Golygyddol mis Mai 2017

Golygyddol

Ydych chi’n falch o’ch treftadaeth Gristnogol? Neu oes arnoch gywilydd fod hanes yr Eglwys yn gymysgwch mor enbyd o’r gogoneddus a’r creulon? Ydi’r gwydr yn hanner gwag neu’n hanner llawn? Ydi’r methiannau a’r ailadrodd brwydrau am rym a statws a dylanwad, y cecru am gredoau a’r parodrwydd i ladd i amddiffyn ein ‘Cristnogaeth ni’ yn ddigon i beri i ddylanwad ‘ffydd, gobaith a chariad’ ddiflannu?

John Cleese

Ydych chi yn sgil hynny’n edrych i’r dyfodol o gwbl? Ac os ydych chi, ydych chi’n byw yn ofnus neu’n obeithiol?

“Galla i ddod i ben ag anobaith,” meddai John Cleese yn y film Clock, “gobaith sy’n annioddefol!”

Mewn argyfyngau personol wrth wynebu dyfodol annhebyg i ddim y cawsom brofiad ohono, dyna eiriau y gallwn ni i gyd eu hailadrodd gan gydnabod mor boenus yw byw mewn ansicrwydd ac ofn pan fo pethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol yn dymchwel a diflannu.

O feddwl am yr amrywiaeth rhyfeddol sy’n nodweddu’r ‘teulu’ cwerylgar Cristnogol, mae lle i falchder a chywilydd. Y mater yr hoffwn i ddarllenwyr Agora ei ystyried yw pa nodweddion sy’n gyffredin ac yn sylfaenol mewn cymunedau sy’n edrych yn eitha gwahanol i’w gilydd ar yr wyneb.

Rydyn ni’n dueddol o edrych ar bethau sy’n peri i ni edrych yn wahanol i’n gilydd. Gwelwn eiconau Eglwys Uniongred y Dwyrain, gwisgoedd amryliw ac awdurdod y Pab yn Eglwys Rufain, Llyfr Gweddi’r Anglicaniaid, trefniadaeth fanwl y Methodistiaid, emynau a gweddi rydd yr eglwysi ymneilltuol, breichiau dyrchafedig y Pentecostaliaid, llymder ac arwahanrwydd rhai traddodiadau diwygiedig.

Lluniwch chi eich rhestr eich hun o’r pethau allanol hynny sydd, yn eich tyb chi, yn ‘nodweddiadol’ o draddodiadau eglwysig gwahanol – a gwnewch eich gorau i beidio â bod yn rhagfarnllyd!

Ein harfer cyffredin, a’r arfer a gynhyrchodd gweryla, yw diffinio’r traddodiadau yn ôl  credoau, a gellir pwysleisio’r hyn a gredir neu y gwrthodir ei gredu gan y gwahanol draddoddiadau. Yn America mae’r duedd ymhlith Protestaniaid i wahanu oddi wrth ei gilydd (fel a welwyd yn Ewrop) wedi mynd i’r eithaf. Gwyddom yng Nghymru am gapeli split nad oedd yn gynnyrch athrawiaeth na diwylliant ond yn ffrwyth gwrthdaro rhwng unigolion, balchder ac annioddefgarwch. Mae uchel ac isel eglwyswyr yn garfanau amlwg. Yn Eglwys Rufain mae urddau a chymdeithasau sy’n ddrwgdybus a beirniadol iawn o’i gilydd, fel y Dominiciaid, yr Iesuwyr a’r Ffransisciaid. Yn yr Eglwysi Dwyreiniol Uniongred mae’r gwrthdaro rhwng diwylliannau ethnig a chyfundrefnau. Rywsut y mae ymdrechion i greu cymdeithas Gristnogol gyflawn a pherffaith yn dwyn ffrwyth mewn hunangyfiawnder a drwgdybiaeth. Y feirniadaeth lymaf a glywais ar gapel erioed oedd gan ŵr ifanc oedd yn trefnu angladd deuluol. Pan ofynnais iddo, “Ydych chi’n mynd i’r cwrdd, Dai?”, ei ateb oedd “Nag ydw i, rwy’n gwybod shwd rai ydyn nhw!” Gwir y ceir ambell eglwys blwyf docsig ei chynulleidfa hefyd. A chaniatáu fod dogn go lew o hunangyfiawnder ieuenctid yn yr ateb, rhaid cydnabod yr ergyd. Dyma un rheswm cwbl gyfiawn dros ddiflaniad y genhedlaeth ifanc o’u cefndir Cristnogol. Leslie Newbiggin a fynnai mai ‘Bywyd y cynulliad lleol yw’r dehongliad gorau ar yr Ysgrythur’.

Dim ond unwaith erioed yr awgymwyd i mi fy mod yn mynd i wasanaeth i sicrhau bod y bregeth yn uniongred a chymeradwy. Efallai mai cellwair oedd yr holwr.

Y gair sy’n hofran yn y meddwl yw ‘carreg sylfaen’, neu sylfeini. Pa sylfeini sy’n nodweddu cymuned o Gristnogion? Pan ddiystyrwch chi ddiwylliant ac iaith, ac arferion a chredoau enwadol, a threfniadau eglwysig, beth sy’n gwneud Cristnogion yn debyg i’w gilydd? Beth sy’n nodweddiadol ohonom ni, ddilynwyr Iesu?

Yn America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y dechreuwyd defnyddio’r ymadrodd ‘fundamentals’ i ddynodi beth oedd yn angenrheidiol i Gristnogion go iawn eu credu. Roedd y feirniadaeth hanesyddol ar yr Ysgrythurau, a ddeilliodd o’r Almaen yn bennaf, wedi creu  gwrthwynebiad ceidwadol enbyd a arweiniodd at yr hollt ddofn sy’n dal i nodweddu bywyd cyhoeddus UDA.

Mae’n ddiddorol edrych ar y sylfeini hyn. Dyma nhw:

  • anffaeledigrwydd y Gair (inerrancy)
  • ailddyfodiad Crist
  • y Geni Gwyrthiol
  • yr Atgyfodiad (yn y cnawd )
  • yr Iawn (aberth dirprwyol y groes).

I rai sy’n gyfarwydd â’r arfer o adrodd ‘Credo’ ffurfiol, mae’n rhestr reit od ac eitha dethol – fel petai wedi’i llunio’n benodol i gau allan bawb ond y mwyaf ceidwadol a ‘goruwchnaturiol’ eu pwyslais.

Brian McLaren

Yn llyfr diweddaraf Brian McLaren, The Migration, ceir mynegiant o’i hiraeth am yr hyn mae’n ei alw’n ‘ffordd well o fod yn Gristnogion’. Mae McLaren yn nodweddiadol Americanaidd yn ei hyder y gellir dechrau eto heb syrthio i’r un gyflafan ag sydd wedi nodweddu dechreuadau newydd y gorffennol. Ond mae’n awgrymu ein bod ni’n mentro holi beth yw nodweddion byw Cristnogol dilys pan dynnir ymaith y credoau, y cysyniadau a’r gwisgoedd diwylliannol rydym yn eu caru cymaint.

Mae’r ateb yn llythyrau Paul pan yw’n sôn am ‘ffrwythau’r Ysbryd’. Yn yr epistol at y Galatiaid dyma nhw: “Cariad, llawenydd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth”. Dyna’r meini prawf ar ein bywydau os ydyn ni am ddilyn Crist. Yn rhy aml ac yn draddodiadol, y pethau sy’n dod flaenaf  yw beth rydyn ni’n ei gredu am Iesu, nid sut rydyn ni’n ymdrechu i fod yn debyg iddo. Yn lle defnyddio’r term ‘credinwyr’, gallai wneud lles i ni ddisgrifio’n hunain fel disgyblion, neu ddilynwyr Iesu a ddywedodd mai wrth eu ffrwythau yr adnabyddir y gwahaniaeth rhwng ffigys ac ysgall, rhwng ŷd ac efrau. Wrth fyw yn nhymor y Pasg a disgwyl y Pentecost, a’r dewrder ysbrydoledig a nodweddai’r eglwys fore, y cwestiwn o hyd yw: “A fydd byw yr esgyrn hyn?”

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.