E-fwletin 11 Chwefror 2018

Anturiaeth v. Dogma

Beth mae crefydd yn ei olygu i chi? I lawer o bobl mae’n gyfrwng cysur a thawelwch meddwl. I eraill mae crefydd yn heriol ac yn gyfrwng i’w procio. Gwêl eraill grefydd yn gyfrwng dysg, cyfrwng sy’n ehangu dealltwriaeth o elfennau ysbrydol bywyd. Ar un adeg gwelodd llawer grefydd fel cyfrwng cosbi!  

Ar y cychwyn roedd Cristnogaeth yn llawn anturiaeth. Dylanwadodd Iesu ar ffordd o fyw ei ddilynwyr, gan annog pobl i dorri ymaith o’u maglau a’u rhwystrau crefyddol er mwyn mentro ac anturio. Mor wahanol yw hi heddiw. Rydym yn rhan o gyfundrefn sydd wedi ei threfnu yn drylwyr, gyda chyfarwyddiadau, disgwyliadau a gofynion penodol. Drwy ddod yn weithgaredd sefydliadol mae Cristnogaeth wedi colli’r beiddgarwch a’r anturiaeth a arferai berthyn iddi.

Yn nyddiau’r Testament Newydd roedd ffydd yn gyfystyr ac anturiaeth a mentergarwch; gydag ymrwymiad, ymroddiad a theyrngarwch yn creu profiadau iasol a chyffro gwefreiddiol ymysg dilynwyr cyntaf Iesu. Ond nid ffydd mewn credoau ffurfiol oedd ganddyn nhw. Doedd y rheiny heb eu creu. Nid ffydd yn y TN oedd ganddyn nhw chwaith, am nad oedd y Testament wedi ei ysgrifennu. Nid ffydd mewn eglwys – doedd honno ond megis dechrau cropian ac yn hynod ddi-drefn.

Bellach mae crefydd wedi ei chyfundrefnu a’i sefydlogi. Mae’n llawn credoau, defodau a dogmâu. I lawer mae hyn yn eu rhwystro rhag addoli. Onid oes rhywbeth sefydliadol am y syniad o dderbyn credoau set a’u dilyn yn llywaeth? Gall dogmâu fod yn rhwystr rhag symud ymlaen a thorri cwysi newydd, ffres – llwybrau a allai fod yn heriol a  herfeiddiol.

Mae’n anodd gen i gredu bod Cristnogaeth wedi cyrraedd ei fan terfynol, perffaith. Rydym yn croesawu datblygiadau mewn meysydd eraill megis meddyginiaeth, cerddoriaeth, addysg, pensaernïaeth, amaeth ac ati. Ymhob un o’r meysydd hynny dyw’r gair terfynol heb ei lefaru eto. Mae yna ddatblygiadau cyson – mae yna ehangu, helaethu a chynyddu. Pam ydyn ni mor amharod i dorri cwysi newydd wrth grefydda?

Onid yw bywyd ysbrydol byw yn dibynnu ar dderbyn profiadau newydd a mewnwelediadau newydd yn barhaus yn hytrach na dibynnu ar hen fformiwlâu arhosol? Ym mhob maes, oni ddylai’r meddwl dynol ddatblygu, creu a mireinio cysyniadau newydd yn barhaus? Onid felly ddylai hi fod ym maes crefydd hefyd? Onid oes angen i ni fod yn barod i dyfu tu hwnt i fformiwlâu’r dyddiau a fu, yn gwmws fel mae plant yn tyfu mas o’u dillad.

Disgyblion oedd enw dilynwyr cyntaf yr Iesu – pobl oedd yn dysgu. Wrth iddo gyfarfod pobl am y tro cyntaf, ni wnaeth Iesu wthio system o gredoau na diwinyddiaeth benodol arnyn nhw. Doedd dim disgwyl iddyn nhw ddatgan unrhyw gyffes ffydd. Cawsant wahoddiad i wasanaethu, gosodwyd ffyrdd llydan penagored iddyn nhw i’w troedio ac fe’u gorchymynnwyd i  ddechrau ar eu gwaith wrth eu traed. Gwnawn ninnau’r un modd.