E-fwletin 28 Ionawr 2018

“Cenhadaeth – beth ydyw? Bod yn berthnasol i’n cymuned”

Pwy biau’r frawddeg? Dwn i ddim, ond clywais ei dyfynnu gan rywun fu mewn cynhadledd yn ddiweddar yn dathlu hanner canmlwyddiant sefydlu Eglwys Gynulleidfaol Unedig Deheubarth Affrica. Ymddengys bod “cenhadaeth”, boed effeithiol neu ddiffygiol, yn bwnc trafod ymhlith eglwysi ar draws y byd. A fu i’r eglwysi fethu neu lwyddo yn eu cenhadaeth sydd fater i’w ystyried. 

A bwrw bod y diffiniad uchod yn agos i’w le, does dim unrhyw amheuaeth na fu i’r eglwysi yn gyffredinol fethu’n druenus yn eu cenhadaeth. Er hynny, mae natur y methiant yn gofyn am ddadansoddiad pellach. Lle mae’r eglwysi y gwyddom ni amdanynt yn y cwestiwn, ni fu’r math o genhadaeth a ddisgwylir uchod ar eu hagendâu ers sawl cenhedlaeth. Mae honni iddynt fethu ei chyflawni yn gamddehongliad gan na freuddwydiwyd am fentro arni yn y lle cyntaf. Os bu methiant o gwbl, nid ymarferol mohono, ond meddyliol ac ysbrydol. Methiant i ddirnad natur a hanfod Duw a’i waith yn y byd. 

Os na fu’r eglwysi dros gyfnod helaethaf y ganrif ddiwethaf yn genhadol eu hanian, mae lle i gredu iddynt yn ddiarwybod ac yn anfwriadol gyhoeddi neges, un y mae eu cyflwr presennol yn dystiolaeth bendant i’w llwyddiant ac un a gafodd gryn ddylanwad ar y byd o’u cwmpas. Onid neges amlycaf y muriau uchel a’r clwydi clo oedd “Cadwch Ma’s”? A thu ôl i’r gwydr barugog roedd ’na weithgaredd nad oedd, mae’n amlwg, ar gyfer pawb. “Chwe troedfedd uwch beirniadaeth”, trafodai’r pregethwr Dduw, yn union fel meistr syrcas yn trafod llew, ei berfformiad yn achos rhyfeddod, edmygedd a pharch.

Afraid dweud bod y sioe honno ar ben. Collodd ei hapêl ers tro byd. Ddaw neb iddi mwy. I lle’r aeth y Duw a ddofwyd gennym? Lle llithrodd ef o’n gafael?

Mewn Cwrdd Crynwyr yr wythnos diwetha tynnwyd sylw at un o’r ymholiadau a geir yn y gyfrol, Ffydd ac Ymarfer y Crynwyr, a chefais fy nghyffroi ganddo: “A ydych, fel disgybl i Grist, yn cymryd diddordeb byw yn amodau cymdeithasol yr ardal lle rydych yn byw? A ydych yn ceisio hybu lles y rhai sydd mewn angen a dosbarthiad cyfiawn a theg o adnoddau’r byd?”

Dyma’n cenhadaeth – bod yn berthnasol i’n cymuned a’n byd. Synhwyrais fod Duw yno’n barod yn ein galw i’n gwaith.