Gadael Trysor

GADAEL TRYSOR

Diolch, Gethin

“Am golled!” Dyna ddywedwn ni pan fydd angau’n goddiweddyd person yr ydym yn ei barchu, neu’n ei hedmygu. “Colled fawr!” Ac wrth ‘golli’ enwogion ein cyfnod (cyn bod yn siŵr pwy fydd enwogion y dyfodol) mae ’na ofn yn stwyrian yn ein calonnau, ofn bod pethau sy’n werthfawr rywsut yn crebachu, yn gwanychu’n gysgodion, ac yn diflannu.

Aeth 15 mis heibio ers ‘colli’ Gethin Abraham-Williams, a chymwynas aruthrol a wnaed gan Denise, ei weddw, yw cyhoeddi cynnyrch ei ddwy flynedd olaf mewn cyfrol dan y teitl, Love is the Medium: Last Sermons. Dyw casgliad o bregethau ddim yn swnio’n beth cyffrous iawn y dyddiau hyn – ond yn y casgliad hwn mae llais dilys Gethin yn llefaru gyda dwyster a digrifwch, yn huawdl ac yn gryno uniongyrchol. Dylai borthi’r crebwyll a cryfhau cariad ynom i gyd.

Clawr ‘Love is the Medium’

Cefais innau’r fraint o fod yn gyd-weithiwr â Gethin pan oedd yn dal dwy swydd – yn ysgrifennydd i Enfys (Yr Eglwysi Cyfamodol) ac yn swyddog eciwmeniaeth i’r Eglwys yng Nghymru ac felly’n fedyddiwr ar ei Bwrdd Cenhadu. Chwyldro yn wir!). Gethin yn wir oedd un o’r rhai a’m perswadiodd i, diacon cymharol dibrofiad oedd wrthi yn rhan o’r frwydr i ordeinio gwragedd yn offeiriaid, i geisio am swydd dan deitl tra chamarweiniol –‘Cyfarwyddwr Cenhadu’. Aeth yntau ymlaen i fod yn gyfarwyddwr ar Cytûn. Buan iawn y dysgais am ehangder ei ddysg, dyfnder ei argyhoeddiad, dwyster ei ymroddiad i’r Efengyl ac i’w Arglwydd:

he becomes my Saviour and Lord, because in his humainity, he is for me the human face of God. You ask what God is like? I don’t know. It’s an impossible question. But whatever God is like, the nearest I can get to God, is the man Pilate crucified as Jesus of Nazareth.

Yr oedd gan Gethin ddawn fugeiliol ryfeddol, i annog a chefnogi, i gysuro a hyfforddi ac i fwynhau doniolwch pethau. Pan oedd ef yn gorfod delio â siomedigaethau lluosog, yr oedd yn medru gwenu wrth ochneidio. Medrai ddal gafael yn ei weledigaeth eang, rhannu ei gysylltiadau lluosog iawn dros y byd i gyd yn gwbl ddiymhongar. Byddai’n tynnu fy nghoes i fel cyn-Fedyddwraig a ‘droes ei chot’ i fynd yn Anglican, a minnau’n tynnu ei goes ef am fod yn ‘rhyddfrydwr o’r chwedegau’.

Ond rhyddfrydwr tra eangfrydig ac egnïol ydoedd a dyfodd yn fwyfwy radical wrth heneiddio. Radical gobeithiol oedd, yn dirnad gweledigaeth newydd wrth i hiraeth gynyddu yng nghalonnau pobl sydd wedi blino ar ddatganiadau treuliedig, diddychymyg ac amddiffynnol y cyfundrefnau.

Rwy’n frwdfrydig am y gyfrol hon cyn ei gorffen. Eisoes rwy eisiau dyfynnu ohoni, cynnig ambell bennod i bobl sy’n cael methu ‘credu’ mewn gwahanol fathau o athrawiaethau ac yn cael eu cyhuddo o fethu bod yn ‘Gristnogion’ oherwydd hynny. Mae ei bennod yn disgrifio drama’r dioddefaint ym Mhort Talbot yn berl, a phregeth am lyfr Jona yn batrwm o weld perthnasedd miniog yr ysgrythur i’n problemau deallusol ac emosiynol heddi. Mae ei bregeth olaf ar Ŵyl yr Holl Saint i eglwysi Methodistaidd Penarth yn llwythog o ystyr diwinyddol a phersonol.

Mynnwch gopi – dyma gyfrol sy’n ymaflyd yn y pynciau sy’n bwysig i bobl cristnogaeth21.

Diolch, Gethin a diolch, Denise.

Love is the Medium: Last Sermons, Gethin Abraham-Williams, £7.95

Ar gael trwy Amazon