Defosiwn ar gyfer Wythnos sydd wedi cynnwys Dydd Rhyngwladol y Merched a Sul y Mamau
Gwerthfawrogwn gyfraniad merched dewr a duwiol a aeth o’n blaenau, a’u hysbrydoliaeth i ddilynwyr Iesu yn ein hoes ni – yn ddynion a merched. Ymrwymwn i ddilyn eu hesiampl gyda gras a doethineb wrth i ni droedio ein hamrywiol lwybrau yn olion traed yr Iesu.
Esther, cofiwn am dy ymdrechion yn erbyn y grymus, a thros rhyddhad dy bobl. Tania ni.
Deborah, cyfreithwraig ac ustus a arweiniaist dy bobl at Dduw. Canmolwn di.
Mair Magdalen a weinidogaist i’r Iesu a chario ei neges gyda dewrder, ysbrydola ni i ddilyn dy esiampl.
Santes Elen o Gaernarfon, cofiwn am dy waith i sefydlu cymunedau mynachaidd er mwyn meithrin y ffydd Gristnogol yng Nghymru, gan sylweddoli fod angen i ni ystyried ffyrdd newydd heddiw i warchod yr etifeddiaeth Gristnogol a basiwyd i ni.
Dwynwen, am ein hatgoffa o rym bywiol cariad rhwng pobl, gwerthfawrogwn ein teimladau dwyasaf gyda llawenydd.
Clara o Assisi, a heriaist y Pab gyda’th ddelwedd o’r ferch a’r dyn yn gyfartal, tania ein dewrder ninnau.
Hildegard o Bingen, a roddaist greadigrwydd a thiwn wrth fynegi dy gariad at y Crist, atgoffa ni o’n hangen am greadigrwydd a thiwn i gyfoethogi ein bywydau.
Melangell, a greaist gymuned o ferched i addoli a chyd-fyw fel dilynwyr Iesu, ysbrydola ni heddiw i feithrin cymuned glos o fewn ein heglwysi a’n sefydliadau Cristnogol.
Julian o Norwich, a ddarluniaist Dduw ein mam ni oll, atgoffa ni o amrywiaeth y bod mawr, pan fyddwn mor aml yn cael ein temtio i’w chyfyngu i eiriau a llyfr.
Thérèse o Lisieux, a dy argyhoeddiad o alwad Duw arnat i wasanaethu, yn erbyn confensiwn dy oes, rho i ni’r hyder i wrthsefyll confensiynau sy’n ein tagu heddiw.
Teresa o Avila, a weithiaist i gyfoethogi’r eglwys gyda doniau merched dy oes, ysbrydola ni i gyd i ddarganfod ein doniau trawsnewidiol ninnau.
Ann Griffiths o Ddolwar Fach, rho i ni’r awydd i ddarganfod ein perthynas gyfriniol gydag ysbryd yr Iesu.
Cranogwen, rho i ni’r awydd i ymgyrchu dros yr hyn all drawsnewid a chyfoethogi bywyd ein cenedl.
Florence Jones, Casnewydd, wrth i ni gofio dy ymdrechion i gefnogi pob conshi, rho i ni’r cryfder heddiw i wrthsefyll bwystfilod militaraidd ein gwledydd.
Helen Thomas, o Ddyfed a Chomin Greenham, cofiwn am dy barodrwydd i gydio dwylo gyda chwiorydd yn fyd-eang er mwyn gwrthsefyll arfau dieflig eu graddfa, dinistrwyr cenhedloedd cyfan, arfau i lygru pedwar ban byd. Ysbrydola ni i fyrlymu mewn undod yn wyneb yr amhosib.
Yn olion traed pob un o’r merched hyn a aeth o’n blaenau, awn ati i ddiogelu eu hetifeddiaeth i’n hoes ninnau. Amen.