Gwryw a Benyw

Gwryw a Benyw

 Jane Aaron

Annie Harriet Hughes, 1852–1910

‘Be sy’r mater ar bobol na ddarllenan nhw’u Beibla’n iawn?’ gofynnai hen wraig yn nofel Gwyneth Vaughan (Annie Harriet Hughes, 1852–1910), Plant y Gorthrwm (1908). 

Iddi hi, ‘faint bynnag o anrhydedd ma’r hen fyd yma’n rhoi i ddynion, a dydi’r cwbl ddim ond y trecha treisied, a’r gwana’ gwaedded ran hynny, mae’r Beibl wedi rhoi mwy o’r hanner arnom ni’ – hynny yw, ar fenywod.

 

Mae’n amddiffyn eu hachos trwy gyfeirio’n fanwl at hanes Deborah a Jael ym mhumed bennod llyfr y Barnwyr: nhw, ac nid y dynion, oedd ‘yn fwy angenrheidiol o ddim rheswm yn y frwydr fawr’.

Yn ystod oes aur y mudiad dirwest, rhwng 1880 a’r Rhyfel Byd Cyntaf, cyfeiriwyd yn aml mewn cerdd a llith gan awduron benywaidd at wrhydri Deborah a Jael. Yn ôl Buddug (Catherine Jane Prichard, 1842–1909), mewn erthygl ar ddirwest yng nghylchgrawn Y Frythones yn 1880, ‘Dywedyd a ddylai pob benyw fel y dywedodd Deborah wrth Barac, “Gan fyned yr af gyda thi;” gan geisio ei gorau i ymestyn at y fraint o gael gosod hoel yn arlais y gelyn’ – y ddiod gadarn oedd ‘y gelyn’, wrth gwrs. Ond os oedd hanes Deborah a Jael yn cynnig anogaeth i ferched milwriaethus yr undebau dirwestol, yr oedd rhai o lyfrau eraill y Beibl yn achosi mwy o benbleth i ffeminyddion yr oes yn eu hawydd i ddileu anffafriaeth rywiol. Gan fod y dystiolaeth ysgrythurol yn hollbwysig i’r Gymraes Anghydffurfiol, ceir yn eu gwaith llenyddol lawer dadl ddiddorol ar beth yn union oedd safbwynt y Testament Newydd ar rywedd, dadleuon nad ydynt yn amherthnasol heddiw. Cyfeirio’n fyr at rai ohonynt yw nod yr ysgrif hon.

Jane Aeron (Llun: John D. Briggs)

Yr hyn a boenai Angharad Fychan, arwres nofel gyntaf Gwyneth Vaughan, O Gorlannau y Defaid (1905), oedd cynghorion Paul yn ei lythyrau at yr eglwysi cynnar:  ‘Tawed eich gwragedd yn yr eglwysi’ (1 Corinthiaid, 14), ‘nid wyf yn cenhadu i wraig athrawiaethu’ (1 Timotheus, 2). Nofel wedi ei gosod yn ystod Diwygiad 1859 yw O Gorlannau y Defaid, a dyhead Angharad yw mynd yn bregethwr, fel ei brawd Dewi, ond ni chaniateir iddi, a Phaul sydd ar fai: ‘Hwyrach y cawswn i bregethu fel Dewi oni bai Paul’, meddai. Yn ei lythyr cyntaf at Timotheus mae Paul yn amddiffyn ei safbwynt trwy gyfeirio at hanes Adda ac Efa: ‘nid Adda a dwyllwyd; eithr y wraig, wedi ei thwyllo, oedd yn y camwedd’, meddai, ac felly gweddus yw iddi hi fod mewn bythol ddistawrwydd.

Ceridwen Peris (1852-1943)

Ond ceir yn y Beibl ddigon o enghreifftiau o gamwedd gwrywaidd yn ogystal â benywaidd: yn ei cherdd ‘Cusan Judas’ (Y Frythones, 1879) mae Ceridwen Peris (Alice Gray Jones, 1852–1943) yn bytheirio yn erbyn ‘Judas! anfad ddyn, / A llawn o hunan’, ac yn ‘diolch mai nid merch / Gyflawnodd waith mor erch’, ac eto ni phardduwyd y gwryw fel rhyw gan ei gamwedd. Mae arwres Gwyneth Vaughan hefyd yn tynnu ein sylw at anghysondeb Paul wrth iddo gyfeirio yn ei lythyr at y Rhufeiniaid at ‘Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i eglwys Cenchrea’ ac annog ei ddarllenwyr i ‘dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i saint, a’i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych; canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd’. Go brin mai drwy gadw’n ddistaw y bu Phebe o gymaint cymorth, dadleua Angharad Fychan: ‘Dyw pethau ddim yn gyson, dyna i chi, waeth un gair na chant.’

Yn yr un modd, o 1881 ymlaen llanwyd tudalennau’r golofn ‘Cwestiynau ac Atebion’ yn Y Frythones gan ymholiadau ynghylch beth yn union yw barn y Beibl ar rywedd. ‘A gyfrifwch chwi fod yn y Testament Newydd ddysgeidiaeth bendant o berthynas i le a gwaith merched yn y wlad ac yn yr eglwys?’ gofynnodd un cyfrannydd ym mis Tachwedd 1881. Cafodd ateb nodweddiadol bendant gan olygydd y cylchgrawn, sef Cranogwen (Sarah Jane Rees, 1839–1916):

Sarah Jane Rees (Crangowen 1839-1916) Llun: LlGC

Y mae lle a gwaith pob un, gwryw ai benyw, yn ddigon amlwg, fel rheol, dan bob goruchwyliaeth, ac ym mhob man, yng ngoleuni yr hyn ydyw efe neu hi, a’r hyn a all. Nid oes yn y Testament Newydd, ar a wyddom ni, ddysgeidiaeth bendant ar hyn, a hynny am nad oes eisiau; ymddiriedwyd i natur a rheswm, ac ysbryd yr ‘hwn sydd yn trigo ynom’ benderfynu hyn bob amser, ar ran pawb. Ein cyngor ni bob amser i bob un, ydyw ac a fydd, os y teimlwch yn sicr y medrwch wneud rhywbeth yn dda, ac yn well na neb arall a fo gerllaw, cynigiwch ei wneud; os y gwaherddir chwi, ond odid na theimlwch ynoch ar unwaith gyfarwyddyd pa fodd i weithredu.

Erbyn 1881 yr oedd Cranogwen wedi gwneud enw iddi ei hunain fel siaradwr cyhoeddus poblogaidd; bu’n teithio trwy Gymru’n darlithio a phregethu, er na restrwyd ei henw fel pregethwr erioed ar lyfrau ei henwad, sef y Methodistiaid Calfinaidd. Mae’n debyg bod rhai o’r ymholiadau niferus a dderbyniai’r Frythones ar y cwestiwn a ddylai merched bregethu wedi eu danfon ati i’w phryfocio, ond câi pob un ohonynt yr un ateb cadarn. ‘A ydych chwi yn credu y dylai merched bregethu yr Efengyl?’ gofynnodd ‘Dwy o Ddolgellau’ ym mis Ionawr 1888, ac ateb ‘Yr Ol.’ (hynny yw, ‘the Ed.’), fel y galwai Cranogwen ei hun, oedd ‘Ydym, yn credu y dylai pawb bregethu yr Efengyl y sydd yn teimlo awydd i wneud, ac yn medru gwneud, ac yn cael pobl i wrando … Nid yw gwahaniaeth rhyw yn ddim yn y byd.’ Cyfeirio y mae yma at yr adnod enwog honno yn llythyr Paul at y Galatiaid: ‘Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu.’ Gan dynnu ar yr un adnod, meddai Ellen Hughes (1862–1927) mewn erthygl ar ‘Merched a Chynrychiolaeth’ (Y Gymraes, 1910): ‘Os ydyw dynes yn fod rhesymol a moesol, a thonau tragwyddoldeb yn curo yn ei natur, tybed ei bod islaw meddu y cymhwyster i gael rhan yn neddfwriaeth ei gwlad, ac yn llywodraethiad yr eglwys amherffaith ar y ddaear?’

‘Ymhongarwch ym mhawb, meibion a merched yn ogystal â’i gilydd, ydyw ceisio bod yr hyn nad ydynt; a cholled ydyw i un beidio bod yr hyn ydyw,’

Ond y mae’r undod dynol ac ysbrydol sylfaenol hwnnw yn gallu ymagweddu mewn llawer modd gwahanol yn yr unigolyn, ac mae hynny i’w groesawu yn ôl athrawiaeth golygydd Y Frythones. ‘Ymhongarwch ym mhawb, meibion a merched yn ogystal â’i gilydd, ydyw ceisio bod yr hyn nad ydynt; a cholled ydyw i un beidio bod yr hyn ydyw,’ meddai Cranogwen yn 1883, ac y mae’n gyson ei hymateb hyd yn oed mewn perthynas â’r ffenomen a elwir heddiw yn drawsrywedd.

Cranogwen

Erbyn 1887 yr oedd y ffasiwn ymhlith merched o dorri’r gwallt yn fyr, neu ‘bobio’, wedi cyrraedd Cymru, a chythryblwyd rhai o ddarllenwyr Y Frythones ganddo. ‘Beth a ddywedwch am fod merched yn torri eu gwallt fel bechgyn?’ gofynnodd un o’r cyfranwyr; ‘Mewn ambell siop weithiau, bydd yn anhawdd adnabod pa un ai bachgen ai merch a fydd y rhywun ger bron’. Ateb yr Ol. yw: ‘Yn gyntaf peth gan hynny, gofynnwch i’r person pa un fydd, ai bachgen ai merch? Yna ewch ym mlaen a’ch neges … Rhai yn y modd hwn a rhai yn y modd arall yw trefn ac ardderchowgrwydd y greadigaeth.’ Nid y gwahaniaethau di-ri rhwng pobl a’i gilydd yw’r drafferth, yn ôl Cranogwen: rhan o luosogrwydd ardderchog y greadigaeth yw’r rheiny. Y drafferth yw’r modd y mae rhai’n mynnu barnu eraill yn ôl rhagfarnau cul ac ystrydebol, ffaeledd nad ydym eto wedi cael llwyr waredigaeth oddi wrtho.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.