E-fwletin 4 Chwefror 2018

Grym Gweddi

Dechreuodd Pencampwriaeth y 6 Gwlad yn arbennig o lewyrchus i Gymru ddoe. Wedi’r holl anobeithio a’r pryderu am y sgwad gymharol ddibrofiad sydd yn ein cynrychioli, fe roddodd y Cymry grasfa go iawn i’r Albanwyr. Clod i’r tîm! Clod i Dduw?

Fuoch chi’n un o’r rhai fu’n gweddïo’n llwyddiannus am fuddugoliaeth ysgubol?

Yn ystod yr wythnos fe welais drafodaeth ddiddorol ar y cyfryngau cymdeithasol a wnaeth i mi ystyried neithiwr beth oedd rôl gweddi yn llwyddiant y crysau cochion.

Yn y drafodaeth roedd unigolyn wedi sôn am ei agwedd sinigaidd at gydweithwraig oedd wedi dweud ei bod yn gweddïo ar i Dduw ei helpu gyda’r daith nosweithiol adref, er mwyn ei helpu i osgoi’r traffig. Datblygodd y sgwrs wrth i rywun ddod ‘nôl gyda’r sylw ei fod yntau hefyd fel Cristion yn gweddïo am ‘drugareddau teithio’, allai gynnwys dim gormod o draffig a thywydd gweddol.

Aeth y drafodaeth yn ei blaen – gydag un yn codi amheuon am ddilysrwydd gweddïo dros bethau i’r hunan, a’r llall yn awgrymu fod gweddïo fel hyn yn gwbl resymol. Yn ei hanfod, trafodaeth oedd hon am y math o Dduw y mae rhywun yn ei addoli. Roedd Duw’r Testament Newydd yn Dduw a oedd yn trigo i fyny fry uwchben ac a oedd yn ymyrryd yng ngweithgareddau’r byd ar amrantiad. Roedd esboniad theocrataidd i bob problem – gan gynnwys y gallu i feio cythreuliaid pan oedd pethau ddim cweit fel y dylen nhw fod.

Os ydy hi’n iawn i weddïo am dywydd braf ar gyfer taith, sut mae Duw yn gweithredu fel reffari yn y sefyllfa hon? Sut mae’r penderfyniad yn cael ei wneud ar yr adegau anodd pan fo’r Bod Mawr newydd gael cais gan ffermwr sy’n ymbil am gymylau glaw a chais arall gan Gristion sydd eisiau tywydd sych? Beth sy’n swingio ateb Duw? Y nifer sy’n gweddïo ar bob ochr, neu ddidwylledd neu uniongrededd yr unigolion ar y naill ochr neu’r llall? Neu lefel angen yr unigolion sydd ar bob ochr?

Nid gwawdio ydw i, ond ceisio mynd i hanfod sut y mae pobl yn credu fod gweddi yn gallu effeithio ar dywydd, traffig neu gwrs y byd. Pe bai fy ffydd yn dibynnu ar y math hwn o Dduw, rwy’n tybio na fyddai gennyf ffydd o gwbl erbyn hyn. Mae’r Rohinga truenus yn gweddïo am achubiaeth ym Myanmar, ond mae miloedd eisoes wedi marw mewn ffyrdd erchyll. Ydy Duw yn eu gwrthod am eu bod yn Fwslemiaid? Oni ddarganfuwyd gweddïau Iddewon ac eraill fel graffiti ar waliau Dachau ac Auschwitz?

Tra fy mod yn ddiolchgar i’r rhai sy’n codi cwestiynau fel hyn ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn dangos parodrwydd i’w trafod, daw geiriau Kierkegaard i gof: “Nid pwrpas gweddi yw dylanwadu ar Dduw, ond yn hytrach ei phwrpas yw newid natur yr un sy’n gweddïo”.

Efallai mai dyna’r ysgogiad sydd ei angen ar Gristnogion yn ein hoes ni er mwyn i ni herio drygioni ein byd a chyflawni ewyllys Iesu yn ein cymunedau a’n heglwysi.