn am honiadau a wnaed gan chwe gwraig yn tystio i’r ffaith iddynt gael eu camdrin yn rhywiol ganddo.  Ar y pryd roedd y chwech yn derbyn arweiniad ysbrydol gan Vanier ac fe’u siarsiwyd i beidio â sôn wrth neb am yr hyn a ddigwyddodd. Er nad yw Jean Vanier bellach yn medru amddiffyn ei enw da, canfu’r ymchwiliad bod tystiolaeth y gwragedd yn gredadwy ac yn gwbl annibynol o’i gilydd. Nid oedd unrhyw awydd gan y gwragedd i ddial ond yn hytrach roeddent yn awyddus i’w profiadau gael eu defnyddo er mwyn osgoi unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol. (Pwysleisiwyd yn yr adroddiad nad oedd Vanier wedi camdrin unrhyw un o’r bobl ag anawsterau dysgu oedd yn byw yng nghymunedau L’Arche).

Bu’r newyddion yn destun siom a gofid i filoedd ar draws y byd a oedd yn ystyried Jean Vanier fel sant. Er hynny, rhaid canmol L’Arche am gomisiynu ymchwiliad annibynol ac am fod yn gwbl agored a thryloyw wrth gyhoeddi’r canlyniadau.

Mae’r hanes trist hwn yn ein hatgoffa fel y gall pob un syrthio i demtasiwn, hyd yn oed rhywun fel Jean Vanier a fu’n gyfrifol am gymaint o waith arloesol ond a achosodd hefyd y  fath boen a dioddefaint.

Dynoliaeth ar ei gorau ac ar ei gwaethaf, yn yr un person.