Bobi Jones

Yr Athro Bobi Jones.
Ionawr 2011. Trwy garedigrwydd Marian Delyth

Tröedigaeth Fawr Bobi Jones

(1929 [geni], 1952 [aileni] – 22 Tachwedd 2017)

Ni all neb sy’n gwybod am Bobi Jones lai na rhyfeddu at ei ddoniau, ei allu a’i gynnyrch dros ddegawdau lawer. Roedd yn fardd, yn llenor, yn academydd, yn athro ac yn arloeswr. Roedd y wasg brint yn methu dal i fyny â’i waith ac fe aeth ati – a hynny yn ei flynydoedd olaf a’i iechyd yn ei gyfyngu’n gorfforol – i greu ei wefan ei hun er mwyn i’r gwaith â lifai ohono (‘fel gwe o fol pry cop’, fel y dywedwyd am Bantycelyn) gael ei ryddhau a’i rannu. Ond, yn fwy ac o flaen popeth arall, yr oedd Bobi Jones yn Gristion. O safbwynt dylanwad personol ei dröedigaeth, ei chanlyniad a’i thysiolaeth i benarglwyddiaeth Duw ar bob rhan o’i fywyd, ni fyddem ymhell o’n lle yn cyfeirio ati (gyda thinc gellweirus/eithafol Bobi ei hun) fel y ‘tröedigaeth fwyaf y genedl Gymraeg ’ ers diwygiad y ddeunawfed ganrif. Onid yw ‘Hunllef Arthur’ i’w chymharu â Theomemphus? A’i gynnyrch llenyddol yn fwy nac eiddo Pantycelyn?

Yn y bennod ‘Caffael Pen arall’ o’i hunangofiant O’r bedd i’r crud (Gwasg Gomer, 2000) neu, a defnyddio iaith arall Bobi , ‘o farwolaeth i fywyd’, ac mewn 36 o dudalennau mae’n sôn am ddigwyddiad mwyaf ei fywyd. I gydnabod yn ddiolchgar ac yn ostyngedig ei dystiolaeth Gristnogol a’i waith, dyma ddyfyniadau o’r bennod honno. Ond mae angen darllen y bennod, ac yn wir y gyfrol gyfan, i adnabod Bobi Jones yn well. Mae ei eiriau yn nhraddodiad, Paul, Awstin, Luther, Hywel Harris … ac ni fynnai Bobi iddi fod fel arall, ond ni fyddai ef yn ei ystyried ei hun yn deilwng i fod yn eu plith.

_____________________________________________

Pe ceisiwn ddweud ‘gair’ (os dyna’r gair) ynghylch fy muchedd grefyddol ar ei hyd, byddai’n rhaid i mi ddechrau yn boenus o gonfensiynol mae gen i ofn. Am y ddwy flynedd ar hugain cyntaf o’m bywyd, gallwn haeru imi fod yn hynod o ffyddlon i’r hyn na ellir llai na’i alw’n anghrediniaeth fynychu-capel, sef cydymffurfiaeth rwydd ddi-rym o rumus fy nghyfnod. Gall hynny swnio’n ysgafn i rywrai; ac ar ryw olwg, felly yr oedd. Yr oedd hefyd, fel y sylweddolaf bellach, yn sobr o arwydus. (tud. 104)

Yr oeddwn bellach yn dair ar hugain oed, yn ŵr priod, ac wedi gosod y goruwchnaturiol yn hapus dwt yn ei le fel cysyniad diddorol eithaf posibl ar yr ymylon … y grefydd ddyneiddiol naturiol a hedonaidd a deyrnasai o hyd yn fy nghalon … dyrchafu dyn oedd fy arfer, syniadau dyn oedd fy ymborth hyfryd. (tud. 108)

Yna, i Lanidloes, nid i Notre–Dame nac i Ddamascus. Ond i’r dreflan gysglyd, brydferth, anhysbys honno … ond un nos Sul , drwy awyrgylch mwll y tŷ cwrdd, dyma lais croyw oddi uchod yn llefaru’n bwyllog hyd fy mherfedd, ‘Wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi wrth y bwrdd’ ( Luc 11.11 ).

Cyrhaeddodd hyn yn felltith ac yn gyhuddiad. Cyrhaeddodd graidd y chware, yr arwynebolrwydd, y potsian deallol pitw, y sarhad. Y Parchedig Tudor Jones, gweinidog duwiol, dwys-ffraeth y capel, oedd yn geirio’r peth, a minnau’n llechu’n isel yn fy sedd gefn ar y dde o’r eil chwith yn China Street, Llanidloes. Oedfa gymun ydoedd. Wedi darllen yr adnod, oedodd. Yn y saib hwnnw bywhawyd y geiriau. Yr eiliad yna trawodd y gair tanllyd hwnnw hyd at fy nghalon … Dyma f’ysbryd am y tro cyntaf yn dihuno. Atgyfodwyd hanfod fy modolaeth o’r meirw; dim llai: gair ar fy nghyfer i oedd hwn. Wyddwn i ddim o’r blaen, onid ar bapur, fod y fath beth ag enaid ar gael fel cynneddf a oedd yn effro i Dduw. (tud. 113–14 )

Beth oedd ystyr y diffyg perthynas a fuasai rhyngom ni, rhwng y Duw penarglwyddiaethol a fi, hyd y fan yna ? Roeddwn i yn fy uwchraddoldeb dynol, wedi potsian gydag Ef, wedi’i fychanu Ef. Roeddwn wedi adeiladau pob wal yn erbyn ei ddarganfod Ef o ddifrif. Roedd f’agwedd yn fwy nac anwybodaeth….Roeddwn wedi sarhau person Crist. Defnyddiwn pob dim, ysgolheictod,, ffasiwn lenyddol,, rheswm,teimlad,amheuaeth arferiadol ac yn arbennig rhagdybiau. Roeddwn wedi tyrchu ym mhob man namyn yn y lle iawn, popeth er mwyn ei osgoi.

 … fe’m darostyngwyd i’r llawr ac odano. Fe’m plygwyd i fel darn o bapur. Rhuthrais i’r gwaddodion i edifarhau. Ychydig a wyddwn ar y pryd fy mod drwy hyn wedi dod yn fwgan i rywrai.

Wedi tröedigaeth ac mewn tröedigaeth, carthu balchder yw tasg fawr gyntaf ac olaf y Cristion ei hun ar y ddaear hon. A dyna pryd y mae cwmnïaeth Crist ar waith, yn tocio, yn impio, yn caru. (tud. 115)