Ailddarganfod Crist
Duw un-awr-ar-ddydd-Sul yw’n Duw ni bellach mae Duw dan glo mewn hen gapel dadfeiliedig fel llongddrylliad ar draeth ymhell o ryferthwy a llif bywyd unwaith yr wythnos daw dyrnaid o rai gwynion eu gwallt difrif a dwys eu gwedd yn dal eu llyfrau emynau’n dynn a mynd mewn i gadw cwmni am awr fach i’r Duw sydd dan glo y gweinidog druan yn unigedd ei bulpud yn rhygnu drwy’r hen ddefodau darlleniad a gweddi emyn a phregeth yma mwy nid oes ond arlwy oer anghynnes diwinyddiaeth ddiystyr ddoe Awstin a Chalfin crefydd euogrwydd niwrotig yr hen Bant ac arallfydolrwydd annaturiol yr hen Ann y rhygnu ymlaen am achubiaeth bersonol sy’n cau drysau’r nef yn glep ar bawb ond y dethol rai mae geiriau gwag ein crefydd ddigysur yn eco’n ofer rhwng muriau llaith ychydig flynyddoedd eto wedi dydd y ffyddlon rai yr henoed bregus hyn adfail gwag fydd yr hen gapel a Duw wedi carchar yr hir flynyddoedd yn rhydd i grwydro’r byd yn ei ddillad bob dydd ddaw plant yr hen ffyddloniaid na phlant eu plant ddim ar gyfyl yr hen le ddôn nhw ddim er gwisgo’r neges ym moelni diawen efengyl dotcom am mai amddifad o bob perthnasedd yw’n credoau cul i chwerw newyddfyd blin ddôn nhw ddim tan i ni ailddarganfod Crist y sant o Assisi a’r Fam Teresa ddôn nhw ddim tan fydd paned o de wedi’r oedfa i leddfu unigrwydd yr wythnos a’n clymu’n gymdeithas eto ddôn nhw ddim tan fydd noddfa yma i’r ifanc rhag stryd a chyffuriau ddôn nhw ddim tan fydd yma fugail da i gynnal syrjeri wythnosol i wrando ar y rhai heb neb i eiriol drostynt y dioddefwyr mud y ddafad grwydredig a’r blin ei feddwl ddôn nhw ddim tan i ni listio’r ifanc mewn crwsâd nid yn erbyn yr inffidel a’r pechadurus ond i estyn llaw i drueiniaid daear ddôn nhw ddim tan fydd yma le i’r digartref i gysgu bob nos ar y seddau caled a bwyd i’w rannu i’r tlodion mi ddôn nhw pan wnawn ni ailddarganfod Crist Crist cyfaill pechaduriaid a phublicanod Crist gwarchodwr yr amddifad a’r weddw y Crist sy’n arddel pob Rohingya ond ni raid i ni dristáu nid y capel moel diaddurn na’r eglwys ysblennydd yw tŷ Duw tŷ yr ysbryd yw unig dŷ Duw nid oes iddo feini ond gweithredoedd o gariad nid oes iddo drawstiau ond dwylo agored yn estyn llaw nid oes iddo ffresgoau hardd ar furiau dim ond harddwch y rhai sy’n byw eu Crist sancteiddrwydd syml y galon agored dosturiol y rhai sy’n gwneud y pethau bychain y rhai sy’n herio Herod yn enw y da a’r cyfiawn yma nid tric consurio yw’r cymun ond gwyrth gwir ymgnawdoli Crist mewn bara i’r tlodion a gwin er coffa amdano i atal ei ailgroeshoelio nawr yma heddiw ym mhob tlawd a newynog y dioddefus a’r isel rai tŷ agored yw hwn tŷ yn olau o lawenydd y calonnau tryloyw y llifa gwynder y dwyfol drwyddynt yn falm i’n byd yma yng ngolau’r ysbryd crisial mae’r seintiau syml yn eu plyg nid mewn gweddi ond mewn gwasanaeth i gyd-ddyn yn aredig fel Dewi grastir ein byd fel y blodeua drachefn a’i ffrwyth heb wywo mwy yn dyfal durio i ddiwreiddio efrau y bwled a’r gwn yr adar angau a’r bom ac ailgnawdoli ein Crist a dyneiddio ein Duw