Neges o’r Dyfodol
Beth i wneud? Roedd Eic wedi gadael CnArfon 8 munud yn ôl ac roedd y traciwr yn dweud wrthi i beidio a’i ddisgwyl yn TiDrath am 5.5 munud arall. Dyna ni, fel archeolegydd – ifanc neu beidio – roedd Mir yn gwybod yn iawn mai gwasanaeth eilradd oedd y norm yng Nghymru byth ers y chwyldro dechnolegol gyntaf, dros fil o flynyddoedd yn ôl.
Ond doedd hynny’n fawr o gysur iddi y foment hon. Roedd hi eisiau bod Eic yma. Gyda hi. Yr awr hon. Nawr. I rannu yn ei chyffro. I weld y dystiolaeth a befriai o flaen ei llygaid. A ddawnsiai yn neuadd fawr ei deallusrwydd. Wedi’r cyfan, roedd hynny ond yn deg. Oni bai am Eic, ble fydde hi? Yn dal yn sownd yng ngharchar yr ymchwil yna i’r ffrwd ddarlledu roedd yr hen Gymry’n ei alw’n Sianel Pedwar Cymru, siŵr o fod. Ond unwaith i Mir ddeall mai un o gastiau olaf yr Ymerodraeth Brydeinig cyn iddi fewn-ffrwydro oedd honno, doedd fawr o ddim arall o ddiddordeb i’w archifo na’i archwilio.
Ac wedyn glaniodd Eic yn ei bywyd, diolch i ragluniaeth. Rhagluniaeth ar lun ei anallu cynhenid i ddod o hyd i’r stafell gywir ar yr adeg gywir. Wrth drio datrys ei ddryswch, daeth Mir i ddeall ei fod yntau hefyd yn ymchwilio i’r can mlynedd od yna a rychwantai ddiwedd yr ugeinfed a dechrau’r unfed ganrif ar hugain. Ac er ei hwp-di-haprwydd (neu efallai o’i herwydd) roedd e wedi sylwi ar ffenomen ddidd-dros-ben – llawer mwy diddorol na darlledu meddwl-Saesneg-yng-Nghymraeg S4C.
Wrth astudio hen, hen fapiau DS (Digidol Sylfaenol) roedd Eic wedi darganfod fod yna un math o adeilad wedi diflannu’n llwyr oddi ar y mapiau yn ystod y cyfnod byr hwn. Roedd hi fel petai rhyw bŵer cudd, anamlwg wedi’u diddymu – cannoedd ar gannoedd ohonyn nhw – fesul un. Yn rhyfeddach fyth, roedd yr adeiladau yma, gynt, yn elfennau gweithredol (o sefydliadol a di-symud) ym mudiad Crist a’i gariad a’i arweiniad.
Cafodd Eic dipyn o drafferth i gael ei oruchwylwyr academaidd i dderbyn dilysrwydd ei dystiolaeth. Iddyn nhw, megis i bawb ohonom, roedd adnabod fod yna bosibilrwydd fod yna doriad absoliwt wedi bod yn ffrwd ein treftadaeth ganolog yn syniad anodd iawn i’w dderbyn. Ond ei dderbyn bu raid. A thrwy hynny cafodd Mir y fraint o’i phenodi i gyd-ymchwilio ag Eic i’r ‘gyflafan’, neu – fel y cyfeirir at y cyfnod hwnnw bellach – y ‘Chwalfa’.
A dyna pam roedd Mir, yr eiliad hon, ar bigau’r drain. Roedd y ddau ohonyn nhw’n eithaf sicr bellach mai cael eu ‘bwyta’ gan ryw fath o haint oedd hynt y ‘CapeliacEglwysi’ (sef yr adeiladau hyn a ddiddymwyd). Ond pa fath haint? Er gosod y dystiolaeth archeolegol drwy’r dechweld diweddaraf dro ar ôl tro, roedd y data’n gwrthod bradychu’r un gyfrinach.
Â’i galon yn drom, bu’n rhaid i Eic ddychwelyd at ddyletswyddau eraill yn NhiryGogledd. Awgrymodd y dylai Mir gymryd y cyfle i gerdded TrathMowr i glirio’i phen o’i phryder. Wedi misoedd o ddwys-ymchwilio roedd rhyddid y traeth yn dynfa gref. Ond wrth iddi oedi’n y drws i ddiffodd sgrinddesg yr ymchwil cyffyrddodd awel rhagluniaeth ei boch a chyfeirio’i golwg at batrwm ysgafn-ysgafn o’i blaen. Er dallineb y ddau ohonynt, gynt – tyfai’r patrwm yn gliriach wrth yr eiliad iddi nawr. Ac yn yr eiliadau hir-sydyn hyn sylweddolodd Mir pam y bu’r patrwm yn llwyr anweledig cyhyd. ‘Am nad dyma’r patrwm ro’n i’n ei erfyn’, medde i’w hunan. ‘Am nad yw’r hyn sy’n glir i mi yn awr ddim oll i’w wneud â’r hyn dreulion ni’r holl oriau hynny’n chwilio amdano.’
 hithau’n dal i fud-ryfeddu clywodd Eic yn ymlanio wrth ei hymyl. Gwelodd ef y disgleirdeb yn ei llygaid a dilynodd ei threm tua’r sgrinddesg. ‘Wyt ti’n gweld?’, medde hi ‘Ro’n i’n chwilio am y peth anghywir. Nid chwalfa ond…’.
Ymdawelodd. Roedd hi am ddweud ‘parhad’. Ond doedd y gair ddim yn gwneud cyfiawnder â rhyfeddod y dystiolaeth. Yna, yng nghynghanedd yr eiliad, canodd y gair ‘atgyfodiad’ yn dawel ond yn sicr yng nghalonnau’r ddau. Canys dyna a ddangosai’r dystiolaeth. Drwy gyfnod yr haint a’r chwalfa roedd rhywrai – rhywun, efallai – wedi dal i hau. Wedi dyfal-bar-hau.