Dirnad y drwg yn y caws

Dirnad y drwg yn y caws

Hefin Wyn

Ymgasglodd criw ohonom ym maes parcio Castell Caeriw. Cyfarchwyd gwell o bell wrth i bawb wisgo eu sanau a’u sgidie cerdded yn ymyl eu cerbydau. Er bod yr haul yn gwenu roedd angen y dillad trwchus arferol ar gyfer cerdded; capanau a menig, ac enllyn a diodydd yn gynhaliaeth. Roedd yr awel yn fain a’r oerfel yn cydio yn y cysgod.

Yn sydyn dyma waedd yn cael ei dilyn gan grochlefain y lliaws ohonom. Cafodd un o’n plith hergwd gan ben-ôl cerbyd hir, pwerus. Ataliodd ei hun rhag cwympo. Ni chafodd ei hanafu. Ond gallai’r canlyniad fod yn dipyn gwaeth pe na bai’r gweddill ohonom yn effro i’r perygl.

Diffoddodd peiriant y cerbyd, agorodd y gyrrwr y drws a neidiodd i’r llawr. Disgwyliem y byddai’n cysuro ac yn ymddiheuro i’r sawl roedd wedi’i tharo. Wedi’r cyfan doedd hithau ddim wedi taro yn erbyn y cerbyd mewn cyflwr o ddallineb. Roedd hi â’i chefn tuag at y cerbyd.

Mae’n rhaid nad oedd y gyrrwr wedi edrych yn y drych cyn beco ’nôl. Hwyrach nad oedd yn gyfarwydd â’r cerbyd. Edrychai’n newydd sbon. Roedd ei bartner wedi cerdded i ben draw’r maes parcio fel pe bai’n chwilio am rywbeth.

Ond, na, ni fentrodd at y ddynes a gafodd ysgydwad. Yn hytrach ynganodd ribidirês o regfeydd gan derfynu trwy ddweud ei fod ‘yn dod o’r ardal ac y dylsen ni ddychwelyd i ba le bynnag roeddem wedi dod’.  Ni chafwyd deialog.

Mae’n rhaid iddo glywed rhywfaint o Gymraeg yn cael ei siarad a bod hynny wedi’i gythruddo. O dan ein hanadl y dywedodd rhai ohonom ein bod ni hefyd yn sicr yn hanu o’r un fro ehangach ac yn bendifaddau o’r un sir ag yntau.

Ni fentrodd yr un ohonom ei hysbysu mai’r Gymraeg fyddai’r iaith oddi fewn i’r castell yn nyddiau ei anterth pan gynhaliodd Syr Rhys ap Tomos dwrnameint dros gyfnod o bum diwrnod, gan wahodd 600 o bendefigion i’r dathliadau, yn 1507.

Ni fentrodd yr un ohonom awgrymu chwaith y byddai ymddiheuro yn rheitiach gweithred na bytheirio, o dan yr amgylchiadau. Tebyg mai clustiau byddar fyddai’n ein clywed.

Erbyn hynny roedd wedi tanio’r peiriant ac yn paratoi i adael wrth iddo refru’r injan. Gwnaeth pob un ohonom yn siŵr nad oeddem yn sefyll yn ei lwybr.

Cerddodd ei bartner heibio yn daliedd ymffrostgar ei osgo. Ni ddywedodd ddim. Ni roddodd yr argraff ei fod hyd yn oed wedi ein gweld. Gwisgai welintons pysgota hyd at ei ganol. Neidiodd i’r cerbyd wrth y fynedfa. Darfu’r digwyddiad.

Cychwynnodd y daith gerdded. Aed heibio’r castell ar hyd ymyl y llyn a gronnwyd ar gyfer defnydd y rhodau slawer dydd. Rhyfeddwyd at y crychydd a safai’n stond fel cerflun.

Doedd hi ddim yn anodd adnabod y llawredynen Gymreig ymhlith y cerrig. Ond rhoddwyd blaenoriaeth i’r parablu dros ganfod y maglys brith, y troed-y-cyw clymog a’r dail tafol canolfain, p’un a oedd hi’n dymor blodeuo iddyn nhw neu beidio. A doedd yr ystlum pedol prin yntau ddim o gwmpas chwaith.

Ond yr hyn a welwyd oedd y fronfraith a’r robin goch yn rhannu cnwd o aeron ar ambell lwyn. Roedden nhw’n llawn cyffro, yn hedfan o lwyn i lwyn a heb daw ar eu trydar. Doedd dim cenfigen na malais yn rhan o’u hymddygiad. Rhannent gynhaeaf natur. Roedd y byd yn eu pigau ac yn eu nodau.

Âi’r llwybr trwy barc neu ddau a borwyd gan ddefaid. Yn wir, roedd rhai o ŵyn cynta’r tymor wedi’u geni. Doedd ein presenoldeb ni’n amharu dim ar eu hawddfyd. Gorwedd a phori’n jycôs a wnâi’r praidd. Roedd yn amlwg fod yr ŵyn wedi’u digoni. Ni chlywid yr un oen yn brefu am ei fam na’r un fam yn brefu ar ei hepil.

Yn sydyn, wrth groesi stigil arall, daethom i lecyn agored lle’r oedd nifer o gerbydau wedi’u parcio. Y math o gerbydau a gysylltir â ffermwyr. Yn eu plith roedd ambell gart a ddefnyddir i gludo ceffylau. Yno hefyd roedd y cerbyd hir a welsom ynghynt ym maes parcio’r castell.

Wrth gerdded ar hyd feidr darmac daeth ceffyl porthiannus yn cael ei farchogaeth gan ddynes mewn cot ddu i’n cyfeiriad. Fe’i dilynwyd gan farchog mewn cot goch yn trotian ar gefn ceffyl yr un mor borthiannus yr olwg. Roedd y cŵn hela yn y cyffinie.

Ni welsom y ddau adyn a fu mor anfoesgar tuag atom ynghynt chwaith. Mae’n rhaid eu bod nhw yng ngofal y daeargwn a’r rhofiau yn barod i erlid a cheibio’r cadno o’i ffau. Mae’r llun o’r cotiau coch a’r pac o fytheiaid yn croesi pont Caeriw yn gyfarwydd ar gardiau Nadolig a chalendrau lleol fel llun gwledig eiconig. 

Cofiais am y profiad hwnnw ychydig ynghynt o fynychu tafarn gwledig a synhwyro drygioni yn yr awyrgylch. Teimlwn yn anniddig. Gwyddwn fod rhywbeth wedi disodli naws gartrefol arferol y lle.

O holi, deallais fod criw o helwyr newydd dreulio ychydig oriau yno. Roedd nifer ohonyn nhw wedi teithio o’r Cymoedd. Nid ffermwyr mohonyn nhw. Dieithriaid oedden nhw. Doedden nhw ddim yn eu cynefin. Hwyl iddyn nhw oedd cwrso a saethu cadnoid ar hyd llethrau’r Preselau. Doedd yr anifail ddim yn bygwth eu hŵyn newydd-eu-geni nhw.

Deallaf yr angen i reoli niferoedd y llwynog. Deallaf bryder y bugeiliaid ynghylch colli ŵyn yn ddiangen. Deallaf fod dilyn helfa leol yn hwyl ac yn fodd o ddifa ysglyfaethwr. Mae’n fodd traddodiadol o fwynhau cefn gwlad ac o werthfawrogi ystrywiau cyfrwys y cadno o osgoi safnau’r helgwn.

Yn amlach na pheidio fe wna’r Sion Blewyn Coch ddianc. Eistedda ar ei bedreiniau ar fryncyn wedi croesi afon neu redeg trwy gae o ddefaid a’r cŵn yn rhedeg heibio obry wedi colli ei sent oherwydd ei gyfrwystra.

Ond ymddengys fod yna elfen anghynnes yn perthyn i rai ‘helwyr’. Maent â’u bryd ar y weithred aflan o ladd. Dyna rydd bleser iddyn nhw. Mae rhywbeth yn anghynnes yn eu cylch.

Yn ystod ein siwrnai oddi amgylch Castell Caeriw gwelsom gip ar y natur ddynol ar ei gwaethaf. Ond gwelsom fyd natur yn ei ogoniant. Dal yn ddisymud fel carreg a wnâi’r crychydd pan ddychwelom. Doedd dim wedi amharu arno.

Mae’n rhaid bod y gallu i ymddiheuro yn amod arddel cariad. Mae’n rhaid bod parodrwydd i estyn llaw mewn brawdgarwch yn fodd o osgoi helbulon bach a mawr, boed oddi fewn i’r filltir sgwâr neu ar lwyfan cyfandirol. Nid yw’r un plentyn yn rhy fychan i wybod gwerth ymddiheuro.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.