E-fwletin 24 Chwefror 2016

Taflu cerrig

Mae llwch hanes yn gorwedd yn drwm ar Rydychen. Wrth grwydro strydoedd y ddinas yn ddiweddar fe’m trawyd gan y bensaernïaeth glasurol a’r etifeddiaeth ddeallusol rymus. Fe’m synnwyd hefyd gan y nifer o siopau oedd gan Oxfam yn y ddinas. Roedd logo’r mudiad yn amlwg ar siopau amrywiol ar hyd bob stryd. Yna fe wawriodd arna’ i mai yn Rhydychen y sefydlwyd yr elusen, wrth gwrs.

Yn 1942 cyfarfu llond llaw o Grynwyr, actifyddion ac academyddion y ddinas yn llyfrgell Eglwys Mair y Forwyn y Brifysgol i drefnu anfon cymorth at drigolion gwlad Groeg a oedd yn dioddef yn enbyd ar y pryd yn sgil meddiannu’r wlad honno gan yr Almaenwyr a blocâd economaidd gan y Cynghreiriaid. Canlyniad y cyfarfod oedd sefydlu’r Oxford Committee for Famine Relief. Ers hynny ac ers agor y siop elusen gyntaf yno yn 1948 tyfodd y mudiad o nerth i nerth. Heddiw ym Mhrydain mae gan OXFAM (newidiwyd yr enw yn 1963) 650 o siopau gyda 23,000 o wirfoddolwyr yn eu rhedeg.

Ers 1995 sefydlwyd Oxfam International yn bartneriaeth ryngwladol o 20 mudiad dyngarol sy’n gweithio i leihau tlodi, anghydraddoldeb ac anghyfiawnder mewn dros 90 o wledydd a draws y byd. Mae Oxfam GB bellach yn rhan o’r bartneriaeth honno a nhw, mae’n debyg, fu’n gweithio yn Haiti. Mae Oxfam yn dibynnu’n llwyr ar roddion gan unigolion a llywodraethau ac mae Oxfam International yn unig yn gwario tua 750 miliwn ewro’n flynyddol ar waith maes uniongyrchol.

Trist iawn, felly, oedd sylwi ar ddwy fyfyrwraig ifanc tu allan i un o siopau Oxfam GB bnawn Mercher. Roedd un yn amlwg wedi ffansio dilledyn a oedd ar werth y tu fewn i’r siop ac roedd ar fin camu dros y trothwy i archwilio’r pilyn. Galwodd y llall arni’n floesg o’r palmant, “Come along Jessica, you know that we don’t support Oxfam anymore”.

Nawr does neb call yn mynd i amddiffyn unrhyw gamymddwyn gan swyddogion unrhyw sefydliad – yn Haiti mwy na Halifax, yn Oxfam mwy na Oxo. A ddylid cynnal ymchwiliad i’r honiadau? Wrth gwrs. Dyna fyddai unrhyw gorff cyfrifol yn ei wneud. Ond onid yw barnu a phardduo mudiad cyfan ar sail drwgweithredu hanesyddol gan rhai unigolion llac eu moes mewn un cangen o sefydliad byd-eang yn ffolineb o’r radd flaenaf? Yr eironi mawr yn achos y fyfyrwraig freintiedig a hyderus a welais i yn Rhydychen yw bod Oxfam yn cyflawni gwaith clodwiw ledled y byd i ymrymuso menywod a chryfhau eu hawliau, eu dylanwad a’u cyfleodd bywyd. Yn wir, dyna yw pwnc y cyntaf a’r ail o nodau creu newid y mudiad.

Sefydlwyd Oxfam mewn ymateb i fethiannau gwleidyddion. Wrth i benawdau’r wasg goch bwyntio bys barn at y mudiad heddiw, gwae i ni anghofio fod yna wleidyddion ym Mhrydain a fyddai wrth eu boddau o gael unrhyw esgus i dorri cyllideb yr Adran Datblygu Rhyngwladol. Maen nhw wedi casglu o amgylch eu tomen o gerrig ers meitin ac yn eiddgar i’w taflu.

Wel, beth wnawn ni ag Oxfam GB yn ei thrafferthion cyfredol, felly? Beth fyddai mab hynaf Mair y Forwyn wedi ei wneud yn y sefyllfa hon, sgwn i? Alla’ i ond meddwl amdano yn ysgrifennu’n bwyllog yn y llwch a’n gwahodd ni i daflu’r garreg gyntaf.