E-fwletin 22 Ionawr, 2018

Pan y mae’r eglwys fyd eang yn dathlu ei hundod mewn amrywiaeth (Wythnos Weddi am Undod Cristmogol Ionawr 18-25) dyma fwletin sy’n ein gwahodd i ofyn ‘Beth yw ein cyfraniad ni i’r amrywiaeth hwnnw?’

 Mae yna eliffant yn ein capel ni!

Oes, mae ’na “eliffant” mawr yn ein capel ni a nifer o gapeli eraill yn y Gymru wledig. Mae’r sefyllfa yn argyfyngus. Rydym yn cerdded o gwmpas yr argyfwng, yn gwrthod ei drafod gyda’n cyd-aelodau, yn gwrthod gweld yr “eliffant”.

Mae nifer o gapeli lle mae llai na hanner dwsin yn bresennol, sydd heb organydd neu godwr canu, lle mae bron pawb dros 80 oed a lle bydd dau neu dri angladd arall yn digon i gau’r capel. Mae ambell bregethwr yn canmol y gweddill ffyddlon am gadw’r drws ar agor. Oedd Iesu yn bwriadu i ni ddefnyddio’r dywediad “lle bynnag mae yna ddau neu dri” i gyfiawnhau “dau neu dri” mewn hanner dwsin o adeiladau o fewn ychydig filltiroedd i’w gilydd neu bregethwr yn traddodi yr un bregeth deirgwaith a cyfanswm o lai nag ugain wedi’i chlywed? Os ydym yn disgwyl tan y diwedd, bydd y rhai sydd ar ôl yn rhy bregus i fentro i addoldy gwahanol. Rydym yn chwarae “gêm” blentynnaidd, yn gobeithio mai “ein capel ni” fydd yr olaf sy’n agored, gan orfodi pawb arall i dod atom “ni”. Nid oes neb yn trafod y dyfodol.

Ble mae’r enwadau ynghanol hyn? Dylent gynnig arweiniad, ond maent yn gobeithio y bydd pob ardal yn gwneud trefniant lleol. Mewn rhai pentrefi mae’r capeli wedi llwyddo i “uno” ond mae gwahanol enwadau’n eistedd ar wahân er mwyn trafod materion eu henwad. Mewn achosion eraill mae cymaint o bwyslais ar rannu’r baich yn gyfartal rhwng yr enwadau nes y datblygir trefniant sydd mor anhyblyg fel nad yw’n gwneud y gorau o’r doniau sydd ar gael. Ac os bydd capel ‘unedig’ yn penderfynu cadw cysylltiad â dim ond un enwad, mae rhai pregethwyr o enwadau eraill yn pwdu.

Oni fuasai’n well wynebu’r “eliffant” yn hytrach na disgwyl yr anochel?

  • Mae angen i rywun ofyn i gapeli gyda llai nag ugain o aelodau beth yw eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol (gan roi awgrymiadau adeiladol iddynt i gyd-drafod).
  • Mae angen i’r enwadau gydweithio i sicrhau nad yw “uno” mewn pentref yn cael ei danseilio gan ofynion canolog yr enwadau. Dylent fod yn fwy rhagweithiol yn cynnig cynlluniau ar y cyd i hyrwyddo uno.
  • Efallai y dylai’r rhai ohonom sy’n arwain ambell oedfa ystyried a ydym yn cynorthwyo i gadw at drefn sy’n marw yn hytrach na hybu datblygiad newydd?
  • Beth yw lle C21 yn hyn i gyd? Hyd yma mae mwyafrif y cynlluniau i gael grwpiau leol at ei gilydd wedi methu. Oni ddylai hyn fod yn flaenoriaeth er mwyn hybu cydweithio?

Dylem ni lawenhau pan mae adeilad yn cau a diolch i’r aelodau am eu dewrder. Mae angen dewrder i gau’r drws ar y gorffennol, dewrder mawr gan y rhai sy’n cau’r drws ar yr unig addoldy maent wedi’i nabod. Mae angen ffydd i estyn am law Duw a cherdded allan i dywyllwch ein sefyllfa bresennol. A oes dewrder gennym? A oes gennym ni ffydd?

Ein cofion atoch.