E-fwletin 18 Mawrth 2018

‘Ai am fy meiau i …’

Mae’n bumed Sul y Grawys, Sul y Dioddefaint, a ninnau’n prysur agosáu at yr Wythnos Fawr. Yn naturiol, bydd marwolaeth Crist yn cael cryn sylw gennym yn ein myfyrdodau ac un o’r cwestiynau y byddwn yn siŵr o’i ofyn yw pam yn union y bu’n rhaid iddo farw ar y groes?  Dyma’n wir oedd cwestiwn John Elias yn ei emyn mawreddog:

Ai am fy meiau i

dioddefodd Iesu mawr

pan ddaeth yng ngrym ei gariad ef

o entrych nef i lawr?

 

Wn i ddim beth yw’r union ateb gan fod yna ddirgelion dyrys yn perthyn i farwolaeth Crist. Ond un dehongliad sy’n cael ei gynnig yn aml (fel y tystia John Elias yng ngweddill ei emyn) yw y bu’n rhaid i’r Iesu farw er mwyn talu’r pris am ein pechodau, a’i fod gan hynny wedi derbyn cosb Duw yn ein lle. Mae’r athrawiaeth hon, sef athrawiaeth yr Iawn, wedi bod yn dderbyniol gan nifer helaeth o Gristnogion ers i Anselm ei chyflwyno gyntaf yn yr unfed ganrif ar ddeg ac yn sicr mae wedi bod yn elfen ganolog yng nghredo’r sawl sy’n arddel Cristnogaeth geidwadol. Mae’n ddehongliad sydd wedi bod o gysur i filiynau o Gristnogion ar hyd y canrifoedd wrth iddynt dderbyn bod Crist wedi’u caru gymaint nes iddo farw yn eu lle a thrwy hynny faddau eu beiau.   

Ond i filiynau o Gristnogion eraill mae’r dehongliad wedi creu problemau aruthrol drwy godi gwestiynau anodd fel y rhain: os bu farw’r Iesu dros ein pechodau, ai dyma oedd dymuniad Duw? Ai un felly yw Duw sy’n mynnu cosbi am anufudd-dod? Sut allwn ni gysoni’r fath ddarlun o Dduw yn cosbi ei fab â’r darlun a gawn o’r Tad cariadus yn Nameg y Mab Afradlon ac mewn hanesion eraill yn y Testament Newydd lle mae Crist yn maddau pechodau heb unrhyw gyfeiriad at groesbren na gwaed?

Mae’r diwinydd Marcus Borg yn ei driniaeth o groeshoeliad Crist yn ei gyfrol ‘Convictions’ yn cyfeirio at y rhesymau hanesyddol a gwleidyddol dros groeshoelio’r Iesu. Mae’n egluro i’r Iesu gael ei ddienyddio gan y Rhufeiniaid, gyda chydsyniad yr awdurdodau crefyddol, am gyhoeddi maniffesto oedd yn herio’r drefn wleiddyol a chrefyddol.  Ond mynna Borg hefyd fod yna ystyr personol i’w farwolaeth na wnelo ddim byd â chosbedigaeth.  Yn hytrach, mae’r groes yn ein hatgoffa o’r trawsnewid personol sydd ei angen yn ein bywydau. Hynny yw, rhaid i’r hen hunaniaeth a’r hen ffordd o fyw farw a chael ei atgyfodi i hunaniaeth newydd sydd wedi’i wreiddio yng Nghrist. Mae dilyn Crist nid yn unig yn golygu ein bod yn ei ddilyn i Jerwsalem ond golyga hefyd bod angen i ni farw gydag ef a chael ein trawsffurfio i fyw bywyd sydd yn cael ei gyfeirio’n gyfan gwbl ganddo. Profodd yr Apostol Paul y trawsnewidiad hwn pan dystiodd yn ei Lythyr at y Galatiaid: “Yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ; a mwyach, nid myfi sy’n byw, ond Crist sy’n byw ynof fi.”  (Gal. 2:20).

Felly wrth i ni deithio gyda’r Crist i Jerwsalem eleni, boed i’n bywyd gael ei drawsffurfio o’r newydd fel y gallwn roi’r hen hunaniaeth heibio, cael ein hatgyfodi i’r bywyd newydd ac ymroi i wasanaethu’r deyrnas yng ngrym y Crist sydd yn parhau i herio’r byd.