Byw ar yr Ymylon

Byw ar yr Ymylon

Margaret Le Grice

Roedd Iesu yn brysur. Yn brysur iawn. Teithiodd ar hyd a lled ei wlad fechan. Cwrddodd â bob math o bobl – y bobl gyffredin, yr arweinwyr crefyddol a gwleidyddol, milwyr Rhufeinig, y tlodion a’r cyfoethogion, plant bach, menywod a dynion. Yn aml, dihangai i leoedd ar wahân, i weddïo, ac i gael nerth ac arweiniad. Ond treuliai’r rhan fwyaf o’i fywyd ymhlith pobl – llawer ohonyn nhw. Roedd yn brysur, wrth iacháu, pregethu, dysgu, dadlau.

Glannau Môr Galilea

Er gwaethaf hynny, roedd ar yr ymylon. Dadleuodd â’r Phariseaid a’r Sadwceaid, ac nid oeddent yn cytuno â’i safbwynt. Yn araf, symudodd i’r ymylon crefyddol. Derbyniodd fenywod ‘pechadurus’, casglwr trethi, plant a phobl y tu allan i’r genedl Iddewig, a thorrodd y gyfraith Sabothol. Dywedodd fod pobl yn bwysicach na rheolau crefyddol, gan gyffwrdd â gwahangleifion a merched aflan. Yn y dechrau, roedd pawb yn mwynhau ei storïau, ei athrawiaeth, a sut y bu iddo drin dynion balch. Ond yn y diwedd, fe’i gwrthodwyd hyd yn oed gan y werin bobl, ac roedd ar ymylon cymdeithas. Ar ei noson olaf, roedd yn hollol ar ei ben ei hun, ar yr ymylon ac ar wahân i bawb. Ac yn ei farwolaeth roedd ar ymylon dinas Jerwsalem – nid yn unig ar yr ymylon, ond, dywedir, ar domen ysbwriel y dre.

Os ydym yn honni bod yn ddisgyblion i Iesu, ble rydym ni? A ydym ni ar ymylon crefydd a chymdeithas?

Ar ba ymylon fyddai Iesu heddiw? Byddai ar strydoedd ein dinasoedd yn cadw cwmni i bobl sy’n ddigartref, ac sy’n ddioddef o gaethiwed i alcohol neu gyffuriau. Byddai gyda phobl sydd ag abledd gwahanol (differently-abled), pobl a elwir yn anabl gan gymdeithas. Byddai’n cyfathrebu â phobl fyddar, a anwybyddir gan eraill. Byddai mewn cartrefi preswyl, ysbytai a charcharau. Byddai ar y ffordd gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Byddai’n byw ar ystadau tlodion, ymhlith pobl ddi-waith a diobaith. Byddai ar y fferm yn y mynyddoedd, lle mae’r glaswellt yn wael, y defaid yn fach, a’r prisiau yn y mart yn isel.

Byddai mewn capeli ac eglwysi sydd â chynulleidfaoedd bach ond ffyddlon. Byddai’n gartrefol gyda phobl sy’n gofyn cwestiynau, fel y gwnaeth ef pan oedd yn fachgen 12 mlwydd oed.

Byddai?

Na fyddai.

Yn y lleoedd hyn, ac mewn llawer o leoedd eraill ar yr ymylon, MAE ef yn awr.

Ac felly, ble rydym ni?

Gydag ef ar yr ymylon, neu …?

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.